Gŵyl Biano Ryngwladol i gael ei gynnal yn Galeri dan gyfarwyddiad Iwan Llewelyn-Jones

Gŵyl Biano Ryngwladol i gael ei gynnal yn Galeri dan gyfarwyddiad Iwan Llewelyn-Jones

Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru rhwng y 29ain o Ebrill a’r 2il o Fai yn Galeri Caernarfon. Hon fydd y drydedd Gŵyl Biano i Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) ei chynnal ac eleni, bydd y pianydd  Iwan Llewelyn-Jones yn cyfarwyddo am y tro cyntaf. Mae’r Ŵyl yn cynnwys cyngherddau, cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a chyfweliadau gydag artistiaid gwadd.

Bydd y pianydd o fri rhyngwladol Peter Donohoe yn agor yr Ŵyl am 7.45y.h, Nos Wener y 29ain o Ebrill gyda datganiad o weithiau gan Ravel, Debussy, Scriabin a Rachmaninov. Bydd Peter Donohoe hefyd yn cadeirio y panel beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn.

Bydd y cyntaf o dair cystadleuaeth piano yn cychwyn fore Sadwrn, 30 Ebrill gyda chylch rhagbrofol yr Unawd Piano Iau. Bydd cylch terfynol y gystadleuaeth hon yn digwydd brynhawn Sul y 1af o Fai. Bydd y cystadlaethau Piano Unawdol Hŷn a Chyfeilio yn cychwyn fore Sul y 1af o Fai pan gynhelir y cylchoedd rhagbrofol, a bydd y cylchoedd terfynol yn dilyn brynhawn Llun yr 2il o Fai. Mae’r cystadleuwyr yn dod o bob cwr o’r Byd.

Amser cinio dydd Sadwrn y 30 Ebrill, bydd cyngerdd anffurfiol “Satie on the Sidewalk’ yn dathlu cerddoriaeth Erik Satie.

Bydd y cyngherdd gyda’r nos ar y 30 Ebrill am 7.45 yn dathlu cerddoriaeth a chyfansoddwyr o Gymru ac yn cynnwys y perfformiad cyntaf o 6 darn piano unawdol a gomisiynwyd yn arbennig gan yr Ŵyl. Mae’r gweithiau wedi eu hysbrydoli gan ddelweddau a barddoniaeth ar thema Heddwch a Chofio. Cyfansoddwyd tri o’r gweithiau gan gyfansoddwyr ifanc sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd a’r tri arall gan gyfansoddwyr o fri rhyngwladol – Paul Mealor a gyfansoddodd yr anthem i briodas Dug a Duges Caergrawnt; Richard Baker sy’n arbennigo mewn cerddoriaeth gerddorfaol a siambr ac Owain Llwyd sydd yn flaenllaw ym maes cerddoriaeth ffilm a theledu. Y cyfansoddwyr ifanc yw Luke Lewis, Mared Emlyn a Maja Palser.

Bydd prosiect addysgol yr Ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt yn y cyngerdd hwn hefyd gyda pherfformiad cyntaf o waith ar gyfer ensemble siambr wedi ei gyfansoddi gan bedwar myfyriwr lefel A. Bydd y gwaith tri symudiad ynghyd â ffanfferau yn cael ei berfformio gan gerddorion ifanc o CGWM.

Ar nos Sul 1af o Fai am 7.45 awyrgylch y Fiesta fydd yn llenwi Theatr y Galeri. Bydd pianyddion, offerynwyr eraill, cantorion ac adroddwyr yn codi’r to mewn cyngerdd o gerddoriaeth lliwgar o bob cwr o’r byd yn cynnwys Rio Grande gan Lambert, gosodiad hyfryd Poulenc o Babar the Elephant a’r Scaramouche gan Milhaud. Ymhlith y perfformwyr bydd pum pianydd yn cynnwys cyfarwyddwr yr Ŵyl, Iwan Llewelyn-Jones a Chôr Siambr CGWM.

