Caleb Rhys Jones

Caleb Rhys Jones

Canu

Daw Caleb yn enedigol o Gerlan, uwchlaw Bethesda. Mae wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon bellach, ac mae gofyn cynyddol amdano fel tiwtor llais ac arweinydd corawl.

Dechreuodd Caleb ganu wedi iddo ymuno â Chôr y Penrhyn yn 16 oed, cyn penderfynu mynd ymlaen i astudio’r llais fel rhan o’i radd Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd radd gydag Anrhydedd yn 2018, gan dderbyn Gwobr Parry Williams a Gwobr Goffa Eric Morris ar gyfer llwyddiant rhagorol yn y drydedd flwyddyn. Ar ôl cyfnod byr yn gweithio i Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn a Codi’r Tô, aeth ymlaen i astudio gradd mewn Opera ac Astudiaethau Llais yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Gadeirlan Salford ac ymddangosodd mewn amryw gynhyrchiad opera a chân yn ystod ei gyfnod ym Manceinion.

Graddiodd gydag Anrhydedd o'r Royal Northern yn 2021, cyn symud yn ôl adref i Eryri i weithio ar gyfer BBC Radio Cymru. Ers iddo symud yn ôl i ogledd Cymru mae gofyn amlwg amdano fel cerddor amlweddog. Bu'n gweithio fel Arweinydd Côr i Only Boys Aloud, ac fel Arweinydd Canu ac Ymarferydd Cerddoriaeth i Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) ar raglenni ieuenctid yn y gogledd. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel Arweinydd Prosiect ar gyfer rhaglen Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Caiff unrhyw amser sbâr ei ymroi i ganu, arwain corau, a cherddoriaeth pop.

Mae arbenigedd Caleb yn anatomi’r llais ac mae ei dechneg dysgu yn seiliedig ar yr hyn sydd fwyaf naturiol a greddfol ar gyfer y llais. Er ei fod wedi astudio’r llais o safbwynt clasurol, mae’n gallu defnyddio ei ddealltwriaeth o hanfodion yr offeryn i ddysgu mewn amrywiaeth o arddulliau. Mae’n rhoi ystyriaeth blaenllaw i ddymuniad ac anghenion yr unigolyn yn ei waith fel tiwtor llais.