by Gwydion Davies | 28 Ionawr, 2017 | Uncategorized @cy
Bydd
y delynores Elinor Bennett a’r sielydd Nicki Pearce yn ymddangos mewn cyngerdd
a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant
am 4:00yp ar y 29 Ionawr 2017.
Mae’r
delynores a’r sielydd blaenllaw yn diwtoriaid yn Canolfan Gerdd William
Mathias, sydd a chanolfannau yn darparu gwersi cerdd yng Nghaernarfon a
Dinbych, ynghyd â darparu amryw o weithgareddau cerdd yn y gymuned.
Roedd
Elinor Bennett yn un o’r rhai a sefydlodd Canolfan Gerdd William Mathias ac
sydd wedi bod yn dysgu’r delyn yn y Ganolfan ers y cychwyn. Dywedodd: “Mae’n
wych i weld Canolfan Gerdd William Mathias yn ehangu ei darpariaeth ac edrychaf
ymlaen yn fawr at berfformio gweithiau unawdol a deuawdau gyda Nicki Pearce yn
y cyngerdd arbennig hwn’
Mae’r
cyngerdd hefyd yn gyfle i rai o ensembles y Ganolfan berfformio.
Dywed
Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias “Mae’r ensembles
llinynnol sy’n cael eu harwain gan Nicki Pearce yn gyfle gwych i gerddorion
ifanc ddod ynghyd i fwynhau cyd chwarae.
“Mae
nifer o’r aelodau hefyd yn dod atom am wersi ac mae bod yn rhan o ensemble yn
cynnig cyfle i ehangu eu sgiliau cerddorol.”
Bydd
James Scourse, sy’n Athro yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn
ymddangos gyda Nicki Pearce a’r Ensemble Sielo Hŷn i berfformio’r Consierto i
ddau sielo gan Vivaldi yn ystod y cyngerdd.
Mae
tocynnau sy’n £10 i oedolion a £5 i blant ar gyfer y cyngerdd ar werth gan Canolfan
Gerdd William Mathias.
by Gwydion Davies | 18 Tachwedd, 2016 | Uncategorized @cy
Cafodd
Canolfan Gerdd William Mathias gryn syndod pan ddaeth un o chwaraewyr y Loteri
Genedlaethol draw i ddweud bod eu cais am nawdd wedi bod yn llwyddiannus.
Cyflwynwyd
siec o £7,000 i’r Ganolfan fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ y Loteri
Genedlaethol. Mae’r ymgyrch yn caniatáu i chwaraewyr ddysgu mwy am y prosiectau
sydd ar eu hennill bob tro maen nhw’n prynu tocyn.
Fe
wnaeth Bernii Owen, 22 oed o Lanfair Pwllgwyngyll, sydd wedi chwarae’r Loteri
Genedlaethol ers iddi fod yn gymwys i chwarae chwe blynedd yn ôl, dreulio
diwrnod yng nghwmni’r delynores Elinor Bennett, a dysgu mwy am y sefydliad a
sut mae’n helpu pobl sy’n caru cerddoriaeth, gan gynnwys rhai ag anableddau
dysgu a dementia.
Esboniodd
Elinor sut fydd yr arian yn helpu’r ganolfan i brynu offerynnau newydd,
uwchraddio ei chyfleusterau a gwella’i darpariaeth addysgu i bobl o bob oed o
bob cwr o’r ardal.
Elinor
Bennett, y delynores o fri rhyngwladol, oedd un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd
William Mathias, ac mae’n dal i addysgu yno heddiw. Meddai:
“Bydd
cyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hwb mawr i’n
sefydliad ni. Mae cerddoriaeth yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i fywydau
pobl hen a’r ifanc fel ei gilydd, boed hynny’n eu helpu i fynegi’u hunain yn
greadigol, cyfathrebu ag eraill, meithrin doniau, magu cyfeillgarwch, cynnig
dihangfa neu wella eu lles meddyliol – gall gynnig manteision di-rif.
