Paned a Chân

O ganlyniad i lwyddiant sesiynau Sgwrs a Chan yng Ngwynedd penderfynwyd sefydlu darpariaeth debyg yn Sir Ddinbych gan gydweithio efo Hamdden Sir Ddinbych. Ers mis Mehefin 2022 cynhelir sesiynau Paned a Chân  o dan arweiniad ein tiwtor Ceri Rawson yn festri Capel Llanrhaeadr ar foreau Mawrth o 10.30-11.30am. Cymraeg yw prif iaith y sesiynau ac mae oddeutu ugain o bobl hŷn yn mynychu yn wythnosol.

I gofrestru neu wybod mwy cysylltwch efo ni ar post@cgwm.org.uk