Eisteddfod Llanrwst Awst 2019

Roedd hi’n fraint cael ein gwahodd i berfformio ym mhabell y dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ym mis Awst 2019. Cynnigwyd y cyfle i grwpiau Caernarfon a Phwllheli gymryd rhan.

Roedd y babell dan i sang a phawb ar dân i’n perfformiad cyntaf un!

Cafwyd ambell syrpreis…Daeth yr Elvis Cymreig i gyd-ganu gyda Anne Louise. Braf oedd gweld y ddau yn cyd-ganu a gweddill y gynulleidfa wrth eu boddau yn ymuno!

Daethpwyd â’r gyngerdd i ben, gyda’r gynulleidfa yn morio canu hyd at y diwedd.

Bore o hwyl – The Great Get Together

Bore o hwyl – The Great Get Together

Trefnwyd bore o hwyl i gymunedau cerdd Canolfan gerdd William Mathias, eu teuluoedd, eu ffrindiau, a’r gymuned ehangach. Gwahoddwyd teuluoedd sy’n mynychu sesiynau Camau Cerdd a Chamau Nesaf i blant; aelodau’r côr hamdden; aelodau’r gerddorfa gymunedol; trigolion cartref Bryn Seiont Newydd Caernarfon ac aelodau Canfod y Gân Caernarfon i ddod ynghyd i fwynhau caneuon a cherddoriaeth fel rhan o ddigwyddiadau cymunedol The Great Get Together.

Sefydlwyd The Great Get Together gan y Jo Cox Foundation fel menter i ddod a phob at ei gilydd er mwyn canfod yr hyn sydd ganddom yn gyffredin. Dywedodd Jo Cox, yn ei hanerchiad cyntaf yn Nhy’r Cyffredin :

“We are far more united and have far more in common than that which divides us”

Jo Cox

Gyda diolch i’r Great Get Together a Spirit of 2012, derbyniwyd grant i gynnal digwyddiad fyddai’n dod a phobl ynghyd. Be’ well na cherddoriaeth?

Arweinwyd y bore gan Arfon Wyn, a chafwyd bore bendigedig o gyd-ganu a chwarae offerynnau gyda ‘r ieuengaf yn 10 mis oed, hyd at yr hynaf yn ei 90au, a phawb yn mwynhau’r gerddoriaeth a chael bod gyda’i gilydd. I goroni’r cyfan, cacen a phaned!

Cerddorfa gymunedol i Gaernarfon yn taro tant yn ystod eu cyfarfod cyntaf

Cerddorfa gymunedol i Gaernarfon yn taro tant yn ystod eu cyfarfod cyntaf

Ar y 5ed o Fawrth, mi gynhaliwyd ymarfer cyntaf ensemble offerynnol newydd i oedolion, Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, yng Nghaernarfon.

Dan arweiniad y sielydd, Nicki Pearce o Fae Colwyn a Steven Evans, yn wreiddiol o Gaernarfon fel repetiteur, mae’r gerddorfa gymunedol yn gyfarfod ar nosweithiau Mawrth o 8yh-9.15yh yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon.

Mynychodd un-ar-bymtheg o aelodau yr ymarfer cyntaf, gyda thri arall yn ymuno yn yr ail wythnos.

Mae hi wedi bod yn freuddwyd gan Nicki Pearce, arweinydd y gerddorfa, i sefydlu cerddorfa i oedolion ers blynyddoedd. Dywedodd Nicki:

“Dwi wrth fy modd fy mod i wedi sefydlu cerddorfa gymunedol ar gyfer oedolion yma yng Nghaernarfon o’r diwedd.”

“Mae gymaint o oedolion sydd yn dysgu a sydd wedi bod yn cael gwersi cerddoriaeth un-i-un a mae hyn yn ffordd wych iddynt ddod ynghyd i gael hwyl drwy gerddoriaeth.”

“Mae o hefyd yn ffordd dda i oedolion sydd efallai heb gyffwrdd yn eu offerynnau ers blynyddoedd i ail-gydio ynddi eto ac i gael tro mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol.”

Mae’r fenter newydd yn cael ei drefnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias, sydd wedi’i leoli yn y Galeri yng Nghaernarfon ac yn darparu hyfforddiant gerddorol o safon uchel, yn ogystal a threfnu amrywiaeth o weithgareddau gymunedol drwy Gymru.

Fe sylweddolodd Meinir Llwyd, cyfarwddwr Canolfan Gerdd William Mathias, fod angen y math hwn o ensemble yng Nghaernarfon. Dywedodd:

“Mae Nicki Pearce a minnau wedi bod yn trafod y posibilrwydd o greu cerddorfa fyddai’n cynnig cyfleon i oedolion i ddod ynghyd i gymdeithasu ac i fwynhau creu cerddoriaeth ers peth amser.”

