Nicki Pearce

Nicki Pearce

Astudiodd Nicki gyda David Smith yn Academi Frenhinol Cerdd, Llundain, a chwblhaodd ei hastudio gyda Naomi Butterworth o Trinity College of Music, Llundain gan ennill gradd dosbarth cyntaf ag anrhydedd mewn perfformio. Yn ystod y cyfnod yma bu’n perfformio gyda’r Britten Pears Orchestra a hi oedd y prif sielydd rhwng 1996-1998.
Mae Nicki wedi chwarae mewn dosbarthiadau meistr gyda cherddorion megis William Pleeth, Karina Georgian, Eduado Vassallo (Gŵyl Sielo Manceinion 1998), Maud Tortelier, The Alberni String Quartet, Brodsky Quartet a’r Endellion Quartet. Mae Nicki wedi ennill gwobrau gan gynnwys Gwobr Goffa John Barbirolli ar gyfer y sielo, Gwobr Guivier ar gyfer Chwaraewr Llinynnau, a Gwobr Vivian Joseph i’r Sielo.

Enillodd ysgoloriaeth hefyd i fynychu ysgol gerdd Academia Chigiana in Siena, Italy ac i gynrychioli’r Academi gan roi cyngherddau yn Tuscany. Mae Niclola wedi perfformio mewn nifer o leoliadau mawreddog gan gynnwys Y Royal Albert Hall, Festival Hall, Queen Elizabeth Hall, Snape Maltings a St John Smith’s Square. Mae hi hefyd wedi perfformio Concerto Sielo Elgar, Concerto Sielo Saint Saens a Faure Elegie gyda Cherddorfa Symffoni Exeter. O 1999-2003 bu’n gweithio mewn Ysgol yn San Steffan, Llundain yn dysgu’r sielo, arwain a hyfforddi cerddoriaeth siambr, ynghyd â bod yn berfformiwr llawrydd.

Ers symud i Ogledd Cymru yn 2003 mae Nicki yn dysgu pobl o bob oedran a chyrhaeddiad ac yn mwynhau’r gwaith o hyfforddi yn fawr iawn. Mae Nicki hefyd yn berfformiwr llawrydd ac yn sielydd yng Ngherddorfa Siambr Cymru, ac Ensemble Cymru. Yn Ionawr 2014 cafodd ei gwahodd gan Anup Kumar Biswas i hyfforddi, cynnal dosbarthiadau meistr a chyngherddau yn Ysgol Gerdd Mathiason, Kolkata, India. Mae hi’n byw gyda’r gŵr a’i dau fab ac yn mwynhau ymweld â chestyll, mynydda, dringo a beicio.

Morwen Blythin

Morwen Blythin

Dechreuodd Morwen astudio’r delyn pan yn 9 oed ac yn dilyn llwyddiant yn yr Ŵyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Genedlaethol parhaodd ei hastudiaethau yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, gan raddio yn 1988. Cafodd gyfle i berfformio mewn achlysuron ar gyfer aelodau o’r teulu Brenhinol, gan gynnwys y diweddar Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines: Diana, Tywysoges Cymru; Tywysog Philip, a hefyd wedi perfformio yn ninas Llundain mewn achlysuron a fynychwyd gan bum gwahanol Arglwydd Faer, y diweddar Farwnes Thatcher, John Major a boneddigion eraill.

Cafodd Morwen gyfle i deithio o amgylch y Deyrnas Unedig a pherfformio yn y West End gyda nifer o sioeau cerdd gan gynnwys The Sound of Music , Phantom of the Opera , Some Like it Hot , Sunday in the Park with George, Oklahoma!, Valentine’s Day ac wedi chwarae gyda gwahanol gerddorfeydd , cwmnïau opera a chwmnïau bale.

Fel unawdydd , mae hi wedi perfformio consierto Mozart i Ffliwt a Thelyn a consierto Handel i’r Delyn ac wedi rhoi datganiadau ac ymddangosiadau cyngerdd yng Nghymru a Lloegr. Dychwelodd Morwen i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ac enillodd radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1996 ac wedi hynny dechreuodd ei gyrfa addysgu , yn gyntaf yn Wrecsam , ac yna ymunodd ag Ysgol Howell’s yn 1998 lle bu’n dal y swydd o Bennaeth Cerdd ac yna Athrawes Hyn hyd nes y bu cau’r ysgol ym mis Awst 2013.

