by Gwydion Davies | 2 Gorffennaf, 2015 | Uncategorized @cy
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Elin Roberts fel
rhan o’i gradd cerdd ym Mhrifysgol Bangor. Mae Elin wedi bod yn gweithio gyda
ni er mwyn trefnu cyfres o gyngherddau gan gyn-ddisgyblion. Dyma gofnod ganddi
yn trafod ei gwaith i’r Ganolfan:
Fel cyn-fyfyriwr o Ganolfan Gerdd William Mathias a myfyriwr
MMus ym Mhrifysgol Bangor, rwyf yn ffodus iawn o gael gweithio yma yn y
Ganolfan dros yr haf fel rhan o’m lleoliad ATM. Mae’r ATM (Cronfa Gymdeithasol
Ewrop) yn ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr meistr, sydd yn cefnogi eu
astudiaethau ac yn galluogi iddynt weithio ar gyfer cwmni lleol.
Un o’r tasgau a roddwyd i mi yw trefnu cyfres o gyngherddau
sydd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr. Mae nifer o’r myfyrwyr hyn yn astudio mewn coleg
cerdd, neu wedi graddio yn ddiweddar ac ar fin cychwyn ar eu gyrfa
broffesiynol, ac yn falch o gael y cyfle i berfformio yn eu ardaloedd lleol.
Mae’r Ganolfan hefyd, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at eu gweld yn ol yng
Ngogledd Cymru!
Elin Roberts
Dyma fanylion y cyngherddau sydd i ddod:
Meinir Wyn Roberts (soprano) a Steven Evans (piano)
Prynhawn dydd Sadwrn, Gorffennaf 18, 3yh
Neuadd Feed My Lambs, Caernarfon
Gwyn Owen (trwmped) a Steven Evans (piano)
Nos Iau, Awst 13, 7yh
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
by Gwydion Davies | 30 Mehefin, 2015 | Uncategorized @cy
Ar Ddydd Gwener y 19eg a Dydd Sadwrn yr 20fed o
Fehefin aeth Camau Cerdd i ymweld â’r cae Sioe ym Mona ar gyfer Gŵyl Teulu
Ynys Môn.
Cafwyd tri sesiwn ar y ddau ddiwrnod ac mi ddoth amrywiaeth o
blant i gyfarfod Mr. Cerdd a dysgu am gerddoriaeth.
Ar y Dydd Gwener roedd ysgolion o amgylch Môn yn yr Ŵyl ac
roedd y rhai a ddoth i’r sesiynau Camau Cerdd gyda Charlotte a Gethin wedi
dysgu am rythmau gwahanol a sut i’w chwarae nhw mewn amser gydag offerynnau taro.
Wnaethon nhw hefyd dysgu i ganu sol-ffa gydag ystumiau dwylo.
Ar y Dydd Sadwrn roedd hi’n dro i blant ifanc cael sesiynau
Cerdd tro yma gyda’i rhieni a Marie-Claire a Gethin. Wnaethon nhw gyfarfod Mr,
Cerdd a chanu caneuon a chwarae offerynnau wrth glywed llyfr ‘Dwndwr yn y
Jyngl’ (gan Andreae a Wojtowycz).
Cafwyd pawb amser bendigedig!
by Gwydion Davies | 3 Mehefin, 2015 | Uncategorized @cy
Congratulations to the following students who receive their tuition at CGWM on their success in the National Urdd Eisteddfod last week :
Llongyfarchiadau gwresog i’r myfyrwyr canlynol sy’n derbyn eu
hyfforddiant yn CGWM ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
wythnos diwethaf :
Unawd Llinynnol Bl. 7-9 : Gwydion Rhys 3ydd Tiwtor : Nicki
Pearce
Unawd Merched Bl. 7-9 : Llio Meirion Rogers 2il Tiwtor : Ann
Atkinson
Unawd Piano Bl. 10 ac o dan 19 : Math Roberts 2il Tiwtor
: Iwan Llewelyn-Jones
Unawd Chwythbrennau Bl.10 ac o dan 19 : Megan Hunter 2il
Tiwtor : Rhiannon Mathias
Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25oed : Gwen Elin 3ydd
Tiwtor : Mary Lloyd-Davies
Llongyfarchiadau hefyd i Mabon Llyr sy’n aelod o ddeuawd
linynnol CGWM ar ddod yn 3ydd yn yr Unawd Llinynnol Bl.10 ac o dan 19oed.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Gwen Elin ac un
o’n cyn-ddisgyblion Meinir Wyn Roberts (sydd bellach yn astudio yn yr Academi
Gerdd Frenhinol, Llundain) yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn yr Hydref
– Pob lwc i chi’ch dwy a llongyfarchiadau ar gael eich dewis.