“Roedd Steven Evans, sydd wedi dechrau rhoi gwersi piano yn y ganolfan yn ddiweddar wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r fenter hefyd.”

“Mae hi’n ddiddorol gweld fod y nifer o oedolion sydd yn derbyn gwersi un-i-un yng Nghanolfan Gerdd William Mathias wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn newyddion da iawn.”

“Er hyn, roeddent yn gweld y galw i ddarparu mwy o gyfleon i’r oedolion sydd yn derbyn gwersi un-i-un i gymryd rhan mewn hyfforddiant grŵp yn ogystal a annog y rhai oedd arfer chwarae offeryn – efallai pan roeddent yn blentyn, i ail-gydio yn eu hofferynnau eto.”

Un o’r aelodau a wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Gwyneth M Davies o Benllech sy’n chwarae’r Cornet Bb.

“Dim ond yn ddiweddar iawn dw’i wedi bod yn derbyn gwersi, er fy mod i wedi bod yn chwarae’r corn ers rhyw ddeng mlynedd.”

“Mi ydw i wrth fy modd â cherddoriaeth – ac yn aelod brwd o Seindorf LSW ynghyd â Chôr Hamdden Mathias – côr lleisiau merched sy’n cyfarfod ar brynhawniau Iau yng Nghaernarfon.”

“I ddweud y gwir ro’n i reit nerfus cyn yr ymarfer cyntaf – a ddim yn gwybod beth i ddisgwyl.”

“Ond dan ni wedi jelio yn dda iawn erbyn hyn a dw’i wedi neud ffrindiau newydd – dan ni’n gefnogol iawn o’n gilydd a mae pawb i weld yn mwynhau.”

“Mae’r arweinydd Nicki Pearce yn fendigedig – mae hi’n sylweddoli bod ni i gyd o lefelau gwahanol, ac yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth ddewis y rhannau. Fe wnaeth o godi fy nghalon fy mod i’n medru chwarae’r rhan ges i.”

“Dw’i hefyd wedi bod yn annog fy ffrindiau i ymuno – mae ganddyn nhw ddiddordeb ac pob tro yn gofyn i mi sut mae’r ymarferion wedi mynd – gobeithio y dawn nhw i roi cynnig ar y gerddorfa.”

Un o’r aelodau wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Desmond Burton o Fangor a fu’n diwtor Saesneg dramor ers bron i 25 mlynedd. Dywedodd Desmond:

“Dim bwys beth yw eich profiad na’ch lefel, os ydych yn meddwl y buasech yn mwynhau chwarae cerddoriaeth gydag eraill, dewch i ymuno gyda ni yn y Gerddorfa Gymunedol. Dydi llawer ohonom ni erioed wedi chwarae mewn cerddorfa o’r blaen, felly peidiwch a phoeni y bydd pawb arall yn well na chi, oherwydd mae’n siŵr na fyddan nhw!”

Roedd Nicki Pearce a Steven Evans yn falch iawn o weld amrywiaeth o offerynnau. Yn ôl Steven:

“Mi wnes i feddwl y basa hi’n anodd cael chwaraewyr chwyth a phres – ond ni chafom unrhyw drafferth o gwbl – er mi fuasen yn gallu gwneud efo mwy o feiolinwyr!”

Ers yr ymarfer cyntaf mae mwy o aelodau wedi ymuno a mae croeso cynnes yn disgwyl aelodau newydd a fyddai’n hoffi ymuno gyda’r gerddorfa.

Mi fydd cyfres newydd Cerddorfa Gymunedol Caernarfon yn cychwyn ar y 9fed o Ebrill.

I gofrestru ac am fwy o wybodaeth, caiff aelodau eu hannog i gysylltu gyda Canolfan Gerdd William Mathias.

Sefydlu Cerddorfa Gymunedol Caernarfon

Sefydlu Cerddorfa Gymunedol Caernarfon

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn falch o gyhoeddi eu bod am sefydlu cerddorfa gymunedol  newydd yn arbennig i oedolion.

Bydd yr ymarfer cyntaf yn cael ei gynnal yn Theatr Seilo Caernarfon ar y 5ed o Fawrth, gan gychwyn am 8:00yh.

Bydd y gerddorfa yn cael ei harwain gan Nicki Pearce, sydd wedi bod yn breuddwydio am gael sefydlu cerddorfa o’r fath ers peth amser.