Ar hyn o bryd mae Morwen yn dysgu ar gyfer Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych ac i nifer o ysgolion yn Wrecsam. Mae ganddi nifer cynyddol o ddisgyblion telyn a phiano preifat ac mae hi wedi dechrau fel cyfeilydd i Gôr Cytgan yn ddiweddar. Mae Morwen yn cyfeilio i Gerdd Dant yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd ac yn perfformio ar y delyn a’r piano ar gyfer achlysuron, priodasau a chyngherddau.

Mared Emlyn

Mared Emlyn

Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bu’n astudio cyfansoddi gyda Dr Pwyll ap Siôn a’r delyn gydag Elinor Bennett, yn ogystal â chael gwersi dramor yn Swistir a Chanada

Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau a gŵyliau telyn. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan y Gerddorfa Siambr Gymreig a Mared ei hun fel yr unawdydd. Yn 2018, cydweithiodd â’r cerddor Gwenan Gibbard a’r bardd Mererid Hopwood ar gomisiwn gan Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru fel rhan o ddathliadau penblwydd y telynor adnabyddus Osian Ellis yn 90 oed.

Mae Mared yn perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd, mewn ensemblau ac fel aelod o gerddorfeydd.

Katherine Betteridge

Katherine Betteridge

Mae Katherine Betteridge yn cynnig hyfforddiant ffidil, fiola a chyfansoddi. Astudiodd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan arbenigo mewn Perfformiad a Chyfansoddi, lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf yn 2005. Enillodd Ysgoloriaeth Drapers, a alluogodd iddi astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Perfformiad ar y ffidil a chwblhawyd yn 2007. Mae Katherine nawr yn perfformio yn broffesiynol, ac wedi recordio mewn amryw o stiwdios y BBC, gan gynnwys BBC Maida Vale gydag Phedwarawd Linynnol Horizons, lle mae hi’n brif chwaraewr. Mae perfformiadau ganddi hi a’i phedwarawdau wedi eu darlledu ar BBC Radio 1, BBC Radio 2, Radio 6, Radio Wales ac S4C ac mae hi wedi gweithio gyda Bryn Fôn, Casi Wyn, Pwyll ap Sion, Guto Puw a nifer o fandiau roc a pop. Ar ôl iddi gwblhau ei gradd meistr mewn perfformiad, parhaodd Katherine i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau byr ac ar gyfer ei mwynhad, ac yn 2012 cyfansoddodd ddarn a ddarlledwyd ar Radio’r BBC. Yn dilyn hynny cafodd ei gwahodd i gychwn ar Ddoethuriaeth wedi ei gyllido mewn Cyfansoddi gan astudio dan arweiniad yr Athro Andrew Lewis, a gwblhawyd ym Mai 2019. Erbyn hyn mae nifer o’i gweithiau a gomisiynwyd wedi eu perfformio gan ensembles megis Psappha, Okeanos ymysg eraill. Mae hi hefyd yn rhedeg Pedwarawd Llinynnol Eryri a hi cyd-sefydlodd Exploration in Sound, cwmni celfyddydau arbrofol, gydag Eleri Roberts a Twila Bakker.

Elinor Bennett

Elinor Bennett

Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.

Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.

Elain Rhys

Elain Rhys

Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, graddiodd Elain gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 2020 lle enillodd wobr goffa Phillip Pascall am gyrhaeddiad rhagorol. Astudiodd y delyn a’r piano dan arweiniad cerddorion blaenllaw megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones. Mae wedi bod yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel telynores ac mae’n mwynhau perfformio’n unigol mewn cyngherddau yn lleol. Bu’n gyfeilydd i gynhyrchiad Opra Cymru o Don Giovanni a aeth ar daith ledled Cymru yn 2019. Mae’n mwynhau cyfeilio i unigolion, yn gyfeilydd swyddogol mewn Eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol ac yn gyfeilydd i Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Hogia Llanbobman. Yn ystod haf 2022, gwahoddwyd Elain i ddysgu’r delyn a pherfformio fel rhan o’r Wythnos Dreftadaeth Gymreig yn nhalaith Wisconsin, UDA. Ar hyn o bryd, mae Elain yn astudio ar gyfer ei doethuriaeth sy’n canolbwyntio ar unig opera Grace Williams, ‘The Parlour’.

Einir Wyn Hughes

Einir Wyn Hughes

O Ben Llŷn y daw Einir a derbyniodd wersi’n naw mlwydd oed gan Alwena Roberts. Wedi blwyddyn o astudio gyda Meinir Heulyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd, symudodd i’r Ysgol Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle enillodd radd BMus yn 2005.

Yn ddiweddar, cwblhaodd gwrs Meistr mewn Perfformio a Cherddoriaeth Cymru ym Mangor, lle bu’n ddisgybl gyda Elinor Bennett. Yn ogystal, enillodd ddiploma yr ABRSM mewn perfformio ar y delyn.

