Amdanom Ni
Bwriad Canolfan Gerdd William Mathias yw darparu hyfforddiant cerddorol a phrofiad perfformio o’r safon uchaf posib ac o statws cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn i’r boblogaeth yng Nghymru gael ymelwa o’r mwynhad a’r cyfranogiad o gerddoriaeth.
Enwir y Ganolfan ar ôl y cyfansoddwr William Mathias (1934-1992) a gafodd yrfa lewyrchus fel cyfansoddwr, arweinydd ac Athro Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Ef hefyd oedd sylfaenydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Tîm Swyddfa CGWM
Meinir Llwyd Roberts


Cyfarwyddwr
Daw Meinir o Waengoleugoed ger Llanelwy. Graddiodd gyda BMus ac MA mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor gan gychwyn gweithio yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn 2001. Telyn yw prif offeryn Meinir a bu’n dysgu mewn ysgolion yng Ngwynedd am rai blynyddoedd tra’n gweithio yn rhan amser yn CGWM. Cafodd ei phenodi i swydd Rheolwr llawn amser CGWM yn 2008 ac yna yn Gyfarwyddwr yn 2011. Mae hi’n parhau i gyfeilio mewn Eisteddfodau a Gwyliau Cenedlaethol.
Gwydion Davies


Gweinyddydd
Cychwynnodd Gwydion weithio i Ganolfan Gerdd William Mathias yn 2014, ac erbyn hyn mae'n gweithio yng nghanolfannau Caernarfon, Dinbych a Rhuthun.
Astudiodd ei radd B.Mus a Meistr mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan gydweithio yn agos â CGWM. Fe ganolbwyntiodd ei draethawd hir ar bwysigrwydd cerddoriaeth yn ystod cyfnod plentyndod, gan ysgrifennu am ei brofiad o'r brosiect 'Camau Cerdd' a gynhelir yng Ngogledd Cymru.
Yn ei amser hamdden mae Gwydion yn mwynhau mynychu cyngherddau, ymweld a'r theatr, ac mae'n mwynhau chwarae'r piano.
Seren Hâf Jones


Cynorthwyydd Gweinyddol
Daw Seren o Goedpoeth, tu allan i Wrecsam. Bydd yn graddio yng Ngorffennaf 2018 gyda gradd BMus mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, cyn dychwelyd i Fangor ym mis Medi i astudio tuag at radd Meistr mewn cerddoriaeth. Cychwynnodd dderbyn gwersi telyn gyda Elinor Bennett yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn 2014, ac mae hi’n mwynhau cerdded, beicio a sgïo ac wrth gwrs digwyddiadau cerddorol.
Lora Morgan


Derbynnydd
Daw Lora o Gaernarfon a chychwynnodd weithio i Ganolfan Gerdd William Mathias yn 2019. Mae hi hefyd yn gweithio fel Artist llawrydd, yn canolbwyntio ar brosiectau cymunedol. Mae Lora yn berchennog ar siop yng nghanol y dref sydd yn gwerthu eu gwaith crefft ag yn cynnal gweithdai celf.
Mared Gwyn-Jones