Ar y bore olaf, Llun 2il o Fai, cynhelir tri ddigwyddiad hwyliog yn atrium Galeri, sef ‘Coffi a Croissants gyda Chopin a Debussy’ am 10am, Peter Donohoe yn sgwrsio gyda Iwan Llewelyn-Jones am ei fywyd ‘Ar y Lôn’ am 11 am, ac am hanner dydd, y ‘Pianothon’ fydd yn rhoi cyfle i bianyddion o bob oedran a chyrhaeddiad roi tonc ar y piano.

Dathlu dauganmlwyddiant geni John Roberts (Telynor Cymru)

Dathlu dauganmlwyddiant geni John Roberts (Telynor Cymru)

Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru dydd Mercher, y 6ed a dydd Iau y 7fed o Ebrill yn Galeri, Caernarfon. O dan gyfarwyddyd y delynores o fri rhyngwladol, Elinor Bennett, bydd yr Ŵyl eleni yn cynnwys cwrs deuddydd ar gyfer telynorion, yn ogystal â chyngherddau a darlith-ddatganiad. Cynhelir yr Ŵyl yn flynyddol gan Ganolfan Gerdd William Mathias, a phob pedair mlynedd cynhelir Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru sy’n ddigwyddiad mawr, wythnos o hyd. Cynhelir yr  Ŵyl Ryngwladol nesaf  ym mis Ebrill 2018. 

Cynhelir y cwrs deuddydd, sy’n addas I delynorion o bob oedran a chyrhaeddiad,  rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod uchod.  Mae Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett, yn un o’r tiwtoriaid,  a bydd Eira Lynn-Jones (Athro’r Delyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) yn ymuno â hi, ynghŷd â  Morwen Blythin, Einir Wyn Hughes a Dylan Wyn Rowlands.

Dydd Mercher y 6ed o Ebrill am 7pm, bydd yr Arglwydd Thomas o Gresffordd, QC yn olrhain hanes difyr ei deulu sy’n ddisgynyddion o deulu enwog y Sipsi Romani Cymreig,  Abram Wood.  Mae’r Arglwydd Thomas yn ddisgynnydd i wyres Abram Wood sef Ellen Ddu a oedd, yn ôl y sôn, yn wrach ac yn “gallu adrodd stori’n well na neb.”

Aelod amlwg arall o’r teulu oedd y telynor enwog John Roberts “Telynor Cymru” (1816 – 1894) sy’n cael ei ddathlu yn yr Ŵyl eleni.  Wrth olrhain hen  hanes ei deulu ysbrydolwyd yr Arglwydd Thomas i ddysgu canu’r delyn,  a bydd yn perfformio darnau byr yn ystod ei ddarlith.

Dywed Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl : “Mae’n hynod ddifyr fod aelod blaenllaw o Dy’r Arglwyddi  yn  rhoi darlith am  ei hen deulu, a oedd yn sipsiwn cerddgar,  crwydrol a gyfrannodd gymaint i gerddoriaeth werin yng Nghymru dros ddwy ganrif yn ôl.”

Yn dilyn y ddarlith, bydd perfformiadau gan Elinor Bennett ar y delyn deires Gymreig. Bydd ei rhaglen yn cynnwys Sonata Rhif 3 o’r “Bedair Gwers”  (1761)  gan John Parry (1710 – 1782), y telynor dall o Riwabon, a ddylanwadodd mor drwm ar delynorion teires o Gymru yn ddiweddarach, gan gynnwys John Roberts ei hun.

Bydd gwledd i’r llygad a’r glust am 5pm, dydd Iau y 7fed o Ebrill pan fydd tua hanner cant o delynaorion yn perfformio gyda’i gilydd ar GalerÏau Galeri. Bydd y cyngerdd anffurfiol yma yn cynnwys perfformiad gan yr holl delynorion o alawon dawns fydd wedi cael eu dysgu gan Robin Huw Bowen yn ystod y cwrs fel dathliad pellach o waith John Roberts.

