Camau Cerdd

Mae Camau Cerdd yn brosiect a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire Howorth.

Mae’r dosbarthiadau wedi eu llunio’n ofalus gan Marie-Claire er mwyn rhoi’r cychwyn gorau posib a sylfaen cerddorol cadarn i’ch plentyn.

Credwn bod gan addysg gerddorol y gallu i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu, deallusrwydd emosiynol, cydsymud, y cof a sgiliau cymdeithasol eraill ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff.

Grwpiau Camau Cerdd

Camau Cyntaf

I blant 6mis-4oed a’u rhiant/ gofalwr

Edrychwn ymlaen at gychwyn ar y daith gyda chi a’ch plentyn wrth fynd ati i archwilio eu byd cerdd newydd.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o offerynnau cerddorol, sol-ffa, caneuon a gemau rhythm yn ystod y sesiynau.

Yn ystod yr oedran yma, mae dychymyg a synnwyr o hunaniaeth eich plentyn o fewn i’w cylch cymdeithasol yn datblygu. Un o’r cyfnodau gwerthfawr i’w trysori yn ystod yr oedran hwn yw pan fydd eich plentyn yn cychwyn siarad a chanu, mae hyn yn amser gwych i gychwyn adeiladu ar sgiliau iaith a’r cof yn ogystal â’ch perthynas efo’ch plentyn.

Camau Cyntaf: Penrhosgarnedd

I blant 6 mis – 4 oed
Boreuau Gwener ym Mhenrhosgarnedd.
Gweler y ffurflen gofrestru am y manylion llawn.

Camau Nesaf

Wedi ei anelu at blant 4 – 7 mlwydd oed

Bydd Camau Nesaf yn gosod sylfaen cadarn cerddorol i’ch plentyn a fydd o gymorth unwaith y byddent yn barod i fynd ati i gychwyn gwersi offerynnol.

Archwiliwn elfennau pwysig cerddoriaeth gan ddefnyddio gemau, canu, a chwarae offerynnau megis y recorder, allweddellau ac amrywiaeth o offerynnau taro.

Byddwn hefyd yn defnyddio sol-ffa, gweithgareddau rhythm, a symud mewn ymateb i gerddoriaeth. Bydd eich plentyn yn cychwyn dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu cerddoriaeth ynghyd ag adeiladu ar eu sgiliau sain clust mewn modd creadigol, dychmygus a llawn hwyl.

Dilynwn themâu megis Y Gerddorfa, Cerddoriaeth o amgylch y Byd, Y Planedau, Cerddoriaeth Ffilm, Arwain a llawer mwy drwy gydol y flwyddyn.

Camau Nesaf: Caernarfon

I blant 4-7 oed
5.15 – 5.55pm prynhawniau Iau yn Galeri.
Gweler y ffurflen gofrestru am y manylion llawn.

Llefydd yn gyfyng – rhaid archebu eich lle o flaen llaw.

Tiwtoriaid Camau Cerdd

Marie-Claire Howorth

Marie-Claire Howorth

Elin Taylor

Elin Taylor

Charlotte Pulsford

Charlotte Pulsford

Lluniau

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.