Dywedodd Nicki, sydd hefyd yn dysgu’r sielo yng Nghanolfan Gerdd William Mathias: “Cerddorfa gymunedol fydd hon i oedolion – a carwn annog unrhyw un sydd efallai wedi bod yn derbyn gwersi am gwpwl o flynyddoedd, neu efallai sydd heb chwarae eu hofferynnau ers dipyn i ymuno yn yr hwyl!”

Hefyd yn ymuno â Nicki fydd Steven Evans, fel répétiteur i’r gerddorfa.

Anogir unrhyw un sydd efo diddordeb mewn ymuno i gysylltu â Chanolfan Gerdd William Mathias am ragor o fanylion cyn gynted a phosib. Bydd angen cofrestru ymlaen llaw.

Galwad am Gerddorion

Galwad am Gerddorion

Rydym yn awyddus i glywed gan gerddorion sydd a diddordeb mewn cynnal sesiynau cerdd fel rhan o’n cynllun newydd cyffrous ‘Canfod y Gan’ fydd yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion heb anableddau ynghyd i greu cerddoriaeth. Mwy o wybodaeth.

Galwad am Gerddorion

Galwad am Werthuswyr Allanol

Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 (www.spiritof2012.org.uk) er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân/Discover the Song’ dros dair blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion sydd heb anableddau ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl a llesiant.

Bydd CGWM yn gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd a fydd yn cyfeirio unigolion gyda anableddau dysgu i’r prosiect.

Rydym eisiau derbyn ceisiadau gan werthuswyr allanol i weithio gyda ni drwy gydol y prosiect er mwyn :

  • casglu tystiolaeth o effaith y prosiect,
  • cynorthwyo wrth baratoi adroddiadau i’r noddwr.
  • cynorthwyo i rannu ein dysgu a’n canfyddiadau.

Gweler dolen i’r Tendr.

Gwledd o Gerddoriaeth: Elain Rhys a Ffrindiau

Gwledd o Gerddoriaeth: Elain Rhys a Ffrindiau

Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i ffrindiau.

Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.

Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.

Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig hwn. Dwi’n  edrych ymlaen yn arw at y noson.”

Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled Gogledd Cymru.

Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.

Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y noson.”

Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.

Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.

Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”

Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19 Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361

Cerys yn Ennill Ysgoloriaeth Ben Muskett 2018

Cerys yn Ennill Ysgoloriaeth Ben Muskett 2018

Cerys Edwards, disgybl yng Nghanolfan Gerdd William Mathias (cangen Rhuthun), sydd yn derbyn Ysgoloriaeth CGWM er cof am Ben Muskett eleni. Mae Cerys, sy’n 16 oed, yn cael gwersi piano gyda Teleri Siân.

Dywedodd Cerys, “Roedd yn dipyn o sioc i glywed fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Ben Muskett. Roeddwn newydd berfformio mewn cyngerdd gan rai o fyfyrwyr y Ganolfan ac ar ôl i mi berfformio cefais fy ngalw yn ôl i’r llwyfan i dderbyn tlws ac arian yr ysgoloriaeth.

Wrth longyfarch Cerys, dywedodd Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, “Roedd Ben Muskett yn diwtor piano ysbrydoledig yn y Ganolfan. Ond, yn 25 oed, bu farw mewn damwain car yn 2011.”

Caiff yr Ysgoloriaeth ei dyfarnu’n flynyddol i bianydd addawol dan 18 oed sy’n derbyn gwersi yn CGWM. Yn ôl Meinir Llwyd, “Dyma’n ffordd ni o gynnal rhywfaint o’r angerdd yr oedd Ben yn ei deimlo am gerddoriaeth a dysgu plant a phobl ifanc.”

Meddai Cerys, “Mae’r ysgoloriaeth yn golygu gymaint i mi. Mi fydd yr arian o gymorth mawr er mwyn prynu darnau newydd piano yr hoffwn eu dysgu – yn cynnwys Waltzes Chopin, Preludes Debussy a darnau jazz hefyd.”

Mae Cerys yn derbyn gwersi Cerddoriaeth yn Ysgol Brynhyfryd gyda Miss Llinos Williams. Dechreuodd gael gwersi Piano pan oedd hi’n chwech oed gyda Mavis Johns, cyn cychwyn gwersi gyda Teleri-Siân yn 2012.

Yn ôl Cerys, “Rwyf wrth fy modd yn dod am wersi piano gyda Teleri Siân a gyda’i chymorth hi mi wnes i lwyddo i basio fy arholiad Gradd 8 yn ystod yr Haf gyda theilyngdod.”

Dywedodd Llinos, mam Cerys: “Rydan ni wedi bod yn ffodus iawn i gael tiwtoriaid piano o’r safon uchaf dros y blynyddoedd – mae fy mab Sion, ynghyd â chwaer Cerys, Cathrin, wedi mwynhau dod am wersi piano efo Teleri-Siân.”

