Gwersi Blasu Cerdd Am Ddim ym mis Mai ar gyfer pobl hŷn

Gwersi Blasu Cerdd Am Ddim ym mis Mai ar gyfer pobl hŷn

Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig gwersi blasu cerddoriaeth am ddim yn ystod mis Mai 2017 ar gyfer pobl hŷn sydd yn awyddus i ailgydio mewn offeryn neu ddysgu offeryn neu’r llais o’r newydd.

Mae’r cynnig arbennig hwn yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn a gynhelir yn genedlaethol yn ystod mis Mai. Yn ddiweddar bu’r ganolfan yn llwyddiannus gyda chais grant Gŵyl Gwanwyn sydd wedi eu galluogi i gynnig gwersi am ddim i bobl dros eu 50 oed ynghyd â chynnal cyngerdd gyda’i myfyrwyr presennol yn ystod mis Mai.

Yn ôl Elinor Bennett, un o sefydlwyr y Ganolfan Gerdd: “Mae hyn yn darparu cyfle gwych i unigolion dros eu hanner cant i ail-gydio mewn offeryn cerdd ar ôl iddyn nhw ymddeol, neu i gychwyn dysgu offeryn cerdd – neu dderbyn gwersi lleisiol – am y tro cyntaf.  Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd llawer o bobl yn cymeryd mantais o’r cynnig cyffrous hwn.”

Mae dros 45 o diwtoriaid profiadol yng Nghanolfan Gerdd William Mathias sydd yn cynnig gwersi ar ystod eang o offerynnau, yn cynnwys canu. Mae modd dysgu am yr amrywiaeth o wersi a gynigir ynghyd â archebu gwers flasu drwy ffonio Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230.

Un sydd wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn gwersi llais yn ddiweddar ydy Elizabeth Jones o Dalysarn. Dywedodd:

“Rwy’n cael llawer o foddhad o fod yn aelod o Gôr Hamdden Mathias, ac yn mwynhau dod at ein gilydd yn wythnosol er mwyn canu a mwynhau dan arweiniad Geraint Roberts.”

“Rwyf hefyd wedi ailgydio mewn gwersi canu – roeddwn yn arfer cael gwersi canu pan oeddwn yn bymtheg oed ymlaen, ond cefais doriad pan gychwynnais weithio, ac rwyf wedi dod yn ôl i gael gwersi canu wedi ymddeol.”

“Mae cael gwersi canu gyda Geraint wedi rhoi hyder i mi ac rwyf erbyn hyn yn meddwl am ailgydio mewn cystadlu.”

Disgybl arall sy’n mwynhau derbyn gwersi canu yn y Ganolfan ydi Huw Roberts, meddyg teulu sydd bellach wedi ymddeol ers tua pedair mlynedd. Dywedodd Huw:

“Ar ôl i mi ymddeol derbyniais y cyfle i fod yn aelod o gorau lleol. Doeddwn i heb dderbyn hyfforddiant canu o gwbl, ac felly penderfynais gychwyn gwersi canu wythnosol yn y Ganolfan Gerdd gyda Trystan Lewis.”

“Rwy’n mwynhau fy ngwersi canu yn fawr – ac yn teimlo’n lwcus iawn o gael athro hynod amyneddgar a phrofiadol.”

Mae derbyn gwersi sielo yn rhan bwysig o fywyd Sioned Huws o Gaernarfon. Dywedodd:

“Mae cerddoriaeth yn golygu andros o lot i fi – mae’n codi fy nghalon ac yn helpu i gael gwared o ddiflastod weithiau.”

Mae Sioned yn derbyn gwersi unawdol gyda Nicki Perace ynghyd â bod yn rhan o Ensemble Sielo Oedolion CGWM.

Ynghyd ag annog pobl i ailgydio mewn neu gychwyn gwersi cerddoriaeth o’r newydd, ceir cyfle hefyd i ddathlu creadigrwydd disgyblion presennol y Ganolfan ac hynny drwy gyfrwng cyngerdd ‘Miwsig Mai’ a gynhelir yn Stiwdio 1 Galeri Caernarfon ar y 18fed o Fai.

Yn y cyngerdd hwn,  gwahoddir yr oedolion sy’n dod i’r Ganolfan am wersi,  i berfformio mewn cyngerdd anffurfiol. Ynghyd â darparu cyfleoedd i berfformio darnau unawdol, ceir perfformiad hefyd gan Gôr Hamdden Mathias.

