Roedd aelodau Canfod y Gân Harlech wrth ei boddau yn cael cyfle i berfformio yn fyw mewn cyngerdd am y tro cyntaf ers 2019. Cafwyd bore gwych ar fore dydd Sadwrn y 14eg o Fai yng nghynhadledd Merched y Wawr yn Rhydymain.
Cafwyd perfformiad gwych ar y Cellos gan Debbie ac Elin i ddechrau’r bore, cyn i’r grŵp symud ymlaen i berfformio ychydig o glasuron Cymreig megis ‘Ar lan y Môr’ a ‘Ceidwad y Goleudy’, cyn i ni orffen gyda gan wreiddiol gan griw Canfod y Gan o’r enw ‘Can y Clo’.
Diolch yn fawr i Merched y Wawr am ein cael ni yno – cawsom ddiwrnod gwych!
Braf gweld y bydd dau o’n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o’r noson arbennig yma….
Pedwar Premier Byd – Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes
Eisteddfod Tregaron 2022
Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George Thomson nifer o ganeuon gwerin o Iwerddon, Cymru a’r Alban at y cerddor o’r Almaen, Ludwig van Beethoven. Anfonodd rai at Franz Joseph Haydn yn ogystal. Roedd Thomson yn gyhoeddwr, yn gerddor ac yn gyfaill i’r bardd Robert Burns. Bu’n gyfrifol am gyhoeddi’r cynhaeaf, sef cyfrolau o ganeuon gwerin gan y ddau gyfansoddwr, yn fuan yn yr 1800, wedi’u sgorio ar gyfer triawd piano a llais, yn arddull y Cyfnod Clasurol. Y ffaith syfrdanol yw fod Beethoven wedi cyfansoddi 179 o drefniannau o ganeuon gwerin y tair gwlad, mwy yn wir nag unrhyw genre arall o blith ei weithiau.
Penderfynwyd dod â’r rhain i olau dydd ac i glyw cynulleidfa Cymru yn 2020, 250 mlynedd ar ôl geni Beethoven. Ond daeth y covid i ddifetha’r cynlluniau. Roedd y syniad yn parhau i gyniwair yn 2022. Penderfynwyd ehangu’r syniad gan wahodd cyfansoddwyr eraill i gyfrannu at yr arlwy. Llwyfennir “O Dresden i Dregaron”, o’r Almaen i Gymru, gyda phedwar premier byd gan Beethoven, Pwyll ap Sion, Guto Puw a Patrick Rimes. Mae yna berfformiad hefyd o ddau waith gan Haydn ac un gan Sioned Webb, berfformiwyd gyntaf gan Elin Manahan Thomas a Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd ddeng mlynedd yn ôl. Y canwr gwerin Dafydd Idris, Pontypridd, fydd yn perfformio’r caneuon gwerin ar eu ffurf wreiddiol. Gweddill y perfformwyr fydd Robyn Lyn Evans (tenor), Gwenno Morgan (piano), Patrick Rimes (ffidil), Jordan Williams (cello) a Sioned Webb (piano). Y canlyniad yw’r noson yn y Babell Lên nos Lun, Awst 1af am 7.30.
Y cerddor a’r cyflwynydd radio, Sioned Webb yw trefnydd a chynhyrchydd y noson.
Mae pensiynwr cerddorol wedi ychwanegu llinyn arall at ei fwa trwy basio ei arholiad sielo gradd 8 yn 74 oed.
Rhoddodd Desmond Burton y gorau i chwarae’r offeryn yn blentyn ond penderfynodd ailafael ynddo hanner canrif yn ddiweddarach ar ôl ymddeol o’i swydd fel tiwtor Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.
Yn 67 oed, ailddechreuodd ddysgu’r offeryn a chael gwersi gan y tiwtor Nicki Pearce yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.
Llwyddodd i basio’r radd uchaf posib mewn arholiad Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol gan ennill canmoliaeth uchel gan yr arholwr a ddywedodd ei bod yn fraint cael gwrando arno’n chwarae.
Ers ailddarganfod ei ddawn gyda’r sielo mae Desmond wedi ymuno â Cherddorfa Gymunedol Caernarfon a sefydlwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias i annog cerddoriaeth ymysg oedolion ar bob lefel o allu chwarae offerynnau cerdd.
