Theori Cerdd

Rydym yn cynnig dosbarthiadau theori trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ein Canolfan yng Nghaernarfon gyda’n tiwtor Caryl Roberts.

Mae sesiynau un i un hefyd ar gael.

Rydym yn annog disgyblion o bob lefel i gymryd gwersi theori gan y bydd yn atgyfnerthu yr hyn a ddysgir yn y gwersi offerynnol a lleisiol ac yn datblygu dealltwriaeth cerddorol cyffredinol.

Mae’r sesiynau yn canolbwyntio ar faes llafur theory ABRSM. (Mae’n rhaid pasio arholiad gradd 5 theori cyn sefyll arholiadau gradd 6 ac uwch gyda bwrdd arholi’r ABRSM.)

Cysylltwch â’r swyddfa am fanylion pellach.