Bethan Conway
Dechreuodd hyfforddiant cerddorol Bethan yn 7 oed gyda gwersi piano cyn dechrau chwarae telyn yn 10 oed. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gyflawni ei diplomâu perfformiad ABRSM ar y delyn a’r piano ac ers hynny mae wedi perfformio mewn amryw o leoliadau ym Mhrydain, Ewrop a’r UDA fel unawdydd ac fel rhan o amrywiaeth o ensembles. Enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gan y Coleg Cerdd Brenhinol yn 2017 a dychwelodd i’r coleg ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig fel Ysgolor ‘Ashley Family Foundation’. Graddiodd Bethan gyda Meistr Perfformiad gyda Rhagoriaeth yn 2019 ac ar ôl cwblhau ei hastudiaethau dyfarnwyd gwobr fawreddog ‘The Queen Elizabeth, The Queen Mother Rose Bowl.
Fel cystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau, mae Bethan wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys y wobr gyntaf yn unawd telyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â chael ei dewis yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog y Rhuban Glas ar ddau achlysur. Mae hi hefyd wedi ennill yr ail wobr yn yr unawd piano a’r drydedd wobr yn yr unawd telyn yn Eisteddfod yr Urdd. Yn 2016 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Nansi Richards i Bethan yn ogystal â Gwobr Delyn y Coleg Cerdd Brenhinol.
Ers dychwelyd i Treuddyn yn Sir y Fflint, mae Bethan yn mwynhau gyrfa fel pianydd a thelynores. Mae hi’n perfformio gyda llawer o gerddorfeydd ym Mhrydain gan gynnwys NEW Sinfonia – cerddorfa breswyl yn yr Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, City of Birmingham Symphony Orchestra a Birmingham Contemporary Music Group. Mae hyn wedi rhoi cyfle i Bethan weithio gydag arweinwyr byd-enwog fel Bernard Haitink, Edward Gardner a Rafael Payare. Mae Bethan hefyd yn mwynhau cyfeilio, daliodd swydd dirprwy gyfeilydd i Cantorion Rhos yn cyfeilio iddynt ar eu taith o amgylch Portiwgal yn 2015 ac yn ddiweddar mae wedi cydweithio â Chorws Cymunedol WNO ac Opera Ieuenctid WNO. Yn gerddor siambr brwd, mae Bethan yn perfformio’n rheolaidd gyda’i grŵp Ffliwt a Thelyn, ‘Hefin Duo’ yn ogystal â ‘Trilogy’, triawd ffliwt, telyn a fiola. Mae Bethan yn dysgu piano a thelyn ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint, Ysgol Rupert House Henley-on-Thames ac yn breifat yn Nhreuddyn.