Llwyddiant i Ddiwrnod ‘Taro Traw’ Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych

Llwyddiant i Ddiwrnod ‘Taro Traw’ Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych

Cynhaliwyd diwrnod agored ‘Taro Traw’ llwyddiannus gan Ganolfan Gerdd William Mathias ar y 12 o Orffennaf yn ei changen yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn darparu hyfforddiant cerdd o’r safon uchaf i bobl o bob oed yn ei phrif Ganolfan yn Galeri  Caernarfon am fwy na deng mlynedd bellach, ac ers 2012, mae wedi bod yn cynnig gwersi cerdd yn ei changen yn Ninbych ynghyd â gweithgareddau eraill yn y gymuned. 

Cafwyd cychwyn gwych i’r diwrnod gyda gweithdy telyn gan Dylan Cernyw a Morwen Blythin. Daeth telynorion o bob oed i’r gweithdy gan gael cyfle i gyd chwarae mewn awyrgylch hwyliog. 

Profodd y gweithdy i fod yn llwyddiannus tu hwnt, ac fe lwyddodd y grŵp i ddysgu dau ddarn mewn cyfnod byr iawn, gan roi perfformiad anffurfiol ar y diwedd. 

Roedd Morwen Blythin wrth ei bodd gyda’r cynnydd a wnaeth y grŵp:

Mae dysgu ac yna perfformio dau ddarn o’r newydd yn dipyn o gamp gan feddwl mai dyma’r tro cyntaf i’r grŵp gyfarfod! Rwyf yn obeithiol nawr fod hyn wedi gosod sylfaen i Ganolfan Gerdd William Mathias ffurfio côr telyn i’r dyfodol a fydd yn cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.

Bu’r diwrnod agored yn gyfle i’r Ganolfan gyflwyno un o’i phrosiectau arloesol arall yn yr ardal am y tro cyntaf, sef prosiect ‘Camau Cerdd’ sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth gyda Marie-Claire Howorth. 

Mae prosiect Camau Cerdd yn arbenigo mewn darparu addysg gerddorol i blant rhwng 6 mis oed, a 7 mlwydd oed.

Cynhaliwyd tri grŵp oedran yn ystod y diwrnod gan diwtoriaid y prosiect, Marie-Claire Howorth a Charlotte Green a oedd wrth eu boddau o weld pob un o’r tri grŵp yn llawn gyda chyfanswm o 32 o blant yn cymryd rhan.

Dywedodd Marie-Claire:

Wedi sawl mlwyddyn bellach o gyflwyno prosiect Camau Cerdd yn llwyddiannus ledled sir Gwynedd, mae’n amlwg i ni fod galw am brosiect cerddorol i blant ifanc yn ardal Dinbych, ac fe edrychwn ymlaen at  gynnal y prosiect yn yr ardal yn y dyfodol agos.

Fe gynigwyd gwersi blasu am ddim gyda thiwtoriaid profiadol y Ganolfan hefyd, gyda nifer o blant ac oedolion yn cymryd mantais o’r cyfle i roi cynnig ar offeryn cerdd am y tro cyntaf.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ gan fyfyrwyr y Ganolfan, ac fe groesawodd y Ganolfan Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych a Chymar y Cadeirydd, Gwyneth Kensler a Gaynor Morgan Rees i’r cyngerdd ynghyd â Phwyllgor Theatr Twm o’r Nant i fwynhau perfformiadau gan fyfyrwyr o bob oed a gallu cerddorol. Mae’r Ganolfan Gerdd yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal sesiynau cerdd mewn cartrefi sy’n cynnig gofal dementia o fewn Sir Ddinbych yn y misoedd nesaf yn ogystal â pharhau i ddatblygu ei chynllun Doniau Cudd ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu o fewn y Sir.

Taro Traw i Ganolfan Gerdd William Mathias Dinbych!

Taro Traw i Ganolfan Gerdd William Mathias Dinbych!

Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych yn agor ei drysau i bawb ar gyfer diwrnod o weithgareddau cerdd ar y 12 Gorffennaf 2015. Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin, Camau Cerdd sef prosiect y Ganolfan i blant rhwng 6 mis a 7 mlwydd oed, cyngerdd Llwyfan Cerdd gan ddisgyblion y Ganolfan, a gwersi blasu am ddim.

Mae cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias wedi bodoli yn y dref ers 2012 ac wedi tyfu gan gynnig gwersi offerynnol a lleisiol gyda thiwtoriaid profiadol yn cynnwys Ann Atkinson, Teleri Siân, Glian Llwyd, Alfred Barker, a Morwen Blythin. Yn ogystal, datblygwyd prosiectau cymunedol megis Doniau Cudd ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu a sesiynau cerdd mewn cartrefi henoed mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Celfyddydol Sir Ddinbych. 

Bydd y diwrnod yn cychwyn ar fore Sul y 12 o Orffennaf gyda gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin. Mae’r gweithdy hwn yn agored i delynorion o bob oedran a gallu cerddorol, a bydd yn diweddu gyda chyngerdd byr anffurfiol am 12. 

Mae Camau Cerdd yn brosiect y mae Canolfan Gerdd William Mathias eisoes yn ei gynnig yng Ngwynedd. Mae arweinydd y prosiect, Marie-Claire Howorth wrth ei bodd o gael cyflwyno’r prosiect yn Ninbych am y tro cyntaf. Dywedodd:

‘Wedi sawl mlynedd o gynnal Camau Cerdd yn llwyddiannus ledled Gwynedd, rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael cyflwyno’r prosiect yn Ninbych. Mae’n brosiect cyffrous a phwysig a chredaf fod ganddo’r potensial i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd, cydsymud, y cof a sgiliau cymdeithasol ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff yn gyffredinol. Mae’r prosiect hefyd yn datblygu dealltwriaeth yr unigolyn o ddiwylliant a hunaniaeth gan fod y dosbarthiadau’n ddwyieithog ac yn annog dysgu caneuon gwerin o oedran ifanc. Bydd plant ifanc a’u teuluoedd yn cael y cyfle i ddarganfod byd cerdd drwy gyfrwng offerynnau cerdd, canu, gemau a mwy’.

Bydd sesiynau yn targedu plant 6-24mis oed, 2&3oed a 4-7oed yn cael eu cynnal yn ystod y prynhawn. Bydd pris arbennig o £2 y plentyn er mwyn dathlu cychwyn y prosiect yn Ninbych.  

Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnig gwersi blasu am ddim gan rai o’r tiwtoriaid profiadol. Bydd gwersi blasu telyn, piano, ffidil, a chanu yn cael eu cynnig ar y diwrnod. Cysylltwch â’r Ganolfan er mwyn trefnu amser eich gwers blasu.

I gloi’r diwrnod bydd cyngerdd Llwyfan Cerdd yn cael ei gynnal gan fyfyrwyr y Ganolfan. Mae cyngherddau Llwyfan Cerdd y Ganolfan yn darparu cyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu eu hyder trwy berfformio mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Nid oes pris mynediad ond croesawir rhoddion ar ddiwedd y cyngerdd.

Cyngherddau dros yr Haf

Cyngherddau dros yr Haf

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Elin Roberts fel rhan o’i gradd cerdd ym Mhrifysgol Bangor. Mae Elin wedi bod yn gweithio gyda ni er mwyn trefnu cyfres o gyngherddau gan gyn-ddisgyblion. Dyma gofnod ganddi yn trafod ei gwaith i’r Ganolfan:

Fel cyn-fyfyriwr o Ganolfan Gerdd William Mathias a myfyriwr MMus ym Mhrifysgol Bangor, rwyf yn ffodus iawn o gael gweithio yma yn y Ganolfan dros yr haf fel rhan o’m lleoliad ATM. Mae’r ATM (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) yn ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr meistr, sydd yn cefnogi eu astudiaethau ac yn galluogi iddynt weithio ar gyfer cwmni lleol.

