Gwersi Offerynnol a Lleisiol
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig hyfforddiant o’r ansawdd uchaf ar amrywiaeth eang o offerynnau a’r llais yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych, Pwllglas ac arlein.
Daw cannoedd o ddisgyblion – yn blant ac yn oedolion, trwy ein drysau bob wythnos i gael gwersi gan ein tîm o diwtoriaid profiadol.
Cymru Dros Wcrain: Cyngerdd er budd Wcrain
Cymru Dros Wcrain: Cyngerdd er budd Wcrain
Yn cynnwys perfformiadau gan Elinor Bennett, Veronika Lemishenko Cor Cofnod, Cor Siambr Prifysgol Bangor, A cherddorion o Ganolfan Gerdd William Mathias Tocynnau: Talwch fel y gallwch drwy gyfrannu at y
Plethu Cerddoriaeth Cymru ac Wcrain
Уельсько-український музичний проект
15-16 Ebrill 2025
16-20 Hydref 2025
Camau Cerdd
Mae Camau Cerdd yn brosiect ar gyfer plant ifanc.
Mae’r dosbarthiadau wedi eu llunio’n ofalus gan Marie-Claire Howorth er mwyn rhoi’r cychwyn gorau posib a sylfaen cerddorol cadarn i’ch plentyn.
Cynhelir dau grŵp: Camau Cerdd (i blant 15mis – 3oed) a Camau Nesaf (i blant 4 – 7 oed).
Y Newyddion Diweddaraf
Dwy delynores nodedig yn dod at ei gilydd yng ngogledd Cymru i godi arian i blant yn Wcráin sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfel
Bydd dwy delynores fyd-enwog yn dod at ei gilydd mewn cyngerdd arbennig i godi arian i blant ag anableddau dysgu dwys yn Wcráin. Bydd Veronika Lemishenko, sy'n hanu o Kharkiv yn nwyrain Wcráin, yn chwarae nifer o ddarnau unigol yn y cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol...
Cyngerdd emosiynol i ddathlu etifeddiaeth y cawr cerddorol Cymreig William Mathias
Bydd gwaith un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru yn cael ei ddathlu mewn cyngerdd i nodi 90 mlynedd ers ei eni. Enillodd yr Athro William Mathias, a fu farw yn 57 oed yn 1992, glod byd-eang yn ystod ei oes a bydd teyrnged yn cael ei dalu i'w etifeddiaeth gerddorol yn y...