Galwad am Gerddorion

Galwad am Gerddorion

Rydym yn awyddus i glywed gan gerddorion sydd a diddordeb mewn cynnal sesiynau cerdd fel rhan o’n cynllun newydd cyffrous ‘Canfod y Gan’ fydd yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion heb anableddau ynghyd i greu cerddoriaeth. Mwy o wybodaeth.

Galwad am Gerddorion

Galwad am Werthuswyr Allanol

Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 (www.spiritof2012.org.uk) er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân/Discover the Song’ dros dair blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion sydd heb anableddau ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl a llesiant.

Bydd CGWM yn gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd a fydd yn cyfeirio unigolion gyda anableddau dysgu i’r prosiect.

Rydym eisiau derbyn ceisiadau gan werthuswyr allanol i weithio gyda ni drwy gydol y prosiect er mwyn :

  • casglu tystiolaeth o effaith y prosiect,
  • cynorthwyo wrth baratoi adroddiadau i’r noddwr.
  • cynorthwyo i rannu ein dysgu a’n canfyddiadau.

Gweler dolen i’r Tendr.

Gwledd o Gerddoriaeth: Elain Rhys a Ffrindiau

Gwledd o Gerddoriaeth: Elain Rhys a Ffrindiau

Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i ffrindiau.

Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.

Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.

Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig hwn. Dwi’n  edrych ymlaen yn arw at y noson.”

Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled Gogledd Cymru.

Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.

Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y noson.”

Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.

Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.

Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”

Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19 Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361

Cerys yn Ennill Ysgoloriaeth Ben Muskett 2018

Cerys yn Ennill Ysgoloriaeth Ben Muskett 2018

Cerys Edwards, disgybl yng Nghanolfan Gerdd William Mathias (cangen Rhuthun), sydd yn derbyn Ysgoloriaeth CGWM er cof am Ben Muskett eleni. Mae Cerys, sy’n 16 oed, yn cael gwersi piano gyda Teleri Siân.

Dywedodd Cerys, “Roedd yn dipyn o sioc i glywed fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Ben Muskett. Roeddwn newydd berfformio mewn cyngerdd gan rai o fyfyrwyr y Ganolfan ac ar ôl i mi berfformio cefais fy ngalw yn ôl i’r llwyfan i dderbyn tlws ac arian yr ysgoloriaeth.

Wrth longyfarch Cerys, dywedodd Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, “Roedd Ben Muskett yn diwtor piano ysbrydoledig yn y Ganolfan. Ond, yn 25 oed, bu farw mewn damwain car yn 2011.”

Caiff yr Ysgoloriaeth ei dyfarnu’n flynyddol i bianydd addawol dan 18 oed sy’n derbyn gwersi yn CGWM. Yn ôl Meinir Llwyd, “Dyma’n ffordd ni o gynnal rhywfaint o’r angerdd yr oedd Ben yn ei deimlo am gerddoriaeth a dysgu plant a phobl ifanc.”

Meddai Cerys, “Mae’r ysgoloriaeth yn golygu gymaint i mi. Mi fydd yr arian o gymorth mawr er mwyn prynu darnau newydd piano yr hoffwn eu dysgu – yn cynnwys Waltzes Chopin, Preludes Debussy a darnau jazz hefyd.”

Mae Cerys yn derbyn gwersi Cerddoriaeth yn Ysgol Brynhyfryd gyda Miss Llinos Williams. Dechreuodd gael gwersi Piano pan oedd hi’n chwech oed gyda Mavis Johns, cyn cychwyn gwersi gyda Teleri-Siân yn 2012.

Yn ôl Cerys, “Rwyf wrth fy modd yn dod am wersi piano gyda Teleri Siân a gyda’i chymorth hi mi wnes i lwyddo i basio fy arholiad Gradd 8 yn ystod yr Haf gyda theilyngdod.”

Dywedodd Llinos, mam Cerys: “Rydan ni wedi bod yn ffodus iawn i gael tiwtoriaid piano o’r safon uchaf dros y blynyddoedd – mae fy mab Sion, ynghyd â chwaer Cerys, Cathrin, wedi mwynhau dod am wersi piano efo Teleri-Siân.”

