Gwersi Offerynnol a Lleisiol
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig hyfforddiant o’r ansawdd uchaf ar amrywiaeth eang o offerynnau a’r llais yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun.
Daw cannoedd o ddisgyblion – yn blant ac yn oedolion, trwy ein drysau bob wythnos i gael gwersi gan ein tîm o diwtoriaid profiadol.
Y Newyddion Diweddaraf
Adroddiad Blynyddol Ebrill 2019 – Mawrth 2020
Bu 2019-2020 yn flwyddyn brysur arall i CGWM a braf oedd cael dathlu ugain mlynedd ers i’r Ganolfan agor ei drysau trwy wahodd rhai o’n cyn-ddisgyblion a’n disgyblion presennol i nodi’r achlysur mewn cyngerdd arbennig yn Galeri. Lawrlwytho'r Adroddiad
Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol
Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o...
Osian Ellis (1928-2021)
Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn...

Camau Cerdd
Mae Camau Cerdd yn brosiect ar gyfer plant ifanc.
Mae’r dosbarthiadau wedi eu llunio’n ofalus gan Marie-Claire Howorth er mwyn rhoi’r cychwyn gorau posib a sylfaen cerddorol cadarn i’ch plentyn.
Cynhelir dau grŵp: Camau Cerdd (i blant 15mis – 3oed) a Camau Nesaf (i blant 4 – 7 oed).

Ein Cyngherddau Ar-lein Diweddaraf
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym ni’n falch ein bod ni’n medru darparu cyngherddau o gartrefi ein tiwtoriaid a chyn-ddisgyblion.
Lisa Dafydd a Tesni Jones
https://vimeo.com/491384217
Gwenan Gibbard (Cyngerdd Nadolig)
https://vimeo.com/488884529
Iwan Llewelyn-Jones yn sgwrsio gyda’r offerynnydd taro Dewi Ellis Jones
https://vimeo.com/472009161 Cyfres Gyngherddau a Chyfweliadau ar-lein (Noder bod fersiwn Saesneg o'r sgwrs hefyd ar gael). Yr wythnos hon bydd Iwan Llewelyn-Jones yn sgwrsio efo ein tiwtor offerynnau taro Dr Dewi Ellis-Jones. Enillodd Dewi Ddoethuriaeth mewn...
Gweithgareddau yn y Gymuned
Rydym ni’n falch o gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau cerdd cymunedol.
Digwyddiadau i Ddod
Gwneud Rhodd
Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias?
Cadw Mewn Cyswllt
Ein Gwyliau

30 Ebrill – 3 Mai 2021

30 + 31 Mawrth 2021
Cyngherddau, Dosbarthiadau, Gweithdai