Bydd tiwtoriaid cerdd o ganolfan
gerddoriaeth nodedig yn gweld y byrddau’n cael eu troi fis nesaf pan fyddant yn
perfformio o flaen cynulleidfa sy’n llawn myfyrwyr fel rhan o achlysur i godi arian
i ŵyl biano arbennig.
Yn ymuno â’r pianydd cyngerdd
rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones bydd llond gwlad o gerddorion Cymreig dawnus o
Ganolfan Gerddi William Mathias ar gyfer cyngerdd arbennig am 3yp ar ddydd Sul,
Tachwedd y 10fed, er budd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Bydd y tiwtoriaid yn cychwyn ar
daith gerddorol ledled y byd, o Ewrop i America ac Awstralia, gan berfformio
deuawdau a thriawdau o repertoire clasurol, poblogaidd a jazz.
Sefydlwyd y ganolfan gerdd, sydd â lleoliadau
yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, ddau ddegawd yn ôl yng Nghaernarfon gyda
chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn helpu offerynwyr a chantorion o
bob oed a gallu i gyrraedd eu potensial.
Mae gan y ganolfan, sydd wedi
helpu i lansio gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol degau o gerddorion, bellach
mwy na 40 o diwtoriaid yn gweithio ar eu liwt eu hunain gan gynnwys y delynores
ryngwladol o fri Elinor Bennett, sydd wedi dysgu yn y ganolfan o’r cychwyn
cyntaf.
Bydd cyngerdd y mis
nesaf, a gynhelir yn Galeri, Caernarfon am 3yp ar ddydd Sul, Tachwedd y 10fed, yn arddangos doniau naw o diwtoriaid piano’r
ganolfan mewn digwyddiad cymunedol hwyliog sy’n cynnwys amrywiaeth o glasuron
poblogaidd.
Bydd y cyngerdd, a drefnwyd gan
Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, yn codi
arian tuag at noddi gwobr gystadleuaeth yn yr ŵyl piano fydd yn cael ei chynnal
y flwyddyn nesaf.
Meddai: “Mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol ac mae
croeso i bawb. Mae’r tiwtoriaid i gyd wedi gwahodd eu myfyrwyr hefyd ac felly
bydd y disgyblion yn cael cyfle unigryw i weld eu tiwtoriaid yn perfformio.
“Mae llawer o waith yn mynd i
baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau a chystadlaethau ac mae hon yn ffordd
braf i droi’r byrddau.
“Rydyn ni i gyd yn ffrindiau a’r
peth braf am wneud rhywbeth fel hyn drwy ddod at ein gilydd fel ensemble, yw ei
fod yn gymaint o hwyl. Does dim rhaid i chi siarad, dim ond chwarae. Rydych
chi’n gadael i’r gerddoriaeth wneud y siarad drosoch chi.
“Mi wnaethon ni
gynnal cyngerdd tebyg yn 2015 i lansio gŵyl 2016. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd
ymlaen llaw, wrth gwrs, gan nad oes gan rai o’r tiwtoriaid yr amser i
berfformio’n gyhoeddus yn aml ond roedden nhw wrth eu boddau, roedd yn brofiad
gwefreiddiol i ni i gyd. Dyma yw hanfod y peth.”
Bydd y cyngerdd yn cynnwys Glian
Llwyd, Nia Davies-Williams, Steven Evans, Ann Peters Jones, Helen Owen, Hawys
Price, Teleri-Siân, Sian Wheway ac Iwan.
Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd
perfformiadau o glasur poblogaidd Saint Saens ‘Carnifal yr Anifeiliaid’, ‘En
bateau’ Debussy, Symffoni Rhif 5 Beethoven a’r Nutcracker Suite gan Tchaikovsky
yn cael eu perfformio ar ddau biano mawr.
“Mae hwn yn un o ddau ddigwyddiad lansio sy’n dod
â’r ganolfan gerddoriaeth a’r bobl sy’n gweithio ynddi at ei gilydd i gael cyfle
i arddangos eu doniau,” meddai Iwan,
“Rydw i wedi rhoi llawer o feddwl
i’r detholiad o gerddoriaeth ac wedi ceisio ei wneud mor ddeniadol â phosib.