Ym Mlwyddyn 9, enillodd Cerys y drydydd wobr yng Nghystadleuaeth Unawd Piano Blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae hi hefyd yn aelod ffyddlon o Gôr Cytgan Clwyd.

Yng Nghaernarfon y mae prif gartref CGWM. Ond, ers 2012, mae’r Ganolfan wedi bod yn darparu gwersi cerdd ar nosweithiau Llun yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ac, ers dros flwyddyn, hefyd yn cynnig gwersi yng Nghapel Tabernacl, Ruthun ar nosweithiau Mercher.

Cafodd tlws yr ysgoloriaeth ei gyflwyno i Cerys yng nghyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ CGWM yn Neuadd Bentref Pwllglas. Roedd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion o bob oedran sy’n derbyn gwersi yn y Ganolfan, ynghyd ag ensembles Telynau Clwyd Iau ac Hŷn dan arweiniad Morwen Blythin a Dylan Cernyw.

Yn naturiol, roedd tiwtor piano Cerys, Teleri-Siân, wrth ei bodd o glywed y newyddion: “Mae wastad yn bleser i roi gwersi piano i Cerys yn y Ganolfan. Mae hi’n ddisgybl arbennig sy’n datblygu i fod yn berfformwraig a cherddor hyderus ag aeddfed.” 

Dyblu eich rhoddion at Doniau Cudd am wythnos yn unig

Dyblu eich rhoddion at Doniau Cudd am wythnos yn unig

Mae Canolfan Gerdd William Mathias,elusen sy’n ymroddi i ddarparu profiadau mewn cerddoriaeth i’r cyhoedd yn galw am gefnogaeth y gymuned leol a busnesau i helpu i gyrraedd targed codi arian o £ 3,000 a fydd yn cael ei dyblu yn ystod Her Nadolig 2017 y Big Give.

Bydd unrhyw roddion a wneir ar-lein i Ganolfan Gerdd William Mathias rhwng y 28ain o Dachwedd a’r 5ed o Ragfyr yn cael eu dyblu ac yn cyfrannu at barhad ‘Doniau Cudd’, sef prosiect sy’n darparu cyfleoedd cerddorol i oedolion ag anableddau o ardal Caernarfon.

Mae’r prosiect wedi’i gynnal yn llwyddiannus ers dros 10 mlynedd ac mae wedi dod yn rhan hynod bwysig o fywydau dros 30 o gyfranogwyr sy’n mynychu sesiynau wythnosol yn Galeri Caernarfon. Fe’i sefydlwyd yn 2003 gan y Ganolfan Gerdd a’r cerddor Arfon Wyn gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Mae unigolion lleol sy’n byw gydag anableddau yn elwa’n gymdeithasol ac yn addysgol. I rai cyfranogwyr, mae cerddoriaeth yn cynnig dull cyfathrebu naturiol yn absenoldeb lleferydd. Mae manteision eraill yn cynnwys adeiladu hyder a chyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol.

Gwyliwch y ffilm yma am flas o’r prosiect.

Dywedodd y cerddor ac arweinydd y sesiynau, Arfon Wyn: “Rydw i’n cael boddhad mawr wrth weithio gyda ‘Doniau Cudd’, rydym ni’n byrfyfyrio’n gerddorol gyda’n gilydd ac wedi gwneud ffrindiau am oes”.

Ers 2012 mae’r prosiect wedi ehangu i Bwllheli a Sir Ddinbych ac yn 2013 dyfarnwyd Gwobr Gofal Cymru Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i’r prosiect am hyrwyddo’r Celfyddydau mewn Gofal Cymdeithasol.

Dywedodd Nia Hughes o Ganolfan Gerdd William Mathias: “Mae’r prosiect yn ysbrydoliaeth go iawn i bawb sy’n gysylltiedig ag o. Mae’r unigolion sy’n mynychu’n cael cyfle i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth, ac yn aml yn perfformio i’r cyhoedd mewn digwyddiadau a gynhelir gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Mae’n werth i weld eu hwynebau wrth berfformio, sy’n pwysleisio pwysigrwydd y prosiect hwn. Plîs cefnogwch os gallwch chi.”

