Prosiect Cyfnewid Cerddorol CGWM a Gogledd Ddwyrain India

Cefndir

Ers 2022 mae CGWM wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ar brosiect arbennig er cof am Mair Jones (Telynores Colwyn) gyda’r nod o hybu cyfnewid cerddorol rhwng Cymru a Gogledd Ddwyrain India.

Bu farw Mair Jones yn 2021. Cafodd yrfa ddisglair fel telynores gyda Cherddorfa Philharmonic Lerpwl ac fel athrawes delyn. Roedd gan Mair Jones ddiddordeb mawr yn y cysylltiad rhwng cerddoriaeth Cymru a Bryniau Casia a’i dymuniad oedd bod ei thelyn geltaidd yn mynd i Fryniau Casia. Roedd hi’n awyddus iawn i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am gyfoeth traddodiad cerddorol y ddwy ardal. O dan arweiniad arbennig yr artist enwog Cefyn Burgess, oedd yn adnabod Mair yn dda,aeth ei chyfeillion ati i wireddu ei dymuniad.

 Cynorthwyodd ein aelod bwrdd Rajan Madhok i greu cyswllt rhwng CGWM a Chyfeillion Mair. Daw Rajan yn wreiddiol o India ac fe dreuliodd amser yn gweithio fel meddyg yn Mryniau Casia rai blynyddoedd nol. Ef hefyd a sefydlodd RICE (Ruthin India Cultural Exchange).  

Ers y cyswllt hwnnw yn gynnar yn 2022 mae’r prosiect wedi datblygu yn sylweddol ac mae rhagor o ddatblygiadau cyffrous ar y gorwel.

Cofio Mair Jones 12.6.2022

Oherwydd y pandemig bu’n rhaid oedi cyn cynnal gwasanaeth coffa i Mair Jones. Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yng Nghapel Heol y Parc, Rhuthun ar y 12fed o Fehefin 2022 i ddathlu ei bywyd a’i chyfraniad a diolch am ei rhodd arbennig i Fryniau Casia. Diolch i Cefyn Burgess, Ann Crug a Chyfeillion Mair Jones am drefnu digwyddiad mor gofiadwy.

Roedd hi’n anrhydedd i aelodau ifanc grwp Telynau Clwyd y Ganolfan Gerdd o dan arweiniad Morwen Blythin a Dylan Cernyw, i gael perfformio mewn digwyddiad arbennig i ddathlu bywyd a gwaith y ddiweddar Mair Jones, Telynores Colwyn oedd wedi ymgyfartrefu yn Rhuthun ers yr 80au. Yn dilyn gwasanaeth agoriadol gan y Parch Nan Powell-Davies a Chloe Powell-Davies cafwyd perfformiadau gan ddwy delynores ryngwladol oedd yn adnabod Mair yn dda – sef Sioned Williams oedd wedi derbyn gwersi efo hi ac Elinor Bennett oedd wedi cydweithio gyda hi yn ystod ei chyfnod fel telynores Cerddorfa Philharmonic Lerpwl. Braf iawn oedd clywed eu hatgofion difyr am Mair a dysgu mwy am ei chyfraniad aruthrol i fyd y delyn fel perfformwraig, athrawes ac awdur llyfrau hyfforddiant telyn yn y Gymraeg. Ymunodd Dylan Cernyw gyda Sioned Williams i berfformio deuawdau o waith Mair Jones cyn i’r Parch Tecwyn Ifan ddwyn y gweithgareddau i ben.

Gwylio Fideo ar Facebook.

Ymweliad Prof. Lily Kharbamon Medi 2022

Yn dilyn trafodaethau penderfynwyd y byddai Adran Gerdd Prifysgol MLCU yn Shillong yn gartref perffaith i delyn Mair. Braf iawn oedd croesawu Prof. Lily Kharbamon o’r Brifysgol i Ogledd Cymru yn Medi 2022. Cafwyd digwyddiad arbennig yn Nantclwyd y Dre Rhuthun pan gyflwynwyd y delyn i Lily a chlywed y delyn yn cael ei chwarae ar dir Cymru am y tro olaf cyn mynd i Shillong. Yn ystod yr ymweliad arwyddodd CGWM femorandwm o ddealltwriaeth gyda Phrifysgol MLCU yn cadarnhau’r bwriad i gydweithio ar brosiectau celfyddydol a chyfnewid diwylliannol.