Roeddem yn hynod falch o glywed am lwyddiant Math Roberts yng
nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi. Daeth cyfansoddiad Math ar gyfer y delyn yn
2il yn y gystadleuaeth. 15oed yw Math ar roedd y gystadleuaeth yn agored i rai
o dan 25oed. Tipyn o gamp! Mae Math yn cael gwersi telyn gyda Elinor
Bennett yn CGWM ac fe gychwynodd gyfansoddi y gwaith mewn gweithdai oedd yn
rhan o Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2014 a drefnwyd gan CGWM.
Llongyfarchiadau hefyd i’r holl fyfyrwyr gafodd lwyddiant mewn
cystadlaethau eraill yn cynnwys llefaru, ensembles a chorau yn ystod yr
wythnos.
Strings Solo Year 7-9 : Gwydion Rhys 3rd
Tutor : Nicki Pearce
Girls’ Solo Year 7-9 : Llio Meirion Rogers 2nd
Tutor : Ann Atkinson
Piano Solo Yr. 10 – under 19 : Math Roberts 2nd
Tutor : Iwan Llewelyn-Jones
Woodwind Solo Yr.10 – under 19 : Megan Hunter 2nd
Tutor : Rhiannon Mathias
Song from a Musical for singers aged 19-25 : Gwen Elin 3rd
Tutor : Mary Lloyd-Davies
Congratulations also to Mabon Llyr who is a member of CGWM’s chamber
duo for winning 3rd prize in the Strings Solo for Year 10- under 19
years.
We look forward to seeing Gwen Elin and one of our ex-students
Meinir Wyn Roberts (now studying at the Royal Academy of Music, London) taking
part in the Bryn Terfel Scholarship competition in the Autumn. Good luck to you
both and well done for being selected.
We were thrilled to hear about Math Roberts’ success in the
Composer’s Medal competition. 15 year old Math’s composition for the harp was
awarded second place in the competition which was open to composers under the
age of 25 – quite an achievement. Math studies the harp with Elinor Bennett at
CGWM and started composing the piece during the composition workshops arranged
by CGWM as part of the 2014 Wales International Harp Festival.
Congratulations also to all the students who were successful
in other competitions including recitation, ensembles and choirs during the
week
by Gwydion Davies | 3 Mehefin, 2015 | Uncategorized @cy
Mae cyfarwyddwr Gŵyl Gitarau@Galeri, Neil Browning wrth ei
fodd gyda llwyddiant digwyddiad i’r gitâr a lwyddodd i ddenu gitarwyr ar draws
Cymru i Gaernarfon i ddysgu mwy am y gitâr ac i fynychu cyngerdd gan y
gitarwr adnabyddus Gary Ryan.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y 22-24 Mai 2015, gan gychwyn gyda
digwyddiad meic agored lle’r oedd pob aelod o’r cwrs yn cael eu gwahodd i
berfformio yn y bar.
Fe barhaodd y penwythnos gyda chyfres o weithgareddau
hyfforddiant a gweithdai gyda thiwtoriaid gwadd yn cynnwys Stuart Ryan, Neil
Browning, Andy Maceknzie, Colin Tommis, a Dave King. Rydym wedi gwirioni wrth
fod yn gallu cynnig amrywiaeth mor eang o arddulliau gitâr yn ystod y
digwyddiad.
Uchod y mae llun o weithdy Rhythm Jazz Sipsi Andy Mackenzie
lle gyflwynodd y sylfaen i chwarae rhythm ‘la pompe’ a chordiau.
