by Gwydion Davies | 11 Chwefror, 2016 | Uncategorized @cy
Mae Wyn ap Gwilym o Lanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun, wedi profi
llwyddiant yn ddiweddar wedi iddo basio ei arholiad Telyn Gradd 3.
Mae Wyn yn un o ddisgyblion Morwen Blythin ac yn astudio yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych. Wrth ei fodd gyda cerddoriaeth mae
Wyn eisoes wedi llwyddo ei gradd 8 piano tra’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg
Abergele, cyn iddo fynd ymlaen i astudio Micropalaentoleg, sef yr astudiaeth o
micro-ffosiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wrth astudio yn Aberystwyth, digwyddodd Wyn ymweld â
Eisteddfod Caerfyrddin lle y gwelodd stondin yn arddangos telyn newydd oedd
wedi ei wneud o carbon fiber. Roedd gan Wyn ddiddordeb mawr yn yr offeryn, gan
benderfynu i brynu’r offeryn.
Fe aeth â’r delyn yn ôl gyda ef i’r Ynysoedd Solomon lle’r
oedd yn byw a gweithio ar y pryd. Roedd Wyn yn gweld chwarae’r delyn yn weithgaredd
gwerthfawr gan ei atgoffa o’i wreiddiau Cymreig tra’r oedd mor bell o Gymru.
Atgofia Wyn:
‘Buais yn chwarae’r delyn mewn nifer o lefydd yn yr Ynysoedd,
y lle mwyaf diddorol oedd ar long ymchwil Ffrengig, Y Norris. Roedd y rhan
helaethaf o’r criw yn dod o Lydaw, ac fe gafwyd lot o hwyl yn canu geiriau
Llydaweg i alawon gwerin Cymreig!’
Nid tan ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru yng nghanol y 70au er
mwyn astudio gradd doethuriaeth yn Aberystwyth y bu i Wyn gychwyn gymryd gwersi
telyn. Ond gyda pwysau’r gwaith a babi newydd, rhaid oedd rhoi’r delyn i un
ochr am y tro. Er hyn, teithiodd y delyn gyda ef wrth iddo symud yn ôl i
Ynysoedd Solomon, Singapore, ac yn hwyrach i Saudi Arabia lle y bu’n byw a
gweithio hyd at 2013 pan symudodd yn ôl i Gymru.
Yn 2015, cychwynnodd Wyn wersi Telyn gyda Morwen Blythin, ac
nawr, blwyddyn yn ddiweddarach mae newydd basio ei radd 3 gydag anrhydedd.
Dywedodd ei athrawes:
‘I feddwl mai dim ond ers blwyddyn mae Wyn wedi bod yn dod
aton ni am wersi telyn yma yng Nghanolfan Gerdd William Mathias Dinbych, mae
wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae’n dysgu’n gyflym iawn. Mae Wyn yn
frwdfrydig iawn i ddysgu’r delyn, ac rydw i’n mwynhau ei ddysgu yn fawr iawn’.
Mae Wyn nawr yn edrych ymlaen i barhau gyda’r gwersi, a
chychwyn paratoi at y gradd nesaf.
by Gwydion Davies | 17 Rhagfyr, 2015 | Uncategorized @cy
Nos Lun y 14eg o Ragfyr 2015 cafodd y cyngerdd cyntaf ei gynnal
yn ystafell gerdd hyfryd Canolfan Bryn Seiont Newydd – y cartref gofal dementia
sydd wedi ei agor gan gwmni gofal Pendine Park. Cynhaliodd Marie-Claire Howorth
a Meinir Llwyd Roberts o Ganolfan Gerdd William Mathias gyngerdd rhyngweithiol
anffurfiol gyda rhai o ddisgyblion y prosiect arbennig Camau Nesaf Cerdd, i
blant 4-7 oed.
Cafodd y preswylwyr eu swyno gan y plant yn chwarae a rhannu
eu cerddoriaeth a hefyd gan ei gwisg arbennig ar thema’r Minions. Fe ymunodd y
preswylwyr yn yr hwyl trwy ysgwyd ‘pompoms’ a chwarae clychau. I gloi’r
achlysur cafwyd cyfle i ganu carolau i gyfeiliant dwy o ddisgyblion clarinet
graddau 6 a 8 Marie-Claire a oedd hefyd wedi perfformio unawdau yn ystod y
cyngerdd. Hoffem ddiolch i’r rhieni a’r staff yn Bryn Seiont am wneud y
digwyddiad yma yn bosibl ac yn bleserus. Roedd y plant wedi mwynhau’r cacennau
yn arbennig!
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda cherddor
preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Davies Williams a’r artist preswyl Nia
Lloyd-Roberts i ddatblygu’r fenter bwysig hon rhwng aelodau ifanc a hŷn y
gymuned.
by Gwydion Davies | 10 Rhagfyr, 2015 | Uncategorized @cy
Mae
cyfres gyntaf Camau Cerdd yn Ninbych newydd ddirwyn i ben, ac mae Canolfan
Gerdd William Mathias yn falch iawn o nodi llwyddiant y gyfres.
Mae
Camau Cerdd yn gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng
Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire Howorth ers 2007.
Tiwtor Camau Cerdd yn Ninbych yw Charlotte Green sydd hefyd yn arwain sesiynau
mewn ardaloedd o Wynedd ac Ynys Môn yn dilyn cynnydd diweddar yn narpariaeth y
cynllun.
Nod
y prosiect yw cynnig addysg gerddorol i blant o’r cychwyn cyntaf. Mae gan
addysg gerddorol y potensial i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a
chyfathrebu, deallusrwydd emosiynol, cydsymud a sgiliau cymdeithasol ynghyd â
bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff. Mae Camau Cerdd hefyd yn darparu sail
gerddorol gadarn cyn i blant gychwyn gwersi offerynnol neu leisiol un i un.
Cafwyd
cefnogaeth arbennig gan Fenter Iaith Sir Ddinbych a Celfyddydau Sir Ddinbych i
ddatblygu’r cynllun yn Ninbych a chynhaliwyd sesiynau ar gyfer dau grŵp oedran:
Cynhaliwyd
sesiynau Camau Cyntaf Cerdd i blant rhwng 15 mis a 3 mlwydd
oed yn adeilad HWB Dinbych, gan anelu at ddarparu cyflwyniad cyffredinol i
blant i fyd cerdd, gan hefyd ymdrechu i ysbrydoli rhieni / gofalwyr i
ddefnyddio cerddoriaeth gyda hyder â’u plant.