Un o’r tasgau a roddwyd i mi yw trefnu cyfres o gyngherddau sydd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr. Mae nifer o’r myfyrwyr hyn yn astudio mewn coleg cerdd, neu wedi graddio yn ddiweddar ac ar fin cychwyn ar eu gyrfa broffesiynol, ac yn falch o gael y cyfle i berfformio yn eu ardaloedd lleol. Mae’r Ganolfan hefyd, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at eu gweld yn ol yng Ngogledd Cymru!

Elin Roberts

Dyma fanylion y cyngherddau sydd i ddod:

Meinir Wyn Roberts (soprano) a Steven Evans (piano)

Prynhawn dydd Sadwrn, Gorffennaf 18, 3yh

Neuadd Feed My Lambs, Caernarfon

Gwyn Owen (trwmped) a Steven Evans (piano)

Nos Iau, Awst 13, 7yh

Neuadd Powis, Prifysgol Bangor

Camau Cerdd yn Gŵyl Teulu Ynys Môn

Camau Cerdd yn Gŵyl Teulu Ynys Môn

Ar Ddydd Gwener y 19eg a Dydd Sadwrn yr 20fed o Fehefin aeth Camau Cerdd i ymweld â’r cae Sioe ym Mona ar gyfer Gŵyl Teulu Ynys Môn.

Cafwyd tri sesiwn ar y ddau ddiwrnod ac mi ddoth amrywiaeth o blant i gyfarfod Mr. Cerdd a dysgu am gerddoriaeth.

Ar y Dydd Gwener roedd ysgolion o amgylch Môn yn yr Ŵyl ac roedd y rhai a ddoth i’r sesiynau Camau Cerdd gyda Charlotte a Gethin wedi dysgu am rythmau gwahanol a sut i’w chwarae nhw mewn amser gydag offerynnau taro. Wnaethon nhw hefyd dysgu i ganu sol-ffa gydag ystumiau dwylo.

Ar y Dydd Sadwrn roedd hi’n dro i blant ifanc cael sesiynau Cerdd tro yma gyda’i rhieni a Marie-Claire a Gethin. Wnaethon nhw gyfarfod Mr, Cerdd a chanu caneuon a chwarae offerynnau wrth glywed llyfr ‘Dwndwr yn y Jyngl’ (gan Andreae a Wojtowycz).

Cafwyd pawb amser bendigedig!

Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Congratulations to the following students who receive their tuition at CGWM on their success in the National Urdd Eisteddfod last week :

Llongyfarchiadau gwresog i’r myfyrwyr canlynol sy’n derbyn eu hyfforddiant yn CGWM ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wythnos diwethaf :

Unawd Llinynnol Bl. 7-9 : Gwydion Rhys 3ydd Tiwtor : Nicki Pearce

Unawd Merched Bl. 7-9 : Llio Meirion Rogers 2il Tiwtor : Ann Atkinson

Unawd Piano Bl. 10 ac o dan 19 : Math Roberts 2il  Tiwtor : Iwan Llewelyn-Jones

Unawd Chwythbrennau Bl.10 ac o dan 19 : Megan Hunter 2il  Tiwtor : Rhiannon Mathias

Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25oed : Gwen Elin 3ydd  Tiwtor : Mary Lloyd-Davies

Llongyfarchiadau hefyd i Mabon Llyr sy’n aelod o ddeuawd linynnol CGWM ar ddod yn 3ydd yn yr Unawd Llinynnol Bl.10 ac o dan 19oed.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Gwen Elin ac un o’n cyn-ddisgyblion Meinir Wyn Roberts (sydd bellach yn astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain) yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn yr Hydref – Pob lwc i chi’ch dwy a llongyfarchiadau ar gael eich dewis.

