Rydym yn awyddus i glywed gan gerddorion sydd a diddordeb mewn cynnal sesiynau cerdd fel rhan o’n cynllun newydd cyffrous ‘Canfod y Gan’ fydd yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion heb anableddau ynghyd i greu cerddoriaeth. Mwy o wybodaeth.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 (www.spiritof2012.org.uk)
er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân/Discover the Song’ dros dair
blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac
unigolion sydd heb anableddau ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn
gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl a
llesiant.
Bydd CGWM yn gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Anableddau Dysgu
Cyngor Gwynedd a fydd yn cyfeirio unigolion gyda anableddau dysgu i’r
prosiect.
Rydym eisiau derbyn ceisiadau gan werthuswyr allanol i weithio gyda ni drwy gydol y prosiect er mwyn :
Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o
amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i
ffrindiau.
Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at
elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am
wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael
mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.
Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann
Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i
gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig
hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y noson.”
Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest
Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y
blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn
Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled
Gogledd Cymru.
Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd
yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.
Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael
tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias,
megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i
fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn
rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y
noson.”
Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.
Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.
Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”
Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19
Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau
yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361
Cerys Edwards, disgybl yng Nghanolfan Gerdd William Mathias (cangen
Rhuthun), sydd yn derbyn Ysgoloriaeth CGWM er cof am Ben Muskett eleni. Mae
Cerys, sy’n 16 oed, yn cael gwersi piano gyda Teleri Siân.
Dywedodd Cerys, “Roedd yn dipyn o sioc i glywed fy mod wedi ennill
Ysgoloriaeth Ben Muskett. Roeddwn newydd berfformio mewn cyngerdd gan rai o
fyfyrwyr y Ganolfan ac ar ôl i mi berfformio cefais fy ngalw yn ôl i’r llwyfan
i dderbyn tlws ac arian yr ysgoloriaeth.
Wrth longyfarch Cerys, dywedodd Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd
William Mathias, “Roedd Ben Muskett yn diwtor piano ysbrydoledig yn y Ganolfan.
Ond, yn 25 oed, bu farw mewn damwain car yn 2011.”
Caiff yr Ysgoloriaeth ei dyfarnu’n flynyddol i bianydd addawol dan 18 oed
sy’n derbyn gwersi yn CGWM. Yn ôl Meinir Llwyd, “Dyma’n ffordd ni o gynnal
rhywfaint o’r angerdd yr oedd Ben yn ei deimlo am gerddoriaeth a dysgu plant a
phobl ifanc.”
Meddai Cerys, “Mae’r ysgoloriaeth yn golygu gymaint i mi. Mi fydd yr arian o
gymorth mawr er mwyn prynu darnau newydd piano yr hoffwn eu dysgu – yn cynnwys
Waltzes Chopin, Preludes Debussy a darnau jazz hefyd.”
Mae Cerys yn derbyn gwersi Cerddoriaeth yn Ysgol Brynhyfryd gyda Miss Llinos
Williams. Dechreuodd gael gwersi Piano pan oedd hi’n chwech oed gyda Mavis
Johns, cyn cychwyn gwersi gyda Teleri-Siân yn 2012.
Yn ôl Cerys, “Rwyf wrth fy modd yn dod am wersi piano gyda Teleri Siân a
gyda’i chymorth hi mi wnes i lwyddo i basio fy arholiad Gradd 8 yn ystod yr Haf
gyda theilyngdod.”
Dywedodd Llinos, mam Cerys: “Rydan ni wedi bod yn ffodus iawn i gael
tiwtoriaid piano o’r safon uchaf dros y blynyddoedd – mae fy mab Sion, ynghyd â
chwaer Cerys, Cathrin, wedi mwynhau dod am wersi piano efo Teleri-Siân.”
Ym Mlwyddyn 9, enillodd Cerys y drydydd wobr yng Nghystadleuaeth Unawd Piano
Blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae hi
hefyd yn aelod ffyddlon o Gôr Cytgan Clwyd.
Yng Nghaernarfon y mae prif gartref CGWM. Ond, ers 2012, mae’r Ganolfan wedi
bod yn darparu gwersi cerdd ar nosweithiau Llun yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
ac, ers dros flwyddyn, hefyd yn cynnig gwersi yng Nghapel Tabernacl, Ruthun ar
nosweithiau Mercher.
Cafodd tlws yr ysgoloriaeth ei gyflwyno i Cerys yng nghyngerdd ‘Llwyfan
Cerdd’ CGWM yn Neuadd Bentref Pwllglas. Roedd y cyngerdd yn cynnwys
perfformiadau gan ddisgyblion o bob oedran sy’n derbyn gwersi yn y Ganolfan,
ynghyd ag ensembles Telynau Clwyd Iau ac Hŷn dan arweiniad Morwen Blythin a
Dylan Cernyw.
Yn naturiol, roedd tiwtor piano Cerys, Teleri-Siân, wrth ei bodd o glywed y
newyddion: “Mae wastad yn bleser i roi gwersi piano i Cerys yn y Ganolfan. Mae
hi’n ddisgybl arbennig sy’n datblygu i fod yn berfformwraig a cherddor hyderus
ag aeddfed.”
Mae
Canolfan Gerdd William Mathias,elusen sy’n ymroddi i ddarparu profiadau mewn
cerddoriaeth i’r cyhoedd yn galw am gefnogaeth y gymuned leol a busnesau i
helpu i gyrraedd targed codi arian o £ 3,000 a fydd yn cael ei dyblu yn ystod
Her Nadolig 2017 y Big Give.
Bydd
unrhyw roddion a wneir ar-lein i Ganolfan Gerdd William
Mathias rhwng y 28ain o Dachwedd a’r 5ed o Ragfyr yn cael eu dyblu ac yn
cyfrannu at barhad ‘Doniau Cudd’, sef prosiect sy’n darparu cyfleoedd cerddorol
i oedolion ag anableddau o ardal Caernarfon.
Mae’r
prosiect wedi’i gynnal yn llwyddiannus ers dros 10 mlynedd ac mae wedi dod yn
rhan hynod bwysig o fywydau dros 30 o gyfranogwyr sy’n mynychu sesiynau
wythnosol yn Galeri Caernarfon. Fe’i sefydlwyd yn 2003 gan y Ganolfan Gerdd a’r
cerddor Arfon Wyn gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Mae unigolion lleol sy’n byw gydag anableddau yn
elwa’n gymdeithasol ac yn addysgol. I rai cyfranogwyr, mae cerddoriaeth yn
cynnig dull cyfathrebu naturiol yn absenoldeb lleferydd. Mae manteision eraill
yn cynnwys adeiladu hyder a chyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol.
