Steven Evans
Tim Ward
Mae Tim yn addysgwr, canwr a phianydd gyda phrofiad helaeth. Mae ei ddiddordeb mewn addysgeg ynghyd ag agwedd sensitif at ddysgu strwythuredig wedi galluogi cenhedlaeth o gerddorion ifanc i gyflawni eu potensial.
Derbyniodd Tim ei hyfforddiant yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac ar ôl graddio, aeth ymlaen i gwblhau Cwrs Opera. Ymhlith ei athrawon mae David Pollard a’r soprano o fri rhyngwladol Nelly Miricioiu. Tra’n fyfyriwr, derbyniodd Tim wobrau hael gan S4C ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ac enillodd Ysgoloriaeth David Lloyd hefyd.
Yn ei yrfa gynnar, perfformiodd Tim fel unawdydd mewn lleoliadau uchel eu parch yn Llundain, gan gynnwys St John’s Smith Square a The Barbican, gan weithio ochr yn ochr â cherddorion blaenllaw. Mae hefyd wedi rhoi cyngherddau yn yr Eidal, yr Almaen a Gwlad Groeg.
Yn 2003, cafodd Tim y cyfle i ddysgu, yn gyntaf mewn ysgol heriol yng nghanol dinas Llundain lle cyflwynodd nifer o blant i lawenydd a phosibiliadau creu cerddoriaeth. Enillodd enw da am sylwi ar dalent posibl ac enillodd rhai o’i ddisgyblion ysgoloriaethau cerdd a llefydd mewn conservatoires blaenllaw. Yn dilyn y profiad hwn, daeth Tim yn frwd dros roi cyfle i gerddorion ifanc o gefndiroedd llai breintiedig astudio cerddoriaeth. Ef oedd sylfaenydd SCALE Vocal Trust, elusen sy’n cynnig cymorth ariannol i gantorion ifanc sy’n paratoi ar gyfer astudiaeth conservatoire.
Yn 2007, ymunodd â staff addysgu University College School, un o ysgolion annibynnol mwyaf blaenllaw Llundain. Bu ei ymrwymiad i ddatblygu cerddoriaeth leisiol yn yr ysgol yn ddiflino ac enillodd iddo enw fel athro ysbrydoledig a helpodd nifer o disgyblion i gyflawni llwyddiant mawr. Daeth yn Bennaeth Canu ac aeth llawer o’i fyfyrwyr ymlaen i sicrhau llefydd mewn prifysgolion ac conservatoires blaenllaw. Ymhlith llwyddiannau nodedig eraill disgyblion mae rolau plant yn y Tŷ Opera Brenhinol a’r Barbican ynghyd â darllediadau Radio 3 ac ymddangosiadau teledu.
Yn 2021 symudodd Tim i’w ardal enedigol yn Eryri lle mae’n gobeithio rhannu ei sgiliau a’i brofiad gyda’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.
Teleri-Siân
Cafodd Teleri-Siân ei gwersi piano cyntaf gan ei thad yn dair oed, ac roedd wedi dechrau perfformio yn gyhoeddus ymhen blwyddyn.
Tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd ymunodd âg adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion, lle parhaodd i astudio llawn amser, yn graddio yn 2000, wedi derbyn Gwobr Goffa Marjorie Clementi. Mae wedi teithio i sawl gwlad Ewropeaidd, Hong Kong ac America fel unawdydd, yn ogystal â lleoliadau ledled Prydain. Mae hi yn mwynhau perfformio yn gyson fel datgeiniad ac unawdydd consierto ac yn diwtor piano ym Mhrifysgol Bangor, adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd a Chanolfan Gerdd William Mathias.
Mae gan Teleri-Siân hefyd radd Meistr mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Manceinion.
Marie-Claire Howorth
Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol sy’n ymdrechu i ysbrydoli. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion a chydweithio ag amryw o bartneriaid ar brosiectau.
