Diwrnod o Berfformiadau Noddedig Ym Mae Colwyn yn codi dros £300

Diwrnod o Berfformiadau Noddedig Ym Mae Colwyn yn codi dros £300

Rhaid bod disgyblion ein Canolfan yn Nghaernarfon a Dinbych yn falch o gael ymlacio wedi diwrnod prysur yn perfformio ym Mae Colwyn bore ma. Wedi bore yn llawn perfformiadau noddedig, a ymweld â’r stondinau dod a gwerthu, rydym ni’n falch o gyhoeddi fod y diwrnod wedi bod yn lwyddiant, gan lwyddo i godi dros £300 i Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias.

Rydym ni’n ddiolchgar i Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias am drefnu’r digwyddiad fel rhan o’i apêl i godi arian. Fe gynhaliwyd y digwyddiad yn adeilad Cais ar Station Road, Bae Colwyn. 

Pob blwyddyn mae’r Cyfeillion yn gosod targed uchelgeisiol o godi £9,000 ac mae’r arian yma yn cael ei ddefnyddio er budd y Ganolfan gan gynnwys ariannu Cronfa Fwrsari y Ganolfan – gan sicrhau fod pawb yn cael mynediad at wersi cerdd. 

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’n holl fyfyrwyr ni berfformio, ac roedd Bae Colwyn fel man cyfarfod yn berffaith i’n myfyrwyr o Gaernarfon a Dinbych i gyfarfod – bron hanner ffordd rhwng y ddau Ganolfan. Braf oedd y cyfle hefyd i glywed Triawd Clarinét Conwy – gyda Clive Wolfendale, aelod o bwyllgor y Cyfeillion yn rhan o’r ensemble. 

Rhaid i ni ddiolch yn arbennig i’n holl myfyrwyr a berfformiodd ag a gododd arian i’r Cyfeillion drwy eu perfformiadau noddedig, nid yn lleiaf i un o’n disgyblion a ddaeth i’r digwyddiad ar faglau wedi iddi anafu ei hun y diwrnod flaenorol! Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’n holl disgyblion a’r rhieni am eu cefnogaeth. 

Pwy ddaw i ganu harmoni gydag un o brif gantorion Barbershop America?

Pwy ddaw i ganu harmoni gydag un o brif gantorion Barbershop America?

Mae un o brif arweinyddion a beirniaid  canu Barbershop o’r Unol Daleithiau ar ei ffordd i Gymru i gynnig dau weithdy  cyffrous yn y dull unigryw a phoblogaidd yma o ganu. Mae Paul Wigley sy’n dod o Minnesota, wedi  cael profiad helaeth o arwain corau, cynnal gweithdai a darlithoedd ac  wedi ennill parch mawr  iddo’i hun  yn rhyngwladol. 

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn  falch iawn o gynnig cyfle i  gantorion  sydd yn ymddiddori yn y dull hyfryd hwn o ganu  i ddysgu oddi wrth Paul Wigley trwy  gymeryd rhan mewn dau weithdy. Bydd y cyntaf yn  Galeri Caernarfon  ar Chwefror 12fed,  o 7 tan 9 pm, a’r ail  ym Mhentyrch, Caerdydd  ar Chwefror 18ed. O 7.30 tan 9.30pm. Bydd Paul yn arddangos ei arddull a’i sgiliau cyfarwyddo i ddechreuwyr yn ogystal â chantorion sydd wedi arfer canu yn y dull Barbershop gan dynnu ar ei brofiad helaeth yn y maes.

Ef oedd cadeirydd y panel beirniaid yng Nghystadleuaeth Cymdeithas International Barbershop Harmony yn  1991, 1994, 1997, 1999, 2002, 2008, 2011 and 2014 a bu’n dysgu athrawon ac arweinyddion corau Barbershop yn Efrog Newydd,  Maryland, Kentucky, Wisconsin, Missouri, Washington and California, ac ar bwyllgor  National Youth Outreach yn America.  Ymddeolodd yn ddiweddar fel athro Cerdd wedi llawer iawn o lwyddiant gyda’i gôr yn  Ysgol Lakeville, Minnesota. 