Mae’r pianyddion i gyd yn rhoi o’u hamser eu hunain am ddim ar gyfer y cyngerdd
hwn a byddai’n hyfryd gweld y lle’n llawn fel y gwnaethom yn ôl yn 2015. Mae
croeso i bawb.”
Ychwanegodd Meinir Llwyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan
Gerdd William Mathias: “Mae’n rhaglen liwgar a diddorol iawn a fydd yn apelio
at deuluoedd a phobl o bob oed.
“Mae hefyd yn gyfle gwych i
glywed y tiwtoriaid eu hunain yn perfformio, yn enwedig ar gyfer eu myfyrwyr eu
hunain. Maen nhw i gyd yn dysgu ar wahanol adegau ar wahanol ddiwrnodau a
chyda’r nos ac mae’n braf dod â nhw at ei gilydd i berfformio fel tîm. “
Mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a drefnir gan
Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Mai 2020 a bydd yn
archwilio’r tri maes allweddol o berfformio, cystadlu ac addysgu.
Bydd gŵyl y flwyddyn nesaf yn talu gwrogaeth i
Ludwig van Beethoven a’i etifeddiaeth bianyddol fel rhan o ddathliadau sy’n
nodi 250 mlynedd ers ei eni.
Mae Diwrnod Piano hefyd yn cael ei gynnal ar Dachwedd 23 yn yr Ysgol
Gerdd ym Mhrifysgol Bangor fel digwyddiad lansio pellach i’r ŵyl www.pianofestival.co.uk.
I archebu tocynnau ar
gyfer Cyngerdd y Tiwtoriaid Piano ewch i: www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685222
Bydd un o
sopranos enwocaf Cymru yn cymryd rhan flaenllaw mewn cyngerdd i ddathlu 20
mlynedd ers sefydlu Canolfan Gerdd sydd â changhennau yng Nghaernarfon, Dinbych
a Rhuthun.
Ynghyd â bod yn
unawdydd o fri rhyngwladol, mae Mary Lloyd-Davies wedi dysgu yng Nghanolfan
Gerdd William Mathias ers y cychwyn cyntaf.
Sefydlwyd y Ganolfan
yng Nghaernarfon, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ugain mlynedd
yn ôl gan grŵp o bobl oedd â diddordeb mawr mewn addysg cerddoriaeth, gyda’r
nod o alluogi cerddorion a chantorion i gyrraedd eu potensial.
Bydd y cyngerdd
yn cael ei gynnal yn Galeri Caernarfon dydd Sadwrn y 7fed o Fedi, pan fydd nifer
o gerddorion arbennig yn ymuno gyda Mary Lloyd-Davies i nodi’r garreg filltir
arbennig hon.
Ymhlith yr
uchafbwyntiau eraill bydd perfformiadau gan y delynores nodedig Elinor Bennett,
a fu’n allweddol yn sefydlu y ganolfan, a’r ffliwtydd hynod dalentog, Rhiannon
Mathias, merch y cyfansoddwr blaenllaw, yr Athro William Mathias, yr enwyd y
ganolfan ar ei ôl.
Er ei bod wedi
mwynhau gyrfa sydd wedi ei gweld yn perfformio yn nhai opera gorau’r byd, mae Mary
Lloyd-Davies, sy’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala, wedi aros yn agos at ei
gwreiddiau trwy diwtora myfyrwyr llais yn y ganolfan.
Meddai: “Rydw i
wedi bod yn perfformio ers tua 1969 ac wedi mwynhau gyrfa fendigedig. Mae ‘na
nifer o uchafbwyntiau gwych ac wrth gwrs yn anochel ambell i bwynt isel hefyd.
“Un uchafbwynt
oedd perfformio yn Nhŷ Opera La Scala yn
Milan mewn opera o’r enw 1984 sy’n seiliedig ar lyfr enwog George Orwell.