Cynhaliwyd
sesiynau Camau Nesaf Cerdd i blant rhwng 4 a 7 mlwydd oed ar ôl ysgol yn
Theatr Twm o’r Nant lle mae’r Ganolfan Gerdd hefyd yn cynnig gwersi un i un i
blant ac oedolion. Bwriad y sesiynau cerdd yma a gynhelir trwy gyfrwng y
Gymraeg yw datblygu dealltwriaeth y plant o gerddoriaeth mewn modd hwyliog trwy
ddefnyddio amryw o ddulliau yn cynnwys gemau, sol-ffa ac offerynnau cerdd.
Cynhaliwyd
sesiwn arbennig yn ystod yr wythnos olaf er mwyn dathlu llwyddiant y gyfres. Fe
drefnodd Menter Iaith fod paned a chacen ar gael i bawb ar ddiwedd y sesiwn,
gan roi cyfle i bawb gymdeithasu a thrafod y gyfres.
Cynhaliodd
plant y grwpiau Camau Nesaf gyngherddau anffurfiol i’w rhieni ar ddiwedd y
sesiynau er mwyn dangos y cynnydd a wnaethpwyd yn ystod y tymor. Roedd y plant
yn falch o arddangos yr hyn roeddent wedi ei ddysgu gan gynnwys canu sol-ffa,
chwarae y raddfa bentatonig ar glychau, dangos y rhythmau i’w rhieni a gorffen
y cyngerdd trwy ddawnsio wrth chwarae rhythm Lladin-America ar Clave.
Roedd
y rhieni wrth eu boddau yn gweld eu plant yn mwynhau eu hunain a chael blas o’r
hyn yr oeddent wedi ei ddysgu. Dywedodd Elin Jones:
‘Mae
fy mhlentyn wedi mwynhau y sesiynau’n arw iawn. Rwyf wedi bod yn ei chlywed yn
canu do re mi yn aml. Mae’r gweithgareddau yn hwyliog, lliwgar a chofiadwy.
Diolch i Charlotte am fod mor fywiog a chyfeillgar’.
Eglura
Charlotte, tiwtor Camau Cerdd bwysigrwydd y prosiect i ddatblygiad cerddorol y
plant:
‘Erbyn
i blant gychwyn eu haddysg gerddorol yn yr ysgol neu gychwyn gwersi offerynnol
neu leisiol, bydd Camau Cerdd eisoes wedi datblygu dealltwriaeth y plant o fyd
cerdd – byddant yn deall rhythm; yn gallu darllen cerddoriaeth a byddant yn
gyfarwydd gyda gwahanol offerynnau a’u seiniau. Byddant hefyd yn gallu gwrando
a mynegi eu hunain trwy gerddoriaeth’.
Bydd cyfres nesaf Camau Cerdd yn Ninbych yn cychwyn ar y 11 Ionawr 2016 gyda nifer o’r plant yn edrych ymlaen at barhau gyda’u addysg gerddorol. Mae croeso i aelodau newydd.
by Gwydion Davies | 16 Tachwedd, 2015 | Uncategorized @cy
Roedd
Theatr Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau cerddoriaeth y piano o bedwar ban
byd brynhawn Sul yr 8fed o Dachwedd. Er gwaetha’r tywydd garw, prin iawn oedd y
seddau gwag a’r gynulleidfa frwdfrydig – oedd yn amrywio o 4 mis i 80+ mewn
oedran – wedi cael gwledd gerddorol i lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru
2016.
Fe
berfformiodd dim llai na deuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William
Mathias raglen o ddeuawdau a thriawdau o’r repertoire clasurol, jazz a
phoblogaidd gyda delweddau i gyd-fynd efo’r gerddoriaeth. Ar ôl y cyngerdd fe
fwynhaodd y gynulleidfa baned a darn o gacen a wnaethpwyd yn arbennig ar gyfer
yr achlysur gan Enlli Vaughan o Langernyw.
Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Iwan Llewelyn-Jones ragflas o’r hyn
sydd i’w ddisgwyl yn yr Ŵyl yn 2016. Bydd y rhaglen yn cynnwys datganiad
gan y pianydd byd-enwog Peter Donohoe, noson yn cynnwys y gorau o gerddoriaeth
a cherddorion Cymru, a chyngerdd gala ‘Ffiesta’ i’r teulu oll. Gyda
chystadlaethau, dosbarthiadau a chyngherddau anffurfiol mae Gŵyl Biano
Ryngwladol Cymru yn addo i fod yn bedwar diwrnod bythgofiadwy
Yn
ystod y gyngerdd cafwyd lansiad swyddogol menter codi arian yr Ŵyl – Noddi Nodyn
– cyfle arbennig i unigolion a busnesau gyfrannu tuag at yr Ŵyl drwy noddi
unrhyw nodyn ar y piano am £50.
Yng
ngeiriau Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts:
Roedd
o’n deimlad ffantastig gweld ein tiwtoriaid piano yn dod at ei gilydd i rannu
llwyfan. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt ac i Gyfarwyddwr yr Ŵyl Iwan
Llewelyn-Jones am eu gwaith caled. Rydym hefyd yn estyn ein gwerthfawrogiad i
Ian Jones (Pianos Cymru) am gefnogi’r cyngerdd. Yn gryno, roedd yr achlysur yn
llwyddiant ysgubol!
Bydd
Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn cael ei
chynnal rhwng Dydd Gwener 29ain o Ebrill a Dydd Llun yr 2il
o Fai 2016 yn Galeri Caernarfon.
by Gwydion Davies | 7 Tachwedd, 2015 | Uncategorized @cy
Ar yr 8fed o Dachwedd am 3 o’r gloch y
prynhawn fe fydd Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau o bedwar ban byd wrth i
ddeuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias ddod ynghyd i
arddangos eu talentau, dathlu cerddoriaeth piano, a rhoi blâs o’r hyn y gellir
ei ddisgwyl yn yr Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhelir yn y Galeri yn ystod
Gwanwyn 2016.
Bydd y rhaglen yn cynnwys gwledd o
ddeuawdau a thriawdau piano Clasurol, Jazz a Phoblogaidd, ac yn dilyn siwrne
gerddorol ar draws y byd – o ddinasoedd Ewrop ac Asia i draethau Awstralia, o
Tin Pan Alley Efrog Newydd i dirwedd unigryw yr Affrig – gyda gweithiau gan y cyfansoddwyr Fauré, Ravel, Poulenc, Handel,
Dvořák a Rachmaninov, Kabalevsky, Benjamin, Grainger, Gershwin a Brubeck. Un o
uchafbwyntiau’r cyngerdd fydd perfformiad o’r ddeuawd piano ‘Eryri’ a
gyfansoddwyd gan un o fyfyrwyr talentog y Ganolfan Gerdd, Math Roberts.
Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Gŵyl Biano
Ryngwladol Cymru 2016, Iwan Llewelyn-Jones:
Dyma gyfle gwych i diwtoriaid piano
CGWM ddod at eu gilydd ar lwyfan Theatr y Galeri i berfformio rhaglen o
gerddoriaeth apelgar sy’n llawn hwyl a sbri!
Dywed Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr
Canolfan Gerdd William Mathias:
Rydym yn diolchgar iawn i’r tiwtoriaid
am eu gwaith caled yn paratoi ar gyfer y cyngerdd arbennig yma fydd yn gyfle
hefyd i ni lawnsio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.
by Gwydion Davies | 3 Tachwedd, 2015 | Uncategorized @cy
Cynhaliwyd cyngerdd diwedd mis Medi gan Ganolfan Gerdd William
Mathias yn Galeri Caernarfon er mwyn cydnabod llwyddiannau myfyrwyr y Ganolfan
yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Llenwyd y noson gan berfformiadau gan fyfyrwyr y Ganolfan
gydag unawdwyr gan gynnwys Medi Morgan, Medi Evans, Megan Hunter, Erin Swyn
Williams, Gwenno Morgan, Ynyr Pritchard, Seimon Menai, a Math Roberts yn
perfformio darnau amrywiol.
Yn ogystal cafodd rhai o grwpiau offerynnol y Ganolan y cyfle
i berfformio gan gynnwys yr Ensemble Cello, Triawd Piano, Pedwarawd Llinynnol,
ynghyd a Chôr Siambr y Ganolfan.
Nid yn unig perfformio oedd yn cael ei glodfori ar y noson,
ond cymerodd y Ganolfan Gerdd falchder mewn cyflwyno darnau gan ambell i
gyfansoddwr ifanc.
Mae Thalia Lichtenstein yn aelod o’r Ensemble Cello, a rhai
misoedd yn ôl fe gyfansoddodd ddarn yn arbennig ar gyfer y grŵp o’r enw ‘Atgofion
Heddychlon’. Braf oedd clywed y darn yn cael ei chwarae yn gyhoeddus am y tro
cyntaf gan yr ensemble.
Dywedodd Nicola Pierce, athrawes cello’r Ganolfan ac arweinydd
yr ensemble:
Fe gyfansoddodd Thalia ddarn hyfryd yn arbennig ar gyfer y
grŵp. Roedd yn fraint i ni berfformio’r gwaith hwn ac yn brofiad gwych i Thalia
– nid yn unig o gael clywed y darn yn cael ei berfformio ond hefyd i arwain y
perfformiad.
Cyfansoddwr ifanc arall a roddwyd sylw iddo yn ystod y
cyngerdd oedd Gwydion Rhys a gyfansoddodd ‘Introduction & Grand
Polonaise’ ar gyfer cello a phiano.
Cyfansoddodd y darn gan Gwydion, 12 oed o Lanllechid, yn arbennig
ar gyfer ei athrawes cello, Nicola Pierce a berfformiodd y darn gyda’r pianydd
Steven Evans ar y noson. Dywedodd Nicola:
Dyma ddarn aeddfed gan Gwydion sy’n arddangos nifer o
dechnegau gwahanol ar y cello a’r piano.
Un o uchafbwyntiau’r noson oedd cyflwyno gwobrau i rai o
ddisgyblion y Ganolfan. Enillodd Math Roberts o Lanrug Ysgoloriaeth Ben Musket
a chwpan er cof am Noel ab Owen Roberts aelod o Gôr Meibion Caernarfon. Ac fe
gwobrwywyd Erin Swyn sy’n derbyn gwersi yng nghangen Dinbych y Ganolfan Gerdd Gwpan
er cof am Thomas William Jones, aelod o Gôr Meibion Caernarfon.
Daethpwyd â’r cyngerdd i ben gyda darnau o Offeren Mozart yn
cael ei ganu gan Gôr Siambr y Ganolfan Gerdd sy’n cyfarfod ar nosweithiau Iau
yn Galeri.
Yn ystod y cyngerdd cyhoeddodd Canolfan Gerdd William Mathias
y bydd Gŵyl Biano
Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal rhwng y 29 Ebrill a 2 Mai 2016 o
dan gyfarwyddyd y pianydd adnabyddus o Gymru, Iwan Llewelyn-Jones.
Bydd cyngerdd arbennig gan diwtoriaid piano’r Ganolfan Gerdd
yn cael ei gynnal ar yr 8fed o Dachwedd i godi arian ar gyfer yr Ŵyl Biano gyda
rhaglen hwyliog o gerddoriaeth o bedwar ban byd – o Gaernarfon i’r Caribî!
by Gwydion Davies | 23 Hydref, 2015 | Uncategorized @cy
Bydd y prosiect cerdd arloesol Camau Cerdd yn dod i Ddinbych
am y tro cyntaf yn fuan iawn.
Mae’r prosiect sydd eisoes wedi bod yn rhedeg yng Ngwynedd am
nifer o flynyddoedd yn cael ei redeg gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn
partneriaeth gydag un o diwtoriaid y Ganolfan, Marie-Claire Howorth.
Tiwtor y prosiect yn Ninbych fydd Charlotte Amy Green sydd
wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Marie-Claire am sawl mlynedd ac sydd hefyd
yn cynnal sesiynau yn Llanfairpwll a Phenygroes.
Mae Charlotte, sydd wedi ennill gradd cerdd ac sy’n gerddor
brwd gan chwarae i Fand Pres Porthaethwy ynghyd â rhoi gwersi offerynnau pres
mewn ysgolion ac yn hyfforddi Band Iau Dyffryn Nantlle, yn edrych ymlaen yn
fawr at gael cychwyn y prosiect yn Ninbych:
‘Wedi i ni gynnal gwersi blasu nôl ym mis Gorffennaf rydym
ni’n hyderus y bydd Camau Cerdd yn ffynnu yn Ninbych ac y byddwn ni’n gallu
sicrhau fod plant yr ardal yn cael cychwyn cerddorol cadarn.’
Cymera’r Ganolfan Gerdd falchder yn y ffaith bod Camau Cerdd
yn cael ei gynnal gan gerddor medrus sydd â phrofiad helaeth mewn dysgu
cerddoriaeth i blant ifanc.
Mae’r prosiect yn Ninbych wedi ei rannu i mewn i ddau grŵp
oedran:
Camau Cyntaf i blant rhwng 15 mis a 3 mlwydd oed, sy’n anelu
at ddarparu cyflwyniad cyffredinol i blant i fyd cerdd, gan hefyd ymdrechu i
ysbrydoli rhieni / gofalwyr i ddefnyddio cerddoriaeth gyda hyder â’u plant.