Marie-Claire sy’n sgwennu cynlluniau’r gwersi a’r caneuon ar gyfer Camau Cerdd. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol a defnydd o’r adnoddau gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi hi gan sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfleoedd i dderbyn y profiadau cyfoethog o ddysgu a ddarperir gan Camau Cerdd.
Mared Emlyn
Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bu’n astudio cyfansoddi gyda Dr Pwyll ap Siôn a’r delyn gydag Elinor Bennett, yn ogystal â chael gwersi dramor yn Swistir a Chanada
Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau a gŵyliau telyn. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan y Gerddorfa Siambr Gymreig a Mared ei hun fel yr unawdydd. Yn 2018, cydweithiodd â’r cerddor Gwenan Gibbard a’r bardd Mererid Hopwood ar gomisiwn gan Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru fel rhan o ddathliadau penblwydd y telynor adnabyddus Osian Ellis yn 90 oed.
Mae Mared yn perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd, mewn ensemblau ac fel aelod o gerddorfeydd.
Lisa Harrison
Dechreuodd Lisa ganu’r piano yn bump oed a chafodd lawer o lwyddiannau cynnar yn Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl Gerdd Caer. Ennillodd Lisa ysgoloriaeth i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 1999. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2002 ar ôl perfformio Consierto Piano K453 gan Mozart gyda Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol a datganiad unawdol.
Ers graddio, mae Lisa wedi mwynhau gyrfa ym myd dysgu, gan weithio fel Arweinydd Cyswllt ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol mewn ysgol uwchradd yn Sir y Fflint ers 2010. Mae Lisa hefyd yn cyfeilio i Gantorion Sirenian, Wrecsam, o dan arweinyddiaeth Jean Stanley-Jones. Mae’r Côr yn perfformio’n gyson ar draws y Deyrnas Unedig a hefyd ymhellach i ffwrdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau yn Basilica San Pedr, Dinas y Fatican ac yn y Pantheon yn Rhufain.
Helen Owen ARSM
Wedi dysgu Cerddoriaeth mewn ysgolion yn y De, Canolbarth a Gogledd Cymru, mae hi erbyn hyn yn dysgu Cerddoriaeth a Chymraeg yn Ysgol Friars ym Mangor ers nifer o flynyddoedd.
Yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau cyfeilio i gorau ac i unigolion, hyfforddi ar gyfer eisteddfodau yn ogystal â bod yn fam i ddau o blant!
Hawys Parri
Cychwynnodd Hawys ddysgu’r piano yn 5 oed ac mae wedi ei dysgu gan Mrs Val Jones GRSM ARCM ARCM (SM) o Berriw yng nghanolbarth Cymru, Mrs Margaret Newman – disgybl 6ed cenhedlaeth i Beethoven ac Iwan Llewelyn-Jones.
Mynychodd Hawys Conservatoire Cerdd Birmingham am 4 mlynedd lle enillodd Baglor mewn Cerddoriaeth gydag anrhydedd. Bu’n un o gystadleuwyr terfynol ar gyfer gwobr lieder Ysgol Gerdd Birmingham ac mae wedi perfformio mewn cyngherddau megis gweithiau cyfan Debussy a Liszt.
Mae ei repertoire wedi ei ledaenu ar hyd 400 mlynedd o gerddoriaeth i’r piano ac yn cynnwys Variations sérieuses gan Mendelssohn, sonata Schumann yn G leiaf ac Impromptu rh. 2 Kapustin. Mae Hawys ar hyn o bryd wrthi’n astudio cwrs TAR a hefyd yn parhau â’i gyrfa fel unawdydd piano drwy weithio tuag at arholiad LRSM.
Glian Llwyd
Graddiodd Glian Llwyd gyda B.Mus (anrhydedd) ym Mhrifysgol Bangor yn 2005. Yn dilyn, derbyniodd radd Meistr mewn perfformio ar y piano gyda chlod uchel yng Ngholeg Cerdd Trinity, Llundain yn 2008.