Ffurfiwyd y Côr yn 2015 a daw’r aelodau at ei gilydd yn wythnosol i ymarfer yn ystod y tymor ysgol.

2017 Wales Harp Festival

2017 Wales Harp Festival

12 &13 Ebrill 2017: Dathlu Telynau Iwerddon a Chymru.

Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill yng nghanol bwrlwm Galeri Caernarfon. Y Cyfarwyddwr yw’r delynores Elinor Bennett a bydd yr Ŵyl yn cynnwys cwrs deuddydd i delynorion yn ogystal â chyngerdd, cystadleuaeth a darlith. Trefnir yr ŵyl flynyddol hon gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Bob pedair mlynedd bydd yn newid i fod yn ŵyl 

TELYNORION O IWERDDON YN DOD I GYMRU I GOFIO HEN HEN CHWEDL

Cynhelir y cwrs deuddydd rhwng 10am – 5pm ar y ddau ddiwrnod a chroesewir telynorion o bob oed a gallu. Daw dwy delynores wych draw o’r Iwerddon – Denise Kelly a Cliona Doris –  i roi gwersi ac ymuno gyda’r tiwtoriaid o Gymru –  Elinor Bennett, Catrin Morris-Jones ac Elfair Grug – i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd. Caiff aelodau’r Cwrs gyfle i ddysgu alawon telyn Gwyddelig gan wyth o fyfyrwyr telyn o Ddulyn, fydd yn ymweld â Chymru, ac yn perfformio yn ystod yr Ŵyl.

DARLITH YR ŴYL  

Dydd Mercher, Ebrill 12 am 4pm, bydd Dr Sally Harper yn rhoi sgwrs ar

‘Greu traddodiad ar y cyd : Telynorion Cymreig a Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Leinster’

Yng ngeiriau Dr Harper, bydd yn sôn am “Chwedl Glyn Achlach” sydd wedi swyno cerddorion a haneswyr o Gymru ers canrifoedd.  Mae’n disgrifio’r bartneriaeth gerddorol gynnar a ddatblygodd rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod blynyddoedd cynnar y 12fed ganrif. Yn ganolog i’r chwedl yr oedd y ‘cyngor’ o delynorion Gwyddelig a Chymreig a ddaeth ynghyd yng Nghlyn Achlach. Eu bwriad oedd trafod agweddau mwyaf cain eu crefft, ac i gofnodi’r rheolau ar gyfer diogelu’r traddodiad i’r dyfodol.   

Ond i ba raddau y gallwn ni gredu’r adroddiad hwn – neu  ai dim ond chwedl ddychmygol yw hi wedi’r cyfan?

“Er fod y chwedl yn dangos nodweddion mytholegol, mae manylion eraill yn ffeithiol gywir. Gwyddom mai Glendalough yn Leinster yw ‘Glyn Achlach’ a’i fod unwaith yn gartref i Sant Cefyn, ac mai Brenin Iwerddon, Muirchertach O’Briain, oedd yn llywyddu’r cyfarfod allweddol hwnnw. Ond efallai mai’r hyn sydd fwyaf diddorol i ni yw beth a ddaeth allan o’r cyngor – sef casgliad o “fesurau” cerdd, neu batrymau sydd yn dal i oroesi. Mae eu dylanwad yn amlwg mewn llawysgrif a gopïwyd gan y telynor o Fôn, Robert ap Huw. Nid cyd-ddigwyddiad yw hi fod stamp yr iaith Gymraeg a’r Wyddeleg ar deitlau’r mesurau.”

Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn  rhyngwladol ar gerddoriaeth gynnar Cymru a bydd yn cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n  chwedlau difyr sydd wedi hen  fynd yn angof.  Bydd yn adrodd fel y bu i Gruffydd ap Cynan (c.1055-1137) a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â nifer o gerddorion gydag ef o’r Iwerddon, a threfnu cyngres fawr, neu eisteddfod, i delynorion a cherddorion o Gymru ac Iwerddon yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Dywedodd Cyfawyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett:

                “Y delyn yw emblem cenedlaethol Iwerddon ac mae  i’w gweld ar fflagiau,  arian  – ac mae’n logo i Guiness! Mae’n offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae’r traddodiad o delynori yn ymestyn yn ôl am 1500 mlynedd i’r 6ed ganrif, yn ôl tystiolaeth y beirdd a’u cerddi. Edrychaf ymlaen yn eiddgar i glywed beth ddigwyddodd pan aeth “Tywysog Cymru” – Gruffydd ap Cynan – â thelynorion o Iwerddon i gyfarfod eu cefndryd Celtaidd yng Nghymru.

