Morwen Blythin

Morwen Blythin

Telyn

Dechreuodd Morwen astudio’r delyn pan yn 9 oed ac yn dilyn llwyddiant yn yr Ŵyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Genedlaethol parhaodd ei hastudiaethau yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, gan raddio yn 1988. Cafodd gyfle i berfformio mewn achlysuron ar gyfer aelodau o’r teulu Brenhinol, gan gynnwys y diweddar Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines: Diana, Tywysoges Cymru; Tywysog Philip, a hefyd wedi perfformio yn ninas Llundain mewn achlysuron a fynychwyd gan bum gwahanol Arglwydd Faer, y diweddar Farwnes Thatcher, John Major a boneddigion eraill.

Cafodd Morwen gyfle i deithio o amgylch y Deyrnas Unedig a pherfformio yn y West End gyda nifer o sioeau cerdd gan gynnwys The Sound of Music , Phantom of the Opera , Some Like it Hot , Sunday in the Park with George, Oklahoma!, Valentine’s Day ac wedi chwarae gyda gwahanol gerddorfeydd , cwmnïau opera a chwmnïau bale.

Fel unawdydd , mae hi wedi perfformio consierto Mozart i Ffliwt a Thelyn a consierto Handel i’r Delyn ac wedi rhoi datganiadau ac ymddangosiadau cyngerdd yng Nghymru a Lloegr. Dychwelodd Morwen i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ac enillodd radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1996 ac wedi hynny dechreuodd ei gyrfa addysgu , yn gyntaf yn Wrecsam , ac yna ymunodd ag Ysgol Howell’s yn 1998 lle bu’n dal y swydd o Bennaeth Cerdd ac yna Athrawes Hyn hyd nes y bu cau’r ysgol ym mis Awst 2013.

Ar hyn o bryd mae Morwen yn dysgu ar gyfer Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych ac i nifer o ysgolion yn Wrecsam. Mae ganddi nifer cynyddol o ddisgyblion telyn a phiano preifat ac mae hi wedi dechrau fel cyfeilydd i Gôr Cytgan yn ddiweddar. Mae Morwen yn cyfeilio i Gerdd Dant yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd ac yn perfformio ar y delyn a’r piano ar gyfer achlysuron, priodasau a chyngherddau.