Tim Ward
Mae Tim yn addysgwr, canwr a phianydd gyda phrofiad helaeth. Mae ei ddiddordeb mewn addysgeg ynghyd ag agwedd sensitif at ddysgu strwythuredig wedi galluogi cenhedlaeth o gerddorion ifanc i gyflawni eu potensial.
Derbyniodd Tim ei hyfforddiant yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac ar ôl graddio, aeth ymlaen i gwblhau Cwrs Opera. Ymhlith ei athrawon mae David Pollard a’r soprano o fri rhyngwladol Nelly Miricioiu. Tra’n fyfyriwr, derbyniodd Tim wobrau hael gan S4C ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ac enillodd Ysgoloriaeth David Lloyd hefyd.
Yn ei yrfa gynnar, perfformiodd Tim fel unawdydd mewn lleoliadau uchel eu parch yn Llundain, gan gynnwys St John’s Smith Square a The Barbican, gan weithio ochr yn ochr â cherddorion blaenllaw. Mae hefyd wedi rhoi cyngherddau yn yr Eidal, yr Almaen a Gwlad Groeg.
Yn 2003, cafodd Tim y cyfle i ddysgu, yn gyntaf mewn ysgol heriol yng nghanol dinas Llundain lle cyflwynodd nifer o blant i lawenydd a phosibiliadau creu cerddoriaeth. Enillodd enw da am sylwi ar dalent posibl ac enillodd rhai o’i ddisgyblion ysgoloriaethau cerdd a llefydd mewn conservatoires blaenllaw. Yn dilyn y profiad hwn, daeth Tim yn frwd dros roi cyfle i gerddorion ifanc o gefndiroedd llai breintiedig astudio cerddoriaeth. Ef oedd sylfaenydd SCALE Vocal Trust, elusen sy’n cynnig cymorth ariannol i gantorion ifanc sy’n paratoi ar gyfer astudiaeth conservatoire.
Yn 2007, ymunodd â staff addysgu University College School, un o ysgolion annibynnol mwyaf blaenllaw Llundain. Bu ei ymrwymiad i ddatblygu cerddoriaeth leisiol yn yr ysgol yn ddiflino ac enillodd iddo enw fel athro ysbrydoledig a helpodd nifer o disgyblion i gyflawni llwyddiant mawr. Daeth yn Bennaeth Canu ac aeth llawer o’i fyfyrwyr ymlaen i sicrhau llefydd mewn prifysgolion ac conservatoires blaenllaw. Ymhlith llwyddiannau nodedig eraill disgyblion mae rolau plant yn y Tŷ Opera Brenhinol a’r Barbican ynghyd â darllediadau Radio 3 ac ymddangosiadau teledu.
Yn 2021 symudodd Tim i’w ardal enedigol yn Eryri lle mae’n gobeithio rhannu ei sgiliau a’i brofiad gyda’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.