                “Ym mis Ebrill eleni, daw telynorion ifanc o’r Iwerddon draw i Ŵyl Delynau Cymru i ail-greu diddordeb yn y digwyddiad a gymerodd le bron 880 mlynedd yn ôl.

Nodwyd 2017 yn “Flwyddyn y Chwedl” gan Llywodraeth Cymru, ac rwyf wrth fy modd fod y Dr Sally Harper wedi cytuno i  ddod i’r Ŵyl i atgoffa telynorion ein cyfnod ni o’r hen chwedl hon.  Mae’n braf iawn gwybod  mai  cerddor a aned yn Lloegr, ac sydd wedi dod yn rhan o’n cymdeithas,   sydd  wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’n  haddysgu fel  Cymry am ein etifeddiaeth hynafol!”

Mae’r Ŵyl eleni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Nansi Richards a bydd Cystadleuaeth flynyddol Ysgoloriaeth Nansi Richards ar gyfer telynorion ifanc o dan 25oed o Gymru yn cael ei chynnal yn Galeri am 6.30pm Nos Fercher y 12fed o Ebrill. Y beirniad fydd y delynores Ann Jones o Ddulyn sy’n dod yn wreiddiol o Gymru ac a gafodd ei gwers gyntaf gan Nansi Richards.

CYNGERDD YR ŴYL

Bydd Cyngerdd yr Ŵyl – “Telynau’r Môr Celtaidd” a gynhelir Nos Iau, 13 Ebrill am 7.30 pm yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon gan rai o delynorion mwyaf talentog y ddwy wlad. Daw deg o fyfyrwyr   o’r Conservatory Cerdd yn Nulyn i berfformio gyda thelynorion o Gymru mewn rhaglen o gerddoriaeth amrywiol – yn draddodiadol a chlasurol – o ddau lan y Môr Celtaidd.

Y gantores werin, Gwenan Gibbard, fydd yn canu caneuon gwerin o Gymru a bydd ei chôr newydd “Côr yr Heli” yn ymuno efo hi i gynnal eu perfformiad cyntaf mewn cyngerdd yng Nghymru cyn croesi’r môr i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, yr wythnos ganlynol.

Estynnir croeso cynnes i ddwy o gyn-ddisgyblion disglair Canolfan Gerdd William Mathias – Elfair Grug Dyer a Rhiain Awel Dyer – i berfformio unawdau a deuawd gan Lywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis a bydd Côr Telyn Gwynedd a Môn yn agor y cyngerdd o dan arweiniad, Alwena Roberts, sy’n diwtor telyn i Wasanaeth Ysgolion Wiliam Mathias.

Yn ystod y cyngerdd, fe lansir taflen ragarweiniol  Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018   fydd yn dathlu pen blwydd 90 oed  telynor amlycaf Cymru –  Osian Ellis –  sydd yn byw ym Mhwllheli.

Mae tocynnau i’r cyngerdd a’r ddarlith ar gael o Swyddfa Docynnau Galeri 01286 685222.

Cyngerdd Siambr yn Nghanolfan Fwyd Bodnant

Cyngerdd Siambr yn Nghanolfan Fwyd Bodnant

Bydd y delynores Elinor Bennett a’r sielydd Nicki Pearce yn ymddangos mewn cyngerdd a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant am 4:00yp ar y 29 Ionawr 2017.

Mae’r delynores a’r sielydd blaenllaw yn diwtoriaid yn Canolfan Gerdd William Mathias, sydd a chanolfannau yn darparu gwersi cerdd yng Nghaernarfon a Dinbych, ynghyd â darparu amryw o weithgareddau cerdd yn y gymuned.