Mae Camau Nesaf ar gyfer plant rhwng 4 a 7 mlwydd oed. Yma’r
bwriad yw parhau i ddatblygu dealltwriaeth y plant o gerddoriaeth mewn modd
hwyliog trwy ddefnyddio amryw o ddulliau yn cynnwys gemau, sol-ffa ac
offerynnau cerdd.
‘Erbyn i blant gychwyn eu haddysg gerddorol yn yr ysgol neu
gychwyn gwersi offerynnau neu ganu, bydd Camau Cerdd yn barod wedi datblygu
dealltwriaeth y plant o fyd cerdd – deall rhythm, gallu darllen cerddoriaeth,
syniad da o wahanol offerynnau a’u seiniau, a bod yn gallu gwrando a mynegi eu
hunain gyda cherddoriaeth’ eglura Charlotte Green, tiwtor Camau Cerdd Dinbych.
Bydd y
gyfres gyntaf o 10 sesiwn Camau Cerdd, a gefnogwyd gan Fenter Iaith Sir Dinbych
a Chelfyddydau Sir Ddinbych yn cychwyn ar y 28ain o Fedi 2015 yn Ninbych.
by Gwydion Davies | 23 Hydref, 2015 | Uncategorized @cy
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Telynau Clwyd ar ddydd Sul y 4ydd o
Hydref yn adeilad Hwb Dinbych, gan groesawu telynorion ar draws Ogledd Cymru
i’r sesiwn, ac hynny yn dilyn sesiwn blasu rhagarweiniol gynhaliwyd ym mis
Gorffennaf er mwyn asesu’r galw am weithgaredd o’i fath yn ardal Ddinbych.
Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fydd a
arweiniodd y côr telyn newydd a hynny dan adain Canolfan Gerdd William Mathias
sydd wedi bod yn darparu gwersi cerdd yn Ninbych ers 2012 pan agorwyd ei gangen
yn y dref.
Mae sefydlu Côr Telynau yn ardal Dinbych wedi bod yn freuddwyd
i Morwen Blythin ers peth tro.
‘Rwy’n meddwl ein bod ni gyd fel tiwtoriaid telyn yn yr ardal
wedi bod yn gobeithio i weld côr telyn megis Telynau Clwyd am nifer o
flynyddoedd. Rwyf wrth fy modd o gael bod yn rhan o’r grŵp newydd a chyffrous
hwn’, eglura Morwen sydd hefyd yn dysgu’r delyn yn Ninbych fel un o diwtoriaid
Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae’r Ganolfan Gerdd yn ddiolchgar tu hwnt i gwmni rhentu
telynau – Telynau Tandderwen sydd wedi cytuno i gefnogi’r grŵp newydd yn ystod
y misoedd cyntaf.
Dywedodd Hefina Williams ar ran gwmni Telynau Tandderwen:
‘Braf oedd clywed fod Canolfan Gerdd William Mathias yn ehangu
eu darpariaeth o addysg gerddorol yn yr ardal drwy gyfrwng Côr Telynau Clwyd.
Rwyf yn ymfalchïo mewn darparu cefnogaeth i’r grŵp newydd hwn ac yn dymuno’r
gorau i’r prosiect’.
Daeth 12 o delynorion i’r sesiwn gyntaf gan ddysgu 2 darn
newydd. Roedd Dylan Cernyw wrth ei fodd gyda’r cynnydd a welodd gyda’r grŵp.
Dywedodd:
‘I feddwl mai dyma cyfarfod cyntaf y grŵp mae nhw wedi gwneud
cynnydd ardderchog. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gyfarfod nesaf Telynau Clwyd
ac i barhau â’r dysgu’.
I blant ysgol uwchradd safon gradd 3 ac uwch gan fwyaf fydd y
prosiect yn ei dargedu i gychwyn. Ond mae’r Ganolfan yn dymuno i unrhyw un sydd
â diddordeb i gysylltu er mwyn dod i ddeall y galw am weithgareddau cerdd
eraill.
by Gwydion Davies | 23 Hydref, 2015 | Uncategorized @cy
Cynhaliwyd cyngerdd ar nos Wener y 18fed o Fedi gan Canolfan
Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon er mwyn cydnabod llwyddiannau’r
Ganolfan Gerdd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.
Ymhlith y myfyrwyr a berfformiodd ac a dderbyniodd wobrau
roedd Erin Swyn o Lannefydd sydd wedi bod yn derbyn gwersi gyda Ann Atkinson
yng Nghangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias am sawl mlynedd bellach.
Gwobrwywyd Erin, disgybl yn Ysgol Glan Clwyd, gyda Chwpan a
roddwyd gan Gôr Meibion Caernarfon er cof am un o’u cyn aelodau, Thomos William
Jones. Derbyniodd y gwpan am iddi gael y marciau uchaf ymhlith disgyblion y
Ganolfan Gerdd mewn arholiad ymarferol gradd 1 i 5 gan lwyddo i ennill 142 marc
allan o 150 yn ei arholiad canu gradd 3 yn ddiweddar.
Roedd Erin sydd hefyd yn derbyn gwersi piano yn y Ganolfan
Gerdd gyda Teleri-Siân, a gwersi clarinét yn yr ysgol gyda Dave Hopkins, wedi
ei synnu wrth glywed ei bod wedi derbyn y marciau uchaf mewn arholiad ymhlith
myfyrwyr y Ganolfan:
‘Doedd gennyf ddim syniad fy mod wedi ennill y gwpan nes
clywed fy enw yn cael ei alw allan! Roedd y Ganolfan Gerdd wedi ei gadw’n
sypreis i mi gan ddweud wrthyf mai perfformio ar y noson oeddwn yn ei wneud yn
unig!’
Roedd Ann Atkinson, tiwtor canu Erin wrth ei bodd gyda’r
newyddion. ‘Mae Erin wedi gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn – mae’n fraint
cael ei dysgu, ac rwyf wrth fy modd o weld ei gwaith caled yn dwyn ffrwyth.
Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at fynd ymlaen gyda Erin i ddysgu repertoire
newydd a chychwyn paratoi ar gyfer ei arholiad gradd 4.’
Bu’r gantores ifanc yn rhannu’r llwyfan gyda rhai o gerddorion
talentog eraill y ganolfan gerdd gan gynnwys Ensemble Cellos y Ganolfan,
unawdwyr eraill, triawdau a phedwarawdau, perfformiad o ddau ddarn gan
gyfansoddwyr ifanc y Ganolfan, ynghyd â pherfformiad o ambell i ddarn o Offeren
Mozart gan Gôr Siambr y Ganolfan.