Mae’r elusen yn gweithio’n ddiflino i sicrhau cyllid o hyd at £14k yn flynyddol i gynnal y prosiect hwn. I gefnogi Doniau Cudd a helpu i barhau i gyfoethogi bywydau pobl sy’n byw gydag anableddau, cyfrannwch ar lein i Ganolfan Gerdd William Mathias rhwng 28 Tachwedd – 5 Rhagfyr 2017. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230

Gwledd o Gerddoriaeth yn Rhuthun!

Gwledd o Gerddoriaeth yn Rhuthun!

MAE GWLEDD O GERDDORIAETH wedi ei threfnu fel rhan o gyngerdd arbennig a gynhelir yn Theatr John Ambrose, Rhuthun ar y 3ydd o Chwefror 2018 am 7:30yh.

Bydd y cyngerdd, a drefnir gan Canolfan Gerdd William Mathias yn dathlu bod y Ganolfan Gerdd wedi cychwyn darparu gwersi cerddoriaeth yn Rhuthun fel rhan o ymdrechion yr elusen i ehangu ei darpariaeth yn y Gogledd Ddwyrain. Mae’r Ganolfan, sydd â’i phencadlys yn Galeri Caernarfon wedi bod yn darparu gwersi cerdd yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych ers sawl blwyddyn bellach ac yn falch o ehangu i Rhuthun.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan diwtoriaid y Ganolfan, cyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i astudio mewn colegau cerdd a Chôr Cytgan Clwyd. Ymhlith yr artistiaid bydd Rhys Meirion, Elinor Bennett, Ann Atkinson, Alfred Barker, Glian Llwyd, Teleri Siân, Morwen Blythin, Dylan Cernyw, a Kate Griffiths.

Dywedodd y tiwtor llais  Ann Atkinson sydd hefyd yn Gyfarwyddwraig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ac yn arwain Côr Trelawnyd a Chôr Meibion Bro Glyndwr:

“Rydw i wedi bod yn dysgu i Ganolfan Gerdd William Mathias ers 2012 pan gychwynnon ni ddarparu gwersi yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych. Mae’n wych i weld y Ganolfan yn ehangu’r ddarpariaeth drwy gynnig gwersi hefyd yn Rhuthun.

“Rwy’n edrych ymlaen at rannu’r llwyfan â’r tiwtoriaid eraill ynghyd â rhai o’r myfyrwyr rwyf wedi bod yn eu dysgu yn Ninbych sydd wedi mynd ymlaen i astudio’r llais mewn colegau cerdd.”

Bydd tri o gyn-ddisgyblion disglair Ann yn cymryd rhan yn y cyngerdd – Tesni Jones a Lisa Davies sydd wedi mynd ymlaen i astudio’r llais yn y Royal Northern College of Music, a Steffan Davies sydd bellach yn astudio cerddoriaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ôl un o diwtoriaid piano y Ganolfan Teleri Siân, sy’n byw yn Llanfair Dyffryn Clwyd, mae Canolfan Gerdd William Mathias yn gweithio’n galed i ddatblygu ei darpariaeth newydd yn Rhuthun. Dywedodd:

“Rydym wedi cychwyn trwy gynnig gwersi piano, llais, theori a ffidil yn Rhuthun i blant ac oedolion, ond rydym yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys gwersi ar amrediad eang o offerynnau eraill felly mae’n bwysig bod pobl yn cysylltu i fynegi eu diddordeb. Byddwn hefyd yn datblygu ein darpariaeth o weithgareddau cerdd grŵp yn ystod y misoedd nesaf.”

Mae’r prosiect Camau Cerdd – sef grwpiau cerdd i blant bach eisoes yn cael ei gynnal yn Ninbych mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Sir Ddinbych a Gwasanaethau Celfyddydol Sir Ddinbych. Cynhelir grŵp i blant 6 mis – 3 oed am 1.45yp yn Hwb Dinbych a grŵp i blant 4 – 7 oed yn Theatr Twm o’r Nant ar ôl ysgol ar ddyddiau Llun.