Dywedodd
y cerddor ac arweinydd y sesiynau, Arfon Wyn: “Rydw i’n cael boddhad mawr
wrth weithio gyda ‘Doniau Cudd’, rydym ni’n byrfyfyrio’n gerddorol gyda’n
gilydd ac wedi gwneud ffrindiau am oes”.
Ers
2012 mae’r prosiect wedi ehangu i Bwllheli a Sir Ddinbych ac yn 2013 dyfarnwyd
Gwobr Gofal Cymru Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i’r prosiect am hyrwyddo’r
Celfyddydau mewn Gofal Cymdeithasol.
Dywedodd
Nia Hughes o Ganolfan Gerdd William Mathias: “Mae’r prosiect yn
ysbrydoliaeth go iawn i bawb sy’n gysylltiedig ag o. Mae’r unigolion sy’n
mynychu’n cael cyfle i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth, ac yn aml yn
perfformio i’r cyhoedd mewn digwyddiadau a gynhelir gan Ganolfan Gerdd William
Mathias. Mae’n werth i weld eu hwynebau wrth berfformio, sy’n pwysleisio
pwysigrwydd y prosiect hwn. Plîs cefnogwch os gallwch chi.”
Mae’r
elusen yn gweithio’n ddiflino i sicrhau cyllid o hyd at £14k yn flynyddol i
gynnal y prosiect hwn. I gefnogi Doniau Cudd a helpu i barhau i gyfoethogi
bywydau pobl sy’n byw gydag anableddau, cyfrannwch ar lein i Ganolfan Gerdd
William Mathias rhwng 28 Tachwedd – 5 Rhagfyr 2017.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Canolfan Gerdd
William Mathias ar 01286 685 230
MAE
GWLEDD O GERDDORIAETH wedi ei threfnu fel rhan o gyngerdd arbennig a gynhelir
yn Theatr John Ambrose, Rhuthun ar y 3ydd o Chwefror 2018 am 7:30yh.
Bydd
y cyngerdd, a drefnir gan Canolfan Gerdd William Mathias yn dathlu bod y
Ganolfan Gerdd wedi cychwyn darparu gwersi cerddoriaeth yn Rhuthun fel rhan o
ymdrechion yr elusen i ehangu ei darpariaeth yn y Gogledd Ddwyrain. Mae’r
Ganolfan, sydd â’i phencadlys yn Galeri Caernarfon wedi bod yn darparu gwersi
cerdd yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych ers sawl blwyddyn bellach ac yn falch o
ehangu i Rhuthun.
Bydd
y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan diwtoriaid y Ganolfan, cyn-fyfyrwyr
sydd wedi mynd ymlaen i astudio mewn colegau cerdd a Chôr Cytgan Clwyd. Ymhlith
yr artistiaid bydd Rhys Meirion, Elinor Bennett, Ann Atkinson, Alfred Barker,
Glian Llwyd, Teleri Siân, Morwen Blythin, Dylan Cernyw, a Kate Griffiths.
Dywedodd
y tiwtor llais Ann Atkinson sydd hefyd yn Gyfarwyddwraig Gŵyl Gerdd
Ryngwladol Gogledd Cymru ac yn arwain Côr Trelawnyd a Chôr Meibion Bro Glyndwr:
“Rydw
i wedi bod yn dysgu i Ganolfan Gerdd William Mathias ers 2012 pan gychwynnon ni
ddarparu gwersi yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych. Mae’n wych i weld y Ganolfan yn
ehangu’r ddarpariaeth drwy gynnig gwersi hefyd yn Rhuthun.
“Rwy’n
edrych ymlaen at rannu’r llwyfan â’r tiwtoriaid eraill ynghyd â rhai o’r
myfyrwyr rwyf wedi bod yn eu dysgu yn Ninbych sydd wedi mynd ymlaen i astudio’r
llais mewn colegau cerdd.”
Bydd
tri o gyn-ddisgyblion disglair Ann yn cymryd rhan yn y cyngerdd – Tesni Jones a
Lisa Davies sydd wedi mynd ymlaen i astudio’r llais yn y Royal Northern
College of Music, a Steffan Davies sydd bellach yn astudio cerddoriaeth a
Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Yn
ôl un o diwtoriaid piano y Ganolfan Teleri Siân, sy’n byw yn Llanfair Dyffryn
Clwyd, mae Canolfan Gerdd William Mathias yn gweithio’n galed i ddatblygu ei
darpariaeth newydd yn Rhuthun. Dywedodd:
“Rydym
wedi cychwyn trwy gynnig gwersi piano, llais, theori a ffidil yn Rhuthun i
blant ac oedolion, ond rydym yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys gwersi
ar amrediad eang o offerynnau eraill felly mae’n bwysig bod pobl yn cysylltu i
fynegi eu diddordeb. Byddwn hefyd yn datblygu ein darpariaeth o weithgareddau
cerdd grŵp yn ystod y misoedd nesaf.”
Mae’r
prosiect Camau Cerdd – sef grwpiau cerdd i blant bach eisoes yn cael ei gynnal
yn Ninbych mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Sir Ddinbych a Gwasanaethau
Celfyddydol Sir Ddinbych. Cynhelir grŵp i blant 6 mis – 3 oed am 1.45yp yn Hwb
Dinbych a grŵp i blant 4 – 7 oed yn Theatr Twm o’r Nant ar ôl ysgol ar ddyddiau
Llun.
“Mi
fydd noson arbennig hon o gerddoriaeth ar y 3ydd o Chwefror yn helpu i godi
ymwybyddiaeth bod gwersi cerdd nawr ar gael yn Rhuthun. Dewch i fwynhau’r wledd
o gerddoriaeth!”
Mae
tocynnau ar gyfer cyngerdd ‘Gwledd o Gerddoriaeth’ ar y 3ydd o Chwefror, 7:30yh
yn Theatr John Ambrose ar gael o Siop Elfair, Rhuthun ac o Siop Clwyd, Dinbych.
Prisiau’r tocynnau ydy £7, £6 (pensiynwyr), £3 (plant).
