Elain Rhys
Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, graddiodd Elain gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 2020 lle enillodd wobr goffa Phillip Pascall am gyrhaeddiad rhagorol. Astudiodd y delyn a’r piano dan arweiniad cerddorion blaenllaw megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones. Mae wedi bod yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel telynores ac mae’n mwynhau perfformio’n unigol mewn cyngherddau yn lleol. Bu’n gyfeilydd i gynhyrchiad Opra Cymru o Don Giovanni a aeth ar daith ledled Cymru yn 2019. Mae’n mwynhau cyfeilio i unigolion, yn gyfeilydd swyddogol mewn Eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol ac yn gyfeilydd i Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Hogia Llanbobman. Yn ystod haf 2022, gwahoddwyd Elain i ddysgu’r delyn a pherfformio fel rhan o’r Wythnos Dreftadaeth Gymreig yn nhalaith Wisconsin, UDA. Ar hyn o bryd, mae Elain yn astudio ar gyfer ei doethuriaeth sy’n canolbwyntio ar unig opera Grace Williams, ‘The Parlour’.