“Rwyf hefyd wedi
perfformio yn Hansel a Gretel yn San Francisco a Houston ac yn Elecktra gan
Strauss yn yr Opéra Bastille ym Mharis. Fe wnes i fy ymddangosiad cyntaf yn y
Tŷ Opera Brenhinol fel y person deud ffortiwn yn Arabella. Fe wnes i hefyd
treulio 22 mlynedd efo Opera Cenedlaethol Cymru gan chwarae prif rannau yn
Fidelio, Macbeth, Elektra, Tosca, Ballo in Maschera a Tristan and Isolde.”
“Daeth y ‘big
break’ i mi yn 1992. Roeddwn wrth gefn ar gyfer y brif ran yn opera Richard
Strauss Elektra. Fe aeth y brif gantores
yn sâl, a bu’n rhaid i mi gamu i mewn heb lawer o rybudd o gwbl.
“Yna cefais
gynnig y brif ran yn Elektra ym 1995 ar gyfer cynhyrchiad arall gan WNO ac yna
camu i mewn ar fyr rybudd ar gyfer yr un rôl yn Opéra Bastille ym Mharis ar gyfer cynhyrchiad
gwahanol. Roedd hynny hefyd yn hwb mawr i’m gyrfa.”
Ychwanegodd: “Yn
ogystal a gweithiau operatig, byddaf yn perfformio rhai o ganeuon gwerin traddodiadol
Cymru a drefnwyd gan William Mathias, gyda’r delynores Elinor Bennett yn y
cyngerdd. Perfformiais y caneuon gwerin yma yn ystod gwasanaeth coffa y
ddiweddar Yvonne Mathias, gweddw William Mathias ’, ar gais eu merch Rhiannon.
“Mae trefn y
cyngerdd yn drawiadol iawn oherwydd ynghyd ag Elinor Bennett mae gennym y
delynores Glain Dafydd a’r pianydd Glian Llwyd, y ddwy ohonynt yn gyn-fyfyrwyr
Canolfan Gerdd William Mathias.
“Hefyd yn
perfformio bydd cyn-fyfyriwr sydd wedi dod yn artist llwyddiannus dros ben,
Casi Wyn; y sielydd Gwydion Rhys a’r sopranos Tesni Jones a Lisa Dafydd, y ddwy
yn fyfyrwyr yng nghangen CGWM yn Ninbych cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg
Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion.
“Bydd yn noson
fendigedig o gerddoriaeth ac yn ffordd wych o ddathlu 20 mlynedd o lwyddiant
Canolfan Gerddi William Mathias.”
“Mae’n bwysig
iawn bod gennym Ganolfan Gerdd William Mathias yng Ngogledd Cymru. Nid oes
unrhyw le arall yn y rhanbarth mewn gwirionedd sy’n cynnig ystod mor eang o
weithgareddau cerddoriaeth o ansawdd uchel. Ac mae’r cyngerdd hwn yn mynd i fod
yn ddathliad o rywbeth eithaf arbennig.”
Yn ôl Cyfarwyddwr
y Ganolfan, Meinir Llwyd Roberts, mae elusen Canolfan Gerdd William Mathias yn le arbennig llawn bwrlwm cerddorol i
gerddorion o bob oed.
Meddai: “Dechreuodd
y Ganolfan 20 mlynedd yn ôl gan gynnig gwersi un i un ac erbyn hyn mae gennym dros
40 o diwtoriaid llawrydd. Yn ogystal â darparu gwersi yn ein prif gangen yn
Galeri Caernarfon rydym hefyd yn darparu hyfforddiant yn Ninbych a Rhuthun gyda
gwersi yn cael eu cynnal yno ddwy noson yr wythnos.
“Ond rydym yn
gwneud cymaint mwy na chynnig hyfforddiant un i un. Mae gennym brosiect cerdd
yn arbennig ar gyfer plant cyn oedran ysgol, rydym yn gweithio mewn cartrefi
gofal yn cynnig cerddoriaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, yn trefnu grwpiau
canu mewn cymunedau gwledig ac yn ddiweddar, rydym wedi sicrhau grant sylweddol
i ddatblygu ein darpariaeth ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu.