Ers
mis Tachwedd 2016, mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn cynnal
sesiynau cerddorol gyda thrigolion hŷn Gellilydan ac Awel y Coleg, Y Bala dan
arweiniad Nia Davies Williams. Gwahoddwyd plant o’r ysgolion cynradd lleol i
gymryd rhan mewn sesiynau Camau Cerdd gyda Marie-Claire Howorth cyn ymuno i
gyd-ganu a mwynhau gweithgareddau cerddorol gyda’r bobl hŷn.
Ers
y comisiwn gan Uned Celfyddydol Cymunedol Cyngor Gwynedd mae’r sesiynau wedi
helpu dod a phobl at ei gilydd i hel atgofion a mwynhau cerddoriaeth, yn
ogystal â chodi hyder a chynnig cyfle i gyfarfod pobl newydd.
Mae’n
bleser gennym gyhoeddi y bydd y sesiynau yn ymestyn i ardaloedd Bethesda a
Deiniolen diwedd mis Hydref. Mae’r sesiynau’n agored i unrhyw drigolion hŷn
ddod draw am baned a chân ac i gwrdd â phobl newydd. Bydd sesiynau Bethesda
yn dechrau ar Hydref 27, 10:30 – 11:30 yn Neuadd Ogwen, ac yna bob yn ail
wythnos wedi hynny. Yn yr un modd, bydd sesiynau Deiniolen yn dechrau ar
Hydref 27, 14:00 – 15:00 yn Nhŷ Elidir. Bydd paned ar gael ar ddiwedd pob
sesiwn a bydd plant o’r ysgolion lleol yn ymuno Gwanwyn 2018.
Gwyliwch
y ffilm yma am hanes y gweithgareddau
diweddar yn Y Bala a Gellilydan.
Am unrhyw wybodaeth pellach, cysylltwch â Canolfan
Gerdd William Mathias ar 01286685230
Bu
Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias yn cymryd rhan mewn cyngerdd yng
Nghadeirlan Llanelwy dydd Sul y 24 Medi fel rhan o Gorws Opera Genedlaethol
Cymru gan ganu’r premiere Cymreig gan Oliver Tarney a Paul Mealor.
“Roedd
hwn yn brofiad gwych i’r côr i fod yn rhan o gorws yr Opera Genedlaethol ac i
ganu mewn lleoliad mor anhygoel â Chadeirlan Llanelwy” meddai Jenny Pearson,
arweinydd y côr.
Mae
Jenny Pearson wedi bod yn arwain Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias ers
bron iawn i ddegawd bellach, a dan ei arweinyddiaeth, mae’r côr wedi gweld
nifer o lwyddiannau, gan gynnwys cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda chôr
Incantanti o’r Swistir dim ond y llynedd.
Mae
rhai o berfformiadau mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus y Côr yn cynnwys: Bach
Magnificat, Handel Zadok the Priest, Fauré Cantique de Jean Racine ac Offeren
Mozart.
Mae’r
Côr wedi cyflawni amryw o berfformiadau llwyddiannus, gyda rhai aelodau wedi
mynd ymlaen i ganu gyda Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Opera Ieuenctid WNO,
ac ymlaen i golegau cerdd adnabyddus.
Gydag amryw o aelodau’r côr wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion a cholegau cerdd ym mis Medi, mae’r côr yn awr yn awyddus iawn i ddenu aelodau newydd i ymuno â’r tîm.
Mae’r
côr yn agored i gantorion rhwng 12 – 25 oed, a mae Jenny Pearson yn awyddus i
bwysleisio nad oes angen profiad blaenorol o fod mewn corau er mwyn ymuno:
“Mae’r
Côr Siambr CGWM yn agored i bawb – does dim angen profiad blaenorol, does dim
angen bod yn derbyn gwersi llais, a does dim clyweliad. Os yw eich plentyn yn
‘geek’ cerddorol o unrhyw fath, mi fydden nhw wrth eu boddau! Mae bod yn rhan
o’r côr hefyd o fudd i’r rhai sydd yn dysgu offerynnau – gan eu helpu efo sain
glust a darllen ar yr olwg gyntaf.”
Cynhelir
ymarfer cyntaf y gyfres yn rhad ac am ddim, ar nos Iau y 5ed o Hydref rhwng
4:45 – 6:00yh, yn SP3, Galeri Caernarfon.
Mi
fydd yr ymarfer cyntaf yma am ddim, yn rhoi cyfle da i blant rhoi cynnig ar y
côr cyn cofrestru i’r tymor, ynghyd â rhoi cyfle i gael sgwrs anffurfiol efo
Jenny.
Rydym
yn falch iawn o benodiad diweddar y Delynores Catrin Morris Jones fel Trefnydd
Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018. Bydd Catrin yn gweithio yn agos ag Elinor
Bennett dros y misoedd nesaf ar yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal rhwng 1af – 7fed
Ebrill 2018.
Gyda
dros ugain mlynedd o brofiad fel telynores broffesiynnol yn Llundain, bellach
mae Catrin yn byw gydai’i theulu ym Mhwllheli ac yn athrawes delyn yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2015.
Dywedodd
Catrin: “Rwy’n falch iawn o gyd-weithio gydag Elinor Bennett,
Cyfarwyddwraig yr Ŵyl, ac yn edrych ymlaen i weithio â staff Canolfan Gerdd
William Mathias a gwirfoddolwyr lleol i greu Gŵyl gyffrous a llwyddiannus.”
Trefnir
yr Ŵyl gan CGWM a bydd yn wledd o gyngherddau, cystadleuthau a dosbarthiadau
meistr i ddathlu penblwydd y telynor byd enwog, Osian Ellis yn 90 oed.
Meddai
Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl:
“Rwyf
yn hapus iawn fod Catrin wedi ymuno â’r tîm sydd yn trefnu Gwyl Delynau
Ryngwladol Cymru IV ym mis Ebrill nesaf. Mae ganddi brofiad helaeth o drefnu
digwyddiadau ym maes y delyn ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael ei chymorth a’i
hegni i sicrhau fod yr Ŵyl Delynau yn mynd o nerth i nerth ac yn denu
cannoedd o delynorion o lawer gwlad i Gaerenarfon ym mis Ebrill.”
Llongyfarchiadau
mawr i holl ddisgyblion y Ganolfan oedd yn cystadlu yn yr Esiteddfod
eleni. Dyma restr o’r buddugwyr yn cynnwys disgyblion presennol a
chyn-ddisgyblion:
Unawd
Llinynnau dan 16 oed:
Gwydion Rhys
Unawd
piano dan 16 oed:
Gwydion Rhys
Medi Morgan
Deuawd
offerynnol:
Rhiain Awel Dyer & Chloe Roberts
Gwenno a Medi Morgan
Unawd
i ferched 16-19 oed:
Tesni Jones
Lisa Dafydd
Cynhelir
Diwrnod Agored Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon dydd Sadwrn
Gorffennaf 22ain rhwng 10 -4yp. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau rhad ac am ddim
ymlaen i bobl ifanc drwy gydol y dydd i roi blas o’r hyn a gynnigir gan y
Ganolfan.