Croesawodd yr Ŵyl hefyd gitarydd enwog Gary Ryan i roi
dosbarth meistr ac i berfformio mewn cyngerdd ar nos Sadwrn. Perfformiwyd
amrywiaeth o gerddoriaeth gan Gary gan gynnwys cerddoriaeth Pratorius, Dowland
a Bach ynghyd â chyfansoddiadau ei hun oedd yn arddangos techneg arloesol ar y
gitâr.
by Gwydion Davies | 12 Mai, 2015 | Uncategorized @cy
Gitarau@Galeri – 22-24 Mai 2015
Bydd yr unawdydd gitâr enwog Gary Ryan yn ymuno â thîm o
gitarwyr profiadol i hyfforddi a pherfformio yn nigwyddiad Gitarau@Galeri y mis
hwn yng Nghaernarfon. Bydd Canolfan Gerdd William Mathias unwaith eto yn cynnal
digwyddiad hyfforddi cerddorol yn Galeri, y gofod celfyddydol a pherfformio yng
nghalon y dref hanesyddol.
Mae Gitarau@Galeri yn benwythnos o hyfforddiant, perfformiadau
a gweithdai gan dîm o diwtoriaid rhagorol sydd wedi ei hanelu yn benodol at
gitarwyr acwstig, trydanol a bas. Bydd dysgwyr o bob oedran a gallu yn cymryd
rhan mewn cyfres o weithdai bach mix’n’match gan ddysgu am amrywiaeth o
destunau a genres cerddorol. Mae’r elfennau o diwtoriaeth yn addas ar gyfer
oedolion a gitarwyr ifanc dros 15 mlwydd oed ac nid yw’n addas ar gyfer
dechreuwyr.
Mae’r ŵyl yn cychwyn gyda digwyddiad meic agored ar nos Wener
lle mae pob perfformiwr ac arddull yn cael eu croesawu.
Bydd gweithgareddau’r dydd Sadwrn yn cychwyn gyda perfformiad
byr ac anffurfiol gan bedwar prif diwtor y cwrs, a bydd y diwrnod yn dod i ben
gyda phrif gyngerdd yr ŵyl gyda pherfformiad gan Gary Ryan.
Ynghyd â chyfansoddiadau ei hun, bydd Gary yn chwarae
cerddoriaeth gan Praetorius, Dowland, Bach, Dyens, Brouwer, a threfniannau o
Gerddoriaeth Werin Geltaidd gan David Russell. Bydd y cyngerdd yn cychwyn gyda
pherfformiad byr gan ‘Fragile Egosystem’ Neil Browning yn cynnwys gitâr atsain,
wedi ei ddilyn gan doriad byr.
Bydd cyfleoedd ar gyfer sesiynau jamio drwy gydol y penwythnos
hefyd!
Mae amser i gymryd rhan yn y digwyddiad yn dal i fod –
cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias am y manylion. Cysylltwch â
Swyddfa Docynnau Galeri am docynnau ar gyfer y perfformiad gyda’r nos.
by Gwydion Davies | 10 Mai, 2015 | Uncategorized @cy
Dydd Iau y 7fed o Fai 2015. Dyma ddyddiad pwysig gyda miloedd
o bobl ar hyd y wlad yn taro eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Mae hefyd
yn ddiwrnod pwysig i ni fel y Ganolfan gan ein bod wedi trefnu i griw o Theatr
Gybolfa i ddod i ffilmio ‘Dydd Iau Cyffredinol ym Mywyd y Ganolfan’.
Mae dyddiau Iau yn un o’r diwrnodau gorau i gael trosolwg o
rai o weithgareddau mwyaf amrywiol rydym ni’n ei gynnig yma yn y Ganolfan
Gerdd. Yn ychwanegol i fwrlwm y gwersi offerynnol a lleisiol, mae gennym ni
sesiynau Camau Cerdd yn cael eu cynnal drwy gydol y bore yng Nghanolfan Noddfa
yng Nghaernarfon, Côr Cymysg i Oedolion dan arweiniad Geraint Roberts yn y
prynhawn, sesiynau Doniau Cudd, ac yna Côr Siambr y Ganolfan sy’n cael ei
arwain gan Jenny Pearson.
Rydym ni’n edrych ymlaen at gael gweld y fideo y bydd Theatr
Gybolfa yn ei greu i ni, a fydd yn adlewyrchu’r amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n
cael eu cynnal gan y Ganolfan Gerdd mewn un diwrnod.
by Gwydion Davies | 6 Mai, 2015 | Uncategorized @cy
Bu i un o’r digwyddiadau y cynhaliom ni yn ystod Gŵyl Delynau
2015 groesawu pob aelod o’r cwrs at ei gilydd i berfformio mewn cyngerdd rydym
ni’n ei alw yn ‘Galerïau Galeri’. Gosodwyd telynau ar hyd y galerïau ar bob
llawr.