Mae’r ganolfan yn darparu gwersi offerynnol a lleisiol o safon uchel i gannoedd o bobl ar ystod eang o offerynnau, yn ogystal â threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol ledled Cymru.
Tra bod mwyafrif y myfyrwyr o oed ysgol, mae Desmond yn un o dros 50 o oedolion sy’n mynychu gwersi cerddorol wythnosol naill ai yn Galeri Caernarfon neu yn y canolfannau lloeren yn Ninbych a Phwll-glas, ger Rhuthun.
Mae Desmond hefyd wedi chwarae mewn ensembles siambr a drefnwyd gan y ganolfan gerdd.
Cafodd ei annog i fwrw iddi gan ei ferch Carolyn, sy’n feiolinydd dawnus ei hun, a bellach mae’n mwynhau sesiynau cerddoriaeth anffurfiol gyda’i wraig Porjai, sy’n chwarae’r gitâr, yn eu cartref ym Mhorthaethwy.
Dywedodd: “Mae llawer o bobl yn meddwl fy mod i’n wallgof yn sefyll yr arholiadau hyn, a rhoi’r straen ychwanegol di-angen yma arnaf fy hun. Ac mae llawer o bobl sydd wedi ymuno â cherddorfa Canolfan Gerdd William Mathias yn gwneud hynny dim ond i fwynhau eu hunain yn creu cerddoriaeth.
“Ond rwy’n eithaf cystadleuol ac rwyf wrth fy modd yn gosod her i mi fy hun ac wrth sefyll arholiad rydych chi’n dysgu chwarae darnau cerddorol i safon uchel iawn a dyna’n union roeddwn i eisiau ei wneud.”
Cafodd Desmond, sy’n wreiddiol o Lichfield yn Swydd Stafford, wersi sielo yn yr ysgol yn ei arddegau ond ni safodd unrhyw arholiadau bryd hynny. Roedd yr offeryn a brynodd ei dad iddo gan aelod o Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham pan oedd yn 12 neu 13 oed wedi gorwedd yn segur yn hel llwch ac ni chafodd ei chwarae am fwy na 50 mlynedd.
Ychwanegodd: “Pan ymddeolais o Brifysgol Bangor saith mlynedd yn ôl, roedd gen i fwy o amser i ddilyn fy niddordebau ac roedd hi’n ymddangos yn briodol i mi gael gwersi sielo. Wnes i erioed ei gymryd o ddifrif fel plentyn, felly meddyliais y dylwn i ddod yn ôl a cheisio ychydig yn galetach.
“Nid yw offerynnau cerdd yn rhad ac roedd gen i sielo yn barod. Mae’n offeryn eithaf da, yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o’r Almaen ac rwy’n dal i’w chwarae. Rwyf wedi gorfod rhoi llinynnau newydd arno a phrynu bwa newydd oherwydd roedd wedi bod yn segur ers cymaint o flynyddoedd, ond mae’n dal yn sielo da iawn, does gen i ddim bwriad i’w newid.
“Mae Nicki yn athrawes wych. Mae hi mor amyneddgar ac yn gallu datrys unrhyw broblemau a allai fod gennyf yn gyflym. Mae hi’n ysbrydoledig. Ni fyddwn wedi gallu pasio’r arholiadau hebddi. Mae’r llwyddiant Gradd 8 yn llwyddiant iddi hi lawn cymaint â mi,” ychwanegodd.
Llun : Rick Matthews
Dywedodd Carolyn, merch Desmond, a astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham ac sydd bellach yn gweithio i Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, na allai geiriau ddisgrifio pa mor falch oedd hi o’i thad.
Dywedodd: “Roeddwn i’n gefnogol iawn pan ddechreuodd ailafael yn y sielo eto ar ôl iddo ymddeol. Mae wrth ei fodd yn chwarae’r offeryn ac rydw i wedi bod yn hapus i’w helpu i baratoi ar gyfer y gwahanol arholiadau y mae wedi’u sefyll.”
“Rwy’n falch iawn ei fod wedi pasio cymaint ac wedi cyrraedd y radd uchaf. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli eraill i roi cynnig ar chwarae offeryn cerdd beth bynnag fo’u hoedran,” ychwanegodd.