Ym Mlwyddyn 9, enillodd Cerys y drydydd wobr yng Nghystadleuaeth Unawd Piano Blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae hi hefyd yn aelod ffyddlon o Gôr Cytgan Clwyd.

Yng Nghaernarfon y mae prif gartref CGWM. Ond, ers 2012, mae’r Ganolfan wedi bod yn darparu gwersi cerdd ar nosweithiau Llun yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ac, ers dros flwyddyn, hefyd yn cynnig gwersi yng Nghapel Tabernacl, Ruthun ar nosweithiau Mercher.

Cafodd tlws yr ysgoloriaeth ei gyflwyno i Cerys yng nghyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ CGWM yn Neuadd Bentref Pwllglas. Roedd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion o bob oedran sy’n derbyn gwersi yn y Ganolfan, ynghyd ag ensembles Telynau Clwyd Iau ac Hŷn dan arweiniad Morwen Blythin a Dylan Cernyw.

Yn naturiol, roedd tiwtor piano Cerys, Teleri-Siân, wrth ei bodd o glywed y newyddion: “Mae wastad yn bleser i roi gwersi piano i Cerys yn y Ganolfan. Mae hi’n ddisgybl arbennig sy’n datblygu i fod yn berfformwraig a cherddor hyderus ag aeddfed.” 

Dyblu eich rhoddion at Doniau Cudd am wythnos yn unig

Dyblu eich rhoddion at Doniau Cudd am wythnos yn unig

Mae Canolfan Gerdd William Mathias,elusen sy’n ymroddi i ddarparu profiadau mewn cerddoriaeth i’r cyhoedd yn galw am gefnogaeth y gymuned leol a busnesau i helpu i gyrraedd targed codi arian o £ 3,000 a fydd yn cael ei dyblu yn ystod Her Nadolig 2017 y Big Give.

Bydd unrhyw roddion a wneir ar-lein i Ganolfan Gerdd William Mathias rhwng y 28ain o Dachwedd a’r 5ed o Ragfyr yn cael eu dyblu ac yn cyfrannu at barhad ‘Doniau Cudd’, sef prosiect sy’n darparu cyfleoedd cerddorol i oedolion ag anableddau o ardal Caernarfon.

Mae’r prosiect wedi’i gynnal yn llwyddiannus ers dros 10 mlynedd ac mae wedi dod yn rhan hynod bwysig o fywydau dros 30 o gyfranogwyr sy’n mynychu sesiynau wythnosol yn Galeri Caernarfon. Fe’i sefydlwyd yn 2003 gan y Ganolfan Gerdd a’r cerddor Arfon Wyn gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Mae unigolion lleol sy’n byw gydag anableddau yn elwa’n gymdeithasol ac yn addysgol. I rai cyfranogwyr, mae cerddoriaeth yn cynnig dull cyfathrebu naturiol yn absenoldeb lleferydd. Mae manteision eraill yn cynnwys adeiladu hyder a chyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol.

Gwyliwch y ffilm yma am flas o’r prosiect.

Dywedodd y cerddor ac arweinydd y sesiynau, Arfon Wyn: “Rydw i’n cael boddhad mawr wrth weithio gyda ‘Doniau Cudd’, rydym ni’n byrfyfyrio’n gerddorol gyda’n gilydd ac wedi gwneud ffrindiau am oes”.

Ers 2012 mae’r prosiect wedi ehangu i Bwllheli a Sir Ddinbych ac yn 2013 dyfarnwyd Gwobr Gofal Cymru Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i’r prosiect am hyrwyddo’r Celfyddydau mewn Gofal Cymdeithasol.

Dywedodd Nia Hughes o Ganolfan Gerdd William Mathias: “Mae’r prosiect yn ysbrydoliaeth go iawn i bawb sy’n gysylltiedig ag o. Mae’r unigolion sy’n mynychu’n cael cyfle i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth, ac yn aml yn perfformio i’r cyhoedd mewn digwyddiadau a gynhelir gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Mae’n werth i weld eu hwynebau wrth berfformio, sy’n pwysleisio pwysigrwydd y prosiect hwn. Plîs cefnogwch os gallwch chi.”

Mae’r elusen yn gweithio’n ddiflino i sicrhau cyllid o hyd at £14k yn flynyddol i gynnal y prosiect hwn. I gefnogi Doniau Cudd a helpu i barhau i gyfoethogi bywydau pobl sy’n byw gydag anableddau, cyfrannwch ar lein i Ganolfan Gerdd William Mathias rhwng 28 Tachwedd – 5 Rhagfyr 2017. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Canolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230