Cerddorfa gymunedol i Gaernarfon yn taro tant yn ystod eu cyfarfod cyntaf

Cyhoeddwyd: 28 Mawrth, 2019

Ar y 5ed o Fawrth, mi gynhaliwyd ymarfer cyntaf ensemble offerynnol newydd i oedolion, Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, yng Nghaernarfon.

Dan arweiniad y sielydd, Nicki Pearce o Fae Colwyn a Steven Evans, yn wreiddiol o Gaernarfon fel repetiteur, mae’r gerddorfa gymunedol yn gyfarfod ar nosweithiau Mawrth o 8yh-9.15yh yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon.

Mynychodd un-ar-bymtheg o aelodau yr ymarfer cyntaf, gyda thri arall yn ymuno yn yr ail wythnos.

Mae hi wedi bod yn freuddwyd gan Nicki Pearce, arweinydd y gerddorfa, i sefydlu cerddorfa i oedolion ers blynyddoedd. Dywedodd Nicki:

“Dwi wrth fy modd fy mod i wedi sefydlu cerddorfa gymunedol ar gyfer oedolion yma yng Nghaernarfon o’r diwedd.”

“Mae gymaint o oedolion sydd yn dysgu a sydd wedi bod yn cael gwersi cerddoriaeth un-i-un a mae hyn yn ffordd wych iddynt ddod ynghyd i gael hwyl drwy gerddoriaeth.”

“Mae o hefyd yn ffordd dda i oedolion sydd efallai heb gyffwrdd yn eu offerynnau ers blynyddoedd i ail-gydio ynddi eto ac i gael tro mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol.”

Mae’r fenter newydd yn cael ei drefnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias, sydd wedi’i leoli yn y Galeri yng Nghaernarfon ac yn darparu hyfforddiant gerddorol o safon uchel, yn ogystal a threfnu amrywiaeth o weithgareddau gymunedol drwy Gymru.

Fe sylweddolodd Meinir Llwyd, cyfarwddwr Canolfan Gerdd William Mathias, fod angen y math hwn o ensemble yng Nghaernarfon. Dywedodd:

“Mae Nicki Pearce a minnau wedi bod yn trafod y posibilrwydd o greu cerddorfa fyddai’n cynnig cyfleon i oedolion i ddod ynghyd i gymdeithasu ac i fwynhau creu cerddoriaeth ers peth amser.”

“Roedd Steven Evans, sydd wedi dechrau rhoi gwersi piano yn y ganolfan yn ddiweddar wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r fenter hefyd.”

“Mae hi’n ddiddorol gweld fod y nifer o oedolion sydd yn derbyn gwersi un-i-un yng Nghanolfan Gerdd William Mathias wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn newyddion da iawn.”

“Er hyn, roeddent yn gweld y galw i ddarparu mwy o gyfleon i’r oedolion sydd yn derbyn gwersi un-i-un i gymryd rhan mewn hyfforddiant grŵp yn ogystal a annog y rhai oedd arfer chwarae offeryn – efallai pan roeddent yn blentyn, i ail-gydio yn eu hofferynnau eto.”

Un o’r aelodau a wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Gwyneth M Davies o Benllech sy’n chwarae’r Cornet Bb.

“Dim ond yn ddiweddar iawn dw’i wedi bod yn derbyn gwersi, er fy mod i wedi bod yn chwarae’r corn ers rhyw ddeng mlynedd.”

“Mi ydw i wrth fy modd â cherddoriaeth – ac yn aelod brwd o Seindorf LSW ynghyd â Chôr Hamdden Mathias – côr lleisiau merched sy’n cyfarfod ar brynhawniau Iau yng Nghaernarfon.”

“I ddweud y gwir ro’n i reit nerfus cyn yr ymarfer cyntaf – a ddim yn gwybod beth i ddisgwyl.”

“Ond dan ni wedi jelio yn dda iawn erbyn hyn a dw’i wedi neud ffrindiau newydd – dan ni’n gefnogol iawn o’n gilydd a mae pawb i weld yn mwynhau.”

“Mae’r arweinydd Nicki Pearce yn fendigedig – mae hi’n sylweddoli bod ni i gyd o lefelau gwahanol, ac yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth ddewis y rhannau. Fe wnaeth o godi fy nghalon fy mod i’n medru chwarae’r rhan ges i.”

“Dw’i hefyd wedi bod yn annog fy ffrindiau i ymuno – mae ganddyn nhw ddiddordeb ac pob tro yn gofyn i mi sut mae’r ymarferion wedi mynd – gobeithio y dawn nhw i roi cynnig ar y gerddorfa.”

Un o’r aelodau wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Desmond Burton o Fangor a fu’n diwtor Saesneg dramor ers bron i 25 mlynedd. Dywedodd Desmond:

“Dim bwys beth yw eich profiad na’ch lefel, os ydych yn meddwl y buasech yn mwynhau chwarae cerddoriaeth gydag eraill, dewch i ymuno gyda ni yn y Gerddorfa Gymunedol. Dydi llawer ohonom ni erioed wedi chwarae mewn cerddorfa o’r blaen, felly peidiwch a phoeni y bydd pawb arall yn well na chi, oherwydd mae’n siŵr na fyddan nhw!”

Roedd Nicki Pearce a Steven Evans yn falch iawn o weld amrywiaeth o offerynnau. Yn ôl Steven:

“Mi wnes i feddwl y basa hi’n anodd cael chwaraewyr chwyth a phres – ond ni chafom unrhyw drafferth o gwbl – er mi fuasen yn gallu gwneud efo mwy o feiolinwyr!”

Ers yr ymarfer cyntaf mae mwy o aelodau wedi ymuno a mae croeso cynnes yn disgwyl aelodau newydd a fyddai’n hoffi ymuno gyda’r gerddorfa.

Mi fydd cyfres newydd Cerddorfa Gymunedol Caernarfon yn cychwyn ar y 9fed o Ebrill.

I gofrestru ac am fwy o wybodaeth, caiff aelodau eu hannog i gysylltu gyda Canolfan Gerdd William Mathias.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...