Y mae wedi bod yn llwyddiannus gyda chystadlaethau offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd lle yr ymddangosodd ddwywaith yn rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel; ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle enillodd y Rhuban Glas gyda’r piano yn 2007. Enillodd Glian hefyd brif wobr Tlws y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2006.
Ers graddio, y mae Glian wedi dilyn gyrfa fel pianydd a chyfeilydd gan gyfeilio yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ym Mhrifysgol Bangor. Y mae wedi perfformio gyda unawdwyr ac offerynnwyr mewn amryw o ganolfannau a chlybiau cerdd yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2012 bu’n rhan o’r panel yn beirniadu’r cystadlaethau offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y mae Glian Llwyd yn diwtor piano ym Mhrifysgol Bangor, ac hefyd yn diwtor piano a thelyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, ac i wasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.
Elain Rhys
Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, graddiodd Elain gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 2020 lle enillodd wobr goffa Phillip Pascall am gyrhaeddiad rhagorol. Astudiodd y delyn a’r piano dan arweiniad cerddorion blaenllaw megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones. Mae wedi bod yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel telynores ac mae’n mwynhau perfformio’n unigol mewn cyngherddau yn lleol. Bu’n gyfeilydd i gynhyrchiad Opra Cymru o Don Giovanni a aeth ar daith ledled Cymru yn 2019. Mae’n mwynhau cyfeilio i unigolion, yn gyfeilydd swyddogol mewn Eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol ac yn gyfeilydd i Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Hogia Llanbobman. Yn ystod haf 2022, gwahoddwyd Elain i ddysgu’r delyn a pherfformio fel rhan o’r Wythnos Dreftadaeth Gymreig yn nhalaith Wisconsin, UDA. Ar hyn o bryd, mae Elain yn astudio ar gyfer ei doethuriaeth sy’n canolbwyntio ar unig opera Grace Williams, ‘The Parlour’.
Einir Wyn Hughes
O Ben Llŷn y daw Einir a derbyniodd wersi’n naw mlwydd oed gan Alwena Roberts. Wedi blwyddyn o astudio gyda Meinir Heulyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd, symudodd i’r Ysgol Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle enillodd radd BMus yn 2005.
Yn ddiweddar, cwblhaodd gwrs Meistr mewn Perfformio a Cherddoriaeth Cymru ym Mangor, lle bu’n ddisgybl gyda Elinor Bennett. Yn ogystal, enillodd ddiploma yr ABRSM mewn perfformio ar y delyn.
Mae wedi perfformio’n ddiweddar gyda Cherddorfa Siambr Bangor, Cerddorfa Siambr Cymru, Ensemble Cymru ac i Dywysog Cymru. Mae’n diwtor telyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yng Ngwasanaeth Ysgolion William Mathias yn ogystal.
Edith
Magwyd Edith ar fferm yn Rhosybol, Ynys Môn. Fe fynychodd Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch ac yna ar ôl dwy flynedd o goleg dechreuodd Edith weithio gyda chwmni Cyfreithwyr Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd LLP. Mae Edith bellach wedi gweithio i’r cwmni ers dros 37 o flynyddoedd.
Ar ôl priodi yn 1992 cartrefwyd yn Dinas, Llanwnda, Caernarfon ac yna ail gychwyn i astudio’r biano o dan hyfforddiant Annette Bryn Parri. Yn 1998 aeth Edith ymlaen i gyflawni ei diploma sef A.L.C.M yng Ngholeg Chetham’s, Manceinion.
Mae yn rhoi gwersi yn ei chartref yn Dinas yn ogystal a Chanolfan Gerdd William Mathias, yn fam i ddau o blant ac hefyd yn nain.
Diana Keyse
Magwyd Diana ar fferm yn Nyffryn Ogwen ac astudiodd y piano a’r llais yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Cymru, Caerdydd gan ennill cymhwyster GWCMD. Mae hi hefyd wedi ennill cymhwyster LTCL o Goleg Cerdd Trinity, Llundain.