Unwaith roedd pob telyn, stand a stôl yn ei le, cyfarwyddwraig
yr Ŵyl, Elinor Bennet gafodd y fraint o arwain yr ensemble arbennig hwn, gan
glywed perfformiadau arbennig o gerddoriaeth werin, clasurol a chyfoes.
Cafwyd diweddeb addas i’r Ŵyl a hynny drwy gyfrwng cyngerdd
gan rhai o’n cyn-fyfyrwyr disglair yn rhannu’r llwyfan ag aelodau o’r cwrs
telyn gan blethu cerddoriaeth glasurol â’r gwerin. Fe wnaethom ni fwynhau
perfformiadau gan Elinor Bennett, Stephen Rees, Glain Dafydd, Rhian Dyer,
Elinor Evans, Elen Hydref, Angharad Wyn Jones, a Patrick Rimes.
Rydym ni’n gobeithio fod pawb a fynychwyd y cwrs telyn, y cyngherddau a
gweithgareddau eraill yn ystod yr Ŵyl
Delynau wedi mwynhau eu hunain cystal ag y gwnaethom ni yn ystod yr ŵyl, ac rydym ni’n edrych
ymlaen at gael croesawu pawb yn ôl ar
gyfer yr Ŵyl nesaf.
by Gwydion Davies | 13 Mawrth, 2015 | Uncategorized @cy
Fe hoffwn ni ddiolch i bawb fu’n cyfrannu tuag at apêl Elinor
Bennett i godi arian er mwyn anfon telynau i Batagonia fel rhan o ddathlu 150
mlynedd ers sefydlu’r Wladfa yno.
Mae Elinor Bennett ar hyn o bryd ym Mhatagonia i fynd a un o’r
telynau yn bersonol i Ysgol Gerdd yn y wlad. Elinor fu’n gyfrifol am gychwyn yr
apêl ac fe gwelodd yr apêl fel modd o hyrwyddo ac annog diwylliant Cymreig
yn y Wladfa ym Mhatagonia.
Bu i dros 80 o unigolion gyfrannu tuag at yr apêl, a hefyd
cwmnïau a sefydliadau a fu’n frwdfrydig dros amcanion yr apêl.
Rydym ni yn falch iawn o gael cyhoeddi fod yr apêl wedi
llwyddo i gasglu dros £6,500 a fydd yn ddigon i brynu dwy delyn i’w gyrru i
Batagonia. Un o Telynau Teifi, cwmni telyn wedi ei leoli yn Llandysul, De
Cymru, sydd hefyd wedi cyfrannu dwy delyn ‘Dryw’; a’r delyn arall yn un o
wneuthuriad y cwmni Ffrengig enwog Camac.
Llongyfarchiadau i bawb fu’n ymwneud â’r apêl, rydym ni wedi
ei’n synnu drwy garedigrwydd pobl – sy’n dyst fod yr amcan yr apêl i hyrwyddo
ac annog diwylliant Cymreig yn amlwg wedi taro tant.
by Gwydion Davies | 7 Mawrth, 2015 | Uncategorized @cy
Rhaid bod disgyblion ein Canolfan yn Nghaernarfon a Dinbych yn
falch o gael ymlacio wedi diwrnod prysur yn perfformio ym Mae Colwyn bore ma.
Wedi bore yn llawn perfformiadau noddedig, a ymweld â’r stondinau dod a
gwerthu, rydym ni’n falch o gyhoeddi fod y diwrnod wedi bod yn lwyddiant, gan
lwyddo i godi dros £300 i Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias.
Rydym ni’n ddiolchgar i Cyfeillion Canolfan Gerdd William
Mathias am drefnu’r digwyddiad fel rhan o’i apêl i godi arian. Fe gynhaliwyd y
digwyddiad yn adeilad Cais ar Station Road, Bae Colwyn.
Pob blwyddyn mae’r Cyfeillion yn gosod targed uchelgeisiol o
godi £9,000 ac mae’r arian yma yn cael ei ddefnyddio er budd y Ganolfan gan
gynnwys ariannu Cronfa Fwrsari y Ganolfan – gan sicrhau fod pawb yn cael
mynediad at wersi cerdd.
Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’n holl fyfyrwyr ni
berfformio, ac roedd Bae Colwyn fel man cyfarfod yn berffaith i’n myfyrwyr o
Gaernarfon a Dinbych i gyfarfod – bron hanner ffordd rhwng y ddau Ganolfan.
Braf oedd y cyfle hefyd i glywed Triawd Clarinét Conwy – gyda Clive Wolfendale,
aelod o bwyllgor y Cyfeillion yn rhan o’r ensemble.
Rhaid i ni ddiolch yn arbennig i’n holl myfyrwyr a
berfformiodd ag a gododd arian i’r Cyfeillion drwy eu perfformiadau noddedig,
nid yn lleiaf i un o’n disgyblion a ddaeth i’r digwyddiad ar faglau wedi iddi
anafu ei hun y diwrnod flaenorol! Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’n holl
disgyblion a’r rhieni am eu cefnogaeth.
by Gwydion Davies | 4 Mawrth, 2015 | Uncategorized @cy
Mae un o brif arweinyddion a beirniaid canu Barbershop o’r
Unol Daleithiau ar ei ffordd i Gymru i gynnig dau weithdy cyffrous yn y
dull unigryw a phoblogaidd yma o ganu. Mae Paul Wigley sy’n
dod o Minnesota, wedi cael profiad helaeth o arwain corau, cynnal
gweithdai a darlithoedd ac wedi ennill parch mawr iddo’i hun
yn rhyngwladol.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn
falch iawn o gynnig cyfle i gantorion sydd yn ymddiddori yn y dull
hyfryd hwn o ganu i ddysgu oddi wrth Paul Wigley trwy gymeryd rhan
mewn dau weithdy. Bydd y cyntaf yn Galeri Caernarfon ar Chwefror
12fed, o 7 tan 9 pm, a’r ail ym Mhentyrch, Caerdydd ar
Chwefror 18ed. O 7.30 tan 9.30pm. Bydd Paul yn arddangos ei arddull a’i
sgiliau cyfarwyddo i ddechreuwyr yn ogystal â chantorion sydd wedi arfer canu
yn y dull Barbershop gan dynnu ar ei brofiad helaeth yn y maes.
Ef oedd cadeirydd y panel beirniaid yng Nghystadleuaeth
Cymdeithas International Barbershop Harmony yn 1991,
1994, 1997, 1999, 2002, 2008, 2011 and 2014 a bu’n dysgu athrawon ac
arweinyddion corau Barbershop yn Efrog Newydd,
Maryland, Kentucky, Wisconsin, Missouri, Washington and California, ac ar
bwyllgor National Youth Outreach yn America.
Ymddeolodd yn ddiweddar fel athro Cerdd wedi llawer iawn o lwyddiant gyda’i gôr
yn Ysgol Lakeville, Minnesota.
Paul yw Cyfarwyddwr côr Minneapolis Commodores ac,
ar hyn o bryd, ef sy’n dal y swydd o Arbenigwr Categori cerdd Cymdeithas
y Barbershop Harmony yn rhyngwladol. Yn ystod ei
ymweliad â Phrydain, bydd yn ddarlithio yn y Gynhadledd Brydeinig i
arweinyddion Barbershop a gynhelir ddiwedd misf Chwefror yng
Nghanolbarth Lloegr.
Os yw ei enw yn canu cloch, mae Paul Wigley yn gefnder
pell i Dafydd Wigley, Ymfudodd ei hen, hen daid o Lanbrynmair, Sir
Drefaldwyn yn 1857 i fyw ym Minnesota a daeth yn Senator yn y dalaith honno. Yn
y 1970’au, roedd tad Paul, y diweddar Richard Wigley, hefyd yn
Senator yn Nhalaith Minnesota.
Am dros 100 mlynedd, ni fu unrhyw gysylltiad gydag ochr
Dafydd o’r teulu a’r criw ym Minnesota, ac mae’n hyfryd fod Canolfan
Gerdd William Mathias yn helpu i adfer y cysylltiad teuluol! Bydd y
Gweithdy yn Ne Cymru yn Acapela, Pentyrch. Mab Dafydd Wigley, Hywel yw
perchennog y Ganolfan gelfyddydol lle cynhelir yr ail weithdy ar Chwefror
18fed. Yn 2004, bu Paul ar daith gyda’i gôr o Lakeville, Minnesota,
yng Nghymru gan roi cyngerdd yn Theatr Seilo Caernarfon gyda Chôr Glanaethwy.