Roedd Elinor Bennett yn un o’r rhai a sefydlodd Canolfan Gerdd William Mathias ac sydd wedi bod yn dysgu’r delyn yn y Ganolfan ers y cychwyn. Dywedodd: “Mae’n wych i weld Canolfan Gerdd William Mathias yn ehangu ei darpariaeth ac edrychaf ymlaen yn fawr at berfformio gweithiau unawdol a deuawdau gyda Nicki Pearce yn y cyngerdd arbennig hwn’ 

Mae’r cyngerdd hefyd yn gyfle i rai o ensembles y Ganolfan berfformio. 

Dywed Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias “Mae’r ensembles llinynnol sy’n cael eu harwain gan Nicki Pearce yn gyfle gwych i gerddorion ifanc ddod ynghyd i fwynhau cyd chwarae. 

“Mae nifer o’r aelodau hefyd yn dod atom am wersi ac mae bod yn rhan o ensemble yn cynnig cyfle i ehangu eu sgiliau cerddorol.”

Bydd James Scourse, sy’n Athro yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn ymddangos gyda Nicki Pearce a’r Ensemble Sielo Hŷn i berfformio’r Consierto i ddau sielo gan Vivaldi yn ystod y cyngerdd. 

Mae tocynnau sy’n £10 i oedolion a £5 i blant ar gyfer y cyngerdd ar werth gan Canolfan Gerdd William Mathias.

Siec o £7,000 i CGWM gan y Loteri Genedlaethol

Siec o £7,000 i CGWM gan y Loteri Genedlaethol

Cafodd Canolfan Gerdd William Mathias gryn syndod pan ddaeth un o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol draw i ddweud bod eu cais am nawdd wedi bod yn llwyddiannus.

Cyflwynwyd siec o £7,000 i’r Ganolfan fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ y Loteri Genedlaethol. Mae’r ymgyrch yn caniatáu i chwaraewyr ddysgu mwy am y prosiectau sydd ar eu hennill bob tro maen nhw’n prynu tocyn.

Fe wnaeth Bernii Owen, 22 oed o Lanfair Pwllgwyngyll, sydd wedi chwarae’r Loteri Genedlaethol ers iddi fod yn gymwys i chwarae chwe blynedd yn ôl, dreulio diwrnod yng nghwmni’r delynores Elinor Bennett, a dysgu mwy am y sefydliad a sut mae’n helpu pobl sy’n caru cerddoriaeth, gan gynnwys rhai ag anableddau dysgu a dementia.

Esboniodd Elinor sut fydd yr arian yn helpu’r ganolfan i brynu offerynnau newydd, uwchraddio ei chyfleusterau a gwella’i darpariaeth addysgu i bobl o bob oed o bob cwr o’r ardal.

Elinor Bennett, y delynores o fri rhyngwladol, oedd un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd William Mathias, ac mae’n dal i addysgu yno heddiw. Meddai:

“Bydd cyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hwb mawr i’n sefydliad ni. Mae cerddoriaeth yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i fywydau pobl hen a’r ifanc fel ei gilydd, boed hynny’n eu helpu i fynegi’u hunain yn greadigol, cyfathrebu ag eraill, meithrin doniau, magu cyfeillgarwch, cynnig dihangfa neu wella eu lles meddyliol – gall gynnig manteision di-rif.

“Yn ogystal â buddsoddi mewn mwy o offer, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynnal rhagor o ddosbarthiadau ar draws y gogledd-ddwyrain hefyd, lle mae gennym gangen bellach, a chreu cysylltiadau â mwy o gymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, bydd yn ein helpu i ddatblygu’r dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnig i blant ifanc ar hyn o bryd yn ogystal â’n galluogi i ddatblygu’n rhaglenni Doniau Cudd ac Atgofion ar Gân – sydd â’r nod o helpu pobl ag anableddau dysgu a dementia i gyfathrebu ag eraill.”

Meddai Bernii Owen, sy’n gweithio fel goruchwylydd ym mwyty Wal yn nhre’r Cofis: “Mae’n wych dysgu mwy am sefydliad lleol sydd wedi elwa ar arian y Loteri Genedlaethol, a bod yn rhan o syrpréis mor fawr hefyd.

“Nid bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyflwyno siec i rywun gan wybod bod yr arian hwnnw’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cymaint o bobl.

“Roedd hi mor gyffrous trosglwyddo’r amlen i Elinor a disgwyl iddi ddarllen y cynnwys. Roedd hi wrth ei bodd ac mor ddiolchgar. Sôn am wenu a chofleidio mawr – profiad emosiynol tu hwnt a dweud y gwir.