Roeddem yn hynod falch o glywed am lwyddiant Math Roberts yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi. Daeth cyfansoddiad Math ar gyfer y delyn yn 2il yn y gystadleuaeth. 15oed yw Math ar roedd y gystadleuaeth yn agored i rai o dan 25oed. Tipyn o gamp!  Mae Math yn cael gwersi telyn gyda Elinor Bennett yn CGWM ac fe gychwynodd gyfansoddi y gwaith mewn gweithdai oedd yn rhan o Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2014 a drefnwyd gan CGWM.

Llongyfarchiadau hefyd i’r holl fyfyrwyr gafodd lwyddiant mewn cystadlaethau eraill yn cynnwys llefaru, ensembles a chorau yn ystod yr wythnos.  

Strings Solo Year 7-9 : Gwydion Rhys 3rd   Tutor : Nicki Pearce

Girls’ Solo Year 7-9 : Llio Meirion Rogers 2nd   Tutor : Ann Atkinson

Piano Solo Yr. 10 – under 19 : Math Roberts 2nd  Tutor : Iwan Llewelyn-Jones

Woodwind Solo Yr.10 – under 19 : Megan Hunter 2nd  Tutor : Rhiannon Mathias

Song from a Musical for singers aged 19-25 : Gwen Elin 3rd   Tutor : Mary Lloyd-Davies

Congratulations also to Mabon Llyr who is a member of CGWM’s chamber duo for winning 3rd prize in the Strings Solo for Year 10- under 19 years.

We look forward to seeing Gwen Elin and one of our ex-students Meinir Wyn Roberts (now studying at the Royal Academy of Music, London) taking part in the Bryn Terfel Scholarship competition in the Autumn. Good luck to you both and well done for being selected.

We were thrilled to hear about Math Roberts’ success in the Composer’s Medal competition. 15 year old Math’s composition for the harp was awarded second place in the competition which was open to composers under the age of 25 – quite an achievement. Math studies the harp with Elinor Bennett at CGWM and started composing the piece during the composition workshops arranged by CGWM as part of the 2014 Wales International Harp Festival.

Congratulations also to all the students who were successful in other competitions including recitation, ensembles and choirs during the week

Guitars@Galeri Yn Denu Gitarwyr i Gaernarfon

Guitars@Galeri Yn Denu Gitarwyr i Gaernarfon

Mae cyfarwyddwr Gŵyl Gitarau@Galeri, Neil Browning wrth ei fodd gyda llwyddiant digwyddiad i’r gitâr a lwyddodd i ddenu gitarwyr ar draws Cymru i Gaernarfon i ddysgu mwy am y gitâr ac i fynychu cyngerdd gan y gitarwr adnabyddus Gary Ryan.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar y 22-24 Mai 2015, gan gychwyn gyda digwyddiad meic agored lle’r oedd pob aelod o’r cwrs yn cael eu gwahodd i berfformio yn y bar.

Fe barhaodd y penwythnos gyda chyfres o weithgareddau hyfforddiant a gweithdai gyda thiwtoriaid gwadd yn cynnwys Stuart Ryan, Neil Browning, Andy Maceknzie, Colin Tommis, a Dave King. Rydym wedi gwirioni wrth fod yn gallu cynnig amrywiaeth mor eang o arddulliau gitâr yn ystod y digwyddiad.

Uchod y mae llun o weithdy Rhythm Jazz Sipsi Andy Mackenzie lle gyflwynodd y sylfaen i chwarae rhythm ‘la pompe’ a chordiau.

Croesawodd yr Ŵyl hefyd gitarydd enwog Gary Ryan i roi dosbarth meistr ac i berfformio mewn cyngerdd ar nos Sadwrn. Perfformiwyd amrywiaeth o gerddoriaeth gan Gary gan gynnwys cerddoriaeth Pratorius, Dowland a Bach ynghyd â chyfansoddiadau ei hun oedd yn arddangos techneg arloesol ar y gitâr.