Dathlodd y Ganolfan Gerdd ei phen-blwydd yn 15 mlwydd oed yn
ddiweddar ac dim ond yn ddiweddar yn 2012 y cychwynnodd ddarparu hyfforddiant
cerdd yn Ninbych gyda darpariaeth o brosiectau megis Camau Cerdd i blant ifanc,
grŵp telyn Telynau Clwyd a gwersi theori yn cael eu cynnig gan y Ganolfan yn
Ninbych am y tro cyntaf ym mis Hydref.
by Gwydion Davies | 5 Awst, 2015 | Uncategorized @cy
Cynhaliodd cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias
ddiwrnod agored ym mis Gorffennaf 2015. Un o’r gweithgareddau a gynhaliwyd ar y
diwrnod oedd grŵp telyn er mwyn asesu’r diddordeb mewn ffurfio grŵp telynau a
fyddai’n cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.
Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fu’n
arwain y grŵp, ac fe gafwyd ymateb da iawn i’r syniad o ffurfio grŵp telyn a
fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd.
Roedd Morwen a Dylan wrth eu boddau gyda’r cynnydd sylweddol a
wnaeth y grŵp yn ystod y sesiwn gan iddynt fedru dysgu dau ddarn newydd ac yna
rhoi perfformiad anffurfiol i’r rhieni ar y diwedd.
Dywedodd Morwen Blythin:
Mae dysgu ac yna perfformio dau ddarn o’r newydd yn dipyn o
gamp gan feddwl mai dyma’r tro cyntaf i’r grŵp gyfarfod! Rydw i a Dylan wrth
ein boddau bod Canolfan Gerdd William Mathias am gychwyn y grŵp Telynau Clwyd
nawr ar sail barhaol.
Yn dilyn y llwyddiant hwn, bydd y grŵp telyn yn cyfarfod ar
sail reolaidd, gan gyfarfod unwaith y mis yn Ninbych.
Mae Telynau Clwyd nawr yn gwahodd rhagor o aelodau i ymuno â’r
grŵp. Cysylltwch â’r Ganolfan er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn ymuno.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu gwersi cerdd o’r
safon uchaf yn ei changen yn Ninbych, ynghyd â’i phrif gangen yng Nghaernarfon.
Mae’r Gangen wedi bodoli yn Ninbych ers 2012, a bellach yn
cynnig gwersi cerdd gyda thiwtoriaid profiadol, ynghyd â phrosiectau arloesol Camau
Cerdd sy’n cyflwyno plant chwe mis i saith mlwydd o oed i gerddoriaeth, a
phrosiect Doniau Cudd sy’n cynnig sesiynau cerdd i bobl ag anableddau
dysgu, ynghyd â phrosiectau eraill yn y gymuned.
Nod Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych yw efelychu’r
llwyddiant a welwyd yn ei phrif ganolfan yng Nghaernarfon sydd erbyn hyn yn
darparu gwersi cerdd wythnosol i dros 400 o bobl o bob oed gyda dros 45 o
diwtoriaid profiadol.
by Gwydion Davies | 17 Gorffennaf, 2015 | Uncategorized @cy
Cynhaliwyd diwrnod agored ‘Taro Traw’ llwyddiannus gan
Ganolfan Gerdd William Mathias ar y 12 o Orffennaf yn ei changen yn Theatr Twm
o’r Nant, Dinbych.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn darparu
hyfforddiant cerdd o’r safon uchaf i bobl o bob oed yn ei phrif Ganolfan yn
Galeri Caernarfon am fwy na deng mlynedd bellach, ac ers 2012, mae wedi
bod yn cynnig gwersi cerdd yn ei changen yn Ninbych ynghyd â gweithgareddau
eraill yn y gymuned.
Cafwyd cychwyn gwych i’r diwrnod gyda gweithdy telyn gan Dylan
Cernyw a Morwen Blythin. Daeth telynorion o bob oed i’r gweithdy gan gael cyfle
i gyd chwarae mewn awyrgylch hwyliog.
Profodd y gweithdy i fod yn llwyddiannus tu hwnt, ac fe
lwyddodd y grŵp i ddysgu dau ddarn mewn cyfnod byr iawn, gan roi perfformiad
anffurfiol ar y diwedd.
Roedd Morwen Blythin wrth ei bodd gyda’r cynnydd a wnaeth y
grŵp:
Mae dysgu ac yna perfformio dau ddarn o’r newydd yn dipyn o
gamp gan feddwl mai dyma’r tro cyntaf i’r grŵp gyfarfod! Rwyf yn obeithiol nawr
fod hyn wedi gosod sylfaen i Ganolfan Gerdd William Mathias ffurfio côr telyn
i’r dyfodol a fydd yn cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.
Bu’r diwrnod agored yn gyfle i’r Ganolfan gyflwyno un o’i
phrosiectau arloesol arall yn yr ardal am y tro cyntaf, sef prosiect ‘Camau
Cerdd’ sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth gyda Marie-Claire
Howorth.
Mae prosiect Camau Cerdd yn arbenigo mewn darparu addysg gerddorol
i blant rhwng 6 mis oed, a 7 mlwydd oed.
Cynhaliwyd tri grŵp oedran yn ystod y diwrnod gan diwtoriaid y
prosiect, Marie-Claire Howorth a Charlotte Green a oedd wrth eu boddau o weld
pob un o’r tri grŵp yn llawn gyda chyfanswm o 32 o blant yn cymryd rhan.
Dywedodd Marie-Claire:
Wedi sawl mlwyddyn bellach o gyflwyno prosiect Camau Cerdd yn
llwyddiannus ledled sir Gwynedd, mae’n amlwg i ni fod galw am brosiect
cerddorol i blant ifanc yn ardal Dinbych, ac fe edrychwn ymlaen at gynnal
y prosiect yn yr ardal yn y dyfodol agos.
Fe gynigwyd gwersi blasu am ddim gyda thiwtoriaid profiadol y
Ganolfan hefyd, gyda nifer o blant ac oedolion yn cymryd mantais o’r cyfle i
roi cynnig ar offeryn cerdd am y tro cyntaf.
Daeth y diwrnod i ben gyda chyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ gan
fyfyrwyr y Ganolfan, ac fe groesawodd y Ganolfan Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych
a Chymar y Cadeirydd, Gwyneth Kensler a Gaynor Morgan Rees i’r cyngerdd ynghyd
â Phwyllgor Theatr Twm o’r Nant i fwynhau perfformiadau gan fyfyrwyr o bob oed
a gallu cerddorol.