“Yn
ogystal â buddsoddi mewn mwy o offer, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynnal
rhagor o ddosbarthiadau ar draws y gogledd-ddwyrain hefyd, lle mae gennym
gangen bellach, a chreu cysylltiadau â mwy o gymunedau, yn enwedig mewn
ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, bydd yn ein helpu i ddatblygu’r
dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnig i blant ifanc ar hyn o bryd yn ogystal â’n
galluogi i ddatblygu’n rhaglenni Doniau Cudd ac Atgofion ar Gân – sydd â’r nod
o helpu pobl ag anableddau dysgu a dementia i gyfathrebu ag eraill.”
Meddai
Bernii Owen, sy’n gweithio fel goruchwylydd ym mwyty Wal yn nhre’r Cofis:
“Mae’n wych dysgu mwy am sefydliad lleol sydd wedi elwa ar arian y Loteri
Genedlaethol, a bod yn rhan o syrpréis mor fawr hefyd.
“Nid
bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyflwyno siec i rywun gan wybod bod yr
arian hwnnw’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cymaint o bobl.
“Roedd
hi mor gyffrous trosglwyddo’r amlen i Elinor a disgwyl iddi ddarllen y cynnwys.
Roedd hi wrth ei bodd ac mor ddiolchgar. Sôn am wenu a chofleidio mawr –
profiad emosiynol tu hwnt a dweud y gwir.
“Wrth
brynu tocyn, y wobr ariannol yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl fel arfer,
ond doeddwn i erioed wedi meddwl rhyw lawer am y ffaith fod rhywfaint o’r arian
yn mynd i sefydliadau gwerth chweil lleol fel Canolfan Gerdd William Mathias.
“Mae
cymryd rhan yn yr ymgyrch wedi bod yn brofiad gwych, a dw i’n siŵr fod
chwaraewyr eraill y Loteri Genedlaethol wedi mwynhau profiad cystal wrth ymweld
â phrosiectau eraill ledled Cymru. Heb os, bydda i’n dweud wrth eraill i ble
mae’r arian yn mynd o hyn ymlaen, yn enwedig ar ôl gweld ei effaith gyda’m
llygaid fy hun, a faint o bobl sydd wedi elwa.”
Meddai
Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da y Loteri Genedlaethol:
“Mae
chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi swm enfawr o £1.6 biliwn i
ariannu prosiectau o Fôn i Fynwy. Nod ymgyrch ‘Diolch Cymru’ yw diolch i
chwaraewyr y loteri – fyddai dim o hyn yn bosib hebddyn nhw. Rydym am i
chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn ymwybodol o’r miloedd o brosiectau
rhagorol ar hyd a lled Cymru na fyddai wedi gweld golau dydd heb eu harian
nhw.”
Mae
Canolfan Gerdd William Mathias, a sefydlwyd ym 1999, wedi ymgartrefu yn Galeri
Caernarfon. Mae’n cynnig gwersi cerdd unigol o lefel dechreuwyr i broffesiynol.
Ar hyn o bryd, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 5 ac 80+ oed yn mynychu gwersi
unigol yn gyson sy’n cael eu darparu gan dîm o ddeugain o diwtoriaid yn y
Ganolfan yng Nghaernarfon ac yng nghangen Dinbych hefyd.
Mae’r
Ganolfan yn darparu cyfleoedd cerdd eraill hefyd gan gynnwys:
- ‘Camau
Cerdd’ ar gyfer plant hyd at 7 oed
• ‘Doniau Cudd’ ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu
• Côr ac ensemble siambr i bobl ifanc
• Côr oedolion yn ystod y dydd
• Dosbarthiadau theori a chyfansoddi • Cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth
amrywiol
• Gweithdai a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaenllaw • Sesiynau
mewn cartrefi henoed
Bydd y grant o gymorth i adnewyddu a gwella stoc o offerynnau cerdd a
chyfarpar cysylltiedig (megis stolion) y Ganolfan yn ogystal â phrynu
gliniadur ar gyfer golygu fideos a dibenion eraill.