“Wrth brynu tocyn, y wobr ariannol yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl fel arfer, ond doeddwn i erioed wedi meddwl rhyw lawer am y ffaith fod rhywfaint o’r arian yn mynd i sefydliadau gwerth chweil lleol fel Canolfan Gerdd William Mathias.

“Mae cymryd rhan yn yr ymgyrch wedi bod yn brofiad gwych, a dw i’n siŵr fod chwaraewyr eraill y Loteri Genedlaethol wedi mwynhau profiad cystal wrth ymweld â phrosiectau eraill ledled Cymru. Heb os, bydda i’n dweud wrth eraill i ble mae’r arian yn mynd o hyn ymlaen, yn enwedig ar ôl gweld ei effaith gyda’m llygaid fy hun, a faint o bobl sydd wedi elwa.”

Meddai Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da y Loteri Genedlaethol:

“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi swm enfawr o £1.6 biliwn i  ariannu prosiectau o Fôn i Fynwy. Nod ymgyrch ‘Diolch Cymru’ yw diolch i chwaraewyr y loteri – fyddai dim o hyn yn bosib hebddyn nhw. Rydym am i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn ymwybodol o’r miloedd o brosiectau rhagorol ar hyd a lled Cymru na fyddai wedi gweld golau dydd heb eu harian nhw.”

Mae Canolfan Gerdd William Mathias, a sefydlwyd ym 1999, wedi ymgartrefu yn Galeri Caernarfon. Mae’n cynnig gwersi cerdd unigol o lefel dechreuwyr i broffesiynol. Ar hyn o bryd, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 5 ac 80+ oed yn mynychu gwersi unigol yn gyson sy’n cael eu darparu gan dîm o ddeugain o diwtoriaid yn y Ganolfan yng Nghaernarfon ac yng nghangen Dinbych hefyd.

Mae’r Ganolfan yn darparu cyfleoedd cerdd eraill hefyd gan gynnwys:

  • ‘Camau Cerdd’ ar gyfer plant hyd at 7 oed
    • ‘Doniau Cudd’ ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu
    • Côr ac ensemble siambr i bobl ifanc
    • Côr oedolion yn ystod y dydd
    • Dosbarthiadau theori a chyfansoddi • Cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth amrywiol
    • Gweithdai a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaenllaw • Sesiynau mewn cartrefi henoed

    Bydd y grant o gymorth i adnewyddu a gwella stoc o offerynnau cerdd a chyfarpar cysylltiedig (megis stolion) y Ganolfan yn ogystal â phrynu gliniadur ar gyfer golygu fideos a dibenion eraill.
Llwyddiant i ddisgyblion yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016

Llwyddiant i ddisgyblion yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016

Llongyfarchiadau i nifer o’n disgyblion ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:

Unawd Bechgyn o dan 16oed – 1af Tegid Goodman-Jones / Tiwtor Ann Atkinson

Unawd Merched o 16-19oed – 1af Tesni Jones / Tiwtor Ann Atkinson

Unawd Piano o dan 16oed – 3ydd Gwydion Rhys / Tiwtor Sioned Webb

Unawd Lliynnol o dan 16 oed – 3ydd Gwydion Rhys / Tiwtor Nicki Pearce

Unawd Bechgyn o dan 16oed – 3ydd Gronw Ifan Elis Griffith / Tiwtor Mary Lloyd-Davies

Unawd Bechgyn 16-19oed – 3ydd Gwern Brookes / Tiwtor Sian Wyn Gibson

Llongyfarchiadau hefyd i Leisa Gwenllian a Fflur Davies sy’n cael gwersi llais ar ddod yn drydydd ar y ddeuawd Cerdd Dant o dan 21oed ac i Math Roberts ar ennill cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas ar y delyn deires am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

Roeddem yn falch iawn o lwyddiant Ela Haf, disgybl a merch ein tiwtor pres Dylan Williams ar ei llwyddiant yn ennill y Rhuban Glas Offerynnol i rai o dan 16oed ac i un o’n cyn ddisgyblion, Gwyn Owen ar ennill y Rhuban Glas i rai dros 19oed. Llongyfarchiadau mawr i Gwyn hefyd ar dderbyn Gradd MA gydag Anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa broffesiynol.