Yn ogystal â phrofiad helaeth fel tiwtor piano, llais a theori preifat yn Ne a Gogledd Cymru a Essex, mae gan Diana brofiad o weithio fel pennaeth cerdd yn ysgol St John’s Newton, Porthcawl ac Ysgol Hillgrove, Bangor. Mae hi wedi hyfforddi myfyrwyr ar gyfer arholiadau piano a llais yr ABRSM a bwrdd arholi’r Trinity Guilhall yn ogystal â pharatoi myfyrwyr yn llwyddiannus ar gyfer arholiadau TGAU a Lefel A mewn cerddoriaeth.
Mae Diana yn credu’n gryf bod cymryd rhan mewn cerddoriaeth yn gymorth i ddatblygu sgiliau sy’n fuddiol i berson ar hyd eu hoes ac y dylai fod yn brofiad hapus, pleserus a chofiadwy.
Caryl Roberts
Bethan Conway
Dechreuodd hyfforddiant cerddorol Bethan yn 7 oed gyda gwersi piano cyn dechrau chwarae telyn yn 10 oed. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gyflawni ei diplomâu perfformiad ABRSM ar y delyn a’r piano ac ers hynny mae wedi perfformio mewn amryw o leoliadau ym Mhrydain, Ewrop a’r UDA fel unawdydd ac fel rhan o amrywiaeth o ensembles. Enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gan y Coleg Cerdd Brenhinol yn 2017 a dychwelodd i’r coleg ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig fel Ysgolor ‘Ashley Family Foundation’. Graddiodd Bethan gyda Meistr Perfformiad gyda Rhagoriaeth yn 2019 ac ar ôl cwblhau ei hastudiaethau dyfarnwyd gwobr fawreddog ‘The Queen Elizabeth, The Queen Mother Rose Bowl.
Fel cystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau, mae Bethan wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys y wobr gyntaf yn unawd telyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â chael ei dewis yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog y Rhuban Glas ar ddau achlysur. Mae hi hefyd wedi ennill yr ail wobr yn yr unawd piano a’r drydedd wobr yn yr unawd telyn yn Eisteddfod yr Urdd. Yn 2016 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Nansi Richards i Bethan yn ogystal â Gwobr Delyn y Coleg Cerdd Brenhinol.
Ers dychwelyd i Treuddyn yn Sir y Fflint, mae Bethan yn mwynhau gyrfa fel pianydd a thelynores. Mae hi’n perfformio gyda llawer o gerddorfeydd ym Mhrydain gan gynnwys NEW Sinfonia – cerddorfa breswyl yn yr Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, City of Birmingham Symphony Orchestra a Birmingham Contemporary Music Group. Mae hyn wedi rhoi cyfle i Bethan weithio gydag arweinwyr byd-enwog fel Bernard Haitink, Edward Gardner a Rafael Payare. Mae Bethan hefyd yn mwynhau cyfeilio, daliodd swydd dirprwy gyfeilydd i Cantorion Rhos yn cyfeilio iddynt ar eu taith o amgylch Portiwgal yn 2015 ac yn ddiweddar mae wedi cydweithio â Chorws Cymunedol WNO ac Opera Ieuenctid WNO. Yn gerddor siambr brwd, mae Bethan yn perfformio’n rheolaidd gyda’i grŵp Ffliwt a Thelyn, ‘Hefin Duo’ yn ogystal â ‘Trilogy’, triawd ffliwt, telyn a fiola. Mae Bethan yn dysgu piano a thelyn ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint, Ysgol Rupert House Henley-on-Thames ac yn breifat yn Nhreuddyn.
Beryl Lloyd Roberts
Un o ferched Edeyrnion ydi Beryl a bu’n astudio cerdd yng Nghaerdydd. Mae’n gyn-bennaeth yr adran gerdd yn Ysgol Brynhyfryd Rhuthun. Mae galw mawr am ei gwasanaeth i feirniadu, cyfeilio ac i arwain cymanfaoedd drwy Gymru. Beryl ydi Cyfarwyddwr Cerdd Cymdeithas Gorawl Dinbych a’r Cylch ers deunaw mlynedd.