Panel Ieuenctid

Wyt ti rhwng 14 a 25?
Diddordeb mewn cerddoriaeth?
Eisiau cyfrannu at siapio dyfodol cwmni celfyddydol?

Beth am ymuno gyda Phanel Ieuenctid Canolfan Gerdd William Mathias.

Mae CGWM yn awyddus i sicrhau bod gan bobl ifanc lais yn siapio dyfodol y Ganolfan.

Rydym yn awyddus i recriwtio rhagor o aelodau i ymuno efo’r panel ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf 2024-25.

Rydym yn annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd â diddordeb mewn ymuno i fynychu digwyddiad lansio Panel Ieuenctid 2024-25 yn Galeri Caernarfon ar y 26.7.2024 o 10.30am-12.00 pan fydd yr artist a thiwtor CGWM Malan ynghyd a dau aelod o staff Mali Elwy a Gabriel Tranmer yn arwain trafodaeth anffurfiol dros baned a chacen. Bydd cyfle hefyd i fwynhau perfformiad gan Malan.

Mae croeso hefyd i chi ddod ag offeryn efo chi (neu eich llais!) ac aros ymlaen i gymryd rhan mewn sesiwn jamio anffurfiol ar ddiwedd y bore (12-1pm).

Yn ystod 2024-25 bwriedir i’r panel gyfarfod bob deufis  yn Galeri (Gyda’r opsiwn i ymuno ar zoom os dymunir). Bydd cynrychiolydd o’r panel hefyd yn adrodd i Fwrdd Ymddiriedolwyr-Gyfarwyddwyr CGWM.

Yn ogystal â chyfrannu syniadau, bydd cyfle i’r aelodau wirfoddoli yn rhai o weithgareddau CGWM os dymunir.

Dyma gyfle gwych i ddatblygu CV ac efallai casglu oriau ar gyfer cynlluniau gwirfoddoli.

Credwn y bydd y Panel Ieuenctid yn gallu cyfrannu syniadau creadigol, ffresh i’n cynorthwyo i gyflawni rhai o brif nodau CGWM i’r dyfodol sy’n cynnwys :

  • Ymgysylltu gyda grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn y Celfyddydau ar hyn o bryd
  • Meithrin a datblygu talentau cerddorol plant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cefnogi bobl ifanc sy’n dymuno mynd ymlaen i ddatblygu gyrfa ym maes cerddoriaeth.
  • Ehangu rhaglen waith CGWM yn maes Iechyd a Lles.
  • Ehangu ein darpariaeth i gynnwys bob arddull gerddorol o’r clasurol i electronig, cerddoriaeth byd i gerddoriaeth roc.

Trefnwn wasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd fel bod modd i’r aelodau gyfrannu yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gallwn hefyd gynnig cyfraniad at gostau teithio i alluogi aelodau i fynychu’r cyfarfodydd.

Mae CGWM yn awyddus i ddathlu amrywiaeth bobl ifanc Cymru ac yn croesawu ac annog ceisiadau gan bobl ifanc o bob  hunaniaeth rhyw,  hil, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a phobl ifanc anabl.

Mae croeso mawr i fyfyrwyr presennol CGWM, cyn fyfyrwyr CGWM a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a heb gymryd rhan yng nghweithgareddau CGWM o’r blaen.

 Mae diogelu plant a phobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed yn holl bwysig i CGWM. 

Mae copi o’n polisi Diogelu a nifer o bolisiau eraill ar gael ar ein gwefan : www.cgwm.org.uk/polisiau

Mae’n bosibl y bydd rhai elfennau o waith y panel ieuenctid yn golygu bod angen i aelodau’r panel gael gwiriad DBS.