“Rydym hefyd yn
cynnig amrywiaeth o ensembles a dosbarthiadau meistr ac yn trefnu Gŵyl Delynau
Cymru yn flynyddol yn ogystal â Gŵyl Delynau Ryngwladol a Gŵyl Biano Ryngwladol
bob pedair mlynedd.
“Mae’r ystod o
weithgareddau rydyn ni’n ymwneud â nhw wedi tyfu’n sylweddol ac yn parhau i
wneud hynny. Ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn gerddorion llwyddiannus
iawn. “
“Bydd yn noson
arbennig o gerddoriaeth gyda rhywbeth at ddant pawb a byddwn yn annog pawb sy’n
mwynhau cerddoriaeth i archebu eu tocynnau nawr a dod i ddathlu efo ni.”
Roedd hi’n fraint cael ein gwahodd i berfformio ym mhabell y dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ym mis Awst 2019. Cynnigwyd y cyfle i grwpiau Caernarfon a Phwllheli gymryd rhan.
Roedd y babell dan i sang a phawb ar dân i’n perfformiad cyntaf un!
Cafwyd ambell syrpreis…Daeth yr Elvis Cymreig i gyd-ganu gyda Anne Louise. Braf oedd gweld y ddau yn cyd-ganu a gweddill y gynulleidfa wrth eu boddau yn ymuno!
Daethpwyd â’r gyngerdd i ben, gyda’r gynulleidfa yn morio canu hyd at y diwedd.
Trefnwyd bore o hwyl i gymunedau cerdd Canolfan gerdd William Mathias, eu teuluoedd, eu ffrindiau, a’r gymuned ehangach. Gwahoddwyd teuluoedd sy’n mynychu sesiynau Camau Cerdd a Chamau Nesaf i blant; aelodau’r côr hamdden; aelodau’r gerddorfa gymunedol; trigolion cartref Bryn Seiont Newydd Caernarfon ac aelodau Canfod y Gân Caernarfon i ddod ynghyd i fwynhau caneuon a cherddoriaeth fel rhan o ddigwyddiadau cymunedol The Great Get Together.
Sefydlwyd The Great Get Together gan y Jo Cox Foundation fel menter i ddod a phob at ei gilydd er mwyn canfod yr hyn sydd ganddom yn gyffredin. Dywedodd Jo Cox, yn ei hanerchiad cyntaf yn Nhy’r Cyffredin :
“We are far more united and have far more in common than that which divides us”
Jo Cox
Gyda diolch i’r Great Get Together a Spirit of 2012, derbyniwyd grant i gynnal digwyddiad fyddai’n dod a phobl ynghyd. Be’ well na cherddoriaeth?
Arweinwyd y bore gan Arfon Wyn, a chafwyd bore bendigedig o gyd-ganu a chwarae offerynnau gyda ‘r ieuengaf yn 10 mis oed, hyd at yr hynaf yn ei 90au, a phawb yn mwynhau’r gerddoriaeth a chael bod gyda’i gilydd. I goroni’r cyfan, cacen a phaned!
Ar y 5ed o Fawrth, mi gynhaliwyd ymarfer cyntaf ensemble offerynnol newydd i oedolion, Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, yng Nghaernarfon.
Dan arweiniad y sielydd, Nicki Pearce o Fae Colwyn a Steven Evans, yn
wreiddiol o Gaernarfon fel repetiteur, mae’r gerddorfa gymunedol yn gyfarfod ar
nosweithiau Mawrth o 8yh-9.15yh yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon.
Mynychodd un-ar-bymtheg o aelodau yr ymarfer cyntaf, gyda thri arall yn
ymuno yn yr ail wythnos.
Mae hi wedi bod yn freuddwyd gan Nicki Pearce, arweinydd y gerddorfa, i
sefydlu cerddorfa i oedolion ers blynyddoedd. Dywedodd Nicki:
“Dwi wrth fy modd fy mod i wedi sefydlu cerddorfa gymunedol ar gyfer
oedolion yma yng Nghaernarfon o’r diwedd.”