Roedd yn braf hefyd gweld nifer o’n disgyblion, tiwtoriaid a chyfeillion yn cystadlu fel aelodau o gorau / partion, perfformio mewn amryw ddigwyddiadau a chyfeilio yn ystod yr wythnos.   

Cyhoeddi canlyniadau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016

Cyhoeddi canlyniadau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016

Yn dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ac enillodd y brif wobr o £2,000 yn rhoddedig gan Gwmni Roberts of Port Dinorwic. 

Domonkos Csabay o Hwngari enillodd y wobr gyntaf o £1,250 yn rhoddedig gan y Sickle Foundation yn y gystadleuaeth i Gyfeilyddion piano. Mae Domonkos yn astudio yn y  Conservatoire yn Birmingham.

Aeth y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Iau i Callum McLachlan, 17, o Stockport. Derbyniodd Callum, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chetham’s, wobr o £700 wedi ei chefnogi gan diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias. 

Trefnwyd yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Galeri o’r 29 Ebrill – 2 Mai, gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Cyfarwyddwr yr Ŵyl oedd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones.

Piano ar y Lôn

Piano ar y Lôn

Ar y 6ed o Ebrill bydd Cyfarwyddwr newydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn mynd ar y lôn gan gynnal perfformiadau byrfyfyr yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda phiano goch wedi ei darparu gan Pianos Cymru a chymorth Ian Jones, bydd Iwan yn ymweld â pedwar lleoliad ym Mangor, Porthaethwy a Chaernarfon i chwarae rhaglen amrywiol o gerddoriaeth o Chopin i Stevie Wonder i aelodau’r cyhoedd.

Dywed Iwan “ Mae mynd o amgylch efo’r piano goch lachar yn mynd i fod yn lot fawr o hwyl – mi fyddwch yn ein gweld o bell! Gobeithio y bydd pobl yn mwynhau clywed cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio yn y lleoliadau annisgwyl yma. Byddaf yn cymryd ceisiadau gan y cyhoedd felly gall pobl alw heibio ac fe chwaraeaf rywbeth yn arbennig iddyn nhw neu gallant ganu neu ymuno efo fi mewn deuawd os ydynt yn dymuno! “

Bwriad y daith yw codi ymwybyddiaeth am Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016 sy’n cael ei chynnal gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon rhwng y 29ain o Ebrill a’r 2il o Fai. Bydd y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd yn cynnwys cyngherddau, cystadlaethau gyda phianyddion o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan, a pherfformiadau mewn awyrgylch anffurfiol.

Dydd Mercher 6ed o Ebrill 
9.30am  Ysbyty Gwynedd, Bangor
11.00am  Siop Waitrose Porthaethwy
12.30pm  Canolfan Arddio Fron Goch, ger Caernarfon
2.30pm  Siop Morrison’s Caernarfon 

Gŵyl Biano Ryngwladol i gael ei gynnal yn Galeri dan gyfarwyddiad Iwan Llewelyn-Jones

Gŵyl Biano Ryngwladol i gael ei gynnal yn Galeri dan gyfarwyddiad Iwan Llewelyn-Jones

Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru rhwng y 29ain o Ebrill a’r 2il o Fai yn Galeri Caernarfon. Hon fydd y drydedd Gŵyl Biano i Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) ei chynnal ac eleni, bydd y pianydd  Iwan Llewelyn-Jones yn cyfarwyddo am y tro cyntaf. Mae’r Ŵyl yn cynnwys cyngherddau, cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a chyfweliadau gydag artistiaid gwadd.

Bydd y pianydd o fri rhyngwladol Peter Donohoe yn agor yr Ŵyl am 7.45y.h, Nos Wener y 29ain o Ebrill gyda datganiad o weithiau gan Ravel, Debussy, Scriabin a Rachmaninov. Bydd Peter Donohoe hefyd yn cadeirio y panel beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn.

Bydd y cyntaf o dair cystadleuaeth piano yn cychwyn fore Sadwrn, 30 Ebrill gyda chylch rhagbrofol yr Unawd Piano Iau. Bydd cylch terfynol y gystadleuaeth hon yn digwydd brynhawn Sul y 1af o Fai. Bydd y cystadlaethau Piano Unawdol Hŷn a Chyfeilio yn cychwyn fore Sul y 1af o Fai pan gynhelir y cylchoedd rhagbrofol, a bydd y cylchoedd terfynol yn dilyn brynhawn Llun yr 2il o Fai. Mae’r cystadleuwyr yn dod o bob cwr o’r Byd.