“Mi fydd noson arbennig hon o gerddoriaeth ar y 3ydd o Chwefror yn helpu i godi ymwybyddiaeth bod gwersi cerdd nawr ar gael yn Rhuthun. Dewch i fwynhau’r wledd o gerddoriaeth!”

Mae tocynnau ar gyfer cyngerdd ‘Gwledd o Gerddoriaeth’ ar y 3ydd o Chwefror, 7:30yh yn Theatr John Ambrose ar gael o Siop Elfair, Rhuthun ac o Siop Clwyd, Dinbych. Prisiau’r tocynnau ydy £7, £6 (pensiynwyr), £3 (plant).

Atgofion ar Gân i gychwyn yn Bethesda a Deiniolen

Atgofion ar Gân i gychwyn yn Bethesda a Deiniolen

Ers mis Tachwedd 2016, mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn cynnal sesiynau cerddorol gyda thrigolion hŷn Gellilydan ac Awel y Coleg, Y Bala dan arweiniad Nia Davies Williams. Gwahoddwyd plant o’r ysgolion cynradd lleol i gymryd rhan mewn sesiynau Camau Cerdd gyda Marie-Claire Howorth cyn ymuno i gyd-ganu a mwynhau gweithgareddau cerddorol gyda’r bobl hŷn.

Ers y comisiwn gan Uned Celfyddydol Cymunedol Cyngor Gwynedd mae’r sesiynau wedi helpu dod a phobl at ei gilydd i hel atgofion a mwynhau cerddoriaeth, yn ogystal â chodi hyder a chynnig cyfle i gyfarfod pobl newydd.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y sesiynau yn ymestyn i ardaloedd Bethesda a Deiniolen diwedd mis Hydref. Mae’r sesiynau’n agored i unrhyw drigolion hŷn ddod draw am baned a chân ac i gwrdd â phobl newydd. Bydd sesiynau Bethesda yn dechrau ar Hydref 27, 10:30 – 11:30 yn Neuadd Ogwen, ac yna bob yn ail wythnos wedi hynny. Yn yr un modd, bydd sesiynau Deiniolen yn dechrau ar Hydref 27, 14:00 – 15:00 yn Nhŷ Elidir. Bydd paned ar gael ar ddiwedd pob sesiwn a bydd plant o’r ysgolion lleol yn ymuno Gwanwyn 2018.

Gwyliwch y ffilm yma am hanes y gweithgareddau diweddar yn Y Bala a Gellilydan. Am unrhyw wybodaeth pellach, cysylltwch â Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286685230

Côr Siambr CGWM: Croeso i aelodau newydd!!

Côr Siambr CGWM: Croeso i aelodau newydd!!

Bu Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias yn cymryd rhan mewn cyngerdd yng Nghadeirlan Llanelwy dydd Sul y 24 Medi fel rhan o Gorws Opera Genedlaethol Cymru gan ganu’r premiere Cymreig gan Oliver Tarney a Paul Mealor.

“Roedd hwn yn brofiad gwych i’r côr i fod yn rhan o gorws yr Opera Genedlaethol ac i ganu mewn lleoliad mor anhygoel â Chadeirlan Llanelwy” meddai Jenny Pearson, arweinydd y côr.

Mae Jenny Pearson wedi bod yn arwain Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias ers bron iawn i ddegawd bellach, a dan ei arweinyddiaeth, mae’r côr wedi gweld nifer o lwyddiannau, gan gynnwys cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda chôr Incantanti o’r Swistir dim ond y llynedd.

Mae rhai o berfformiadau mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus y Côr yn cynnwys: Bach Magnificat, Handel Zadok the Priest, Fauré Cantique de Jean Racine ac Offeren Mozart.

Mae’r Côr wedi cyflawni amryw o berfformiadau llwyddiannus, gyda rhai aelodau wedi mynd ymlaen i ganu gyda Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Opera Ieuenctid WNO, ac ymlaen i golegau cerdd adnabyddus.