Dywedodd Nicki, y tiwtor cerdd: “Mae’n bleser mawr dysgu Desmond. Mae’n dod i’w wersi wythnosol ac mae bob amser wedi paratoi ymlaen llaw. Hyd yn oed os oes rhywbeth dyrys i’w chwarae, bydd bob amser yn bwrw iddi’n frwd ac mae’n ysbrydoliaeth.
“Nid yw arholwyr bob amser yn ysgrifennu sylwadau ychwanegol ar eu hadroddiadau, ond ar adroddiad Desmond roedd sylw gan yr arholwr oedd yn dweud ei bod yn fraint wirioneddol cael gwrando arno’n chwarae.
“Mae’n dangos nad oes ots pryd mewn bywyd rydych chi’n gwneud pethau fel yr arholiadau hyn, mae unrhyw beth yn bosib.
Ychwanegodd: “Rydym rŵan wrthi’n chwilio am fwy o aelodau ar gyfer y gerddorfa gymunedol. Mae’n ffordd wych i oedolion sydd efallai heb gyffwrdd yn eu hofferynnau cerdd ers blynyddoedd i’w codi eto a rhoi cynnig arni mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol,” ychwanegodd.
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts: “Efallai bod pobl yn meddwl mai rhywbeth i blant a phobl ifanc yn unig yw gwersi cerddoriaeth ond mae croeso i bob oed yng Nghanolfan Gerdd William Mathias – dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau cael gwersi. Mae nifer yr oedolion sy’n derbyn gwersi un-i-un wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n newyddion da iawn.
“Bu’r drysau ar gau am gyfnod yn ystod y pandemig a chawsom ein gorfodi i weithio mewn ffyrdd eraill, ar-lein yn bennaf, ond mae pethau wedi ailddechrau o ddifrif erbyn hyn ac mae’n wych gweld y gerddorfa lawn yn ôl yn ymarfer. Gall unrhyw un ymuno beth bynnag fo’u profiad ac mae’r pwyslais yn fawr iawn ar fwynhau creu cerddoriaeth.”
Mae Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cyfarfod ar nos Fawrth, fel arfer rhwng 8pm-9.30pm yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon. Mae mwy o wybodaeth ar-lein yn www.cgwm.org.uk neu drwy ffonio 01286 685230.
Pob dymuniad da i bawb dros y Nadolig. Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol gyda’r pandemig ond rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu ail gychwyn ein sesiynau wyneb i wyneb ers mis Medi. Diolch i galon i bawb am eu cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at 2022 llawn cerddoriaeth. Dyma berfformiad arbennig gan ein aelodau i ddymuno Nadolig Llawen i bawb.
Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau – ac yn anelu i dorri record.
Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig.
Gwnaed y model enfawr, sy’n 5 troedfedd 6 modfedd o uchder ac sy’n pwyso pum stôn, ar gyfer yr Ŵyl Biano Ryngwladol sydd wedi dynodi digwyddiad eleni yn ddathliad hwyr 250 mlwydiant geni Beethoven
Wedi’i threfnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias bob pedair blynedd, mae’r ŵyl biano yn rhoi llwyfan i ddatganiadau gan gerddorion proffesiynol, a chynnal cystadlaethau piano o fri – gyda gwobrau yn dod i gyfanswm o bron i £10,000.
Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr Ŵyl yn 2020, ond bu’n rhaid ei gohirio oherwydd pandemig Covid-19 ac mae bellach yn digwydd rhwng Hydref 15 a 18.
Ond mae’r trefnwyr yn parhau â’u teyrnged i’r athrylith cerddorol o’r Almaen y mae ei weithiau ymhlith y rhai a berfformir amlaf yn y byd.
Cafodd y gosodiad cyfareddol ei greu gan yr artist enwog o ogledd Cymru, Catrin Williams, a’i gŵr Bedwyr ab Iestyn a ddefnyddiodd weiren a deunyddiau wedi’u hailgylchu i’w wneud.
Gyda llygaid tywyll iasol a gwallt gwyllt, mae’r penddelw’n hongian o brif nenfwd y cyntedd yn Galeri lle mae eisoes wedi cael ymateb trawiadol.