Mae’r Ganolfan Gerdd yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal sesiynau cerdd mewn
cartrefi sy’n cynnig
gofal dementia o fewn Sir Ddinbych yn y misoedd nesaf yn ogystal â pharhau i ddatblygu ei chynllun Doniau Cudd ar gyfer plant ac oedolion
sydd ag anableddau dysgu o fewn y Sir.
by Gwydion Davies | 8 Gorffennaf, 2015 | Uncategorized @cy
Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych yn agor ei drysau
i bawb ar gyfer diwrnod o weithgareddau cerdd ar y 12 Gorffennaf 2015. Bydd y
diwrnod yn cynnwys gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin, Camau
Cerdd sef prosiect y Ganolfan i blant rhwng 6 mis a 7 mlwydd oed, cyngerdd
Llwyfan Cerdd gan ddisgyblion y Ganolfan, a gwersi blasu am ddim.
Mae cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias wedi bodoli
yn y dref ers 2012 ac wedi tyfu gan gynnig gwersi offerynnol a lleisiol gyda
thiwtoriaid profiadol yn cynnwys Ann Atkinson, Teleri Siân, Glian Llwyd, Alfred
Barker, a Morwen Blythin. Yn ogystal, datblygwyd prosiectau cymunedol megis
Doniau Cudd ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu a sesiynau cerdd mewn
cartrefi henoed mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Celfyddydol Sir
Ddinbych.
Bydd y diwrnod yn cychwyn ar fore Sul y 12 o Orffennaf gyda
gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin. Mae’r gweithdy hwn yn agored
i delynorion o bob oedran a gallu cerddorol, a bydd yn diweddu gyda chyngerdd
byr anffurfiol am 12.
Mae Camau Cerdd yn brosiect y mae Canolfan Gerdd William
Mathias eisoes yn ei gynnig yng Ngwynedd. Mae arweinydd y prosiect,
Marie-Claire Howorth wrth ei bodd o gael cyflwyno’r prosiect yn Ninbych am y
tro cyntaf. Dywedodd:
‘Wedi sawl mlynedd o gynnal Camau Cerdd yn llwyddiannus ledled
Gwynedd, rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael cyflwyno’r prosiect yn Ninbych.
Mae’n brosiect cyffrous a phwysig a chredaf fod ganddo’r potensial i ddatblygu
sgiliau llythrennedd, rhifedd, cydsymud, y cof a sgiliau cymdeithasol ynghyd â
bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff yn gyffredinol. Mae’r prosiect hefyd yn
datblygu dealltwriaeth yr unigolyn o ddiwylliant a hunaniaeth gan fod y
dosbarthiadau’n ddwyieithog ac yn annog dysgu caneuon gwerin o oedran ifanc.
Bydd plant ifanc a’u teuluoedd yn cael y cyfle i ddarganfod byd cerdd drwy
gyfrwng offerynnau cerdd, canu, gemau a mwy’.
Bydd sesiynau yn targedu plant 6-24mis oed, 2&3oed a
4-7oed yn cael eu cynnal yn ystod y prynhawn. Bydd pris arbennig o £2 y plentyn
er mwyn dathlu cychwyn y prosiect yn Ninbych.
Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnig gwersi blasu am ddim gan rai
o’r tiwtoriaid profiadol. Bydd gwersi blasu telyn, piano, ffidil, a chanu yn
cael eu cynnig ar y diwrnod. Cysylltwch â’r Ganolfan er mwyn trefnu amser eich
gwers blasu.
I gloi’r diwrnod bydd cyngerdd Llwyfan Cerdd yn cael ei gynnal
gan fyfyrwyr y Ganolfan. Mae cyngherddau Llwyfan Cerdd y Ganolfan yn darparu
cyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu eu hyder trwy berfformio mewn awyrgylch
anffurfiol a chyfeillgar. Nid oes pris mynediad ond croesawir rhoddion ar ddiwedd
y cyngerdd.
by Gwydion Davies | 2 Gorffennaf, 2015 | Uncategorized @cy
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Elin Roberts fel
rhan o’i gradd cerdd ym Mhrifysgol Bangor. Mae Elin wedi bod yn gweithio gyda
ni er mwyn trefnu cyfres o gyngherddau gan gyn-ddisgyblion. Dyma gofnod ganddi
yn trafod ei gwaith i’r Ganolfan:
Fel cyn-fyfyriwr o Ganolfan Gerdd William Mathias a myfyriwr
MMus ym Mhrifysgol Bangor, rwyf yn ffodus iawn o gael gweithio yma yn y
Ganolfan dros yr haf fel rhan o’m lleoliad ATM. Mae’r ATM (Cronfa Gymdeithasol
Ewrop) yn ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr meistr, sydd yn cefnogi eu
astudiaethau ac yn galluogi iddynt weithio ar gyfer cwmni lleol.
Un o’r tasgau a roddwyd i mi yw trefnu cyfres o gyngherddau
sydd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr. Mae nifer o’r myfyrwyr hyn yn astudio mewn coleg
cerdd, neu wedi graddio yn ddiweddar ac ar fin cychwyn ar eu gyrfa
broffesiynol, ac yn falch o gael y cyfle i berfformio yn eu ardaloedd lleol.
Mae’r Ganolfan hefyd, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at eu gweld yn ol yng
Ngogledd Cymru!
Elin Roberts
Dyma fanylion y cyngherddau sydd i ddod:
Meinir Wyn Roberts (soprano) a Steven Evans (piano)
Prynhawn dydd Sadwrn, Gorffennaf 18, 3yh
Neuadd Feed My Lambs, Caernarfon
Gwyn Owen (trwmped) a Steven Evans (piano)
Nos Iau, Awst 13, 7yh
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
by Gwydion Davies | 30 Mehefin, 2015 | Uncategorized @cy
Ar Ddydd Gwener y 19eg a Dydd Sadwrn yr 20fed o
Fehefin aeth Camau Cerdd i ymweld â’r cae Sioe ym Mona ar gyfer Gŵyl Teulu
Ynys Môn.
Cafwyd tri sesiwn ar y ddau ddiwrnod ac mi ddoth amrywiaeth o
blant i gyfarfod Mr. Cerdd a dysgu am gerddoriaeth.
Ar y Dydd Gwener roedd ysgolion o amgylch Môn yn yr Ŵyl ac
roedd y rhai a ddoth i’r sesiynau Camau Cerdd gyda Charlotte a Gethin wedi
dysgu am rythmau gwahanol a sut i’w chwarae nhw mewn amser gydag offerynnau taro.
Wnaethon nhw hefyd dysgu i ganu sol-ffa gydag ystumiau dwylo.