Amser cinio dydd Sadwrn y 30 Ebrill, bydd cyngerdd anffurfiol “Satie on the Sidewalk’ yn dathlu cerddoriaeth Erik Satie.

Bydd y cyngherdd gyda’r nos ar y 30 Ebrill am 7.45 yn dathlu cerddoriaeth a chyfansoddwyr o Gymru ac yn cynnwys y perfformiad cyntaf o 6 darn piano unawdol a gomisiynwyd yn arbennig gan yr Ŵyl. Mae’r gweithiau wedi eu hysbrydoli gan ddelweddau a barddoniaeth ar thema Heddwch a Chofio. Cyfansoddwyd tri o’r gweithiau gan gyfansoddwyr ifanc sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd a’r tri arall gan gyfansoddwyr o fri rhyngwladol – Paul Mealor a gyfansoddodd yr anthem i briodas Dug a Duges Caergrawnt; Richard Baker sy’n arbennigo mewn cerddoriaeth gerddorfaol a siambr ac Owain Llwyd sydd yn flaenllaw ym maes cerddoriaeth ffilm a theledu. Y cyfansoddwyr ifanc yw Luke Lewis, Mared Emlyn a Maja Palser.

Bydd prosiect addysgol yr Ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt yn y cyngerdd hwn hefyd gyda pherfformiad cyntaf o waith ar gyfer ensemble siambr wedi ei gyfansoddi gan bedwar myfyriwr lefel A. Bydd y gwaith tri symudiad ynghyd â ffanfferau yn cael ei berfformio gan gerddorion ifanc o CGWM.

Ar nos Sul 1af o Fai am 7.45 awyrgylch y Fiesta fydd yn llenwi Theatr y Galeri. Bydd pianyddion, offerynwyr eraill, cantorion ac adroddwyr yn codi’r to mewn cyngerdd o gerddoriaeth lliwgar o bob cwr o’r byd yn cynnwys Rio Grande gan Lambert, gosodiad hyfryd Poulenc o Babar the Elephant a’r Scaramouche gan Milhaud. Ymhlith y perfformwyr bydd pum pianydd yn cynnwys cyfarwyddwr yr Ŵyl, Iwan Llewelyn-Jones a Chôr Siambr CGWM.

Ar y bore olaf, Llun 2il o Fai, cynhelir tri ddigwyddiad hwyliog yn atrium Galeri, sef ‘Coffi a Croissants gyda Chopin a Debussy’ am 10am, Peter Donohoe yn sgwrsio gyda Iwan Llewelyn-Jones am ei fywyd ‘Ar y Lôn’ am 11 am, ac am hanner dydd, y ‘Pianothon’ fydd yn rhoi cyfle i bianyddion o bob oedran a chyrhaeddiad roi tonc ar y piano.

2017 Wales Harp Festival

Dathlu dauganmlwyddiant geni John Roberts (Telynor Cymru)

Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru dydd Mercher, y 6ed a dydd Iau y 7fed o Ebrill yn Galeri, Caernarfon. O dan gyfarwyddyd y delynores o fri rhyngwladol, Elinor Bennett, bydd yr Ŵyl eleni yn cynnwys cwrs deuddydd ar gyfer telynorion, yn ogystal â chyngherddau a darlith-ddatganiad. Cynhelir yr Ŵyl yn flynyddol gan Ganolfan Gerdd William Mathias, a phob pedair mlynedd cynhelir Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru sy’n ddigwyddiad mawr, wythnos o hyd. Cynhelir yr  Ŵyl Ryngwladol nesaf  ym mis Ebrill 2018. 

Cynhelir y cwrs deuddydd, sy’n addas I delynorion o bob oedran a chyrhaeddiad,  rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod uchod.  Mae Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett, yn un o’r tiwtoriaid,  a bydd Eira Lynn-Jones (Athro’r Delyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) yn ymuno â hi, ynghŷd â  Morwen Blythin, Einir Wyn Hughes a Dylan Wyn Rowlands.