by Gwydion Davies | 9 Awst, 2016 | Uncategorized @cy
Llongyfarchiadau i nifer o’n disgyblion ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:
Unawd Bechgyn o dan 16oed – 1af Tegid Goodman-Jones / Tiwtor
Ann Atkinson
Unawd Merched o 16-19oed – 1af Tesni Jones / Tiwtor Ann
Atkinson
Unawd Piano o dan 16oed – 3ydd Gwydion Rhys / Tiwtor Sioned
Webb
Unawd Lliynnol o dan 16 oed – 3ydd Gwydion Rhys / Tiwtor Nicki
Pearce
Unawd Bechgyn o dan 16oed – 3ydd Gronw Ifan Elis Griffith /
Tiwtor Mary Lloyd-Davies
Unawd Bechgyn 16-19oed – 3ydd Gwern Brookes / Tiwtor Sian Wyn
Gibson
Llongyfarchiadau hefyd i Leisa Gwenllian a Fflur Davies sy’n
cael gwersi llais ar ddod yn drydydd ar y ddeuawd Cerdd Dant o dan 21oed ac i
Math Roberts ar ennill cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas ar y delyn deires
am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Roeddem yn falch iawn o lwyddiant Ela Haf, disgybl a merch ein
tiwtor pres Dylan Williams ar ei llwyddiant yn ennill y Rhuban Glas Offerynnol
i rai o dan 16oed ac i un o’n cyn ddisgyblion, Gwyn Owen ar ennill y Rhuban
Glas i rai dros 19oed. Llongyfarchiadau mawr i Gwyn hefyd ar dderbyn Gradd MA
gydag Anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. Edrychwn ymlaen at
ddilyn ei yrfa broffesiynol.
Roedd yn braf hefyd gweld nifer o’n disgyblion, tiwtoriaid a
chyfeillion yn cystadlu fel aelodau o gorau / partion, perfformio mewn amryw
ddigwyddiadau a chyfeilio yn ystod yr wythnos.
by Gwydion Davies | 3 Mai, 2016 | Uncategorized @cy
Yn
dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl
Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd
o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano
Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym
Manceinion ac enillodd y brif wobr o £2,000 yn rhoddedig gan Gwmni Roberts of
Port Dinorwic.
Domonkos
Csabay o Hwngari enillodd y wobr gyntaf o £1,250 yn rhoddedig gan y Sickle
Foundation yn y gystadleuaeth i Gyfeilyddion piano. Mae Domonkos yn astudio yn
y Conservatoire yn Birmingham.
Aeth
y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Iau i Callum McLachlan, 17, o
Stockport. Derbyniodd Callum, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chetham’s, wobr o
£700 wedi ei chefnogi gan diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William
Mathias.
Trefnwyd
yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Galeri o’r 29 Ebrill – 2 Mai, gan Ganolfan Gerdd
William Mathias. Cyfarwyddwr yr Ŵyl oedd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones.
by Gwydion Davies | 5 Ebrill, 2016 | Uncategorized @cy
Ar
y 6ed o Ebrill bydd Cyfarwyddwr newydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru y pianydd
Iwan Llewelyn-Jones yn mynd ar y lôn gan gynnal perfformiadau byrfyfyr yng
Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda phiano goch wedi ei darparu gan Pianos Cymru a
chymorth Ian Jones, bydd Iwan yn ymweld â pedwar lleoliad ym Mangor,
Porthaethwy a Chaernarfon i chwarae rhaglen amrywiol o gerddoriaeth o Chopin i
Stevie Wonder i aelodau’r cyhoedd.
Dywed
Iwan “ Mae mynd o amgylch efo’r piano goch lachar yn mynd i fod yn lot
fawr o hwyl – mi fyddwch yn ein gweld o bell! Gobeithio y bydd pobl yn mwynhau
clywed cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio yn y lleoliadau annisgwyl yma.