“Mae gymaint o oedolion sydd yn dysgu a sydd wedi bod yn cael gwersi
cerddoriaeth un-i-un a mae hyn yn ffordd wych iddynt ddod ynghyd i gael hwyl
drwy gerddoriaeth.”
“Mae o hefyd yn ffordd dda i oedolion sydd efallai heb gyffwrdd yn eu
offerynnau ers blynyddoedd i ail-gydio ynddi eto ac i gael tro mewn awyrgylch
gyfeillgar a chefnogol.”
Mae’r fenter newydd yn cael ei drefnu gan Ganolfan Gerdd William
Mathias, sydd wedi’i leoli yn y Galeri yng Nghaernarfon ac yn darparu
hyfforddiant gerddorol o safon uchel, yn ogystal a threfnu amrywiaeth o
weithgareddau gymunedol drwy Gymru.
Fe sylweddolodd Meinir Llwyd, cyfarwddwr Canolfan Gerdd William Mathias,
fod angen y math hwn o ensemble yng Nghaernarfon. Dywedodd:
“Mae Nicki Pearce a minnau wedi bod yn trafod y posibilrwydd o greu
cerddorfa fyddai’n cynnig cyfleon i oedolion i ddod ynghyd i gymdeithasu ac i
fwynhau creu cerddoriaeth ers peth amser.”
“Roedd Steven Evans, sydd wedi dechrau rhoi gwersi piano yn y ganolfan
yn ddiweddar wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r fenter hefyd.”
“Mae hi’n ddiddorol gweld fod y nifer o oedolion sydd yn derbyn gwersi
un-i-un yng Nghanolfan Gerdd William Mathias wedi cynyddu dros y blynyddoedd
diwethaf, sydd yn newyddion da iawn.”
“Er hyn, roeddent yn gweld y galw i ddarparu mwy o gyfleon i’r oedolion
sydd yn derbyn gwersi un-i-un i gymryd rhan mewn hyfforddiant grŵp yn ogystal a
annog y rhai oedd arfer chwarae offeryn – efallai pan roeddent yn blentyn, i
ail-gydio yn eu hofferynnau eto.”
Un o’r aelodau a wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Gwyneth M Davies o
Benllech sy’n chwarae’r Cornet Bb.
“Dim ond yn ddiweddar iawn dw’i wedi bod yn derbyn gwersi, er fy mod i
wedi bod yn chwarae’r corn ers rhyw ddeng mlynedd.”
“Mi ydw i wrth fy modd â cherddoriaeth – ac yn aelod brwd o Seindorf LSW
ynghyd â Chôr Hamdden Mathias – côr lleisiau merched sy’n cyfarfod ar
brynhawniau Iau yng Nghaernarfon.”
“I ddweud y gwir ro’n i reit nerfus cyn yr ymarfer cyntaf – a ddim yn
gwybod beth i ddisgwyl.”
“Ond dan ni wedi jelio yn dda iawn erbyn hyn a dw’i wedi neud ffrindiau
newydd – dan ni’n gefnogol iawn o’n gilydd a mae pawb i weld yn mwynhau.”
“Mae’r arweinydd Nicki Pearce yn fendigedig – mae hi’n sylweddoli bod ni
i gyd o lefelau gwahanol, ac yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth ddewis y rhannau.
Fe wnaeth o godi fy nghalon fy mod i’n medru chwarae’r rhan ges i.”
“Dw’i hefyd wedi bod yn annog fy ffrindiau i ymuno – mae ganddyn nhw
ddiddordeb ac pob tro yn gofyn i mi sut mae’r ymarferion wedi mynd – gobeithio
y dawn nhw i roi cynnig ar y gerddorfa.”