Yng Nghyngerdd yr Ŵyl am 7.30pm Nos Iau y 7fed o Ebrill,  bydd amrywiaeth o gerddoriaeth o’r traddodiadol i Jazz. Bydd un o feistri’r delyn deires, Robin Huw Bowen,  yn perfformio alawon y sipsiwn Cymreig a bydd y ddeuawd –  Máire Ni Chathasaigh (telyn Geltaidd) a Chris Newman (gitar) –  yn cyflwyno rhaglen gyffrous yn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, Jazz, bluegrass a baroc. Yn ddiweddar enwyd Máire yn Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau ‘Live Ireland’ 2016.

Bydd y telynor ifanc dawnus, Ben Creighton-Griffiths o Gaerdydd, yn perfformio cerddoriaeth jazz ar y delyn electroneg gan gwmni Camac,  gan wneud defnydd o’r effeithiau sain arbennig sy’n bosibl ar y delyn. Gwnaeth Ben ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan yn saith oed yn 2004 trwy ennill cystadleuaeth  bwysig yn Ffrainc i rai o dan 18 oed.  

Cefnogir Gŵyl Delynau Cymru 2016 gan Clogau Gold, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Telynau Vining Harps.

Camau Cerdd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llangollen

Camau Cerdd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llangollen

Diwrnod prysur yn Llangollen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi! 

Cafodd diwrnod llawn hwyl i blant bach a’u rhiant/gwarchodwr ei drefnu gan Fenter Iaith i ddathlu Diwrnod Dathlu Dewi.

Roedd nifer o sefydliadau yno yn cynnwys ein prosiect Camau Cerdd.

Cafodd sesiynau Cropian Cerdd a Chamau Cyntaf eu cynnal drwy gydol y dydd a chafodd pawb lawer o hwyl!

Trwy ganu a chreu cerddoriaeth gwnaethom ymweld â lan y môr, y fferm a’r jwngl. Dysgom ein do-re-mi gyda Mr Cerdd a theimlom guriad y gerddoriaeth gyda Plu Enfys. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys ein cân newydd am y cennin pedr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Cafodd Camau Cerdd amser llawn hwyl yn Llangollen ac rydym yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol agos.

Os nad oeddech yn y digwyddiad peidiwch a phoeni – rydym ni am wneud sesiynau tebyg yn Ninbych ar y 3ydd o Ebrill.

Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Facebook.

Llwyddiant i Wyn ap Gwilym gyda Gradd 3 Telyn

Llwyddiant i Wyn ap Gwilym gyda Gradd 3 Telyn

Mae Wyn ap Gwilym o Lanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun, wedi profi llwyddiant yn ddiweddar wedi iddo basio ei arholiad Telyn Gradd 3.

Mae Wyn yn un o ddisgyblion Morwen Blythin ac yn astudio yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych. Wrth ei fodd gyda cerddoriaeth mae Wyn eisoes wedi llwyddo ei gradd 8 piano tra’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Abergele, cyn iddo fynd ymlaen i astudio Micropalaentoleg, sef yr astudiaeth o micro-ffosiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wrth astudio yn Aberystwyth, digwyddodd Wyn ymweld â Eisteddfod Caerfyrddin lle y gwelodd stondin yn arddangos telyn newydd oedd wedi ei wneud o carbon fiber. Roedd gan Wyn ddiddordeb mawr yn yr offeryn, gan benderfynu i brynu’r offeryn.