Byddaf yn cymryd ceisiadau gan y cyhoedd felly gall pobl alw heibio ac fe
chwaraeaf rywbeth yn arbennig iddyn nhw neu gallant ganu neu ymuno efo fi mewn
deuawd os ydynt yn dymuno! “
Bwriad
y daith yw codi ymwybyddiaeth am Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016 sy’n cael ei
chynnal gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon rhwng y 29ain o
Ebrill a’r 2il o Fai. Bydd y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd yn cynnwys
cyngherddau, cystadlaethau gyda phianyddion o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan, a
pherfformiadau mewn awyrgylch anffurfiol.
Dydd
Mercher 6ed o Ebrill
9.30am
Ysbyty Gwynedd, Bangor
11.00am Siop Waitrose Porthaethwy
12.30pm Canolfan Arddio Fron Goch, ger Caernarfon
2.30pm Siop Morrison’s Caernarfon
by Gwydion Davies | 24 Mawrth, 2016 | Uncategorized @cy
Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru rhwng y 29ain o Ebrill
a’r 2il o Fai yn Galeri Caernarfon. Hon fydd y drydedd Gŵyl Biano i Canolfan
Gerdd William Mathias (CGWM) ei chynnal ac eleni, bydd y pianydd Iwan
Llewelyn-Jones yn cyfarwyddo am y tro cyntaf. Mae’r Ŵyl yn cynnwys cyngherddau,
cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a chyfweliadau
gydag artistiaid gwadd.
Bydd y pianydd o fri rhyngwladol Peter Donohoe yn agor yr Ŵyl
am 7.45y.h, Nos Wener y 29ain o Ebrill gyda datganiad o weithiau gan Ravel,
Debussy, Scriabin a Rachmaninov. Bydd Peter Donohoe hefyd yn cadeirio y panel
beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn.
Bydd y cyntaf o dair cystadleuaeth piano yn cychwyn fore
Sadwrn, 30 Ebrill gyda chylch rhagbrofol yr Unawd Piano Iau. Bydd cylch
terfynol y gystadleuaeth hon yn digwydd brynhawn Sul y 1af o Fai. Bydd y
cystadlaethau Piano Unawdol Hŷn a Chyfeilio yn cychwyn fore Sul y 1af o Fai pan
gynhelir y cylchoedd rhagbrofol, a bydd y cylchoedd terfynol yn dilyn brynhawn
Llun yr 2il o Fai. Mae’r cystadleuwyr yn dod o bob cwr o’r Byd.
Amser cinio dydd Sadwrn y 30 Ebrill, bydd cyngerdd anffurfiol
“Satie on the Sidewalk’ yn dathlu cerddoriaeth Erik Satie.
Bydd y cyngherdd gyda’r nos ar y 30 Ebrill am 7.45 yn dathlu
cerddoriaeth a chyfansoddwyr o Gymru ac yn cynnwys y perfformiad cyntaf o 6
darn piano unawdol a gomisiynwyd yn arbennig gan yr Ŵyl. Mae’r gweithiau wedi
eu hysbrydoli gan ddelweddau a barddoniaeth ar thema Heddwch a Chofio.
Cyfansoddwyd tri o’r gweithiau gan gyfansoddwyr ifanc sydd ar gychwyn eu
gyrfaoedd a’r tri arall gan gyfansoddwyr o fri rhyngwladol – Paul Mealor a
gyfansoddodd yr anthem i briodas Dug a Duges Caergrawnt; Richard Baker sy’n arbennigo
mewn cerddoriaeth gerddorfaol a siambr ac Owain Llwyd sydd yn flaenllaw ym maes
cerddoriaeth ffilm a theledu. Y cyfansoddwyr ifanc yw Luke Lewis, Mared Emlyn a
Maja Palser.
Bydd prosiect addysgol yr Ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt yn y
cyngerdd hwn hefyd gyda pherfformiad cyntaf o waith ar gyfer ensemble siambr
wedi ei gyfansoddi gan bedwar myfyriwr lefel A. Bydd y gwaith tri symudiad
ynghyd â ffanfferau yn cael ei berfformio gan gerddorion ifanc o CGWM.