Un o’r aelodau wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Desmond Burton o Fangor a fu’n diwtor Saesneg dramor ers bron i 25 mlynedd. Dywedodd Desmond:
“Dim bwys beth yw eich profiad na’ch lefel, os ydych yn meddwl y buasech yn mwynhau chwarae cerddoriaeth gydag eraill, dewch i ymuno gyda ni yn y Gerddorfa Gymunedol. Dydi llawer ohonom ni erioed wedi chwarae mewn cerddorfa o’r blaen, felly peidiwch a phoeni y bydd pawb arall yn well na chi, oherwydd mae’n siŵr na fyddan nhw!”
Roedd Nicki Pearce a Steven Evans yn falch iawn o weld amrywiaeth o
offerynnau. Yn ôl Steven:
“Mi wnes i feddwl y basa hi’n anodd cael chwaraewyr chwyth a phres – ond
ni chafom unrhyw drafferth o gwbl – er mi fuasen yn gallu gwneud efo mwy o
feiolinwyr!”
Ers yr ymarfer cyntaf mae mwy o aelodau wedi ymuno a mae croeso cynnes
yn disgwyl aelodau newydd a fyddai’n hoffi ymuno gyda’r gerddorfa.
Mi fydd cyfres newydd Cerddorfa Gymunedol Caernarfon yn cychwyn ar y
9fed o Ebrill.
I gofrestru ac am fwy o wybodaeth, caiff aelodau eu hannog i gysylltu gyda Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn
falch o gyhoeddi eu bod am sefydlu cerddorfa gymunedol newydd yn arbennig i oedolion.
Bydd yr ymarfer cyntaf yn cael ei gynnal
yn Theatr Seilo Caernarfon ar y 5ed o Fawrth, gan gychwyn am 8:00yh.
Bydd y gerddorfa yn cael ei harwain
gan Nicki Pearce, sydd wedi bod yn breuddwydio am gael sefydlu cerddorfa o’r
fath ers peth amser.
Dywedodd Nicki, sydd hefyd yn
dysgu’r sielo yng Nghanolfan Gerdd William Mathias: “Cerddorfa gymunedol fydd
hon i oedolion – a carwn annog unrhyw un sydd efallai wedi bod yn derbyn gwersi
am gwpwl o flynyddoedd, neu efallai sydd heb chwarae eu hofferynnau ers dipyn i
ymuno yn yr hwyl!”
Hefyd yn ymuno â Nicki fydd Steven Evans, fel répétiteur i’r gerddorfa.
Anogir unrhyw un sydd efo diddordeb mewn ymuno i gysylltu â Chanolfan Gerdd William Mathias am ragor o fanylion cyn gynted a phosib. Bydd angen cofrestru ymlaen llaw.
Rydym yn awyddus i glywed gan gerddorion sydd a diddordeb mewn cynnal sesiynau cerdd fel rhan o’n cynllun newydd cyffrous ‘Canfod y Gan’ fydd yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion heb anableddau ynghyd i greu cerddoriaeth. Mwy o wybodaeth.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 (www.spiritof2012.org.uk)
er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân/Discover the Song’ dros dair
blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac
unigolion sydd heb anableddau ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn
gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl a
llesiant.
Bydd CGWM yn gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Anableddau Dysgu
Cyngor Gwynedd a fydd yn cyfeirio unigolion gyda anableddau dysgu i’r
prosiect.
Rydym eisiau derbyn ceisiadau gan werthuswyr allanol i weithio gyda ni drwy gydol y prosiect er mwyn :
Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i ffrindiau.
Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.
Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y noson.”
Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled Gogledd Cymru.
Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.
Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y noson.”
Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.
Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.
Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”
Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19 Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361
Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o
amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i
ffrindiau.
Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at
elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am
wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael
mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.
Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann
Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i
gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig
hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y noson.”
Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest
Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y
blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn
Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled
Gogledd Cymru.
Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd
yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.
Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael
tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias,
megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i
fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn
rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y
noson.”
Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.
Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.
Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”
Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19
Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau
yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361
Mae cwcis yn helpu ni ddeall sut mae ein gwefan yn cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr, ac yn angenrheidiol er mwyn i rai rhannau o’n gwefan weithio’n gywir.