Cymerodd y cerflun bron i ddwy flynedd i’w wneud, a chafodd ei greu yn ystod anterth cyfnodau clo y pandemig a meddiannu’r rhan fwyaf o ofod garej Catrin a Bedwyr yn eu cartref ym Mhwllheli.
Meddai Catrin: “Roedd yn amser od iawn, ac mi wnaethon ni ddod i gael perthynas eithaf rhyfedd gyda’r ffigwr enfawr hwn yn ein garej. Roedd yn rhan o’n ‘swigen’ yn y cyfnod clo.
Meddai: “Mi wnes i ei baentio yn yr ardd yn ystod tywydd braf dros yr haf ac fe gododd hynny chwilfrydedd mawr ymhlith ein cymdogion a allai ei weld o ffenestri eu llofftydd. Mae’n siŵr eu bod nhw’n methu deall beth yn y byd oedd yn digwydd. ”
Dywedodd y pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones sydd hefyd yn gyfarwyddwr artistig yr ŵyl biano fod y cerflun yn unigryw.
Meddai: “Yn artistig mae’r arddull yn debyg i un o weithiau celf Damian Hurst, mae ychydig yn frawychus, ond fedrwch chi ddim tynnu eich llygaid oddi arno. Dyna’r union beth roeddem ei eisiau pan wnaethon ni ofyn i Catrin roi ei dawn greadigol ar waith.
“Cafodd Beethoven fywyd ingol, roedd yn gyfansoddwr godidog ond dioddefodd yr anffawd o fynd yn fyddar yn gynnar yn ei fywyd fel oedolyn. Felly roeddem am i’r cerflun gyfleu peth o’r ing hwnnw.”
Mae Iwan a Catrin hefyd wedi bod yn arwain gweithdai creadigol mewn ysgolion lleol, gan gysylltu dehongli celf a cherddoriaeth.
Meddai Iwan: “Nod ein gŵyl biano yw canolbwyntio ar dri maes – perfformio, cystadlu ac addysgu. Mae diwylliant cyfoethog o gerddoriaeth ac addysg cerddoriaeth wedi bod yng Nghymru erioed a thrwy ein prosiectau cymunedol rydym yn anelu at adeiladu ar hyn, gan helpu i feithrin diddordeb mewn cerddoriaeth ymhlith disgyblion o oed ifanc iawn.”
Yn ystod y gweithdai yn Ysgol Llanrug, Caernarfon, ac Ysgol Glancegin, Bangor, chwaraeodd Iwan weithiau Beethoven ac arweiniodd Catrin sesiwn gelf lle byddai disgyblion Blwyddyn Pump yn dehongli’r gerddoriaeth trwy arlunio.
Gosodwyd cynfas papur mawr ar draws y llawr a defnyddiodd y plant botiau inc, paent a deunyddiau lliwio eraill i greu dyluniadau gwreiddiol greddfol.
Dywedodd athrawes yn Ysgol Llanrug, Alaw Tecwyn, ei bod yn hyfryd croesawu Catrin ac Iwan i’r ysgol ar ôl cymaint o fisoedd pan maen nhw wedi colli gwersi cerdd a chanu mewn grŵp oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.
Meddai: “Mae cael sain cerddoriaeth fyw yn ein neuadd eto a gweld disgyblion yn cael eu hysbrydoli fel hyn yn cynhesu’r galon. Mae’n dod â theimlad o normalrwydd yn ôl i’r ysgol.”
Yn raddedig o Goleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, mae Alaw yn gantores operatig fedrus ac yn dysgu cerddoriaeth. Ar ddiwedd y sesiwn gelf canodd ddarn soprano unigol ar gyfer y grŵp, sef cyfansoddiad Meirion Williams, Mai, gydag Iwan yn cyfeilio ar y piano.