Ymweliad cyntaf i Shillong Chwefror 2023

Sicrhawyd grant gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i anfon tiwtor o CGWM draw ar ymweliad i Shillong i ddatblygu camau nesaf y prosiect. Mae Nia Davies Williams yn diwtor cymunedol llawrydd yn CGWM ers nifer o flynyddoedd. Fel cerddor a thelynores ei maes arbenigedd yw cerddoriaeth ym maes iechyd a lles ac yn arbennig yn maes dementia. Yn ystod ei hymweliad rhoddodd Nia gyflwyniadau a gwersi ar y delyn i fyfyrwyr brwdfrydig Adran Gerddoriaeth MLCU a chyflawnodd nifer o ymweliadau maes gyda Cefyn Burgess gan gyfarfod cerddorion traddodiadol Bryniau Casia a dysgu mwy am y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth Cymru a’r Khasis. Bu cyfle hefyd i ymweld ag Ysbyty Gordon Roberts a sefydlwyd yn 1922 gan y Cenhadwr a llawfeddyg  Dr H Gordon Roberts a pherfformio yn y gymuned.

Gwersi Telyn Zoom Ebrill 2023

Yn dilyn ymweliad Nia i Brifysgol MLCU dewisiwyd 5 myfyriwr oedd wedi dangos diddordeb arbennig mewn dysgu i chwarae’r delyn i elwa o wersi telyn wythnosol dros zoom gyda CGWM. Mae’r gwersi yn cael eu hariannu gan gronfa Ysgoloriaeth Mair Jones dan ofal ffrindiau Mair Jones.  Catrin Morris Jones sy’n cynnal y gwersi ac mae datblygiad Balasiewdor, Aijingkmen, Livandi, Bernadine a Risaka dros y misoedd diwethaf wedi bod yn arbennig. Yn ogystal â mynychu eu gwersi wythnosol maent wedi perfformio mewn sawl digwyddiad yn y Brifysgol ac yn y gymuned a chymryd rhan mewn rhaglen ddogfen ar sianel newyddion Khasi.

Ail ymweliad CGWM i Shillong. Tachwedd 2023

Yn Nhachwedd 2023 dychwelodd Nia I Shillong gyda’r artist Cefyn Burgess a Rajan Madhok gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Nod yr ymweliad yma oedd datblygu’r cysylltiadau gyda Phirfysgol MLCU, datblygu camau nesaf y cynlluniau cyfnewid diwylliannol ac archwilio a datblygu yr elfen iechyd a lles. Y tro hwn cafwyd cyflie i ymweld gyda dwy Ysbyty sydd a chyswllt gyda Chymru sef Ysbyty Gordon Roberts yn Shillong ac Ysbyty Norman Tunnel yn Jowai a chafodd Nia a’r myfyrwyr telyn gyfle i dreulio amser ar y wardiau yn perfformio gan ddangos sut y gall cerddoriaeth gyfrannu at hybu iechyd a lles cleifion. Trefnodd y myfyrwyr i ddychwelyd i’r ysbyty i berfformio ar ol i Nia adael. Perfformiodd y myfyfrwyr telyn yng Ngwyl y Tri Bryn (Tri Hills Ensemble Festival) oedd yn cael ei chynnal ar y pryd.

Diolch i Telynau Derwent am rodd o delyn fechan i’r prosiect.

Gyda blwyddyn Cymru-India Llywodraeth Cymru ar y gorwel bu’r ymweliad yn gyfle hefyd i drafod  digwyddiadau posibl yn ystod y flwyddyn honno ac ymweliad cyntaf y cerddorion o MLCU â Chymru yn 2024.

Nia a’r myfyrwyr telyn yn perfformio ar ward un o’r ysbytai yn Shillong:

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld mwy am arddangosfeydd ‘Tu ôl i’r blwch’ ac ‘Trwy Llaw a Llun’ a ysbrydolwyd gan y cyswllt rhwng pobl Cymru a phobl Khasi a Mizo gan yr artist tecstiliau Cefyn Burgess trwy ddilyn y ddolen hon : Diary — Cefyn burgess

Tudalen Facebook Cofio Mair Jones (telynores Colwyn)

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r artist Gareth Bornello wedi cyflawni prosiect ymchwil ‘Welsh and Khasi Cultural Dialogues’ yn annog cydweithio credigol rhwng artistiaiad o’r ddwy gymuned.   Gellir darllen mwy am ei waith trwy ddilyn y ddolen hon : Khasi-Cymru Collective | The Gentle Good