Panel Ieuenctid

Wyt ti rhwng 16 a 25?
Diddordeb mewn cerddoriaeth?
Eisiau cyfrannu at siapio dyfodol cwmni celfyddydol?

Beth am ymuno gyda Phanel Ieuenctid Canolfan Gerdd William Mathias.

 Mae CGWM yn awyddus i sicrhau bod gan bobl ifanc lais yn siapio dyfodol y Ganolfan.

Rydym yn awyddus i recriwtio rhagor o aelodau i ymuno efo’r panel yn 2024.

Rydym yn annog pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd â diddordeb mewn helpu i wireddu nod CGWM o ddarparu rhaglen uchelgeisiol a chynhwysol o weithgareddau cerddorol, i gysylltu efo ni.

Mae’r panel yn cyfarfod oddeutu 4 gwaith y flwyddyn ar zoom gyda’r cadeirydd yn adrodd i fwrdd Cyfarwyddwyr-Ymddiriedolwyr CGWM yn rheolaidd. Mae cyfle hefyd i gyfarfod wyneb yn wyneb yn rhai o ddigwyddiadau CGWM. Ein gobaith yn y  dyfodol yw y bydd rhai o aelodau Panel yr Ifanc yn ystyried ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr-Ymddiriedolwyr CGWM.

Yn ogystal â chyfrannu syniadau, bydd cyfle i’r aelodau gymryd cyfrifoldeb dros drefnu rhai gweithgareddau fel rhan o raglen CGWM.

Dyma gyfle gwych i bobl ifanc ddatblygu sgiliau trefnu, marchnata a rheoli cyllideb.

‘Rydym yn hyderus bod  y Panel Ieuenctid yn gallu cyfrannu syniadau creadigol, ffresh i’n cynorthwyo i gyflawni rhai o brif nodau CGWM i’r dyfodol sy’n cynnwys :

  • Ymgysylltu gyda grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn y Celfyddydau ar hyn o bryd
  • Meithrin a datblygu talentau cerddorol plant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cefnogi bobl ifanc sy’n dymuno mynd ymlaen i ddatblygu gyrfa ym maes cerddoriaeth.
  • Ehangu rhaglen waith CGWM yn maes Iechyd a Lles.
  • Ehangu ein darpariaeth i gynnwys bob arddull gerddorol o’r clasurol i electronig, cerddoriaeth byd i gerddoriaeth roc.

Trefnwn wasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd fel bod modd i’r aelodau gyfrannu yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae CGWM yn awyddus i ddathlu amrywiaeth bobl ifanc Cymru ac yn croesawu ac annog ceisiadau gan bobl ifanc o bob  hunaniaeth rhyw,  hil, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a phobl ifanc anabl.

Mae croeso mawr i fyfyrwyr presennol CGWM, cyn fyfyrwyr CGWM a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a heb gymryd rhan yng nghweithgareddau CGWM o’r blaen wneud cais.

I ymgeisio anfonwch (dros ebost i meinir@cgwm.org.uk):

  • Ebost byr yn cyflwyno eich hun ac yn egluro pam yr hoffech fod yn aelod o’r panel a’r hyn yr ydych yn teimlo y gallech ei gynnig i’r panel.

NEU

  • Fideo (hyd at 2 funud) ohonoch yn cyflwyno eich hun ac yn egluro pam yr hoffech fod yn aelod o’r panel a’r hyn y gallech ei gynnig i’r panel.

Diogelu

Mae diogelu plant a phobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed yn holl bwysig i CGWM. Mae copi o’n polisi Diogelu a nifer o bolisiau eraill ar gael ar ein gwefan : www.cgwm.org.uk/polisiau

Os ydych o dan 18oed pan yn ymgeisio gofynnir i riant / gwarchodwr gadarnhau eu bod yn rhoi caniatad i chi ymgeisio a bydd angen i chi eu copio mewn i’r ebost ymgeisio. Os yn llwyddiannus byddwn angen i riant/ gwarchodwr lenwi ffurflen ganiatad.

Mae’n bosibl y bydd rhai elfennau o waith y panel ieuenctid yn golygu bod angen i aelodau’r panel gael gwiriad DBS.

Dyddiad cau i ymgeisio: 31 Mawrth 2024