Sefydlwyd
y Ganolfan egnïol hon yng Nghaernarfon yn 1999 sy’n darparu cyfleoedd arbennig
mewn addysg gerddorol i bobl o bob oed a gallu drwy wersi offerynnol a lleisiol
gan diwtoriaid profiadol, gwersi theori, ensembles, corau a llawer mwy!
Un
o uchafbwyntiau’r Diwrnod Agored fydd dathlu penblwydd ‘Camau Cerdd’ yn 10
oed. Mae Camau Cerdd yn brosiect arbennig sy’n cyflwyno elfennau
cerddoriaeth mewn ffordd hwyliog ac addysgol i blant ifanc o 6 mis hyd at 7
mlwydd oed. Am 1 o’r gloch bydd dosbarth i blant rhwng 4-7 oed, a dosbarth i
blant rhwng 6 mis a 4 oed a’i rhieni am 2 o’r gloch. I ddilyn, am 2:45yp
byddem yn mwynhau perfformiadau cerddorol gan gyn-ddisgyblion a thiwtoriaid y
prosiect mewn parti gyda gemau a chacen.
Sefydlwyd
y prosiect gan Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire; sy’n
fyfyrwraig ôl-raddedig ym Mhrifysgol Sheffield yn astudio MA mewn Seicoleg
Cerddoriaeth mewn Addysg. Mae’r cynllun wedi llwyddo i ddod a chwricwlwm cerddorol
ysbrydoledig i gymunedau yng ngogledd Cymru gan gyrraedd meithrinfeydd,
cartrefi nyrsio ac ysgolion. Dywedodd Marie-Claire:
“Mae’n
gyffrous i weld sut mae’r ffordd yr ydym wedi defnyddio cerddoriaeth i rymuso
unigolion wedi cael effaith mor gadarnhaol ar gymaint o bobl. Fel tiwtor
cerdd ‘dwi mor falch o weld cyn-ddisgyblion y prosiect yn tyfu o fewn cymunedau
cerddorol, ac yn edrych ymlaen i’w clywed yn perfformio ar y diwrnod”
Cynhelir
dau weithdy yn ystod y diwrnod, sef gweithdy chwythbrennau gyda’r tiwtoriaid
Rhiannon Mathias, Marie-Claire ac Elin Roberts am 10yb, a Dosbarth Meistr llais
gyda’r tenor Huw Llywelyn am 2yp. Mae cynnig cyfleoedd i ddisgyblion
ifanc ddysgu mewn grwp yn bwysig i’r Ganolfan ac yn gyfle i unigolion
berfformio a chydweithio gyda cherddorion eraill sy’n rhannu’r un diddordeb.
Hefyd yn ystod y diwrnod bydd yna wersi blasu am ddim yn cael eu cynnig ar y drymiau, gitar a phiano gan ein tiwtoriaid Graham ‘La’ Land, Neil Browning a Diana Keyse. Yn ogystal ceir perfformiadau byw gan ddisgyblion a thiwtoriaid yng Nghaffi Bar Galeri. Os yw’r tywydd yn caniatau, bydd y diwrnod yn diweddu gyda pherfformiad gan Doniau Cudd ac Arfon Wyn ar y Doc am 3:30yp. Cynhelir y digwyddiad gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd. Bydd pob digwyddiad am ddim, a mae yna groeso cynnes i bawb. I ddatgan eich diddordeb, neu am wybodaeth bellach cysylltwch â Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230.
Cynhaliwyd
ein cyngerdd Haf eleni yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor ar ddydd Sul braf ar y
18fed o Fehefin.
Cafwyd
perfformiadau gan ddisgyblion ifanc a disglair CGWM yn ogystal â’r pedwarawdau
ac ensemblau llinynnol dan arweiniad Nicki Pearce.
Eto
eleni, dyfarnwyd gwobrau arbennig i unigolion o’r Ganolfan.
Ysgoloriaeth er cof am Ben Muskett, oedd yn cydnabod pianydd ifanc a
brwdfrydig, a dwy wobr er cof am gyn aelodau Côr Meibion Caernarfon i’r
disgyblion oedd wedi ennill y marciau uchaf yn arholiadau’r ABRSM.
Enillwyr:
Ysgoloriaeth
Ben Muskett: Gwydion Rhys – Piano
Gwobr
coffa Thomas William Jones: Leisa Lloyd-Edwards – Llais gradd 1
Hoffwn longyfarch y tri am eu llwyddiant
a’u perfformiadau ac i bawb a gymerodd rhan yn y cyngerdd. Mae’n wir i ddweud
na fydd y dyfodol yn brin o dalent.
Cynhelir
Diwrnod Agored gan Canolfan Gerdd William Mathias yn Theatr Twm o’r Nant,
Dinbych ar ddydd Sul y 9fed o Orffennaf.
Bydd
amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd gan gynnwys
gwersi blasu am ddim ar y delyn, ffidil, canu a piano, sesiynau ‘Camau Cerdd’,
sef prosiect i blant bach, Ensemble Telynau Iau i delynorion ifanc, ac i orffen
cyngerdd gan fyfyrwyr presennol y Ganolfan Gerdd.
Bydd
y diwrnod yn cychwyn gyda sesiwn blasu Camau Cerdd gyda’r tiwtor Charlotte Amy
Green. Mae’r prosiect yn cyflwyno cerddoriaeth mewn modd sy’n llawn hwyl a
dychymyg i blant bach. Bydd sesiwn i blant 15 mis – 3 mlwydd oed yn cael ei
gynnal am 10:30yb, ac yna sesiwn i blant 4 – 7 oed i ddilyn am 11:30yb. Bydd y
sesiwn blasu am ddim, ond mae angen archebu eich lle o flaen llaw.
Mae
cyfres Camau Cerdd wedi bod yn cael ei gynnal yn Ninbych ers dwy flynedd
bellach gyda prosiect yn cael ei gynnal yn Hwb Dinbych a Theatr Twm o’r Nant yn
y prynhawniau yn ystod y tymor ysgol.