Rheolwr Prosiect Canfod y Gân
Malan Fôn Jones


Derbynnydd
Dwi’n dod o Gaernarfon a wedi dechrau gweithio ar gyfer Canolfan Gerdd William Mathias ar ddechrau 2020. Rwy’n astudio cerddoriaeth ym mhrifysgol Bangor ac yn edrych ymlaen i barhau i mewn i fy mlwyddyn ola.
Hanes CGWM
Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yng Nghaernarfon ym 1999 gan griw o gerddorion a rhai oedd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, yn dilyn trafodaethau yn dyddio nol i 1995. Mae CGWM yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn elusen gofrestredig ac fe’i rheolir gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr.
Yn y dyddiau cynnar dau brif nod y cwmni oedd :
- Gwella’r mynediad i addysg gerddorol a pherfformiadau.
- Darparu gwaith i gerddorion hunan-gyflogedig gan eu galluogi i fyw a gweithio yn eu cymuned leol.
Tŷ mawr ar Stryd yr Eglwys, Caernarfon oedd cartref cyntaf y Ganolfan. Y prif weithgaredd bryd hynny oedd gwersi un i un gan dim bychan o diwtoriaid ac ambell weithdy a chyngerdd mewn lleoliadau cyfagos.
Dros y blynyddoedd mae gwaith CGWM wedi tyfu a datblygu yn sylweddol. Erbyn hyn mae tîm o 44 tiwtor yn cynnig hyfforddiant unigol ac mewn grŵp i dros 400 o bobl (o 6mis i 80+oed) yn wythnosol.
Cerrig Milltir
2003: Sefydlu Doniau Cudd
Daeth yn amlwg i CGWM a’r tiwtor Arfon Wyn, sydd a phrofiad helaeth o weithio mewn ysgolion arbennig, bod diffyg darpariaeth gerddorol yng Ngogledd Cymru ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu. Sefydlwyd Doniau Cudd yn 2003 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.
Ers ei sefydlu mae Doniau Cudd wedi datblygu i fod yn rhan bwysig iawn o fywydau nifer o oedolion yr ardal ac yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n ymwneud â’r cynllun.
Yn 2013 derbyniodd y cynllun Wobr Gofal Cymru Ymddiriedolaeth Bryn Terfel am hybu’r Celfyddydau ym maes Gofal Cymdeithasol mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
2005: Ad-leoli i Galeri Caernarfon
Yn 2005 symudodd CGWM i’w chartref presennol gan ddod yn brif denant Canolfan Mentrau Creadigol Galeri Caernarfon . Roedd CGWM yn rhan o’r broses gynllunio ac or herwydd ceir ystafelloedd dysgu o’r safon uchaf sydd wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion CGWM. Yn sgil y cynnydd yn nifer yr ystafelloedd dysgu a’r cyfle i logi stiwdios a Theatr bwrpasol, llwyddodd CGWM i ehangu ei gweithgaerddau yn sylweddol. Mae ad-leoli yn Galeri hefyd wedi codi proffil CGWM gan arwain at gynnydd yn y galw am hyfforddiant.
2006: Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru I
Cynhaliwyd yr Ŵyl Delynau Ryngwladol gyntaf yn 2006 o dan gyfarwyddwyd y delynores fyd-enwog Elinor Bennett. Roedd yr Ŵyl yn gyfuniad o gystadlaethau, cyngherddau gan artistiaid rhyngwladol, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl gyntaf penderfynwyd y dylid cynnal gŵyl debyg bob pedair mlynedd. Bu gwyliau 2010, 2014 a 2018 yn llwyddiant aruthrol gan ddenu telynorion o dros 30 o wledydd a chodi proffil rhyngwladol CGWM.
2007: Sefydlu Camau Cerdd
Gweithiodd CGWM mewn partneriaeth gyda’r cerddor Marie-Claire Howorth i ddatblygu rhaglen ‘Camau Cerdd’. Sefydlwyd y cynllun yn 2007 gyda’r nod o gyfuno byd cerddoriaeth gyda chyfnodau naturiol datblygiad plant cyn oed ysgol.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun craidd mae Marie-Claire wedi datblygu Camau Cerdd i gynnwys plant y Cyfnod Sylfaen (4-7oed).
Mae CGWM yn credu’n gryf y dylai cerddoriaeth fod yn rhan o fywyd plentyn o’r cychwyn cyntaf. Gall hyfforddiant cerddorol cynnar gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad cyffredinol a chymdeithasol plentyn.
2011: Dod yn Gleient Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae cael ei derbyn fel un o gleientiaid refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru wedi galluogi CGWM i ehangu ei darpariaeth yn sylweddol gan gyflogi rhagor o staff i ymateb i’r galw cynyddol am ei gwasanaethau.
2012: Agor Cangen o CGWM yn Ninbych
Ym Medi 2012, sefydlodd CGWM gangen yn Ninbych. Ar hyn o bryd cynigir hyfforddiant un i unwaith yr wythnos yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ac mae nifer o brosiectau eraill CGWM wedi eu datblygu yn yr ardal yn cynnwys Doniau Cudd a gwersi theori cerddoriaeth. Ers mis Medi 2017 cynhelir gwersi un noson yr wythnos yn Rhuthun yn ogystal.
Gwerthoedd
Mae CGWM yn ymdrechu i wneud addysg gerddorol yn agored i bawb gan gynnig cefnogaeth, ysbrydoliaeth ac annogaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau cerddorol.
Cynigir cyfleoedd ychwanegol megis dosbarthiadau meistr a gweithdai gan gerddorion o fri rhyngwladol, dosbarthiadau theori cerddoriaeth, corau ac ensemblau siambr, cyfleoedd perfformio a Gwyliau Cerdd arbenigol, i ehangu profiadau y myfyrwyr.
Rhagoriaeth
gan anelu at broffesiynoldeb ac ansawdd uchel ym mhob agwedd.
Mynediad i Addysg Gerddorol
Credwn y dylai pawb sy’n dymuno cymryd rhan mewn cerddoriaeth gael y cyfle i wneud hynny.
Cynhwysedd a Budd Cyhoeddus
Ymdrechwn i gynnwys y gymuned gyfan yn ein gwaith be bynnag fo’u hoedran, cefndir neu allu.
Ysbrydoliaeth ac Anogaeth
Rydym yn ymdrechu i ysbrydoli ein myfyrwyr gan eu hannog i ddatblygu eu talentau cerddorol i’r eithaf.
Arloesedd
CGWM yw’r unig sefydliad o’i fath ym Mhrydain.
Darpariaeth Ddwyieithog
Mae CGWM yn gweithredu yn y Gymraeg a’r Saesneg.