Paul yw Cyfarwyddwr côr  Minneapolis Commodores ac,  ar hyn o bryd, ef sy’n dal y swydd o Arbenigwr Categori cerdd Cymdeithas y Barbershop Harmony yn rhyngwladol.  Yn ystod ei ymweliad â Phrydain, bydd yn ddarlithio yn y Gynhadledd Brydeinig i arweinyddion Barbershop a gynhelir ddiwedd misf Chwefror yng Nghanolbarth Lloegr.

Os yw ei enw yn canu cloch, mae Paul Wigley yn  gefnder pell i Dafydd Wigley, Ymfudodd ei hen, hen daid  o Lanbrynmair, Sir Drefaldwyn yn 1857 i fyw ym Minnesota a daeth yn Senator yn y dalaith honno. Yn y 1970’au,  roedd tad Paul,  y diweddar Richard Wigley, hefyd yn Senator yn Nhalaith Minnesota.

Am dros 100 mlynedd,  ni fu unrhyw gysylltiad gydag ochr Dafydd o’r teulu a’r criw  ym Minnesota, ac mae’n hyfryd fod Canolfan Gerdd William Mathias yn helpu i  adfer  y cysylltiad teuluol! Bydd y Gweithdy yn Ne Cymru yn Acapela, Pentyrch.  Mab Dafydd Wigley, Hywel yw perchennog y  Ganolfan gelfyddydol lle cynhelir yr ail weithdy ar Chwefror 18fed.  Yn 2004,  bu Paul ar daith gyda’i gôr o Lakeville, Minnesota, yng Nghymru gan roi cyngerdd yn Theatr Seilo Caernarfon gyda Chôr Glanaethwy.

Neges William Mathias

Neges William Mathias

Siarada’r darlledwr Bob Jones gyda’r delynores Elinor Bennett am y pymtheg mlynedd cyntaf wedi sefydlu Canolfan Gerdd Willaim Mathias

Y Cychwyn Swnllyd

Yn sicr, mae angen dathlu creu cerddoriaeth o bob math. Ond mae gan Ganolfan Gerdd William Mathias achos clodwiw i ddathlu dim llai na phymtheg mlynedd o berfformiadau a hyfforddiant cerddorl or o’r safon uchaf – tra’n wynebu heriau ariannol anodd a chyllidebau tynn. Mae Canolfan Gerdd William Mathias,  sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, yn sefydliad unigryw yn y byd cerddorol, a thyfodd lawer ers cymryd y camau cyntaf i fod yn gerbyd blaengar a chyffroes ar gyfer mynegiant cerddorol ledled Gogledd Cymru, gan estyn allan dros y byd drwy gyfrwng gwyliau a cyfryngau newydd.

‘Y nod oedd creu man  penodol ar gyfer cerddoriaeth, lle medr plant a phobl o bob oedran dderbyn hyfforddiant gan arbenigwyr cerdd er mwyn cyfoethogi eu haddysg heb orfod teithio milltiroedd o’u cartrefi,’ dywedodd y delynores rhyngwladol Elinor Bennett.  

‘Mae’n hanfodol creu cyfleoedd i bobl ifanc  feithrin eu talentau naturiol a darparu gwaith ar gyfer cerddorion proffesiynol oddi fewn i Gymru, gan cyfoethogi’r gymuned lleol’.

Edrycha’r delynores yn ôl dros y pymtheg mlwyddyn diwethaf gyda chryn syndod a phleser. ‘Roedd megis cymryd cam i mewn i’r gofod! Y Dydd Llun cyntaf ym mis Medi 1999, gyda’r mileniwm yn prysur nesáu – roedd  cyffro yn yr awel. Fe agorom ni ar un ddiwrnod yn unig ar gyfer yr wythnosau cyntaf a dim ond dau diwtor oedd gennym. Daeth Annette Bryn Parry gyda chwech o’i myfyrwyr piano ac roeddwn innau gyda nifer gyfartal o ddisgyblion yr oeddwn yn eu hyfforddi yn wythnosol ar y delyn. Roedd y tŷ ddefnyddion ni wrth ymyl Eglwys y Santes Fair yng Nghaernarfon yn teimlo’n fawr ac yn wag, ac roeddwn i’n pryderu’n fawr y byddai’n aros felly! Roedd ganddyn ni ddau biano, ac fe llwyddon ni i gael grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i brynu tair telyn newydd o Ffrainc, a gartrefwyd ar llawr uchaf y tŷ gyda golygfa wych dros y Fenai tuag at Ynys Môn. Yn naturiol, daeth yr ystafell i’w adnabod fel “Y Nefoedd”!’