Bydd
yr Ensemble Telynau Iau yn dilyn dan arweiniad Morwen Blythin a Dylan Cernyw ar
gyfer telynorion ifanc hyd at safon gradd 3. Yn dilyn llwyddiant y prosiect
‘Telynau Clwyd’ sy’n cyfarfod unwaith y mis yn Hwb Dinbych, y diben yw medru
ffurfio ensemble telynau i delynorion iau hefyd.
Dywedodd
Morwen Blythin, un o arweinwyr y grŵp:
“Rwy’n
edrych ymlaen at ddiwrnod agored CGWM Dinbych er mwyn cael cychwyn ensemble
telyn newydd i delynorion iau. Mae ymarfer yn dasg unig weithiau ac felly mae
cyfle yma i gyd-chaware â thelynorion eraill a chael hwyl fuddiol iawn ar gyfer
telynorion yr ardal.”
Yn
ychwanegol i’r prosiectau hyn, bydd cyfleoedd i dderbyn gwersi blasu am ddim
gyda athrawon profiadol Canolfan Gerdd William Mathias. Yn ystod y diwrnod
agored fe gynnigir gwersi blasu ffidil gyda Alfred Barker, telyn gyda Morwen
Blythin, canu gyda Ann Atkinson a piano gyda Teleri-Siân.
Yn
ôl Alfred Barker, tiwtor ffidil, “Mae’r diwrnod agored hwn yn gyfle gwych i
bobl sydd wedi bod yn meddwl am gychwyn offeryn neu lais i gael gwers am ddim
ac i gyfarfod y tiwtoriaid sydd gennym ni yma yng Nghanolfan Gerdd William
Mathias.”
Bydd
angen archebu lle o flaen llaw ar gyfer y gwersi blasu drwy ffonio swyddfa
CGWM.
I
orffen y diwrnod cynhelir cyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ sef cyngerdd anffurfiol gan
fyfyrwyr presennol y Ganolfan. Bydd tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn cael eu
gwerthu ar y drws.
Er mwyn archebu eich gwers blasu am ddim, neu i archebu lle eich plentyn ar brosiect Camau Cerdd neu’r Ensemble Telynau Iau (am ddim), cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230 neu ar ebost.
Bydd
Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig gwersi blasu cerddoriaeth am ddim yn
ystod mis Mai 2017 ar gyfer pobl hŷn sydd yn awyddus i ailgydio mewn offeryn
neu ddysgu offeryn neu’r llais o’r newydd.
Mae’r
cynnig arbennig hwn yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn a gynhelir yn genedlaethol yn ystod
mis Mai. Yn ddiweddar bu’r ganolfan yn llwyddiannus gyda chais grant Gŵyl
Gwanwyn sydd wedi eu galluogi i gynnig gwersi am ddim i bobl dros eu 50 oed
ynghyd â chynnal cyngerdd gyda’i myfyrwyr presennol yn ystod mis Mai.
Yn
ôl Elinor Bennett, un o sefydlwyr y Ganolfan Gerdd: “Mae hyn yn darparu cyfle
gwych i unigolion dros eu hanner cant i ail-gydio mewn offeryn cerdd ar ôl
iddyn nhw ymddeol, neu i gychwyn dysgu offeryn cerdd – neu dderbyn gwersi
lleisiol – am y tro cyntaf. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd llawer o bobl
yn cymeryd mantais o’r cynnig cyffrous hwn.”
Mae
dros 45 o diwtoriaid profiadol yng Nghanolfan Gerdd William Mathias sydd yn
cynnig gwersi ar ystod eang o offerynnau, yn cynnwys canu. Mae modd dysgu am yr
amrywiaeth o wersi a gynigir ynghyd â archebu gwers flasu drwy ffonio Canolfan
Gerdd William Mathias ar 01286 685 230.
Un
sydd wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn gwersi llais yn ddiweddar ydy
Elizabeth Jones o Dalysarn. Dywedodd:
“Rwy’n
cael llawer o foddhad o fod yn aelod o Gôr Hamdden Mathias, ac yn mwynhau dod
at ein gilydd yn wythnosol er mwyn canu a mwynhau dan arweiniad Geraint
Roberts.”
“Rwyf
hefyd wedi ailgydio mewn gwersi canu – roeddwn yn arfer cael gwersi canu pan
oeddwn yn bymtheg oed ymlaen, ond cefais doriad pan gychwynnais weithio, ac
rwyf wedi dod yn ôl i gael gwersi canu wedi ymddeol.”
“Mae
cael gwersi canu gyda Geraint wedi rhoi hyder i mi ac rwyf erbyn hyn yn meddwl
am ailgydio mewn cystadlu.”
Disgybl
arall sy’n mwynhau derbyn gwersi canu yn y Ganolfan ydi Huw Roberts, meddyg
teulu sydd bellach wedi ymddeol ers tua pedair mlynedd. Dywedodd Huw:
“Ar
ôl i mi ymddeol derbyniais y cyfle i fod yn aelod o gorau lleol. Doeddwn i heb
dderbyn hyfforddiant canu o gwbl, ac felly penderfynais gychwyn gwersi canu
wythnosol yn y Ganolfan Gerdd gyda Trystan Lewis.”
“Rwy’n
mwynhau fy ngwersi canu yn fawr – ac yn teimlo’n lwcus iawn o gael athro hynod
amyneddgar a phrofiadol.”
Mae
derbyn gwersi sielo yn rhan bwysig o fywyd Sioned Huws o Gaernarfon. Dywedodd:
“Mae
cerddoriaeth yn golygu andros o lot i fi – mae’n codi fy nghalon ac yn helpu i
gael gwared o ddiflastod weithiau.”
Mae
Sioned yn derbyn gwersi unawdol gyda Nicki Perace ynghyd â bod yn rhan o
Ensemble Sielo Oedolion CGWM.
Ynghyd
ag annog pobl i ailgydio mewn neu gychwyn gwersi cerddoriaeth o’r newydd, ceir
cyfle hefyd i ddathlu creadigrwydd disgyblion presennol y Ganolfan ac hynny
drwy gyfrwng cyngerdd ‘Miwsig Mai’ a gynhelir yn Stiwdio 1 Galeri Caernarfon ar
y 18fed o Fai.
Yn
y cyngerdd hwn, gwahoddir yr oedolion sy’n dod i’r Ganolfan am wersi,
i berfformio mewn cyngerdd anffurfiol. Ynghyd â darparu cyfleoedd i
berfformio darnau unawdol, ceir perfformiad hefyd gan Gôr Hamdden Mathias.