Dydd Mercher y 6ed o Ebrill am 7pm, bydd yr Arglwydd Thomas o Gresffordd, QC yn olrhain hanes difyr ei deulu sy’n ddisgynyddion o deulu enwog y Sipsi Romani Cymreig,  Abram Wood.  Mae’r Arglwydd Thomas yn ddisgynnydd i wyres Abram Wood sef Ellen Ddu a oedd, yn ôl y sôn, yn wrach ac yn “gallu adrodd stori’n well na neb.”

Aelod amlwg arall o’r teulu oedd y telynor enwog John Roberts “Telynor Cymru” (1816 – 1894) sy’n cael ei ddathlu yn yr Ŵyl eleni.  Wrth olrhain hen  hanes ei deulu ysbrydolwyd yr Arglwydd Thomas i ddysgu canu’r delyn,  a bydd yn perfformio darnau byr yn ystod ei ddarlith.

Dywed Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl : “Mae’n hynod ddifyr fod aelod blaenllaw o Dy’r Arglwyddi  yn  rhoi darlith am  ei hen deulu, a oedd yn sipsiwn cerddgar,  crwydrol a gyfrannodd gymaint i gerddoriaeth werin yng Nghymru dros ddwy ganrif yn ôl.”

Yn dilyn y ddarlith, bydd perfformiadau gan Elinor Bennett ar y delyn deires Gymreig. Bydd ei rhaglen yn cynnwys Sonata Rhif 3 o’r “Bedair Gwers”  (1761)  gan John Parry (1710 – 1782), y telynor dall o Riwabon, a ddylanwadodd mor drwm ar delynorion teires o Gymru yn ddiweddarach, gan gynnwys John Roberts ei hun.

Bydd gwledd i’r llygad a’r glust am 5pm, dydd Iau y 7fed o Ebrill pan fydd tua hanner cant o delynaorion yn perfformio gyda’i gilydd ar GalerÏau Galeri. Bydd y cyngerdd anffurfiol yma yn cynnwys perfformiad gan yr holl delynorion o alawon dawns fydd wedi cael eu dysgu gan Robin Huw Bowen yn ystod y cwrs fel dathliad pellach o waith John Roberts.

Yng Nghyngerdd yr Ŵyl am 7.30pm Nos Iau y 7fed o Ebrill,  bydd amrywiaeth o gerddoriaeth o’r traddodiadol i Jazz. Bydd un o feistri’r delyn deires, Robin Huw Bowen,  yn perfformio alawon y sipsiwn Cymreig a bydd y ddeuawd –  Máire Ni Chathasaigh (telyn Geltaidd) a Chris Newman (gitar) –  yn cyflwyno rhaglen gyffrous yn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, Jazz, bluegrass a baroc. Yn ddiweddar enwyd Máire yn Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau ‘Live Ireland’ 2016.

Bydd y telynor ifanc dawnus, Ben Creighton-Griffiths o Gaerdydd, yn perfformio cerddoriaeth jazz ar y delyn electroneg gan gwmni Camac,  gan wneud defnydd o’r effeithiau sain arbennig sy’n bosibl ar y delyn. Gwnaeth Ben ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan yn saith oed yn 2004 trwy ennill cystadleuaeth  bwysig yn Ffrainc i rai o dan 18 oed.  

Cefnogir Gŵyl Delynau Cymru 2016 gan Clogau Gold, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Telynau Vining Harps.

Camau Cerdd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llangollen

Camau Cerdd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llangollen

Diwrnod prysur yn Llangollen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi! 

Cafodd diwrnod llawn hwyl i blant bach a’u rhiant/gwarchodwr ei drefnu gan Fenter Iaith i ddathlu Diwrnod Dathlu Dewi.

Roedd nifer o sefydliadau yno yn cynnwys ein prosiect Camau Cerdd.

Cafodd sesiynau Cropian Cerdd a Chamau Cyntaf eu cynnal drwy gydol y dydd a chafodd pawb lawer o hwyl!

Trwy ganu a chreu cerddoriaeth gwnaethom ymweld â lan y môr, y fferm a’r jwngl. Dysgom ein do-re-mi gyda Mr Cerdd a theimlom guriad y gerddoriaeth gyda Plu Enfys. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys ein cân newydd am y cennin pedr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Cafodd Camau Cerdd amser llawn hwyl yn Llangollen ac rydym yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol agos.

Os nad oeddech yn y digwyddiad peidiwch a phoeni – rydym ni am wneud sesiynau tebyg yn Ninbych ar y 3ydd o Ebrill.

Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Facebook.