Roedd dwy ysgol arall, Ysgol Cybi, Caergybi, ac Ysgol Edmund Prys, Blaenau Ffestiniog, hefyd yn rhan o brosiectau cymunedol a ddatblygwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias gyda chyllid gan raglen Culture Step Celfyddydau a Busnes Cymru i gefnogi’r bartneriaeth ar y cyd â Roberts Portdinorwic sy’n noddi’r brif wobr yn yr Ŵyl. Bydd y prosiect hwn yn gorffen gyda chyngerdd rithwir ar thema Carnifal yr Anifeiliaid gan Saint Saens, gyda’r cerddorion Elin Taylor ar y sielo, Teleri-Sian ar y piano a Glian Llwyd hefyd ar y piano.
Bydd y cyngerdd ar gael i’w wylio ar-lein ddydd Sul Hydref 17, am 6.30pm, fel rhan o fformat hybrid yr ŵyl a ddyfeisiwyd er mwyn cadw at fesurau pellhau cymdeithasol y pandemig.
Mae cyngherddau eraill ar gael lle gellir gwylio cerddorion clasurol gwych ar-lein gan gynnwys y maestro piano enwog a aned yn Wrecsam a’r arbenigwr Beethoven, Llyr Williams. Mi fydd Llŷr yn arwain cyngerdd noson agoriadol yr ŵyl, a fydd yn cael ei ffrydio ar-lein ar ddydd Gwener, Hydref 15.
Hefyd yn rhan o’r rhaglen rithwir y mae cyngerdd o gerddoriaeth siambr gan y feiolinydd Sara Trickey, y sielydd Sebastian van Kuijk ac Iwan Llewelyn-Jones, a premières rhyngwladol pedwar gwaith sydd newydd eu comisiynu gan gyfansoddwyr amlwg o Gymru, sef Pwyll ap Sion, Joseph Davies, Sarah Lianne Lewis a Bethan Morgan-Williams ynghyd â’r Soprano Alys Roberts.
Yn ogystal, gwahoddir cynulleidfaoedd i Galeri i wylio perfformiadau byw wrth i gyfres o gystadlaethau gwefreiddiol gael eu cynnal. Bydd 16 cystadleuaeth ym mhob un o dri chategori ar gyfer pianyddion unigol iau, pianyddion unigol hŷn, a chyfeilyddion. Ymhlith y cystadleuwyr mae pianyddion ifanc talentog sawl rhan o’r byd gyda’r potensial i fod yn enwau mawr y dyfodol.
Bydd cyfle hefyd i fwynhau perfformiadau byw yn atriwm Galeri gan y ddeuawd Sian James a Sioned Webb a Gwenno Morgan, un o gyn-fyfyrwyr CGWM.
Pwysleisiodd y trefnwyr na fyddai’n bosibl llwyfannu’r ŵyl heb gefnogaeth ei noddwyr gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Foyle, Cyngor Gwynedd, sefydliad gofal Parc Pendine trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Roberts Portdinorwic, Tŷ Cerdd, Amddiffyn Tân Eryri, A&B Cymru a sawl rhoddwr unigol.
I gael mwy o fanylion am amserlen yr ŵyl, i archebu tocynnau cyngerdd rhithwir neu i ddarganfod sut i noddi nodyn ewch i https://www.pianofestival.co.uk/cy/
Bydd y pianydd byd-enwog Llŷr Williams yn un o’r prif artistiaid mewn cyngerdd rhithwir mewn gŵyl arbennig.
Bydd y meistr piano o Wrecsam yn perfformio gweithiau gan Beethoven, Chopin a Schubert ar biano Steinway newydd syfrdanol ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r seren gerddoriaeth glasurol ymddangos yn yr ŵyl a gynhelir bob pedair blynedd, sy’n cael ei threfnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon.
Mae’r digwyddiad yn rhoi llwyfan i ddatganiadau gan gerddorion proffesiynol rhagorol yn ogystal â chynnal cystadlaethau piano o fri – gyda gwobrau eleni yn gyfanswm o bron i £10,000.
Er gwaethaf 18 mis o rwystrau trefniadol a achoswyd gan bandemig Covid-19, mae gŵyl 2021 wedi sicrhau cyflenwad llawn o ymgeiswyr i’r cystadlaethau.
Bydd 16 o gystadleuwyr ym mhob un o’r tri chategori ar gyfer pianyddion unigol iau, pianyddion unigol hŷn, a chyfeilyddion. Mae’r ŵyl yn un o ddim ond llond llaw o wyliau cerdd rhyngwladol sy’n cynnwys categori cyfeilio.