Ffurfiwyd
y Côr yn 2015 a daw’r aelodau at ei gilydd yn wythnosol i ymarfer yn ystod y
tymor ysgol.
12 &13 Ebrill 2017: Dathlu Telynau Iwerddon a Chymru.
Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill yng
nghanol bwrlwm Galeri Caernarfon. Y Cyfarwyddwr yw’r delynores Elinor Bennett a
bydd yr Ŵyl yn cynnwys cwrs deuddydd i delynorion yn ogystal â chyngerdd, cystadleuaeth
a darlith. Trefnir yr ŵyl flynyddol hon gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Bob
pedair mlynedd bydd yn newid i fod yn ŵyl
TELYNORION
O IWERDDON YN DOD I GYMRU I GOFIO HEN HEN CHWEDL
Cynhelir y cwrs deuddydd rhwng 10am – 5pm ar y ddau ddiwrnod a
chroesewir telynorion o bob oed a gallu. Daw dwy delynores wych draw o’r
Iwerddon – Denise Kelly a Cliona Doris – i roi gwersi ac ymuno gyda’r
tiwtoriaid o Gymru – Elinor Bennett, Catrin Morris-Jones ac Elfair Grug –
i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd. Caiff
aelodau’r Cwrs gyfle i ddysgu alawon telyn Gwyddelig gan wyth o fyfyrwyr telyn
o Ddulyn, fydd yn ymweld â Chymru, ac yn perfformio yn ystod yr Ŵyl.
DARLITH YR
ŴYL
Dydd Mercher, Ebrill 12 am 4pm, bydd Dr Sally Harper yn rhoi
sgwrs ar
‘Greu traddodiad ar y cyd : Telynorion Cymreig a
Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Leinster’
Yng ngeiriau Dr Harper, bydd yn sôn am “Chwedl Glyn Achlach”
sydd wedi swyno cerddorion a haneswyr o Gymru ers canrifoedd. Mae’n disgrifio’r
bartneriaeth gerddorol gynnar a ddatblygodd rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod
blynyddoedd cynnar y 12fed ganrif. Yn ganolog i’r chwedl yr oedd y ‘cyngor’ o
delynorion Gwyddelig a Chymreig a ddaeth ynghyd yng Nghlyn Achlach. Eu bwriad
oedd trafod agweddau mwyaf cain eu crefft, ac i gofnodi’r rheolau ar gyfer
diogelu’r traddodiad i’r dyfodol.
Ond i ba raddau y gallwn ni gredu’r adroddiad hwn –
neu ai dim ond chwedl ddychmygol yw hi wedi’r cyfan?
“Er fod y chwedl yn dangos nodweddion mytholegol, mae manylion
eraill yn ffeithiol gywir. Gwyddom mai Glendalough yn Leinster yw ‘Glyn
Achlach’ a’i fod unwaith yn gartref i Sant Cefyn, ac mai Brenin Iwerddon,
Muirchertach O’Briain, oedd yn llywyddu’r cyfarfod allweddol hwnnw. Ond efallai
mai’r hyn sydd fwyaf diddorol i ni yw beth a ddaeth allan o’r cyngor – sef
casgliad o “fesurau” cerdd, neu batrymau sydd yn dal i oroesi. Mae eu dylanwad
yn amlwg mewn llawysgrif a gopïwyd gan y telynor o Fôn, Robert ap Huw. Nid
cyd-ddigwyddiad yw hi fod stamp yr iaith Gymraeg a’r Wyddeleg ar deitlau’r
mesurau.”
Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn rhyngwladol ar
gerddoriaeth gynnar Cymru a bydd yn cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n
chwedlau difyr sydd wedi hen fynd yn angof. Bydd yn adrodd
fel y bu i Gruffydd ap Cynan (c.1055-1137) a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â
nifer o gerddorion gydag ef o’r Iwerddon, a threfnu cyngres fawr, neu
eisteddfod, i delynorion a cherddorion o Gymru ac Iwerddon yng Nghaerwys, Sir y
Fflint. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.
Dywedodd Cyfawyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett:
“Y delyn yw emblem cenedlaethol Iwerddon ac mae i’w gweld ar
fflagiau, arian – ac mae’n logo i Guiness! Mae’n offeryn
cenedlaethol Cymru, ac mae’r traddodiad o delynori yn ymestyn yn ôl am 1500
mlynedd i’r 6ed ganrif, yn ôl tystiolaeth y beirdd a’u cerddi. Edrychaf ymlaen
yn eiddgar i glywed beth ddigwyddodd pan aeth “Tywysog Cymru” – Gruffydd ap
Cynan – â thelynorion o Iwerddon i gyfarfod eu cefndryd Celtaidd yng Nghymru.
“Ym mis Ebrill eleni, daw telynorion ifanc o’r Iwerddon draw i Ŵyl Delynau
Cymru i ail-greu diddordeb yn y digwyddiad a gymerodd le bron 880 mlynedd yn
ôl.
Nodwyd 2017 yn “Flwyddyn y Chwedl” gan Llywodraeth Cymru, ac
rwyf wrth fy modd fod y Dr Sally Harper wedi cytuno i ddod i’r Ŵyl i
atgoffa telynorion ein cyfnod ni o’r hen chwedl hon. Mae’n braf iawn
gwybod mai cerddor a aned yn Lloegr, ac sydd wedi dod yn rhan o’n
cymdeithas, sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’n haddysgu
fel Cymry am ein etifeddiaeth hynafol!”
Mae’r Ŵyl eleni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth
Nansi Richards a bydd Cystadleuaeth flynyddol Ysgoloriaeth Nansi
Richards ar gyfer telynorion ifanc o dan 25oed o Gymru yn cael ei chynnal yn
Galeri am 6.30pm Nos Fercher y 12fed o Ebrill. Y beirniad fydd
y delynores Ann Jones o Ddulyn sy’n dod yn wreiddiol o Gymru ac a gafodd ei
gwers gyntaf gan Nansi Richards.
CYNGERDD
YR ŴYL
Bydd Cyngerdd yr Ŵyl – “Telynau’r Môr Celtaidd” a
gynhelir Nos Iau, 13 Ebrill am 7.30 pm yn cynnwys perfformiadau
o gerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon gan rai o delynorion mwyaf talentog y ddwy
wlad. Daw deg o fyfyrwyr o’r Conservatory Cerdd yn Nulyn i
berfformio gyda thelynorion o Gymru mewn rhaglen o gerddoriaeth amrywiol – yn
draddodiadol a chlasurol – o ddau lan y Môr Celtaidd.