Ar y Dydd Sadwrn roedd hi’n dro i blant ifanc cael sesiynau
Cerdd tro yma gyda’i rhieni a Marie-Claire a Gethin. Wnaethon nhw gyfarfod Mr,
Cerdd a chanu caneuon a chwarae offerynnau wrth glywed llyfr ‘Dwndwr yn y
Jyngl’ (gan Andreae a Wojtowycz).
Cafwyd pawb amser bendigedig!
by Gwydion Davies | 3 Mehefin, 2015 | Uncategorized @cy
Congratulations to the following students who receive their tuition at CGWM on their success in the National Urdd Eisteddfod last week :
Llongyfarchiadau gwresog i’r myfyrwyr canlynol sy’n derbyn eu
hyfforddiant yn CGWM ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
wythnos diwethaf :
Unawd Llinynnol Bl. 7-9 : Gwydion Rhys 3ydd Tiwtor : Nicki
Pearce
Unawd Merched Bl. 7-9 : Llio Meirion Rogers 2il Tiwtor : Ann
Atkinson
Unawd Piano Bl. 10 ac o dan 19 : Math Roberts 2il Tiwtor
: Iwan Llewelyn-Jones
Unawd Chwythbrennau Bl.10 ac o dan 19 : Megan Hunter 2il
Tiwtor : Rhiannon Mathias
Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25oed : Gwen Elin 3ydd
Tiwtor : Mary Lloyd-Davies
Llongyfarchiadau hefyd i Mabon Llyr sy’n aelod o ddeuawd
linynnol CGWM ar ddod yn 3ydd yn yr Unawd Llinynnol Bl.10 ac o dan 19oed.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Gwen Elin ac un
o’n cyn-ddisgyblion Meinir Wyn Roberts (sydd bellach yn astudio yn yr Academi
Gerdd Frenhinol, Llundain) yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn yr Hydref
– Pob lwc i chi’ch dwy a llongyfarchiadau ar gael eich dewis.
Roeddem yn hynod falch o glywed am lwyddiant Math Roberts yng
nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi. Daeth cyfansoddiad Math ar gyfer y delyn yn
2il yn y gystadleuaeth. 15oed yw Math ar roedd y gystadleuaeth yn agored i rai
o dan 25oed. Tipyn o gamp! Mae Math yn cael gwersi telyn gyda Elinor
Bennett yn CGWM ac fe gychwynodd gyfansoddi y gwaith mewn gweithdai oedd yn
rhan o Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2014 a drefnwyd gan CGWM.
Llongyfarchiadau hefyd i’r holl fyfyrwyr gafodd lwyddiant mewn
cystadlaethau eraill yn cynnwys llefaru, ensembles a chorau yn ystod yr
wythnos.
Strings Solo Year 7-9 : Gwydion Rhys 3rd
Tutor : Nicki Pearce
Girls’ Solo Year 7-9 : Llio Meirion Rogers 2nd
Tutor : Ann Atkinson
Piano Solo Yr. 10 – under 19 : Math Roberts 2nd
Tutor : Iwan Llewelyn-Jones
Woodwind Solo Yr.10 – under 19 : Megan Hunter 2nd
Tutor : Rhiannon Mathias
Song from a Musical for singers aged 19-25 : Gwen Elin 3rd
Tutor : Mary Lloyd-Davies
Congratulations also to Mabon Llyr who is a member of CGWM’s chamber
duo for winning 3rd prize in the Strings Solo for Year 10- under 19
years.
We look forward to seeing Gwen Elin and one of our ex-students
Meinir Wyn Roberts (now studying at the Royal Academy of Music, London) taking
part in the Bryn Terfel Scholarship competition in the Autumn. Good luck to you
both and well done for being selected.
We were thrilled to hear about Math Roberts’ success in the
Composer’s Medal competition. 15 year old Math’s composition for the harp was
awarded second place in the competition which was open to composers under the
age of 25 – quite an achievement. Math studies the harp with Elinor Bennett at
CGWM and started composing the piece during the composition workshops arranged
by CGWM as part of the 2014 Wales International Harp Festival.
Congratulations also to all the students who were successful
in other competitions including recitation, ensembles and choirs during the
week
by Gwydion Davies | 3 Mehefin, 2015 | Uncategorized @cy
Mae cyfarwyddwr Gŵyl Gitarau@Galeri, Neil Browning wrth ei
fodd gyda llwyddiant digwyddiad i’r gitâr a lwyddodd i ddenu gitarwyr ar draws
Cymru i Gaernarfon i ddysgu mwy am y gitâr ac i fynychu cyngerdd gan y
gitarwr adnabyddus Gary Ryan.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y 22-24 Mai 2015, gan gychwyn gyda
digwyddiad meic agored lle’r oedd pob aelod o’r cwrs yn cael eu gwahodd i
berfformio yn y bar.
Fe barhaodd y penwythnos gyda chyfres o weithgareddau
hyfforddiant a gweithdai gyda thiwtoriaid gwadd yn cynnwys Stuart Ryan, Neil
Browning, Andy Maceknzie, Colin Tommis, a Dave King. Rydym wedi gwirioni wrth
fod yn gallu cynnig amrywiaeth mor eang o arddulliau gitâr yn ystod y
digwyddiad.
Uchod y mae llun o weithdy Rhythm Jazz Sipsi Andy Mackenzie
lle gyflwynodd y sylfaen i chwarae rhythm ‘la pompe’ a chordiau.
Croesawodd yr Ŵyl hefyd gitarydd enwog Gary Ryan i roi
dosbarth meistr ac i berfformio mewn cyngerdd ar nos Sadwrn. Perfformiwyd
amrywiaeth o gerddoriaeth gan Gary gan gynnwys cerddoriaeth Pratorius, Dowland
a Bach ynghyd â chyfansoddiadau ei hun oedd yn arddangos techneg arloesol ar y
gitâr.
by Gwydion Davies | 12 Mai, 2015 | Uncategorized @cy
Gitarau@Galeri – 22-24 Mai 2015
Bydd yr unawdydd gitâr enwog Gary Ryan yn ymuno â thîm o
gitarwyr profiadol i hyfforddi a pherfformio yn nigwyddiad Gitarau@Galeri y mis
hwn yng Nghaernarfon. Bydd Canolfan Gerdd William Mathias unwaith eto yn cynnal
digwyddiad hyfforddi cerddorol yn Galeri, y gofod celfyddydol a pherfformio yng
nghalon y dref hanesyddol.