Gitarydd clasurol byd-enwog Gary Ryan yn taro cord ar gyfer digwyddiad unigryw yn Galeri

Gitarydd clasurol byd-enwog Gary Ryan yn taro cord ar gyfer digwyddiad unigryw yn Galeri

Gitarau@Galeri – 22-24 Mai 2015

Bydd yr unawdydd gitâr enwog Gary Ryan yn ymuno â thîm o gitarwyr profiadol i hyfforddi a pherfformio yn nigwyddiad Gitarau@Galeri y mis hwn yng Nghaernarfon. Bydd Canolfan Gerdd William Mathias unwaith eto yn cynnal digwyddiad hyfforddi cerddorol yn Galeri, y gofod celfyddydol a pherfformio yng nghalon y dref hanesyddol. 

Mae Gitarau@Galeri yn benwythnos o hyfforddiant, perfformiadau a gweithdai gan dîm o diwtoriaid rhagorol sydd wedi ei hanelu yn benodol at gitarwyr acwstig, trydanol a bas. Bydd dysgwyr o bob oedran a gallu yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai bach mix’n’match gan ddysgu am amrywiaeth o destunau a genres cerddorol. Mae’r elfennau o diwtoriaeth yn addas ar gyfer oedolion a gitarwyr ifanc dros 15 mlwydd oed ac nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr. 

Mae’r ŵyl yn cychwyn gyda digwyddiad meic agored ar nos Wener lle mae pob perfformiwr ac arddull yn cael eu croesawu. 

Bydd gweithgareddau’r dydd Sadwrn yn cychwyn gyda perfformiad byr ac anffurfiol gan bedwar prif diwtor y cwrs, a bydd y diwrnod yn dod i ben gyda phrif gyngerdd yr ŵyl gyda pherfformiad gan Gary Ryan. 

Ynghyd â chyfansoddiadau ei hun, bydd Gary yn chwarae cerddoriaeth gan Praetorius, Dowland, Bach, Dyens, Brouwer, a threfniannau o Gerddoriaeth Werin Geltaidd gan David Russell. Bydd y cyngerdd yn cychwyn gyda pherfformiad byr gan ‘Fragile Egosystem’ Neil Browning yn cynnwys gitâr atsain, wedi ei ddilyn gan doriad byr.

Bydd cyfleoedd ar gyfer sesiynau jamio drwy gydol y penwythnos hefyd!

Mae amser i gymryd rhan yn y digwyddiad yn dal i fod – cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias am y manylion. Cysylltwch â Swyddfa Docynnau Galeri am docynnau ar gyfer y perfformiad gyda’r nos.

Theatr Gybolfa yn Ffilmio ‘Dydd Iau ym Mywyd y Ganolfan’

Theatr Gybolfa yn Ffilmio ‘Dydd Iau ym Mywyd y Ganolfan’

Dydd Iau y 7fed o Fai 2015. Dyma ddyddiad pwysig gyda miloedd o bobl ar hyd y wlad yn taro eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Mae hefyd yn ddiwrnod pwysig i ni fel y Ganolfan gan ein bod wedi trefnu i griw o Theatr Gybolfa i ddod i ffilmio ‘Dydd Iau Cyffredinol ym Mywyd y Ganolfan’.

Mae dyddiau Iau yn un o’r diwrnodau gorau i gael trosolwg o rai o weithgareddau mwyaf amrywiol rydym ni’n ei gynnig yma yn y Ganolfan Gerdd. Yn ychwanegol i fwrlwm y gwersi offerynnol a lleisiol, mae gennym ni sesiynau Camau Cerdd yn cael eu cynnal drwy gydol y bore yng Nghanolfan Noddfa yng Nghaernarfon, Côr Cymysg i Oedolion dan arweiniad Geraint Roberts yn y prynhawn, sesiynau Doniau Cudd, ac yna Côr Siambr y Ganolfan sy’n cael ei arwain gan Jenny Pearson. 