Fel newyddiadurwr, rydw i pob tro’n edrych ymlaen at ymweld â’r Ganolfan. Yn rhyfeddol mae’r ardal yma sydd mor gyfoethog o ran prydferthwch naturiol yn cael ei weld fel un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae rhannau o Gaernarfon yn sgorio’n uchel  ar raddfa Amddifadedd Lluosog, yn gyfartal ag ardaloedd diwydiannol yng nghymoedd y de. Hawdd felly i bob ran o’r gymuned i golli allan ar brofiadau cerddorol o safon uchel, a chyfleoedd i ddysgu. Ond fel y ddarganfu Elinor Bennett,  mae’r angerdd sydd gan y gymuned am gerddoriaeth yn gwneud yn iawn am hyn.

Parha Elinor Bennett: ‘Yn fuan, daeth mwy o fyfyrwyr a llawer mwy o diwtoriaid offerynnol atom ni, nes bod y tŷ cyfan yn cael ei ddefnyddio ychydig o fisoedd yn ddiweddarach. Doedd yna ddim ystafelloedd gwrthsain yn ystod y dyddiau cynnar. Er ei fod yn gacoffoni llwyr, mae gen i atgofion melys o’r seiniau amrywiol a grëwyd o’r gwahanol ystafelloedd – ac o fedru clywed sylwadau athrawon eraill!’

Sefydlwyd y Canolfan Gerdd fel teyrnged i un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru, William Mathias, a fu farw yn 1992. Yn ŵr â deimlodd yn angerddol dros ddysgu a rhannu’r cariad at gerdd, fe adnabyddir Mathias fel arweinydd a phianydd,  a byddai’n  perfformio neu arwain llawer perfformiad cyntaf o’i weithiau. Ef hefyd a sefydlodd  Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru yng Nghadeirlan Llanelwy a bu’n Gyfarwyddwr Artistig hyd at ei farwolaeth.

Cyfrannodd Mathias yn sylweddol iawn i gerddoriaeth organ yr 20fed ganrif, ac mae ei gerddoriaeth eglwysig a’i garolau yn parhau i gael eu perfformio yn rheolaidd yn fyd-eang. Bu galw iddo gyfansoddi ar gyfer achlysuron Brenhinol, gan gynnwys ffanffer i ddathlu deg mlynedd ers arwisgo Tywysog Cymru, a gynhaliwyd dafliad carreg  o safle presennol Galeri yng Nghastell Caernarfon. Cyfansoddodd hefyd gerddoriaeth i ddathlu jiwbilî arian y Frenhines, a’r anthem i ddathlu priodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 1981. Llwyddodd Mathias i gyfansoddi ar gyfer y llais ac offerynnau cerdd a oedd yn apelio at lawer, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith y Ganolfan heddiw.

Y Ganolfan Heddiw

Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Ganolfan  bellach wedi ymgartrefu yn Galeri (sydd yn ganolfan busnes unigryw) ac yn cael ei hadnabod fel canolfan nodedig i addysg gerddorol, gyda chefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n trefnu dosbarthiadau meistr gyda cherddorion adnabyddus, ynghyd â chyngherddau, gweithdai a chyrsiau ar amrywiaeth eang o bynciau cerddorol. Mae’n gartref ar gyfer Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a gyda chynlluniau i gynnal rhagor o wyliau yn y dyfodol agos.

Heddiw, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 15 mis a 85 mlwydd oed yn mynychu’r ganolfan ar sail wythnosol ar gyfer hyfforddiant unigol gyda 30 tiwtor cerdd proffesiynol ac arbenigol gan gynnig hyfforddiant ar amrywiaeth eang o offerynnau.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias  yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Mae’r rhan helaeth o’r myfyrwyr o oedran ysgol gynradd ac uwchradd lle mae eu gallu cerddorol wedi cael ei hadnabod ac maent yn cael eu cyfeirio tuag at diwtoriaeth pellach. Mae CGWM hefyd yn darparu dosbarthiadau cerdd cyffredinol, sesiynau cerdd creadigol i oedolion sydd gyda anableddau dysgu, darlithoedd, perfformiadau, cyngherddau a gwyliau amrywiol gan roi llwyfan i nifer o gerddorion enwog, clybiau gwrando i oedolion, cerddoriaeth siambr, gweithdai cerdd poblogaidd, gwerin, jazz, a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaengar. Oll wedi ei drefnu mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol gan ddarparu cyfleoedd cerddorol gwerthfawr ar gyfer pob aelod o’r gymdeithas. Mae pob gweithgaredd yn cael ei gynnal yn ddwyieithog.

