Sian Wheway

Sian Wheway

Canu

Yn wreiddiol o Fetws yn Rhos, graddiodd Siân o Goleg Prifysgol Bangor gan astudio o dan yr Athro William Mathias, oedd yn diwtor personol iddi am gyfnod. Wrth ddilyn cwrs gradd, y piano a’r llais oedd ei phrif feysydd astudiaeth ymarferol. Wedi 4 mlynedd o ddysgu cerddoriaeth yn y sector uwchradd aeth ymlaen i astudio ar gwrs Ôl-radd yn y Celfyddydau Perfformio yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ers hynny mae gyrfa Siân wedi bod yn un amrywiol gan gynnwys perfformio, cyfansoddi, sgriptio, ymchwilio a chyflwyno mewn swyddi yn y BBC a HTV yng Nghaerdydd, cyn symud yn ôl i fyw i’r Gogledd ym 1990 a chael gwaith fel is-gynhyrchydd rhaglenni adloniant ysgafn yng Nghwmni Teledu’r Tir Glas yng Nghaernarfon. Ers 1994 bu Siân yn un o gyfarwyddwyr cwmni Teledu Gwdihw yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol, adloniant ysgafn a cherddoriaeth i S4C a’r BBC yn bennaf. Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni adloniant ar gyfer Radio Cymru. Yn y flwyddyn 2000 sefydlodd RYGARUG gyda’i gwr, sef cynllun celfyddydau perfformio i bobol ifanc Dyffryn Peris a’r cylch ac yn ystod y cyfnod hwn, cynhyrchwyd 4 sioe gerdd yn Theatr Seilo, Theatr Gwynedd a Galeri Caernarfon. Enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1983 ac mae hi’n dal i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon. Bydd nifer o’i gweithiau mwyaf diweddar yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2015. Bu Siân yn arweinydd Côr Eryri o 1999 hyd at 2010 ac ers Ebrill 2013, hi ydy Cyfarwyddwr presennol Côr Dre, sef côr SATB o ardal Caernarfon a’r cyffiniau. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Côr Dre wedi bod yn brysur iawn yn cynnal cyngherddau ac yn recordio yn Stiwdio Sain, yn ogystal â chael llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Powys ac eisteddfodau eraill ynghyd a chipio teitl Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Derry. Mae Sian wedi bod yn diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2003 yn dysgu piano, canu a theori cerddoriaeth.