Doniau Cudd

Trosolwg

Prosiect  cerddoriaeth greadigol  i bobl sydd ag anableddau dysgu yw ‘Doniau Cudd’. Cychwynwyd y cynllun arloesol yma yng Nghaernarfon pan ddaeth yn amlwg i CGWM a’r cerddor Arfon Wyn sydd wedi treulio blynyddoedd fel athro mewn ysgolion arbennig, bod diffyg darpariaeth gerddorol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ar ôl gadael yr ysgol. . Fe’i sefydlwyd yn 2003 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

Ers hynny mae’r prosiect wedi datblygu i fod yn rhan bwysig o fywydau nifer o unigolion lleol yn ogystal â bod yn ysbrydolaeth i bawb sydd ynghlwm â’r prosiect. Dan arweiniad Arfon Wyn, mae’r cyfranogwyr yn cyfarfod yn wythnosol i ganu a chwarae amryw o offerynnau gan greu cerddoriaeth byrfyfyr eu hunain yn aml ar sail caneuon gwerin Cymreig. Mae nifer o’r aelodau wedi prynu offerynnau eu hunain er mwyn gallu datblygu eu sgiliau ymhellach yn eu cartrefi. Creda Arfon yn gryf mewn creu awyrgylch integredig. Yn aml, bydd cerddorion gwadd a myfyrwyr o Brifysgol Bangor ac o CGWM yn ymuno â’r sesiynau i berfformio ochr yn ochr â’r cyfranogwyr.

Mae’r prosiect wedi dennu diddordeb o ardaloedd eraill. Gyda chefnogaeth Gwasanaethau Celfyddydau Sir Ddinbych rydym wedi darparu sesiynau cerdd i oedolion sydd ag anableddau dysgu yn Sir Ddinbych a bydd Arfon Wyn yn ymweld â Chlwb Ni i bobl sydd ag anableddau dysgu ym Mhwllheli sawl gwaith y flwyddyn i gynnal sesiynau cerdd. 

 Dros y blynyddoedd, mae’r aelodau wedi cael cyfle i weithio gyda  ymarferwyr celf eraill megis yr artist Mari Gwent a dawnswyr  o gwmni Dawns i Bawb gan greu gweithiau celf a dawns wedi ei ysbrydoli gan y gerddoriaeth. 

Mae’r grwpiau wrth eu boddau yn rhannu eu cerddoriaeth gydag eraill trwy berfformio yng nghyngerddau Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon a mewn lleoliadau eraill yn y gymuned a thu hwnt. Ymysg yr uchafbwyntiau mae perfformiad yn y Senedd, Caerdydd fel rhan o ddigwyddid Arts & Business Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yng Nghadeirlan Llanelwy, ac eitem ar raglen ‘Heno’ S4C. Yn 2013 derbyniodd Doniau Cudd wobr  Ymddiriedolaeth Bryn Terfel am Hyrwyddo’r Celfyddydau um Maes Gofal Cymdeithasol yng Ngwobrau Gofal Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. 

Mae prosiect Doniau Cudd yn rhan bwysig o’n rhaglen artistig a gefnogir gan Grant Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru a derbynnir rhywfaint o nawdd ariannol gan Gyngor Gwynedd tuag at y sesiynau yng Ngwynedd.  Mae CGWM yn gweithio yn galed drwy gydol y flwyddyn i ddenu nawdd digonol i alluogi’r prosiect i barhau a datblygu.

Yr ydym yn werthfawrogol o’r gefnogaeth ariannol a dderbyniwyd yn y gorffennol gan unigolion, cronfeydd ac ymddiriedoliaethau gan gynnwys Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, HSPC, Chapman Trust, Ratcliff Foundation, Laspen Trust, Elusen Margaret Davies, Trusthouse Charitable Foundation a Chronfa Cymuned Watkin Jones.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth, neu os hoffech gefnogi ‘Doniau Cudd’.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.