Fe aeth â’r delyn yn ôl gyda ef i’r Ynysoedd Solomon lle’r oedd yn byw a gweithio ar y pryd. Roedd Wyn yn gweld chwarae’r delyn yn weithgaredd gwerthfawr gan ei atgoffa o’i wreiddiau Cymreig tra’r oedd mor bell o Gymru. Atgofia Wyn:

‘Buais yn chwarae’r delyn mewn nifer o lefydd yn yr Ynysoedd, y lle mwyaf diddorol oedd ar long ymchwil Ffrengig, Y Norris. Roedd y rhan helaethaf o’r criw yn dod o Lydaw, ac fe gafwyd lot o hwyl yn canu geiriau Llydaweg i alawon gwerin Cymreig!’

Nid tan ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru yng nghanol y 70au er mwyn astudio gradd doethuriaeth yn Aberystwyth y bu i Wyn gychwyn gymryd gwersi telyn. Ond gyda pwysau’r gwaith a babi newydd, rhaid oedd rhoi’r delyn i un ochr am y tro. Er hyn, teithiodd y delyn gyda ef wrth iddo symud yn ôl i Ynysoedd Solomon, Singapore, ac yn hwyrach i Saudi Arabia lle y bu’n byw a gweithio hyd at 2013 pan symudodd yn ôl i Gymru.

Yn 2015, cychwynnodd Wyn wersi Telyn gyda Morwen Blythin, ac nawr, blwyddyn yn ddiweddarach mae newydd basio ei radd 3 gydag anrhydedd. Dywedodd ei athrawes:

‘I feddwl mai dim ond ers blwyddyn mae Wyn wedi bod yn dod aton ni am wersi telyn yma yng Nghanolfan Gerdd William Mathias Dinbych, mae wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae’n dysgu’n gyflym iawn. Mae Wyn yn frwdfrydig iawn i ddysgu’r delyn, ac rydw i’n mwynhau ei ddysgu yn fawr iawn’.

Mae Wyn nawr yn edrych ymlaen i barhau gyda’r gwersi, a chychwyn paratoi at y gradd nesaf.

Dosbarth Camau Cerdd yn rhannu cyngerdd rhyngweithiol cyntaf gyda phreswylwyr Canolfan Gofal Bryn Seiont Newydd

Nos Lun y 14eg o Ragfyr 2015 cafodd y cyngerdd cyntaf ei gynnal yn ystafell gerdd hyfryd Canolfan Bryn Seiont Newydd – y cartref gofal dementia sydd wedi ei agor gan gwmni gofal Pendine Park. Cynhaliodd Marie-Claire Howorth a Meinir Llwyd Roberts o Ganolfan Gerdd William Mathias gyngerdd rhyngweithiol anffurfiol gyda rhai o ddisgyblion y prosiect arbennig Camau Nesaf Cerdd, i blant 4-7 oed.

Cafodd y preswylwyr eu swyno gan y plant yn chwarae a rhannu eu cerddoriaeth a hefyd gan ei gwisg arbennig ar thema’r Minions. Fe ymunodd y preswylwyr yn yr hwyl trwy  ysgwyd ‘pompoms’ a chwarae clychau. I gloi’r achlysur cafwyd cyfle i ganu carolau i gyfeiliant dwy o ddisgyblion clarinet graddau 6 a 8 Marie-Claire a oedd hefyd wedi perfformio unawdau yn ystod y cyngerdd. Hoffem ddiolch i’r rhieni a’r staff yn Bryn Seiont am wneud y digwyddiad yma yn bosibl ac yn bleserus. Roedd y plant wedi mwynhau’r cacennau yn arbennig!

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda cherddor preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Davies Williams a’r artist preswyl Nia Lloyd-Roberts i ddatblygu’r fenter bwysig hon rhwng aelodau ifanc a hŷn y gymuned.

Dathlu Cyfres Gyntaf Lwyddiannus Camau Cerdd yn Ninbych

Dathlu Cyfres Gyntaf Lwyddiannus Camau Cerdd yn Ninbych

Mae cyfres gyntaf Camau Cerdd yn Ninbych newydd ddirwyn i ben, ac mae Canolfan Gerdd William Mathias yn falch iawn o nodi llwyddiant y gyfres.

