Cerddorfa Gymunedol Caernarfon
Mae Cerddorfa Gymunedol Caernarfon yn ensemble ar gyfer oedolion a chaiff ei arwain gan y sielydd a’r arweinydd Nicki Pearce.
Fe hoffwn ni annog unrhyw un sydd efallai wedi bod yn derbyn gwersi am gwpwl o flynyddoedd, neu efallai sydd heb chwarae eu hofferynnau ers dipyn i ymuno yn yr hwyl!
Dewch i ymuno â Cherddorfa Cymunedol Caernarfon lle mae’r pwyslais ar fwynhau cerddoriaeth gyda’n gilydd.
Cynhelir ymarferion yn wythnosol ar nosweithiau Mawrth yn Theatr Seilo Caernarfon. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru cysylltwch â Swyddfa CGWM.
Fideos yn ystod Covid-19
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 nid yw wedi bod yn bosibl i’r gerddorfa gymunedol gyfarfod wyneb i wyneb ers Mawrth 2019. Fodd bynnag mae nifer o’r aelodau wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau o dan arweiniad Nicki Pearce ar zoom ac mae Nicki hefyd yn paratoi sesiynau tiwtorial ar fideo. Mae’r criw wedi paratoi dau berfformiad rhithiol i ddathlu gwaith y tymor. Mwynhewch!