Mae wedi perfformio’n ddiweddar gyda Cherddorfa Siambr Bangor, Cerddorfa Siambr Cymru, Ensemble Cymru ac i Dywysog Cymru. Mae’n diwtor telyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yng Ngwasanaeth Ysgolion William Mathias yn ogystal.

Catrin Morris Jones

Catrin Morris Jones

Daw Catrin yn wreiddiol o Fangor ac ar ôl ugain mlynedd o fyw a gweithio yn Llundain mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli. Wedi cwblhau cwrs perfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain, lle bu’n astudio gyda David Watkins, aeth Catrin ymlaen i wneud cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol. Yno fe astudiodd gyda Skaila Kanga gan ennill gwobr Renata Scheffel-Stein am ei gwaith ar y delyn. Ym mis Mai 2014 cafodd ei hethol yn Gydymaith (Associate) yr Academi Frenhinol. Rhoddir yr anrhydedd hwn i gyn-fyfyrwyr yr Academi sydd wedi amlygu eu hunain ym myd cerddoriaeth a gwneud cyfraniad yn eu maes dewisiedig.

Mae dysgu’r delyn i blant ac oedolion wedi bod yn ran bwysig o yrfa Catrin ac mae hi wedi dysgu nifer o ddisgyblion preifat dros y blynyddoedd yn ogystal a dysgu yn Ysgol Gymraeg Llundain, Ysgol Uwchradd Merched St Albans, Canolfan Gerdd Watford, Ysgol Ferched Dinas Llundain, Ysgol Genethod St Pauls ac Ysgol Beechwood Park, Hertfordshire. Gweithiodd Catrin mewn amryw o sioeau cerdd yn ’West End’ Llundain, gan gynnwys: Oliver!, The King and I, Notré Dame de Paris, The Producers, My Fair Lady, Napoleon, The Secret Garden (Y Cwmni Shakespeare Brenhinol) a South Pacific (Y Theatr Genedlaethol Brenhinol).

Ar hyn o bryd mae Catrin yn ddirpwy yn Phantom of the Opera. Mae Catrin wedi perfformio gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw, yn cynnwys: y Philharmonia, Royal Philharmonic a’r Royal Philharmonic Concert Orchestras, cerddorfa’r Hallé, y Royal Scottish National Orchestra, Ensemble 10/10 (ensemble cyfoes Cerddorfa Ffilharmonic Lerpwl), Trondheim Symphony Orchestra, Royal Opera House Orchestra, Glyndebourne Touring Orchestra, English Touring Opera, Garsington Opera Orchestra, Opera São Carlos, Lisbon, Portugal, London City Ballet, Moscow City Ballet a’r Northern Ballet Company.

Ymhlith rhai o gyngherddau mwyaf cofiadwy Catrin mae perfformiadau o’r Concerto Ffliwt a Thelyn gan Mozart yn Neuadd y Barbican, y Dance Sacrée et Dance Profane gan Debussy yng Ngŵyl Minehead, a’r perfformiad cyntaf o Telynau Aur gan Adam Gorb, yn Neuadd y Wigmore yn Llundain. Yn ystod ei blwyddyn olaf yn yr Academi Frenhinol Gerddorol, Catrin oedd yr unig un o Brydain i ennill lle yng Ngherddorfa Gŵyl Schleswig Holstein, ac fe deithiodd o gwmpas Yr Almaen. Sbaen, Awstria, Yr Eidal a Denmarc, gan weithio gyda arweinyddion byd enwog gan gynnwys Valery Gergiev, Marin Alsop, Semyon Bychkov a’r diweddar Syr George Solti.

Mae Catrin wedi chwarae mewn amryw o leoedd cofiadwy a phwysig gan gynnwys y Neuadd Wledda yn Llundain, Y Senedd yn San Steffan, Amgueddfa V&A, Palas Kensington, yr Amgueddfa Borteuadau Genedlaethol, Y Gymdeithas Frenhinol yn Pall Mall, Tŵr Llundain a Phont Tŵr Llundain, yn ogystal a nifer o westyau mwyaf blaenllaw Llundain a nifer o’r neuaddau Liferi yn Ninas Llundain. Me hi hefyd wedi gwisgo fel gwrach er mwyn perfformio ar blatfform 9¾ yng Ngorsaf Kings Cross yn lawnsiad DVD cyntaf Harry Potter! Catrin sy’n chwarae’r delyn yn y ddeuawd Arabesque (ffliwt a thelyn), ac fe gychwynnodd ddysgu yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn 2015.