Ar nos Sul 1af o Fai am 7.45 awyrgylch y Fiesta fydd yn llenwi
Theatr y Galeri. Bydd pianyddion, offerynwyr eraill, cantorion ac adroddwyr yn
codi’r to mewn cyngerdd o gerddoriaeth lliwgar o bob cwr o’r byd yn cynnwys Rio
Grande gan Lambert, gosodiad hyfryd Poulenc o Babar the
Elephant a’r Scaramouche gan Milhaud. Ymhlith y
perfformwyr bydd pum pianydd yn cynnwys cyfarwyddwr yr Ŵyl, Iwan Llewelyn-Jones
a Chôr Siambr CGWM.
Ar y bore olaf, Llun 2il o Fai, cynhelir tri ddigwyddiad
hwyliog yn atrium Galeri, sef ‘Coffi a Croissants gyda Chopin a Debussy’ am
10am, Peter Donohoe yn sgwrsio gyda Iwan Llewelyn-Jones am ei fywyd ‘Ar y Lôn’
am 11 am, ac am hanner dydd, y ‘Pianothon’ fydd yn rhoi cyfle i bianyddion o
bob oedran a chyrhaeddiad roi tonc ar y piano.
by Gwydion Davies | 24 Mawrth, 2016 | Uncategorized @cy
Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru dydd Mercher, y 6ed a dydd Iau y
7fed o Ebrill yn Galeri, Caernarfon. O dan gyfarwyddyd y delynores o fri
rhyngwladol, Elinor Bennett, bydd yr Ŵyl eleni yn cynnwys cwrs deuddydd ar
gyfer telynorion, yn ogystal â chyngherddau a darlith-ddatganiad. Cynhelir yr
Ŵyl yn flynyddol gan Ganolfan Gerdd William Mathias, a phob pedair mlynedd
cynhelir Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru sy’n ddigwyddiad mawr, wythnos o hyd.
Cynhelir yr Ŵyl Ryngwladol nesaf ym mis Ebrill 2018.
Cynhelir y cwrs deuddydd, sy’n addas I delynorion o bob oedran
a chyrhaeddiad, rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod uchod. Mae
Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett, yn un o’r tiwtoriaid, a bydd Eira
Lynn-Jones (Athro’r Delyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) yn ymuno â hi,
ynghŷd â Morwen Blythin, Einir Wyn Hughes a Dylan Wyn Rowlands.
Dydd Mercher y 6ed o Ebrill am 7pm, bydd yr Arglwydd Thomas o
Gresffordd, QC yn olrhain hanes difyr ei deulu sy’n ddisgynyddion o deulu enwog
y Sipsi Romani Cymreig, Abram Wood. Mae’r Arglwydd Thomas yn
ddisgynnydd i wyres Abram Wood sef Ellen Ddu a oedd, yn ôl y sôn, yn wrach ac
yn “gallu adrodd stori’n well na neb.”
Aelod amlwg arall o’r teulu oedd y telynor enwog John Roberts
“Telynor Cymru” (1816 – 1894) sy’n cael ei ddathlu yn yr Ŵyl eleni. Wrth
olrhain hen hanes ei deulu ysbrydolwyd yr Arglwydd Thomas i ddysgu canu’r
delyn, a bydd yn perfformio darnau byr yn ystod ei ddarlith.
Dywed Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl : “Mae’n hynod
ddifyr fod aelod blaenllaw o Dy’r Arglwyddi yn rhoi darlith am
ei hen deulu, a oedd yn sipsiwn cerddgar, crwydrol a gyfrannodd
gymaint i gerddoriaeth werin yng Nghymru dros ddwy ganrif yn ôl.”
Yn dilyn y ddarlith, bydd perfformiadau gan Elinor Bennett ar
y delyn deires Gymreig. Bydd ei rhaglen yn cynnwys Sonata Rhif 3 o’r “Bedair
Gwers” (1761) gan John Parry (1710 – 1782), y telynor dall o
Riwabon, a ddylanwadodd mor drwm ar delynorion teires o Gymru yn ddiweddarach,
gan gynnwys John Roberts ei hun.