Eleni mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar ffurf hybrid gyda’r cyngherddau hwyr wedi’u recordio ymlaen llaw a’u ffrydio ar-lein, tra bydd cystadlaethau a digwyddiadau eraill yn digwydd yn fyw yn Galeri Caernarfon.
Dywed y trefnwyr na fyddai’n bosibl cynnal yr ŵyl heb gefnogaeth y noddwyr sy’n cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Foyle, Cyngor Gwynedd, sefydliad gofal Parc Pendine trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Roberts o Portdinorwic, Tŷ Cerdd, Snowdonia Fire Protection, A&B Cymru a sawl rhoddwr unigol.
Mae cyngerdd Llŷr Williams wedi’i recordio ymlaen llaw a bydd yn cael ei ffrydio ar-lein ar Hydref 15 i agor yr ŵyl.
Bydd pobl sy’n hoff o gerddoriaeth yn gallu prynu tocynnau i wylio’r datganiad rhithwir ar wefan yr ŵyl www.pianofestival.co.uk a fydd ar gael i’w weld am 24 awr.
Mae Llŷr yn berfformiwr rhyngwladol o fri ac mae wedi arbenigo ar berfformio gwaith Ludwig van Beethoven gan chwarae nifer o gylchoedd sonata cyflawn y cyfansoddwr. Mae wedi perfformio yn rhai o brif leoliadau cerddoriaeth y byd gan gynnwys Carnegie Hall, Efrog Newydd, a Wigmore Hall, Llundain.
Mae ei gysylltiad â cherddoriaeth Beethoven yn asio’n berffaith â thema ganolog Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2021, sy’n talu gwrogaeth i Beethoven a’i etifeddiaeth sylweddol. Bydd rhaglen Llŷr yn cynnwys Sonata Opus 31, rhif 3 (Yr Helfa) gan Beethoven a Sonata fawreddog Frédéric Chopin, ‘Gorymdaith Angladdol’.
Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl: “Mae Llŷr yn gerddor rhyfeddol ac yn berfformiwr cyflawn ac rydym yn falch iawn o’i groesawu i ŵyl 2021.
Recordiwyd y cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor gyda Llŷr yn perfformio ar biano cyngerdd Steinway newydd godidog a brynwyd yn ddiweddar gan y brifysgol.
Ar ôl y recordiad, disgrifiodd Llŷr y Steinway fel offeryn eithriadol: “Mae wir yn tynnu allan holl liwiau gwahanol y gerddoriaeth.”
Yn wreiddiol, roedd yr ŵyl i fod i gael ei llwyfannu ym mis Mai 2020 i nodi 250 mlynedd ers geni Beethoven ym mis Rhagfyr 1770.
Ond oherwydd effeithiau cyfnod clo y pandemig byd-eang a chau lleoliadau cyngherddau ledled y byd bu’n rhaid ei gohirio ddwywaith.
Dywedodd Iwan: “Ar ôl ansicrwydd y 18 mis diwethaf a sefyllfa’r pandemig parhaus mi wnaethon ni gymryd y penderfyniad beiddgar i fabwysiadu fformat hybrid. Mae’n golygu y bydd pobl yn gallu mwynhau gwylio’r perfformiadau gwych hyn ar-lein o gysur eu cartrefi eu hunain.”
Meddai Llŷr: “Mae’n anrhydedd i mi helpu i nodi’r ddwy ganrif a hanner sydd wedi mynd heibio ers genedigaeth Beethoven, ac yn enwedig felly gan na chawsom ddathlu mor llawn ag yr oedd yn ei haeddu y llynedd, sef blwyddyn y 250 mlwyddiant.”
Hefyd ar raglen rithwir yr ŵyl mae cyngerdd o gerddoriaeth siambr gyda pherfformiad o ‘Driawd yr Archddug’ gan Beethoven gyda Sara Trickey (ffidil), Sebastian van Kuijk (sielo) ac Iwan Llewelyn-Jones.
Bydd y Soprano Alys Roberts, yn ymuno â nhw i berfformio première rhyngwladol pedwar darn comisiwn newydd gan y cyfansoddwyr Cymreig amlwg Pwyll ap Sion, Joseph Davies, Sarah Lianne Lewis a Bethan Morgan-Williams.