Y gantores werin, Gwenan Gibbard, fydd yn canu caneuon gwerin
o Gymru a bydd ei chôr newydd “Côr yr Heli” yn ymuno efo hi i gynnal eu
perfformiad cyntaf mewn cyngerdd yng Nghymru cyn croesi’r môr i gystadlu yn yr
Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, yr wythnos ganlynol.
Estynnir croeso cynnes i ddwy o gyn-ddisgyblion disglair
Canolfan Gerdd William Mathias – Elfair Grug Dyer a Rhiain Awel Dyer – i
berfformio unawdau a deuawd gan Lywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis a bydd Côr
Telyn Gwynedd a Môn yn agor y cyngerdd o dan arweiniad, Alwena
Roberts, sy’n diwtor telyn i Wasanaeth Ysgolion Wiliam Mathias.
Yn ystod y cyngerdd, fe lansir taflen ragarweiniol Gŵyl
Delynau Ryngwladol Cymru 2018 fydd yn dathlu pen blwydd 90
oed telynor amlycaf Cymru – Osian Ellis – sydd yn byw ym
Mhwllheli.
Mae tocynnau i’r cyngerdd a’r ddarlith ar gael o Swyddfa
Docynnau Galeri 01286 685222.
Bydd
y delynores Elinor Bennett a’r sielydd Nicki Pearce yn ymddangos mewn cyngerdd
a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant
am 4:00yp ar y 29 Ionawr 2017.
Mae’r
delynores a’r sielydd blaenllaw yn diwtoriaid yn Canolfan Gerdd William
Mathias, sydd a chanolfannau yn darparu gwersi cerdd yng Nghaernarfon a
Dinbych, ynghyd â darparu amryw o weithgareddau cerdd yn y gymuned.
Roedd
Elinor Bennett yn un o’r rhai a sefydlodd Canolfan Gerdd William Mathias ac
sydd wedi bod yn dysgu’r delyn yn y Ganolfan ers y cychwyn. Dywedodd: “Mae’n
wych i weld Canolfan Gerdd William Mathias yn ehangu ei darpariaeth ac edrychaf
ymlaen yn fawr at berfformio gweithiau unawdol a deuawdau gyda Nicki Pearce yn
y cyngerdd arbennig hwn’
Mae’r
cyngerdd hefyd yn gyfle i rai o ensembles y Ganolfan berfformio.
Dywed
Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias “Mae’r ensembles
llinynnol sy’n cael eu harwain gan Nicki Pearce yn gyfle gwych i gerddorion
ifanc ddod ynghyd i fwynhau cyd chwarae.
“Mae
nifer o’r aelodau hefyd yn dod atom am wersi ac mae bod yn rhan o ensemble yn
cynnig cyfle i ehangu eu sgiliau cerddorol.”
Bydd
James Scourse, sy’n Athro yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn
ymddangos gyda Nicki Pearce a’r Ensemble Sielo Hŷn i berfformio’r Consierto i
ddau sielo gan Vivaldi yn ystod y cyngerdd.
Mae
tocynnau sy’n £10 i oedolion a £5 i blant ar gyfer y cyngerdd ar werth gan Canolfan
Gerdd William Mathias.
Cafodd
Canolfan Gerdd William Mathias gryn syndod pan ddaeth un o chwaraewyr y Loteri
Genedlaethol draw i ddweud bod eu cais am nawdd wedi bod yn llwyddiannus.
Cyflwynwyd
siec o £7,000 i’r Ganolfan fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ y Loteri
Genedlaethol. Mae’r ymgyrch yn caniatáu i chwaraewyr ddysgu mwy am y prosiectau
sydd ar eu hennill bob tro maen nhw’n prynu tocyn.
Fe
wnaeth Bernii Owen, 22 oed o Lanfair Pwllgwyngyll, sydd wedi chwarae’r Loteri
Genedlaethol ers iddi fod yn gymwys i chwarae chwe blynedd yn ôl, dreulio
diwrnod yng nghwmni’r delynores Elinor Bennett, a dysgu mwy am y sefydliad a
sut mae’n helpu pobl sy’n caru cerddoriaeth, gan gynnwys rhai ag anableddau
dysgu a dementia.
Esboniodd
Elinor sut fydd yr arian yn helpu’r ganolfan i brynu offerynnau newydd,
uwchraddio ei chyfleusterau a gwella’i darpariaeth addysgu i bobl o bob oed o
bob cwr o’r ardal.
Elinor
Bennett, y delynores o fri rhyngwladol, oedd un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd
William Mathias, ac mae’n dal i addysgu yno heddiw. Meddai:
“Bydd
cyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hwb mawr i’n
sefydliad ni. Mae cerddoriaeth yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i fywydau
pobl hen a’r ifanc fel ei gilydd, boed hynny’n eu helpu i fynegi’u hunain yn
greadigol, cyfathrebu ag eraill, meithrin doniau, magu cyfeillgarwch, cynnig
dihangfa neu wella eu lles meddyliol – gall gynnig manteision di-rif.
“Yn
ogystal â buddsoddi mewn mwy o offer, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynnal
rhagor o ddosbarthiadau ar draws y gogledd-ddwyrain hefyd, lle mae gennym
gangen bellach, a chreu cysylltiadau â mwy o gymunedau, yn enwedig mewn
ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, bydd yn ein helpu i ddatblygu’r
dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnig i blant ifanc ar hyn o bryd yn ogystal â’n
galluogi i ddatblygu’n rhaglenni Doniau Cudd ac Atgofion ar Gân – sydd â’r nod
o helpu pobl ag anableddau dysgu a dementia i gyfathrebu ag eraill.”
Meddai
Bernii Owen, sy’n gweithio fel goruchwylydd ym mwyty Wal yn nhre’r Cofis:
“Mae’n wych dysgu mwy am sefydliad lleol sydd wedi elwa ar arian y Loteri
Genedlaethol, a bod yn rhan o syrpréis mor fawr hefyd.
“Nid
bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyflwyno siec i rywun gan wybod bod yr
arian hwnnw’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cymaint o bobl.
“Roedd
hi mor gyffrous trosglwyddo’r amlen i Elinor a disgwyl iddi ddarllen y cynnwys.
Roedd hi wrth ei bodd ac mor ddiolchgar. Sôn am wenu a chofleidio mawr –
profiad emosiynol tu hwnt a dweud y gwir.
