Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias
(Rhif Elusen: 1094472)
Ymuno â’r Cyfeillion
Mae elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu cymorth ariannol allweddol i CGWM drwy gyfrwng grantiau, ynghyd â chefnogi ei fyfyrwyr drwy gyfwng ei Gronfa Fwrsari a Chronfa Offerynnau Mary Costello.
Yn flynyddol mae Pwyllgor y Cyfeillion yn codi bron iawn i £10,000 drwy gyfrwng tâl aelodaeth, rhoddion a drwy gynnal amryw o ddigwyddiadau i godi arian. Mae’r pwyllgor hefyd yn weithredol mewn cefnogi gweithgareddau y Ganolfan drwy gynnig cymorth ymarferol drwy stiwardio yn ystod ei ddigwyddiadau.
Ymunwch fel Aelod o Gyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias heddiw am £10 y flwyddyn a helpwch ni i gefnogi cerddorion y dyfodol.
Y Gronfa Fwrsari
Sefydlwyd Cronfa Fwrsari Cyfeillion CGWM yn 2007 er mwyn cynorthwyo pobl ifanc talentog gyda chostau hyfforddiant a chyrsiau cerddoriaeth o’r safon uchaf a geir yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Caiff y gronfa ei weinyddu can Cyfeillion CGWM a CGWM.