Dau o’u prosiectau mwyaf arloesol yw’r dosbarthiadau meithrin i blant rhwng 15 mis a 3 oed, Camau Cyntaf Cerdd, a’r cwrs cerdd creadigol i oedolion ag anableddau dysgu, Doniau Cudd.

‘Prif fantais canolfan megis Canolfan Gerdd William Mathias ydy y gallai gyflogi pobl nid yn unig i drefnu tiwtoriaeth un-i-un, ond hefyd i drefnu a chynnal gweithgareddau grŵp megis pedwarawdau, ensembles, corau ynghyd â nifer o ddigwyddiadau cyffroes megis gwyliau, dosbarthiadau meistr a chyngherddau’, meddai Bennett. ‘Y Ganolfan yw’r pwysicaf o holl gwmnïau preswyl Galeri Caernarfon gan ddod a channoedd o bobl at yr adeilad celfyddydol pob wythnos. Mae ganddyn ni ddeg ystafell ddysgu o ansawdd uchel iawn sy’n cael eu defnyddio gan y 33 tiwtor sy’n gweithio ar sail llawrydd ac mae hyn yn cynhyrchu incwm sy’n llwyddo i dalu am gostau rhentu’r cyfleusterau.’

Rwyf wedi cael  fy syfrdanu at ei brwdfrydedd dros y Ganolfan a’i gwaith. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn gwybod y byddwn i’n cael cryn anhawster dysgu yno hefyd – dim byd i wneud â safon y dysgu, ond yn hytrach fel canlyniad i’r gwrthdyniad a grëir gan y golygfeydd syfrdanol  o’r Menai a Môn o ffenestri’r ystafelloedd ymarfer. Dim ond tafliad carreg i ffwrdd y mae safle treftadaeth mawreddog, Castell Caernarfon â’i hen dref glyd. Y Ganolfan yw calon y gymuned.

Penblwydd Hapus yn 15eg oed!

Yn yr un modd ag unrhyw berson 15eg mlwydd oed, mae’r Ganolfan yn byrlymu ag egni. Sbardunodd diwrnod agored yn eu cartref yn Galeri gychwyn addawol iawn i’r dathliadau penblwydd. Taflwyd y drysau a daeth y cyhoedd i samplu sesiynau cerddorol gan gynnwys Drymio’r Drymiau, Canu’r Delyn yn y Nefoedd, Tro ar Ganu – côr cymysg newydd i oedolion; gweithdy gitâr; sesiynau Doniau Cudd; a ymarfer agored gyda Chôr Siambr y Ganolfan. Os na fedrai’r cyhoedd ddod i’r Ganolfan, yna fe aeth y Ganolfan iddyn nhw gyda cyfres o gyngherddau gan gerddorion ifanc mewn siopau a mannau cyhoeddus o amgylch y tref.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi agor canolfan ‘loeren’ yn Ninbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae ganddi uchelgais o ddyblygu’r model mewn trefi a dinasoedd eraill.

Felly, pymtheg mlwyddyn o lwyddiant mewn darparu addysg gerddorol  o dan y belt – beth am y pymtheg mlwyddyn nesaf? Mae Elinor Bennett yn uchelgeisiol.

‘Mae’r rhain yn amseroedd anodd yn ariannol i bawb, felly mae cyfnerthu’r hyn sydd ganddyn eisoes yn bwysig iawn. Mi fydd angen i ni ganfod cyllid digonol er mwyn sicrhau parhad, a rhaid i ni weithio’n galed i gynnal y lefel o gefnogaeth a dderbyniwyd yn gyhoeddus o’r gymuned yng Nghymru. Rhaid i ni bob tro cydnabod y pwysigrwydd o greu cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn cerddoriaeth ac annog pobl i  ddod i wrando ar y perfformwyr gorau. Mae cerddoriaeth yn eiddo i bawb – nid yn unig y rhai breintiedig a’r cyfoethog a all fforddio teithio i dinasoedd mawr y byd i wrando i berfformiadau safonol.’