Bethan Conway

Bethan Conway

Dechreuodd hyfforddiant cerddorol Bethan yn 7 oed gyda gwersi piano cyn dechrau chwarae telyn yn 10 oed. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gyflawni ei diplomâu perfformiad ABRSM ar y delyn a’r piano ac ers hynny mae wedi perfformio mewn amryw o leoliadau ym Mhrydain, Ewrop a’r UDA fel unawdydd ac fel rhan o amrywiaeth o ensembles. Enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gan y Coleg Cerdd Brenhinol yn 2017 a dychwelodd i’r coleg ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig fel Ysgolor ‘Ashley Family Foundation’. Graddiodd Bethan gyda Meistr Perfformiad gyda Rhagoriaeth yn 2019 ac ar ôl cwblhau ei hastudiaethau dyfarnwyd gwobr fawreddog ‘The Queen Elizabeth, The Queen Mother Rose Bowl.

Fel cystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau, mae Bethan wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys y wobr gyntaf yn unawd telyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â chael ei dewis yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog y Rhuban Glas ar ddau achlysur. Mae hi hefyd wedi ennill yr ail wobr yn yr unawd piano a’r drydedd wobr yn yr unawd telyn yn Eisteddfod yr Urdd. Yn 2016 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Nansi Richards i Bethan yn ogystal â Gwobr Delyn y Coleg Cerdd Brenhinol.

Ers dychwelyd i Treuddyn yn Sir y Fflint, mae Bethan yn mwynhau gyrfa fel pianydd a thelynores. Mae hi’n perfformio gyda llawer o gerddorfeydd ym Mhrydain gan gynnwys NEW Sinfonia – cerddorfa breswyl yn yr Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, City of Birmingham Symphony Orchestra a Birmingham Contemporary Music Group. Mae hyn wedi rhoi cyfle i Bethan weithio gydag arweinwyr byd-enwog fel Bernard Haitink, Edward Gardner a Rafael Payare. Mae Bethan hefyd yn mwynhau cyfeilio, daliodd swydd dirprwy gyfeilydd i Cantorion Rhos yn cyfeilio iddynt ar eu taith o amgylch Portiwgal yn 2015 ac yn ddiweddar mae wedi cydweithio â Chorws Cymunedol WNO ac Opera Ieuenctid WNO. Yn gerddor siambr brwd, mae Bethan yn perfformio’n rheolaidd gyda’i grŵp Ffliwt a Thelyn, ‘Hefin Duo’ yn ogystal â ‘Trilogy’, triawd ffliwt, telyn a fiola. Mae Bethan yn dysgu piano a thelyn ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint, Ysgol Rupert House Henley-on-Thames ac yn breifat yn Nhreuddyn.

Alfred Barker

Alfred Barker

Ganed Alfred Barker yn Johannesburg ac astudiodd y ffidil yng Nghonservatoire Windhoek o wyth oed ymlaen. Yn ystod yr amser yma perfformiodd nifer o goncerti yn gyda cherddorfa’r Conservatoire a Cherddorfa Symffoni Namibia. Yn 1993 teithiodd i Lundain i astudio yn yr Ysgol Purcell, gan fynd ati wedyn i astudio yn y Royal Northern College of Music gyda Yossi Zivoni gan raddio yn 2000 gyda BMus (anrhydedd). Mae ganddo hefyd radd Meistr gan Brifysgol Manceinion a PGCE gan Brifysgol Hope Lerpwl.

Alfred oedd arweinydd Cerddorfa Ieuenctid Dinas Sheffield, a deithiodd ledled Ewrop, ac King Edward Music Society Symphony Orchestra, gan berfformio yn aml fel unawdydd. Mae hefyd wedi perfformio yn aml fel aelod o amryw o bedwarawdau llinynnol ym Manceinion tra oedd yn gweithio Gwasanaeth Cerdd a’r Celfyddydau Perfformio Salford (MAPAS). Roedd hyn yn gysylltiedig ag amryw o brosiectau addysgol gyda cherddorfeydd yr Halle a’r BBC Philharmonic a nifer o deithiau cyngerdd Ewropeaidd.

Ers symud i Ogledd Cymru yn 2011, mae nawr yn dysgu’r ffidil yn ysgolion drwy sir Ddinbych, yn arwain Grŵp Llinynnol Sir Ddinbych ac wedi bod yn diwtor ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid Hŷn Gwynedd a Môn am nifer o flynyddoedd. Mae Alfred yn gyfarwyddwr Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.