Rydym ni’n edrych ymlaen at gael gweld y fideo y bydd Theatr Gybolfa yn ei greu i ni, a fydd yn adlewyrchu’r amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan y Ganolfan Gerdd mewn un diwrnod. 

Galeriau Galeri: Perfformiad Syfrdanol yn Gŵyl Delynau Cymru 2015

Galeriau Galeri: Perfformiad Syfrdanol yn Gŵyl Delynau Cymru 2015

Bu i un o’r digwyddiadau y cynhaliom ni yn ystod Gŵyl Delynau 2015 groesawu pob aelod o’r cwrs at ei gilydd i berfformio mewn cyngerdd rydym ni’n ei alw yn ‘Galerïau Galeri’. Gosodwyd telynau ar hyd y galerïau ar bob llawr.

Unwaith roedd pob telyn, stand a stôl yn ei le, cyfarwyddwraig yr Ŵyl, Elinor Bennet gafodd y fraint o arwain yr ensemble arbennig hwn, gan glywed perfformiadau arbennig o gerddoriaeth werin, clasurol a chyfoes.

Cafwyd diweddeb addas i’r Ŵyl a hynny drwy gyfrwng cyngerdd gan rhai o’n cyn-fyfyrwyr disglair yn rhannu’r llwyfan ag aelodau o’r cwrs telyn gan blethu cerddoriaeth glasurol â’r gwerin. Fe wnaethom ni fwynhau perfformiadau gan Elinor Bennett, Stephen Rees, Glain Dafydd, Rhian Dyer, Elinor Evans, Elen Hydref, Angharad Wyn Jones, a Patrick Rimes. Rydym ni’n gobeithio fod pawb a fynychwyd y cwrs telyn, y cyngherddau a gweithgareddau eraill yn ystod yr Ŵyl Delynau wedi mwynhau eu hunain cystal ag y gwnaethom ni yn ystod yr ŵyl, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gael croesawu pawb yn ôl ar gyfer yr Ŵyl nesaf.

£6,500 wedi ei godi ar gyfer Apêl Telyn i’r Wladfa

£6,500 wedi ei godi ar gyfer Apêl Telyn i’r Wladfa

Fe hoffwn ni ddiolch i bawb fu’n cyfrannu tuag at apêl Elinor Bennett i godi arian er mwyn anfon telynau i Batagonia fel rhan o ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa yno. 

Mae Elinor Bennett ar hyn o bryd ym Mhatagonia i fynd a un o’r telynau yn bersonol i Ysgol Gerdd yn y wlad. Elinor fu’n gyfrifol am gychwyn yr apêl ac fe gwelodd yr apêl fel modd o hyrwyddo ac annog diwylliant Cymreig yn y Wladfa ym Mhatagonia. 

Bu i dros 80 o unigolion gyfrannu tuag at yr apêl, a hefyd cwmnïau a sefydliadau a fu’n frwdfrydig dros amcanion yr apêl.

Rydym ni yn falch iawn o gael cyhoeddi fod yr apêl wedi llwyddo i gasglu dros £6,500 a fydd yn ddigon i brynu dwy delyn i’w gyrru i Batagonia. Un o Telynau Teifi, cwmni telyn wedi ei leoli yn Llandysul, De Cymru, sydd hefyd wedi cyfrannu dwy delyn ‘Dryw’; a’r delyn arall yn un o wneuthuriad y cwmni Ffrengig enwog Camac. 

Llongyfarchiadau i bawb fu’n ymwneud â’r apêl, rydym ni wedi ei’n synnu drwy garedigrwydd pobl – sy’n dyst fod yr amcan yr apêl i hyrwyddo ac annog diwylliant Cymreig yn amlwg wedi taro tant.