Mae Camau Cerdd yn gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire Howorth ers 2007. Tiwtor Camau Cerdd yn Ninbych yw Charlotte Green sydd hefyd yn arwain sesiynau mewn ardaloedd o Wynedd ac Ynys Môn yn dilyn cynnydd diweddar yn narpariaeth y cynllun.

Nod y prosiect yw cynnig addysg gerddorol i blant o’r cychwyn cyntaf. Mae gan addysg gerddorol y potensial i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu, deallusrwydd emosiynol, cydsymud a sgiliau cymdeithasol ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff. Mae Camau Cerdd hefyd yn darparu sail gerddorol gadarn cyn i blant gychwyn gwersi offerynnol neu leisiol un i un.  

Cafwyd cefnogaeth arbennig gan Fenter Iaith Sir Ddinbych a Celfyddydau Sir Ddinbych i ddatblygu’r cynllun yn Ninbych a chynhaliwyd sesiynau ar gyfer dau grŵp oedran:

Cynhaliwyd sesiynau  Camau Cyntaf Cerdd  i blant rhwng 15 mis a 3 mlwydd oed yn adeilad HWB Dinbych, gan anelu at ddarparu cyflwyniad cyffredinol i blant i fyd cerdd, gan hefyd ymdrechu i ysbrydoli rhieni / gofalwyr i ddefnyddio cerddoriaeth gyda hyder â’u plant.

Cynhaliwyd sesiynau Camau Nesaf Cerdd i blant rhwng 4 a 7 mlwydd oed ar ôl ysgol yn Theatr Twm o’r Nant lle mae’r Ganolfan Gerdd hefyd yn cynnig gwersi un i un i blant ac oedolion. Bwriad y sesiynau cerdd yma a gynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg yw datblygu dealltwriaeth y plant o gerddoriaeth mewn modd hwyliog trwy ddefnyddio amryw o ddulliau yn cynnwys gemau, sol-ffa ac offerynnau cerdd.

Cynhaliwyd sesiwn arbennig yn ystod yr wythnos olaf er mwyn dathlu llwyddiant y gyfres. Fe drefnodd Menter Iaith fod paned a chacen ar gael i bawb ar ddiwedd y sesiwn, gan roi cyfle i bawb gymdeithasu a thrafod y gyfres.

Cynhaliodd plant y grwpiau Camau Nesaf gyngherddau anffurfiol i’w rhieni ar ddiwedd y sesiynau er mwyn dangos y cynnydd a wnaethpwyd yn ystod y tymor. Roedd y plant yn falch o arddangos yr hyn roeddent wedi ei ddysgu gan gynnwys canu sol-ffa, chwarae y raddfa bentatonig ar glychau, dangos y rhythmau i’w rhieni a gorffen y cyngerdd trwy ddawnsio wrth chwarae rhythm Lladin-America ar Clave.

Roedd y rhieni wrth eu boddau yn gweld eu plant yn mwynhau eu hunain a chael blas o’r hyn yr oeddent wedi ei ddysgu. Dywedodd Elin Jones:

‘Mae fy mhlentyn wedi mwynhau y sesiynau’n arw iawn. Rwyf wedi bod yn ei chlywed yn canu do re mi yn aml. Mae’r gweithgareddau yn hwyliog, lliwgar a chofiadwy. Diolch i Charlotte am fod mor fywiog a chyfeillgar’.

Eglura Charlotte, tiwtor Camau Cerdd bwysigrwydd y prosiect i ddatblygiad cerddorol y plant:

‘Erbyn i blant gychwyn eu haddysg gerddorol yn yr ysgol neu gychwyn gwersi offerynnol neu leisiol, bydd Camau Cerdd eisoes wedi datblygu dealltwriaeth y plant o fyd cerdd – byddant yn deall rhythm; yn gallu darllen cerddoriaeth a byddant yn gyfarwydd gyda gwahanol offerynnau a’u seiniau. Byddant hefyd yn gallu gwrando a mynegi eu hunain trwy gerddoriaeth’.

