Hyfforddiant Offerynnol a Lleisiol

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant un-i-un o’r safon uchaf gan dîm o diwtoriaid profiadol. Mae hyfforddiant ar amrywiaeth eang o offerynnau a’r llais ar gael, ac mae croeso i blant ac oedolion o bob oed i ddod atom ni am wersi.

Caiff gwersi eu cynnal yn ein prif ganolfan sydd wedi ei leoli o fewn Galeri Caernarfon, ynghyd â’n canghennau yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych a Chapel Tabernacl Rhuthun.

Os yw o ddiddordeb i’r myfyriwr, bydd ein tiwtoriaid yn helpu i baratoi eu disgyblion tuag at arholiadau. Mae byrddau arholi a ddefnyddir gan ein tiwtoriaid yn cynnwys yr ABRSM, Trinity College a Rock School.

Rydym ni’n falch iawn hefyd o gyfoethogi addysg ein myfyrwyr ymhellach, drwy gynnig amryw o gyfleoedd i berfformio, grwpiau Theori Cerddoriaeth, ensembles, gweithdai a dosbarthiadau meistr.

Cyfleusterau

Mae’r rhan helaethaf o’r gwersi a gynhelir yn ein Canolfan o fewn Galeri yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd dysgu gwrthsain safon uchel. Rydym ni hefyd yn darparu gwersi yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych a Chapel Tabernacl Rhuthun mewn ystafelloedd dysgu priodol.

Mae gennym ni bianos safonol, telynau celtaidd a phedal, cit drymiau a marimba ar gyfer y gwersi, ac mae amps ar gael ar gyfer hyfforddiant gitâr drydan. Ar gyfer unrhyw offerynnau eraill, mae gofyn i chi ddod a’ch offeryn efo chi. Cysylltwch â ni os hoffech unrhyw arweiniad pellach. Mae gennym ni hefyd gasgliad bach o offerynnau ar gael i’w llogi i’n myfyrwyr.

Gwneud Cais am Wersi

Mae croeso cynnes i bobl o bob oedran a gallu cerddorol i ddod am wersi cerdd i CGWM. Llenwch y ffurflen gais am wersi ar lein ac fe ddown i gysylltiad pan fydd slot ar gael.

Gallwch hefyd wneud cais am wersi neu tafod ymhellach drwy ffonio 01286 685 230.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw cost gwersi?

Mae ein tiwtoriaid llawrydd yn gosod ffioedd dysgu eu hunain ar gychwyn pob blwyddyn academaidd. O ganlyniad mae’r ffioedd yn amrywio o diwtor i diwtor.

Er mwyn rhoi syniad bras, mae ffioedd gwersi ar gyfartaledd o gwmpas £35.30 (awr), £17.65 (hanner awr), £11.77 (20 munud).

Oes posib cael help i dalu am y gwersi?

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i elusen Cyfeillion CGWM am ddarparu Cronfa Fwrsari er mwyn cynorthwyo disgyblion ifanc â chostau gwersi.
Ymwelwch â Thudalen y Cyfeillion am ragor o wybodaeth.

Pa mor aml mae’r gwersi yn cael eu cynnal?
Rydym ni’n dilyn patrwm tymor ysgolion, felly fel arfer nid oes gwersi yn ystod gwyliau’r ysgol.

Er mwyn sicrhau parhad i’r gwersi, mae’r rhan helaeth o’n disgyblion yn dod am wersi yn wythnosol, mae gwersi pob yn ail wythnos hefyd yn opsiwn. Mae ambell i ddisgybl yn dod yn achlysurol yn unig – cysylltwch â ni i weld beth yw’r opsiynau.

Ein Tîm o Diwtoriaid

Dysgwch fwy am ein tiwtoriaid llawrydd sy’n cynnig gwersi un-i-un yn CGWM yn fan hyn.

Mae diogelwch ein myfyrwyr yn bwysig iawn i ni, ac rydym wedi cynnal archwiliad DBS ar pob un o’n tiwtoriaid un-i-un.

Alfred Barker

Alfred Barker

Ffidil

Ann Atkinson

Ann Atkinson

Llais

Beryl Lloyd Roberts

Beryl Lloyd Roberts

Piano

Bethan Griffiths

Bethan Griffiths

Piano, Telyn

Caleb Rhys Jones

Caleb Rhys Jones

Llais

Caryl Roberts

Caryl Roberts

Piano, Telyn, Theori

Catrin Gruffudd

Catrin Gruffudd

Piano

Catrin Morris Jones

Catrin Morris Jones

Telyn

Dewi Ellis Jones

Dewi Ellis Jones

Taro, Cit Dryms

Diana Keyse

Diana Keyse

Piano

Dylan Williams

Dylan Williams

Pres

Edith Jones

Edith Jones

Piano

Einir Wyn Hughes

Einir Wyn Hughes

Telyn & Piano

Elain Rhys

Elain Rhys

Piano a Thelyn

Elgan Llŷr Thomas

Elgan Llŷr Thomas

Llais

Elinor Bennett

Elinor Bennett

Telyn

Geraint Roberts

Geraint Roberts

Piano

Gethin Tomos

Gethin Tomos

Gitâr

Glian Llwyd

Glian Llwyd

Piano

Graham Land

Graham Land

Cit Dryms

Gwenan Gibbard

Gwenan Gibbard

Telyn

Hawys Price

Hawys Price

Piano

Helen Owen

Helen Owen

Piano

Johanne Jones

Johanne Jones

Llais

Katherine Betteridge

Katherine Betteridge

Ffidil

Lisa Harrison

Lisa Harrison

Piano

Mared Emlyn

Mared Emlyn

Piano, Telyn

Marie-Claire Howorth

Marie-Claire Howorth

Piano, Chwythbrennau

Morwen Blythin

Morwen Blythin

Telyn

Neil Browning

Neil Browning

Gitâr

Nicki Pearce

Nicki Pearce

Cello

Rhiannon Mathias

Rhiannon Mathias

Ffliwt

Rhys Meirion

Rhys Meirion

Llais

Rhys Walters

Rhys Walters

Gitâr

Sian Gibson

Sian Gibson

Llais

Sian Wheway

Sian Wheway

Llais, Piano, Theori

Teleri-Siân

Teleri-Siân

Piano

Tim Ward

Tim Ward

Llais a Phiano