Gydag amryw o aelodau’r côr wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion a cholegau cerdd ym mis Medi, mae’r côr yn awr yn awyddus iawn i ddenu aelodau newydd i ymuno â’r tîm.

Mae’r côr yn agored i gantorion rhwng 12 – 25 oed, a mae Jenny Pearson yn awyddus i bwysleisio nad oes angen profiad blaenorol o fod mewn corau er mwyn ymuno:

“Mae’r Côr Siambr CGWM yn agored i bawb – does dim angen profiad blaenorol, does dim angen bod yn derbyn gwersi llais, a does dim clyweliad. Os yw eich plentyn yn ‘geek’ cerddorol o unrhyw fath, mi fydden nhw wrth eu boddau! Mae bod yn rhan o’r côr hefyd o fudd i’r rhai sydd yn dysgu offerynnau – gan eu helpu efo sain glust a darllen ar yr olwg gyntaf.”

Cynhelir ymarfer cyntaf y gyfres yn rhad ac am ddim, ar nos Iau y 5ed o Hydref rhwng 4:45 – 6:00yh, yn SP3, Galeri Caernarfon.

Mi fydd yr ymarfer cyntaf yma am ddim, yn rhoi cyfle da i blant rhoi cynnig ar y côr cyn cofrestru i’r tymor, ynghyd â rhoi cyfle i gael sgwrs anffurfiol efo Jenny.

Penodi Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018

Penodi Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018

Rydym yn falch iawn o benodiad diweddar y Delynores Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018. Bydd Catrin yn gweithio yn agos ag Elinor Bennett dros y misoedd nesaf ar yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal rhwng 1af – 7fed Ebrill 2018.

Gyda dros ugain mlynedd o brofiad fel telynores broffesiynnol yn Llundain, bellach mae Catrin yn byw gydai’i theulu ym Mhwllheli ac yn athrawes delyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2015.

Dywedodd  Catrin: “Rwy’n falch iawn o gyd-weithio gydag Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl, ac yn edrych ymlaen i weithio â staff Canolfan Gerdd William Mathias a gwirfoddolwyr lleol i greu Gŵyl gyffrous a llwyddiannus.”

Trefnir yr Ŵyl gan CGWM a bydd yn wledd o gyngherddau, cystadleuthau a dosbarthiadau meistr i ddathlu penblwydd y telynor byd enwog,  Osian Ellis yn 90 oed.

Meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl:

“Rwyf yn hapus iawn fod Catrin wedi ymuno â’r tîm sydd yn trefnu Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru IV ym mis Ebrill nesaf. Mae ganddi brofiad helaeth o drefnu digwyddiadau ym maes y delyn ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael ei chymorth a’i hegni i sicrhau fod yr Ŵyl Delynau  yn mynd o nerth i nerth ac yn denu cannoedd o delynorion o  lawer gwlad i Gaerenarfon ym mis Ebrill.”

Am ragor o wybodaeth am yr Ŵyl, ewch i wefan: Gŵyl Delynau Cymru

Llwyddiannau disgyblion CGWM yn Eisteddfod Genedlaethol Môn

Llwyddiannau disgyblion CGWM yn Eisteddfod Genedlaethol Môn

Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion y Ganolfan oedd yn cystadlu yn yr Esiteddfod eleni.  Dyma restr o’r buddugwyr yn cynnwys disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion:

Unawd Llinynnau dan 16 oed:
Gwydion Rhys

Unawd piano dan 16 oed:
Gwydion Rhys
Medi Morgan

Deuawd offerynnol:
Rhiain Awel Dyer & Chloe Roberts
Gwenno a Medi Morgan

Unawd i ferched 16-19 oed:
Tesni Jones
Lisa Dafydd

Unawd i fechgyn 12-16 oed:
Tomi Llewelyn

Unawd Telyn dan 19 oed:
Elain Rhys

Unawd mezzo-soprano 19-25 oed:
Morgana Warren-Jones

Unawd Piano dros 19 oed:
Gwenno Glyn

Unawd Telyn dros 19 oed:
Glain Dafydd

Rhuban Glas Offerynnol dros19 oed:
Glain Dafydd