Bydd cyfres nesaf Camau Cerdd yn Ninbych yn cychwyn ar y 11 Ionawr 2016 gyda nifer o’r plant yn edrych ymlaen at barhau gyda’u addysg gerddorol. Mae croeso i aelodau newydd.

Cyngerdd Lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru

Cyngerdd Lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru

Roedd Theatr Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau cerddoriaeth y piano o bedwar ban byd brynhawn Sul yr 8fed o Dachwedd. Er gwaetha’r tywydd garw, prin iawn oedd y seddau gwag a’r gynulleidfa frwdfrydig – oedd yn amrywio o 4 mis i 80+ mewn oedran  – wedi cael gwledd gerddorol i lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.

Fe berfformiodd dim llai na deuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias raglen o ddeuawdau a thriawdau o’r repertoire clasurol, jazz a phoblogaidd gyda delweddau i gyd-fynd efo’r gerddoriaeth. Ar ôl y cyngerdd fe fwynhaodd y gynulleidfa baned a darn o gacen a wnaethpwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Enlli Vaughan o Langernyw.  

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Iwan Llewelyn-Jones ragflas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn yr Ŵyl yn 2016. Bydd y rhaglen yn cynnwys  datganiad gan y pianydd byd-enwog Peter Donohoe, noson yn cynnwys y gorau o gerddoriaeth a cherddorion Cymru, a chyngerdd gala ‘Ffiesta’ i’r teulu oll. Gyda chystadlaethau, dosbarthiadau a chyngherddau anffurfiol mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn addo i fod yn bedwar diwrnod bythgofiadwy

Yn ystod y gyngerdd cafwyd lansiad swyddogol menter codi arian yr Ŵyl – Noddi Nodyn – cyfle arbennig i unigolion a busnesau gyfrannu tuag at yr Ŵyl drwy noddi unrhyw nodyn ar y piano am £50.

Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts:

Roedd o’n deimlad ffantastig gweld ein tiwtoriaid piano yn dod at ei gilydd i rannu llwyfan. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt ac i Gyfarwyddwr yr Ŵyl Iwan Llewelyn-Jones am eu gwaith caled. Rydym hefyd yn estyn ein gwerthfawrogiad i Ian Jones (Pianos Cymru) am gefnogi’r cyngerdd. Yn gryno, roedd yr achlysur yn llwyddiant ysgubol!

Bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal rhwng Dydd Gwener 29ain o Ebrill a Dydd Llun yr 2il o Fai 2016 yn Galeri Caernarfon.

‘Siwrne Gerddorol i Bedwar Ban Byd’ – Tiwtoriaid Piano CGWM Mewn Cyngerdd

‘Siwrne Gerddorol i Bedwar Ban Byd’ – Tiwtoriaid Piano CGWM Mewn Cyngerdd

Ar yr 8fed o Dachwedd am 3 o’r gloch y prynhawn fe fydd Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau o bedwar ban byd wrth i ddeuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias ddod ynghyd i arddangos eu talentau, dathlu cerddoriaeth piano, a rhoi blâs o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn yr Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhelir yn y Galeri yn ystod Gwanwyn 2016.

Bydd y rhaglen yn cynnwys gwledd o ddeuawdau a thriawdau piano Clasurol, Jazz a Phoblogaidd, ac yn dilyn siwrne gerddorol ar draws y byd – o ddinasoedd Ewrop ac Asia i draethau Awstralia, o Tin Pan Alley Efrog Newydd i dirwedd unigryw yr Affrig  – gyda gweithiau gan y cyfansoddwyr Fauré, Ravel, Poulenc, Handel, Dvořák a Rachmaninov, Kabalevsky, Benjamin, Grainger, Gershwin a Brubeck. Un o uchafbwyntiau’r cyngerdd fydd perfformiad o’r ddeuawd piano ‘Eryri’ a gyfansoddwyd gan un o fyfyrwyr talentog y Ganolfan Gerdd, Math Roberts.

Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016, Iwan Llewelyn-Jones:

Dyma gyfle gwych i diwtoriaid piano CGWM ddod at eu gilydd ar lwyfan Theatr y Galeri i berfformio rhaglen o gerddoriaeth apelgar sy’n llawn hwyl a sbri!

Dywed Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias:

Rydym yn diolchgar iawn i’r tiwtoriaid am eu gwaith caled yn paratoi ar gyfer y cyngerdd arbennig yma fydd yn gyfle hefyd i ni lawnsio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.

Cyngerdd yn Canu Clod i Ddisgyblion Canolfan Gerdd

Cyngerdd yn Canu Clod i Ddisgyblion Canolfan Gerdd

Cynhaliwyd cyngerdd diwedd mis Medi gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon er mwyn cydnabod llwyddiannau myfyrwyr y Ganolfan yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Llenwyd y noson gan berfformiadau gan fyfyrwyr y Ganolfan gydag unawdwyr gan gynnwys Medi Morgan, Medi Evans, Megan Hunter, Erin Swyn Williams, Gwenno Morgan, Ynyr Pritchard, Seimon Menai, a Math Roberts yn perfformio darnau amrywiol.

Yn ogystal cafodd rhai o grwpiau offerynnol y Ganolan y cyfle i berfformio gan gynnwys yr Ensemble Cello, Triawd Piano, Pedwarawd Llinynnol, ynghyd a Chôr Siambr y Ganolfan.

Nid yn unig perfformio oedd yn cael ei glodfori ar y noson, ond cymerodd y Ganolfan Gerdd falchder mewn cyflwyno darnau gan ambell i gyfansoddwr ifanc.

Mae Thalia Lichtenstein yn aelod o’r Ensemble Cello, a rhai misoedd yn ôl fe gyfansoddodd ddarn yn arbennig ar gyfer y grŵp o’r enw ‘Atgofion Heddychlon’. Braf oedd clywed y darn yn cael ei chwarae yn gyhoeddus am y tro cyntaf gan yr ensemble.

Dywedodd Nicola Pierce, athrawes cello’r Ganolfan ac arweinydd yr ensemble:

Fe gyfansoddodd Thalia ddarn hyfryd yn arbennig ar gyfer y grŵp. Roedd yn fraint i ni berfformio’r gwaith hwn ac yn brofiad gwych i Thalia – nid yn unig o gael clywed y darn yn cael ei berfformio ond hefyd i arwain y perfformiad.

Cyfansoddwr ifanc arall a roddwyd sylw iddo yn ystod y cyngerdd oedd Gwydion Rhys  a gyfansoddodd ‘Introduction & Grand Polonaise’ ar gyfer cello a phiano.

Cyfansoddodd y darn gan Gwydion, 12 oed o Lanllechid, yn arbennig ar gyfer ei athrawes cello, Nicola Pierce a berfformiodd y darn gyda’r pianydd Steven Evans ar y noson. Dywedodd Nicola:

Dyma ddarn aeddfed gan Gwydion sy’n arddangos nifer o dechnegau gwahanol ar y cello a’r piano.

Un o uchafbwyntiau’r noson oedd cyflwyno gwobrau i rai o ddisgyblion y Ganolfan. Enillodd Math Roberts o Lanrug Ysgoloriaeth Ben Musket a chwpan er cof am Noel ab Owen Roberts aelod o Gôr Meibion Caernarfon. Ac fe gwobrwywyd Erin Swyn sy’n derbyn gwersi yng nghangen Dinbych y Ganolfan Gerdd Gwpan er cof am Thomas William Jones, aelod o Gôr Meibion Caernarfon.

Daethpwyd â’r cyngerdd i ben gyda darnau o Offeren Mozart yn cael ei ganu gan Gôr Siambr y Ganolfan Gerdd sy’n cyfarfod ar nosweithiau Iau yn Galeri.