Bydd gwledd i’r llygad a’r glust am 5pm, dydd Iau y 7fed o
Ebrill pan fydd tua hanner cant o delynaorion yn perfformio gyda’i gilydd ar
GalerÏau Galeri. Bydd y cyngerdd anffurfiol yma yn cynnwys perfformiad gan yr
holl delynorion o alawon dawns fydd wedi cael eu dysgu gan Robin Huw Bowen yn
ystod y cwrs fel dathliad pellach o waith John Roberts.
Yng Nghyngerdd yr Ŵyl am 7.30pm Nos Iau y 7fed o Ebrill,
bydd amrywiaeth o gerddoriaeth o’r traddodiadol i Jazz. Bydd un o feistri’r
delyn deires, Robin Huw Bowen, yn perfformio alawon y sipsiwn Cymreig a
bydd y ddeuawd – Máire Ni Chathasaigh (telyn Geltaidd) a Chris Newman
(gitar) – yn cyflwyno rhaglen gyffrous yn cyfuno cerddoriaeth
draddodiadol Iwerddon, Jazz, bluegrass a baroc. Yn ddiweddar enwyd Máire yn Artist
Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau ‘Live Ireland’ 2016.
Bydd y telynor ifanc dawnus, Ben Creighton-Griffiths o
Gaerdydd, yn perfformio cerddoriaeth jazz ar y delyn electroneg gan gwmni
Camac, gan wneud defnydd o’r effeithiau sain arbennig sy’n bosibl ar y
delyn. Gwnaeth Ben ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan yn saith oed yn 2004
trwy ennill cystadleuaeth bwysig yn Ffrainc i rai o dan 18 oed.
Cefnogir Gŵyl Delynau Cymru 2016 gan Clogau Gold, Cyngor
Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Telynau Vining Harps.
by Gwydion Davies | 3 Mawrth, 2016 | Uncategorized @cy
Diwrnod prysur yn Llangollen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi!
Cafodd diwrnod llawn hwyl i blant bach a’u rhiant/gwarchodwr
ei drefnu gan Fenter Iaith i ddathlu Diwrnod Dathlu Dewi.
Roedd nifer o sefydliadau yno yn cynnwys ein prosiect Camau
Cerdd.
Cafodd sesiynau Cropian Cerdd a Chamau Cyntaf eu cynnal drwy
gydol y dydd a chafodd pawb lawer o hwyl!
Trwy ganu a chreu cerddoriaeth gwnaethom ymweld â lan y môr, y
fferm a’r jwngl. Dysgom ein do-re-mi gyda Mr Cerdd a theimlom guriad y
gerddoriaeth gyda Plu Enfys. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys ein cân newydd
am y cennin pedr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Cafodd Camau Cerdd amser llawn hwyl yn Llangollen ac
rydym yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol agos.
Os nad oeddech yn y digwyddiad peidiwch a phoeni – rydym ni am
wneud sesiynau tebyg yn Ninbych ar y 3ydd o Ebrill.
Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Facebook.
by Gwydion Davies | 11 Chwefror, 2016 | Uncategorized @cy
Mae Wyn ap Gwilym o Lanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun, wedi profi
llwyddiant yn ddiweddar wedi iddo basio ei arholiad Telyn Gradd 3.
Mae Wyn yn un o ddisgyblion Morwen Blythin ac yn astudio yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych. Wrth ei fodd gyda cerddoriaeth mae
Wyn eisoes wedi llwyddo ei gradd 8 piano tra’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg
Abergele, cyn iddo fynd ymlaen i astudio Micropalaentoleg, sef yr astudiaeth o
micro-ffosiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wrth astudio yn Aberystwyth, digwyddodd Wyn ymweld â
Eisteddfod Caerfyrddin lle y gwelodd stondin yn arddangos telyn newydd oedd
wedi ei wneud o carbon fiber. Roedd gan Wyn ddiddordeb mawr yn yr offeryn, gan
benderfynu i brynu’r offeryn.
