Sgwrs a Chân

Prosiect a sefydlwyd yn 2016 mewn partneriaeth gyda Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yw Sgwrs a Chân. Cyfle i oedolion ddod ynghyd i gymdeithasu a chanu dros baned neu i eistedd nol a mwynhau gwrando ar y canu.

Ers sefydlu y prosiect rydym wedi cynnal sesiynau yn y gymuned ym Methesda, Gellilydan, Trawsfynydd, Pwllheli, Tremadog a Deiniolen. Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau ym mhrosiectau fflatiau gofal ychwanegol Grwp Cynefin yn y Bala, Tremadog, Dolgellau a Phorthmadog.

Bydd manylion sesiynau Medi 2022 – Mawrth 2023 yn cael eu cyhoeddi yn fuan.