Mae Gitarau@Galeri yn benwythnos o hyfforddiant, perfformiadau
a gweithdai gan dîm o diwtoriaid rhagorol sydd wedi ei hanelu yn benodol at
gitarwyr acwstig, trydanol a bas. Bydd dysgwyr o bob oedran a gallu yn cymryd
rhan mewn cyfres o weithdai bach mix’n’match gan ddysgu am amrywiaeth o
destunau a genres cerddorol. Mae’r elfennau o diwtoriaeth yn addas ar gyfer
oedolion a gitarwyr ifanc dros 15 mlwydd oed ac nid yw’n addas ar gyfer
dechreuwyr.
Mae’r ŵyl yn cychwyn gyda digwyddiad meic agored ar nos Wener
lle mae pob perfformiwr ac arddull yn cael eu croesawu.
Bydd gweithgareddau’r dydd Sadwrn yn cychwyn gyda perfformiad
byr ac anffurfiol gan bedwar prif diwtor y cwrs, a bydd y diwrnod yn dod i ben
gyda phrif gyngerdd yr ŵyl gyda pherfformiad gan Gary Ryan.
Ynghyd â chyfansoddiadau ei hun, bydd Gary yn chwarae
cerddoriaeth gan Praetorius, Dowland, Bach, Dyens, Brouwer, a threfniannau o
Gerddoriaeth Werin Geltaidd gan David Russell. Bydd y cyngerdd yn cychwyn gyda
pherfformiad byr gan ‘Fragile Egosystem’ Neil Browning yn cynnwys gitâr atsain,
wedi ei ddilyn gan doriad byr.
Bydd cyfleoedd ar gyfer sesiynau jamio drwy gydol y penwythnos
hefyd!
Mae amser i gymryd rhan yn y digwyddiad yn dal i fod –
cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias am y manylion. Cysylltwch â
Swyddfa Docynnau Galeri am docynnau ar gyfer y perfformiad gyda’r nos.
by Gwydion Davies | 10 Mai, 2015 | Uncategorized @cy
Dydd Iau y 7fed o Fai 2015. Dyma ddyddiad pwysig gyda miloedd
o bobl ar hyd y wlad yn taro eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Mae hefyd
yn ddiwrnod pwysig i ni fel y Ganolfan gan ein bod wedi trefnu i griw o Theatr
Gybolfa i ddod i ffilmio ‘Dydd Iau Cyffredinol ym Mywyd y Ganolfan’.
Mae dyddiau Iau yn un o’r diwrnodau gorau i gael trosolwg o
rai o weithgareddau mwyaf amrywiol rydym ni’n ei gynnig yma yn y Ganolfan
Gerdd. Yn ychwanegol i fwrlwm y gwersi offerynnol a lleisiol, mae gennym ni
sesiynau Camau Cerdd yn cael eu cynnal drwy gydol y bore yng Nghanolfan Noddfa
yng Nghaernarfon, Côr Cymysg i Oedolion dan arweiniad Geraint Roberts yn y
prynhawn, sesiynau Doniau Cudd, ac yna Côr Siambr y Ganolfan sy’n cael ei
arwain gan Jenny Pearson.
Rydym ni’n edrych ymlaen at gael gweld y fideo y bydd Theatr
Gybolfa yn ei greu i ni, a fydd yn adlewyrchu’r amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n
cael eu cynnal gan y Ganolfan Gerdd mewn un diwrnod.
by Gwydion Davies | 6 Mai, 2015 | Uncategorized @cy
Bu i un o’r digwyddiadau y cynhaliom ni yn ystod Gŵyl Delynau
2015 groesawu pob aelod o’r cwrs at ei gilydd i berfformio mewn cyngerdd rydym
ni’n ei alw yn ‘Galerïau Galeri’. Gosodwyd telynau ar hyd y galerïau ar bob
llawr.
Unwaith roedd pob telyn, stand a stôl yn ei le, cyfarwyddwraig
yr Ŵyl, Elinor Bennet gafodd y fraint o arwain yr ensemble arbennig hwn, gan
glywed perfformiadau arbennig o gerddoriaeth werin, clasurol a chyfoes.
Cafwyd diweddeb addas i’r Ŵyl a hynny drwy gyfrwng cyngerdd
gan rhai o’n cyn-fyfyrwyr disglair yn rhannu’r llwyfan ag aelodau o’r cwrs
telyn gan blethu cerddoriaeth glasurol â’r gwerin. Fe wnaethom ni fwynhau
perfformiadau gan Elinor Bennett, Stephen Rees, Glain Dafydd, Rhian Dyer,
Elinor Evans, Elen Hydref, Angharad Wyn Jones, a Patrick Rimes.
Rydym ni’n gobeithio fod pawb a fynychwyd y cwrs telyn, y cyngherddau a
gweithgareddau eraill yn ystod yr Ŵyl
Delynau wedi mwynhau eu hunain cystal ag y gwnaethom ni yn ystod yr ŵyl, ac rydym ni’n edrych
ymlaen at gael croesawu pawb yn ôl ar
gyfer yr Ŵyl nesaf.
by Gwydion Davies | 13 Mawrth, 2015 | Uncategorized @cy
Fe hoffwn ni ddiolch i bawb fu’n cyfrannu tuag at apêl Elinor
Bennett i godi arian er mwyn anfon telynau i Batagonia fel rhan o ddathlu 150
mlynedd ers sefydlu’r Wladfa yno.
Mae Elinor Bennett ar hyn o bryd ym Mhatagonia i fynd a un o’r
telynau yn bersonol i Ysgol Gerdd yn y wlad. Elinor fu’n gyfrifol am gychwyn yr
apêl ac fe gwelodd yr apêl fel modd o hyrwyddo ac annog diwylliant Cymreig
yn y Wladfa ym Mhatagonia.
Bu i dros 80 o unigolion gyfrannu tuag at yr apêl, a hefyd
cwmnïau a sefydliadau a fu’n frwdfrydig dros amcanion yr apêl.
Rydym ni yn falch iawn o gael cyhoeddi fod yr apêl wedi
llwyddo i gasglu dros £6,500 a fydd yn ddigon i brynu dwy delyn i’w gyrru i
Batagonia. Un o Telynau Teifi, cwmni telyn wedi ei leoli yn Llandysul, De
Cymru, sydd hefyd wedi cyfrannu dwy delyn ‘Dryw’; a’r delyn arall yn un o
wneuthuriad y cwmni Ffrengig enwog Camac.
Llongyfarchiadau i bawb fu’n ymwneud â’r apêl, rydym ni wedi
ei’n synnu drwy garedigrwydd pobl – sy’n dyst fod yr amcan yr apêl i hyrwyddo
ac annog diwylliant Cymreig yn amlwg wedi taro tant.