Yn ystod y cyngerdd cyhoeddodd Canolfan Gerdd William Mathias y bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal rhwng y 29 Ebrill a 2 Mai 2016 o dan gyfarwyddyd y pianydd adnabyddus o Gymru, Iwan Llewelyn-Jones.

Bydd cyngerdd arbennig gan diwtoriaid piano’r Ganolfan Gerdd yn cael ei gynnal ar yr 8fed o Dachwedd i godi arian ar gyfer yr Ŵyl Biano gyda rhaglen hwyliog o gerddoriaeth o bedwar ban byd – o Gaernarfon i’r Caribî!

Camau Cerdd yn Dod i Ddinbych

Camau Cerdd yn Dod i Ddinbych

Bydd y prosiect cerdd arloesol Camau Cerdd yn dod i Ddinbych am y tro cyntaf yn fuan iawn.

Mae’r prosiect sydd eisoes wedi bod yn rhedeg yng Ngwynedd am nifer o flynyddoedd yn cael ei redeg gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth gydag un o diwtoriaid y Ganolfan, Marie-Claire Howorth.

Tiwtor y prosiect yn Ninbych fydd Charlotte Amy Green sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Marie-Claire am sawl mlynedd ac sydd hefyd yn cynnal sesiynau yn Llanfairpwll a Phenygroes.

Mae Charlotte, sydd wedi ennill gradd cerdd ac sy’n gerddor brwd gan chwarae i Fand Pres Porthaethwy ynghyd â rhoi gwersi offerynnau pres mewn ysgolion ac yn hyfforddi Band Iau Dyffryn Nantlle, yn edrych ymlaen yn fawr at gael cychwyn y prosiect yn Ninbych:

‘Wedi i ni gynnal gwersi blasu nôl ym mis Gorffennaf rydym ni’n hyderus y bydd Camau Cerdd yn ffynnu yn Ninbych ac y byddwn ni’n gallu sicrhau fod plant yr ardal yn cael cychwyn cerddorol cadarn.’

Cymera’r Ganolfan Gerdd falchder yn y ffaith bod Camau Cerdd yn cael ei gynnal gan gerddor medrus sydd â phrofiad helaeth mewn dysgu cerddoriaeth i blant ifanc.

Mae’r prosiect yn Ninbych wedi ei rannu i mewn i ddau grŵp oedran:

Camau Cyntaf i blant rhwng 15 mis a 3 mlwydd oed, sy’n anelu at ddarparu cyflwyniad cyffredinol i blant i fyd cerdd, gan hefyd ymdrechu i ysbrydoli rhieni / gofalwyr i ddefnyddio cerddoriaeth gyda hyder â’u plant.

Mae Camau Nesaf ar gyfer plant rhwng 4 a 7 mlwydd oed. Yma’r bwriad yw parhau i ddatblygu dealltwriaeth y plant o gerddoriaeth mewn modd hwyliog trwy ddefnyddio amryw o ddulliau yn cynnwys gemau, sol-ffa ac offerynnau cerdd.

‘Erbyn i blant gychwyn eu haddysg gerddorol yn yr ysgol neu gychwyn gwersi offerynnau neu ganu, bydd Camau Cerdd yn barod wedi datblygu dealltwriaeth y plant o fyd cerdd – deall rhythm, gallu darllen cerddoriaeth, syniad da o wahanol offerynnau a’u seiniau, a bod yn gallu gwrando a mynegi eu hunain gyda cherddoriaeth’ eglura Charlotte Green, tiwtor Camau Cerdd Dinbych. Bydd y gyfres gyntaf o 10 sesiwn Camau Cerdd, a gefnogwyd gan Fenter Iaith Sir Dinbych a Chelfyddydau Sir Ddinbych yn cychwyn ar y 28ain o Fedi 2015 yn Ninbych.