Gan ddefnyddio cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg draddodiadol a thynnu ysbrydoliaeth o Beethoven, mae’r cyfansoddwyr wedi creu gweithiau atgofus iawn sy’n archwilio amser a lle gydag awyrgylch a drama.
Bydd y cyngerdd olaf gyda’r nos yn cynnwys perfformiad o gampwaith eiconig y cyfansoddwr Ffrengig Camille Saint-Saens ‘Carnifal yr Anifeiliaid’ sydd hefyd yn ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau allgymorth cymunedol a gweithdai ysgol y mae tîm yr ŵyl yn ymgymryd â nhw yn y cyfnod cyn y prif benwythnos.
Mae mwy o fanylion ar sut i wylio’r tri chyngerdd rhithwir ar wefan yr ŵyl, www.pianofestival.co.uk
Yn y cystadlaethau piano mae ymgeiswyr yn cystadlu am brif wobr o £700 yn y categori iau, £3,000 yn y categori hŷn a £1,500 yn y categori cyfeilio.
Dywedodd Catrin Morris Jones, sy’n un o’r tîm gweinyddol sy’n trefnu’r ŵyl: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu’r cystadleuwyr i Galeri Caernarfon a bydd hefyd yn bosibl i aelodau’r cyhoedd ddod i wylio’r cystadlaethau. Cyhoeddir yr amserlen derfynol a’r manylion ar y wefan yn fuan.”
“Mae wedi bod yn 18 mis heriol ond rydym yn benderfynol o gyflwyno gŵyl wych. Mae agen i ni godi ychydig mwy o arian er mwyn cyrraedd ein targed ariannol ac rydym wedi rhoi ffurflenni ar ein gwefan i bobl gymryd rhan drwy Noddi Nodyn – sef ffordd o’n noddi trwy ddewis eich hoff nodyn ar y piano.”
I gael mwy o fanylion am amserlen yr ŵyl, i archebu tocynnau neu i ddarganfod sut i noddi nodyn ewch i www.pianofestival.co.uk
Ynghyd â Cyngor Gwynedd, Tim Llwybrau Llesiant, mae Canfod y Gân wedi bod yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad arbennig gofalwyr rhwng y 7fed o Fehefin a Mehefin 13eg, gan ei bod yn Wythnos Gofalwyr 2021 Heb os, rydym ni fel prosiect yn eich gwerthfaowrigi cefnogaeth gofalwyr yn llwyr drwy’r flwyddyn. Heb gymorth gofalwyr mi fyddai hi llawer anoddach arnom ni, fel prosiect i weithredu. Felly DIOLCH YN FAWR i’n holl ofalwyr, ac i’r holl ofalwyr yn ein cymunedau. Er mwyn cydnabod cyfraniad gofalwyr a rhoi rhywbeth bach yn ôl i’n gofalwyr. Mae ein tiwtoriaid wedi rhoi fideos at ei gilydd i’w gwylio a’u mwynhau. hun.
Nôl ym mis Ionawr ar ôl y sioc a ddaeth cyn y Nadolig ein bod mewn cyfnod clo arall. Roedd hi’n teimlo’n wahanol tro ma. Fyddai’n Nadolig yma ddim yr un fath, ac am ba hyd oedd y cyfnod clo yma yn mynd i bara? Roeddem ni gyd yn wynebu cyfnod digon ansicr eto. Wrth ddod nol at ein gilydd ar ôl y Nadolig, roedd hi’n bwysig iawn i ni gyd helpu’n gilydd. Dywedodd Terry, un o’n haelodau :
“Mae’n bwysig iawn i ni gyd gadw’n bositif a dal i fynd. Ma dod i Canfod yn helpu fi, a bod yn greadigol”
Gyda geiriau Terry yn ein hysbrydoli, dyma ddechrau holi pawb beth oedd pawb yn edrych mlaen i gael gwneud unwaith y byddai pethau’n gwella. Roedd pawb yn llawn syniadau.