“Wrth
brynu tocyn, y wobr ariannol yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl fel arfer,
ond doeddwn i erioed wedi meddwl rhyw lawer am y ffaith fod rhywfaint o’r arian
yn mynd i sefydliadau gwerth chweil lleol fel Canolfan Gerdd William Mathias.
“Mae
cymryd rhan yn yr ymgyrch wedi bod yn brofiad gwych, a dw i’n siŵr fod
chwaraewyr eraill y Loteri Genedlaethol wedi mwynhau profiad cystal wrth ymweld
â phrosiectau eraill ledled Cymru. Heb os, bydda i’n dweud wrth eraill i ble
mae’r arian yn mynd o hyn ymlaen, yn enwedig ar ôl gweld ei effaith gyda’m
llygaid fy hun, a faint o bobl sydd wedi elwa.”
Meddai
Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da y Loteri Genedlaethol:
“Mae
chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi swm enfawr o £1.6 biliwn i
ariannu prosiectau o Fôn i Fynwy. Nod ymgyrch ‘Diolch Cymru’ yw diolch i
chwaraewyr y loteri – fyddai dim o hyn yn bosib hebddyn nhw. Rydym am i
chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn ymwybodol o’r miloedd o brosiectau
rhagorol ar hyd a lled Cymru na fyddai wedi gweld golau dydd heb eu harian
nhw.”
Mae
Canolfan Gerdd William Mathias, a sefydlwyd ym 1999, wedi ymgartrefu yn Galeri
Caernarfon. Mae’n cynnig gwersi cerdd unigol o lefel dechreuwyr i broffesiynol.
Ar hyn o bryd, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 5 ac 80+ oed yn mynychu gwersi
unigol yn gyson sy’n cael eu darparu gan dîm o ddeugain o diwtoriaid yn y
Ganolfan yng Nghaernarfon ac yng nghangen Dinbych hefyd.
Mae’r
Ganolfan yn darparu cyfleoedd cerdd eraill hefyd gan gynnwys:
‘Camau
Cerdd’ ar gyfer plant hyd at 7 oed
• ‘Doniau Cudd’ ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu
• Côr ac ensemble siambr i bobl ifanc
• Côr oedolion yn ystod y dydd
• Dosbarthiadau theori a chyfansoddi • Cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth
amrywiol
• Gweithdai a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaenllaw • Sesiynau
mewn cartrefi henoed
Bydd y grant o gymorth i adnewyddu a gwella stoc o offerynnau cerdd a
chyfarpar cysylltiedig (megis stolion) y Ganolfan yn ogystal â phrynu
gliniadur ar gyfer golygu fideos a dibenion eraill.
Llongyfarchiadau hefyd i Leisa Gwenllian a Fflur Davies sy’n
cael gwersi llais ar ddod yn drydydd ar y ddeuawd Cerdd Dant o dan 21oed ac i
Math Roberts ar ennill cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas ar y delyn deires
am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Roeddem yn falch iawn o lwyddiant Ela Haf, disgybl a merch ein
tiwtor pres Dylan Williams ar ei llwyddiant yn ennill y Rhuban Glas Offerynnol
i rai o dan 16oed ac i un o’n cyn ddisgyblion, Gwyn Owen ar ennill y Rhuban
Glas i rai dros 19oed. Llongyfarchiadau mawr i Gwyn hefyd ar dderbyn Gradd MA
gydag Anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. Edrychwn ymlaen at
ddilyn ei yrfa broffesiynol.
Roedd yn braf hefyd gweld nifer o’n disgyblion, tiwtoriaid a
chyfeillion yn cystadlu fel aelodau o gorau / partion, perfformio mewn amryw
ddigwyddiadau a chyfeilio yn ystod yr wythnos.
Yn
dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl
Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd
o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano
Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym
Manceinion ac enillodd y brif wobr o £2,000 yn rhoddedig gan Gwmni Roberts of
Port Dinorwic.
Domonkos
Csabay o Hwngari enillodd y wobr gyntaf o £1,250 yn rhoddedig gan y Sickle
Foundation yn y gystadleuaeth i Gyfeilyddion piano. Mae Domonkos yn astudio yn
y Conservatoire yn Birmingham.
Aeth
y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Iau i Callum McLachlan, 17, o
Stockport. Derbyniodd Callum, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chetham’s, wobr o
£700 wedi ei chefnogi gan diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William
Mathias.
Trefnwyd
yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Galeri o’r 29 Ebrill – 2 Mai, gan Ganolfan Gerdd
William Mathias. Cyfarwyddwr yr Ŵyl oedd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones.
Ar
y 6ed o Ebrill bydd Cyfarwyddwr newydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru y pianydd
Iwan Llewelyn-Jones yn mynd ar y lôn gan gynnal perfformiadau byrfyfyr yng
Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda phiano goch wedi ei darparu gan Pianos Cymru a
chymorth Ian Jones, bydd Iwan yn ymweld â pedwar lleoliad ym Mangor,
Porthaethwy a Chaernarfon i chwarae rhaglen amrywiol o gerddoriaeth o Chopin i
Stevie Wonder i aelodau’r cyhoedd.
Dywed
Iwan “ Mae mynd o amgylch efo’r piano goch lachar yn mynd i fod yn lot
fawr o hwyl – mi fyddwch yn ein gweld o bell! Gobeithio y bydd pobl yn mwynhau
clywed cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio yn y lleoliadau annisgwyl yma.
Byddaf yn cymryd ceisiadau gan y cyhoedd felly gall pobl alw heibio ac fe
chwaraeaf rywbeth yn arbennig iddyn nhw neu gallant ganu neu ymuno efo fi mewn
deuawd os ydynt yn dymuno! “
Bwriad
y daith yw codi ymwybyddiaeth am Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016 sy’n cael ei
chynnal gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon rhwng y 29ain o
Ebrill a’r 2il o Fai. Bydd y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd yn cynnwys
cyngherddau, cystadlaethau gyda phianyddion o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan, a
pherfformiadau mewn awyrgylch anffurfiol.
Dydd
Mercher 6ed o Ebrill 9.30am
Ysbyty Gwynedd, Bangor
11.00am Siop Waitrose Porthaethwy
12.30pm Canolfan Arddio Fron Goch, ger Caernarfon
2.30pm Siop Morrison’s Caernarfon
Mae cwcis yn helpu ni ddeall sut mae ein gwefan yn cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr, ac yn angenrheidiol er mwyn i rai rhannau o’n gwefan weithio’n gywir.