Fe aeth â’r delyn yn ôl gyda ef i’r Ynysoedd Solomon lle’r
oedd yn byw a gweithio ar y pryd. Roedd Wyn yn gweld chwarae’r delyn yn weithgaredd
gwerthfawr gan ei atgoffa o’i wreiddiau Cymreig tra’r oedd mor bell o Gymru.
Atgofia Wyn:
‘Buais yn chwarae’r delyn mewn nifer o lefydd yn yr Ynysoedd,
y lle mwyaf diddorol oedd ar long ymchwil Ffrengig, Y Norris. Roedd y rhan
helaethaf o’r criw yn dod o Lydaw, ac fe gafwyd lot o hwyl yn canu geiriau
Llydaweg i alawon gwerin Cymreig!’
Nid tan ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru yng nghanol y 70au er
mwyn astudio gradd doethuriaeth yn Aberystwyth y bu i Wyn gychwyn gymryd gwersi
telyn. Ond gyda pwysau’r gwaith a babi newydd, rhaid oedd rhoi’r delyn i un
ochr am y tro. Er hyn, teithiodd y delyn gyda ef wrth iddo symud yn ôl i
Ynysoedd Solomon, Singapore, ac yn hwyrach i Saudi Arabia lle y bu’n byw a
gweithio hyd at 2013 pan symudodd yn ôl i Gymru.
Yn 2015, cychwynnodd Wyn wersi Telyn gyda Morwen Blythin, ac
nawr, blwyddyn yn ddiweddarach mae newydd basio ei radd 3 gydag anrhydedd.
Dywedodd ei athrawes:
‘I feddwl mai dim ond ers blwyddyn mae Wyn wedi bod yn dod
aton ni am wersi telyn yma yng Nghanolfan Gerdd William Mathias Dinbych, mae
wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae’n dysgu’n gyflym iawn. Mae Wyn yn
frwdfrydig iawn i ddysgu’r delyn, ac rydw i’n mwynhau ei ddysgu yn fawr iawn’.
Mae Wyn nawr yn edrych ymlaen i barhau gyda’r gwersi, a
chychwyn paratoi at y gradd nesaf.
by Gwydion Davies | 17 Rhagfyr, 2015 | Uncategorized @cy
Nos Lun y 14eg o Ragfyr 2015 cafodd y cyngerdd cyntaf ei gynnal
yn ystafell gerdd hyfryd Canolfan Bryn Seiont Newydd – y cartref gofal dementia
sydd wedi ei agor gan gwmni gofal Pendine Park. Cynhaliodd Marie-Claire Howorth
a Meinir Llwyd Roberts o Ganolfan Gerdd William Mathias gyngerdd rhyngweithiol
anffurfiol gyda rhai o ddisgyblion y prosiect arbennig Camau Nesaf Cerdd, i
blant 4-7 oed.
Cafodd y preswylwyr eu swyno gan y plant yn chwarae a rhannu
eu cerddoriaeth a hefyd gan ei gwisg arbennig ar thema’r Minions. Fe ymunodd y
preswylwyr yn yr hwyl trwy ysgwyd ‘pompoms’ a chwarae clychau. I gloi’r
achlysur cafwyd cyfle i ganu carolau i gyfeiliant dwy o ddisgyblion clarinet
graddau 6 a 8 Marie-Claire a oedd hefyd wedi perfformio unawdau yn ystod y
cyngerdd. Hoffem ddiolch i’r rhieni a’r staff yn Bryn Seiont am wneud y
digwyddiad yma yn bosibl ac yn bleserus. Roedd y plant wedi mwynhau’r cacennau
yn arbennig!
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda cherddor
preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Davies Williams a’r artist preswyl Nia
Lloyd-Roberts i ddatblygu’r fenter bwysig hon rhwng aelodau ifanc a hŷn y
gymuned.