O Dresden i Dregaron

Cyhoeddwyd: 20 Gorffennaf, 2022

Braf gweld y bydd dau o’n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o’r noson arbennig yma….

Pedwar Premier Byd – Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes

Eisteddfod Tregaron 2022

Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George Thomson nifer o ganeuon gwerin o Iwerddon, Cymru a’r Alban at y cerddor o’r Almaen, Ludwig van Beethoven. Anfonodd rai at Franz Joseph Haydn yn ogystal. Roedd Thomson yn gyhoeddwr, yn gerddor ac yn gyfaill i’r bardd Robert Burns. Bu’n gyfrifol
am gyhoeddi’r cynhaeaf, sef cyfrolau o ganeuon gwerin gan y ddau gyfansoddwr, yn fuan yn yr 1800, wedi’u sgorio ar gyfer triawd piano a llais, yn arddull y Cyfnod Clasurol. Y ffaith syfrdanol yw fod Beethoven wedi cyfansoddi 179 o drefniannau o ganeuon gwerin y tair gwlad, mwy yn wir nag unrhyw genre arall o blith ei weithiau.

Penderfynwyd dod â’r rhain i olau dydd ac i glyw cynulleidfa Cymru yn 2020, 250 mlynedd ar ôl geni Beethoven. Ond daeth y covid i ddifetha’r cynlluniau. Roedd y syniad yn parhau i gyniwair yn 2022. Penderfynwyd ehangu’r syniad gan wahodd cyfansoddwyr eraill i gyfrannu at yr arlwy. Llwyfennir “O Dresden i Dregaron”, o’r Almaen i Gymru, gyda phedwar premier byd gan Beethoven, Pwyll ap Sion, Guto Puw a Patrick Rimes. Mae yna berfformiad hefyd o ddau waith gan Haydn ac un gan Sioned Webb, berfformiwyd gyntaf gan Elin Manahan Thomas a Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd ddeng mlynedd yn ôl. Y canwr gwerin Dafydd Idris, Pontypridd, fydd yn perfformio’r caneuon gwerin ar eu ffurf wreiddiol. Gweddill y perfformwyr fydd Robyn Lyn Evans (tenor), Gwenno Morgan (piano), Patrick Rimes (ffidil), Jordan Williams (cello) a Sioned Webb (piano). Y canlyniad yw’r noson yn y Babell Lên nos Lun, Awst 1af am 7.30.

Y cerddor a’r cyflwynydd radio, Sioned Webb yw trefnydd a chynhyrchydd y noson.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau - ac yn anelu i dorri record. Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig. Gwnaed y model enfawr, sy’n...