Catrin Morris Jones
Daw Catrin yn wreiddiol o Fangor ac ar ôl ugain mlynedd o fyw a gweithio yn Llundain mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli. Wedi cwblhau cwrs perfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain, lle bu’n astudio gyda David Watkins, aeth Catrin ymlaen i wneud cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol. Yno fe astudiodd gyda Skaila Kanga gan ennill gwobr Renata Scheffel-Stein am ei gwaith ar y delyn. Ym mis Mai 2014 cafodd ei hethol yn Gydymaith (Associate) yr Academi Frenhinol. Rhoddir yr anrhydedd hwn i gyn-fyfyrwyr yr Academi sydd wedi amlygu eu hunain ym myd cerddoriaeth a gwneud cyfraniad yn eu maes dewisiedig.
Mae dysgu’r delyn i blant ac oedolion wedi bod yn ran bwysig o yrfa Catrin ac mae hi wedi dysgu nifer o ddisgyblion preifat dros y blynyddoedd yn ogystal a dysgu yn Ysgol Gymraeg Llundain, Ysgol Uwchradd Merched St Albans, Canolfan Gerdd Watford, Ysgol Ferched Dinas Llundain, Ysgol Genethod St Pauls ac Ysgol Beechwood Park, Hertfordshire. Gweithiodd Catrin mewn amryw o sioeau cerdd yn ’West End’ Llundain, gan gynnwys: Oliver!, The King and I, Notré Dame de Paris, The Producers, My Fair Lady, Napoleon, The Secret Garden (Y Cwmni Shakespeare Brenhinol) a South Pacific (Y Theatr Genedlaethol Brenhinol).
Ar hyn o bryd mae Catrin yn ddirpwy yn Phantom of the Opera. Mae Catrin wedi perfformio gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw, yn cynnwys: y Philharmonia, Royal Philharmonic a’r Royal Philharmonic Concert Orchestras, cerddorfa’r Hallé, y Royal Scottish National Orchestra, Ensemble 10/10 (ensemble cyfoes Cerddorfa Ffilharmonic Lerpwl), Trondheim Symphony Orchestra, Royal Opera House Orchestra, Glyndebourne Touring Orchestra, English Touring Opera, Garsington Opera Orchestra, Opera São Carlos, Lisbon, Portugal, London City Ballet, Moscow City Ballet a’r Northern Ballet Company.
Ymhlith rhai o gyngherddau mwyaf cofiadwy Catrin mae perfformiadau o’r Concerto Ffliwt a Thelyn gan Mozart yn Neuadd y Barbican, y Dance Sacrée et Dance Profane gan Debussy yng Ngŵyl Minehead, a’r perfformiad cyntaf o Telynau Aur gan Adam Gorb, yn Neuadd y Wigmore yn Llundain. Yn ystod ei blwyddyn olaf yn yr Academi Frenhinol Gerddorol, Catrin oedd yr unig un o Brydain i ennill lle yng Ngherddorfa Gŵyl Schleswig Holstein, ac fe deithiodd o gwmpas Yr Almaen. Sbaen, Awstria, Yr Eidal a Denmarc, gan weithio gyda arweinyddion byd enwog gan gynnwys Valery Gergiev, Marin Alsop, Semyon Bychkov a’r diweddar Syr George Solti.
Mae Catrin wedi chwarae mewn amryw o leoedd cofiadwy a phwysig gan gynnwys y Neuadd Wledda yn Llundain, Y Senedd yn San Steffan, Amgueddfa V&A, Palas Kensington, yr Amgueddfa Borteuadau Genedlaethol, Y Gymdeithas Frenhinol yn Pall Mall, Tŵr Llundain a Phont Tŵr Llundain, yn ogystal a nifer o westyau mwyaf blaenllaw Llundain a nifer o’r neuaddau Liferi yn Ninas Llundain. Me hi hefyd wedi gwisgo fel gwrach er mwyn perfformio ar blatfform 9¾ yng Ngorsaf Kings Cross yn lawnsiad DVD cyntaf Harry Potter! Catrin sy’n chwarae’r delyn yn y ddeuawd Arabesque (ffliwt a thelyn), ac fe gychwynnodd ddysgu yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn 2015.