Dyma rai o’n syniadau :
Gweithio yn Caffi Cei
Chwarae pêl droed yn Caernarfon efo Tony a Mark
Cael panad a chacan mewn caffi
Reidio beic a rhedeg yn bell
Nofio a teimlo’r dŵr
Mynd am drip i lan y môr a chael picnic efo pawb
Cael cwtsh go iawn yn well na cwtsh heb dwtsh
Cael mynd yn ôl i Canfod y Gân eto
Canu yn yr un ‘sdafell â pawb arall
Aeth y tri grwp ati i feddwl am negeseuon fyddai’n codi calon. Roedd ‘daw eto haul ar fryn’ yn neges bwysig iawn i bawb. Mae llawer o’n haelodau yn mynychu Clwb Enfys hefyd drwy www.llwybraullesiant.cymru felly dyma benderfynu cydweithio gyda’r clwb er mwyn creu negeseuon positif a gwaith celf lliwgar i’w gynnwys yn ein fideo. Diolch i aelodau’r clwb am gyfrannu at ein fideo, roedd eich gwaith celf yn wych, mor bositif a lliwgar!
Aeth Elin, un o’n tiwtoriaid ati i roi syniadau pawb at ei gilydd. A dyna sut cawsom ni gân newydd ‘Cadw Ffydd’. Buom yn brysur wedyn yn recordio ein hunain yn cyd-chwarae gyda’n gilydd. Cawsom bob math o fideos o’r organ geg i glychau a’r glocenspiel a’r cello. Dystiodd Mared y llwch oddi ar ei ffliwt hefyd er mwyn cael perfformio hefo’r criw.
Bu 2019-2020 yn flwyddyn brysur arall i CGWM a braf oedd cael dathlu ugain mlynedd ers i’r Ganolfan agor ei drysau trwy wahodd rhai o’n cyn-ddisgyblion a’n disgyblion presennol i nodi’r achlysur mewn cyngerdd arbennig yn Galeri.
Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni.
Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o bob safon ac oedran, nid yn unig o’r DU ond cyn belled â’r Almaen a Gwlad Thai. Roedd y repertoire a berfformiwyd yn amrywio o ddarnau Clasurol a Rhamantaidd i Jazz, Ragtime & Blues a’r 20fed Ganrif.
Y pianyddion blaenllaw Dafydd Meurig Thomas, Gwawr Owen ac Evgenia Startseva oedd yn gwrando ac yn rhoi adborth adeiladol i’r holl berfformwyr. Adlewyrchodd Evgenia ei bod “yn bleser aruthrol ac yn brofiad pleserus. Roedd y perfformwyr wedi creu argraff dda iawn. ”
Roedd yr adborth gan rieni a pherfformwyr yn frwd iawn gyda llawer o arsylwadau cadarnhaol:
“Diolch yn fawr iawn am y cyfle i’n plant chwarae yn y Diwrnod Piano a chael adborth mor ddefnyddiol gan rhoi hwb a hyder iddynt!”
“Fe aeth y cyfan yn llyfn iawn a sylwadau’r tri yn hynod werthfawr. Mae’n werth y byd i’r pianyddion i gael cyfle i chware tu hwnt i awyrgylch cystadleuol, ac felly ry’ ni’n gwerthfawrogi’r diwrnod yn fawr.”
“Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn gyda theimlad cartrefol iawn er y ZOOM – diolch am eich gwaith caled.”
Cawsom sesiwn ‘Holi ac Ateb’ addysgiadol a goleuedig iawn yn ystod y prynhawn a ddaeth â’r sylw canlynol gan aelod o’r gynulleidfa:
“Mi wnes i fwynhau’r sesiwn Holi ac Ateb yn fawr. Yn aml, gall rhywun deimlo’n ynysig iawn fel tiwtor a chredaf yn gryf fod sesiynau o’r fath, lle gellir datrys problemau a rhannu arferion da, o fudd enfawr i lawer ohonom.”
Rydym yn falch iawn ein bod wedi creu’r gymuned hyfryd yma o bianyddion, rhieni ac athrawon ar-lein ac edrychwn ymlaen at gynllunio llawer mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol agos.
Mae cwcis yn helpu ni ddeall sut mae ein gwefan yn cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr, ac yn angenrheidiol er mwyn i rai rhannau o’n gwefan weithio’n gywir.