Carers Week 2021 – June 7th-13th, 2021

Alongside Gwynedd Council, Gwynedd Wellbeing Team Llwybrau Llesiant, Canfod y Gân has recognised and celebrated the valuable contribution of carers between June 7th and 13th as part of Carers Week 2021. Without doubt, we as a project fully appreciate the support we receive from carers throughout the year. Without the support of carers, our work would be so much more challenging to run our project especially now. So, this is to say a huge THANK YOU to our carers and to the carers in our community. We have put together a series of videos as a small thank you for you to watch and enjoy:

Video by Sera Zyborska: https://youtu.be/j8uP_3smKos

Wythnos Gofalwyr 2021, Mehefin 7fed-13eg, 2021

Ynghyd â Cyngor Gwynedd, Tim Llwybrau Llesiant, mae Canfod y Gân wedi bod yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad arbennig gofalwyr rhwng  y 7fed o Fehefin a Mehefin 13eg, gan ei bod yn  Wythnos Gofalwyr 2021 Heb os, rydym ni fel prosiect yn eich gwerthfaowrigi cefnogaeth gofalwyr yn llwyr drwy’r flwyddyn. Heb gymorth gofalwyr mi fyddai hi llawer anoddach arnom ni,  fel prosiect i weithredu. Felly DIOLCH YN FAWR i’n holl ofalwyr, ac i’r holl ofalwyr yn ein cymunedau. Er mwyn cydnabod cyfraniad gofalwyr a rhoi rhywbeth bach yn ôl i’n gofalwyr.  Mae ein tiwtoriaid wedi rhoi fideos at ei gilydd i’w gwylio a’u mwynhau. hun.

Fideo gan Sera Zyborska: https://youtu.be/j8uP_3smKos

Mae’n bwysig cadw’n bositif. Dal i fynd

Nôl ym mis Ionawr ar ôl y sioc a ddaeth cyn y Nadolig ein bod mewn cyfnod clo arall. Roedd hi’n teimlo’n wahanol tro ma. Fyddai’n Nadolig yma ddim yr un fath, ac am ba hyd oedd y cyfnod clo yma yn mynd i bara? Roeddem ni gyd yn wynebu cyfnod digon ansicr eto. Wrth ddod nol at ein gilydd ar ôl y Nadolig, roedd hi’n bwysig iawn i ni gyd helpu’n gilydd. Dywedodd Terry, un o’n haelodau :

“Mae’n bwysig iawn i ni gyd gadw’n bositif a dal i fynd. Ma dod i Canfod yn helpu fi, a bod yn greadigol”

Gyda geiriau Terry yn ein hysbrydoli, dyma ddechrau holi pawb beth oedd pawb yn edrych mlaen i gael gwneud unwaith y byddai pethau’n gwella. Roedd pawb yn llawn syniadau.

Dyma rai o’n syniadau :

  • Gweithio yn Caffi Cei
  • Chwarae pêl droed yn Caernarfon efo Tony a Mark
  • Cael panad a chacan mewn caffi
  • Reidio beic a rhedeg yn bell
  • Nofio a teimlo’r dŵr
  • Mynd am drip i lan y môr a chael picnic efo pawb
  • Cael cwtsh go iawn yn well na cwtsh heb dwtsh
  • Cael mynd yn ôl i Canfod y Gân eto
  • Canu yn yr un ‘sdafell â pawb arall

Aeth y tri grwp ati i feddwl am negeseuon fyddai’n codi calon. Roedd ‘daw eto haul ar fryn’ yn neges bwysig iawn i bawb. Mae llawer o’n haelodau yn  mynychu Clwb Enfys hefyd drwy www.llwybraullesiant.cymru felly dyma benderfynu cydweithio gyda’r clwb er mwyn creu negeseuon positif a gwaith celf lliwgar i’w gynnwys yn ein fideo. Diolch i aelodau’r clwb am gyfrannu at ein fideo, roedd eich gwaith celf yn wych, mor bositif a lliwgar!

Aeth Elin, un o’n tiwtoriaid ati i roi syniadau pawb at ei gilydd. A dyna sut cawsom ni gân newydd ‘Cadw Ffydd’. Buom yn brysur wedyn yn recordio ein hunain yn cyd-chwarae gyda’n gilydd. Cawsom bob math o fideos o’r organ geg i glychau a’r glocenspiel a’r cello. Dystiodd Mared y llwch oddi ar ei ffliwt hefyd er mwyn cael perfformio hefo’r criw.

Mwynhewch ein cân!

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni.

Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o bob safon ac oedran, nid yn unig o’r DU ond cyn belled â’r Almaen a Gwlad Thai. Roedd y repertoire a berfformiwyd yn amrywio o ddarnau Clasurol a Rhamantaidd i Jazz, Ragtime & Blues a’r 20fed Ganrif.

Y pianyddion blaenllaw Dafydd Meurig Thomas, Gwawr Owen ac Evgenia Startseva oedd yn gwrando ac yn rhoi adborth adeiladol i’r holl berfformwyr. Adlewyrchodd Evgenia ei bod “yn bleser aruthrol ac yn brofiad pleserus. Roedd y perfformwyr wedi creu argraff dda iawn. ”

Roedd yr adborth gan rieni a pherfformwyr yn frwd iawn gyda llawer o arsylwadau cadarnhaol:

“Diolch yn fawr iawn am y cyfle i’n plant chwarae yn y Diwrnod Piano a chael adborth mor ddefnyddiol gan rhoi hwb a hyder iddynt!”

“Fe aeth y cyfan yn llyfn iawn a sylwadau’r tri yn hynod werthfawr. Mae’n werth y byd i’r pianyddion i gael cyfle i chware tu hwnt i awyrgylch cystadleuol, ac felly ry’ ni’n gwerthfawrogi’r diwrnod yn fawr.”

“Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn gyda theimlad cartrefol iawn er y ZOOM – diolch am eich gwaith caled.”

Cawsom sesiwn ‘Holi ac Ateb’ addysgiadol a goleuedig iawn yn ystod y prynhawn a ddaeth â’r sylw canlynol gan aelod o’r gynulleidfa:

“Mi wnes i fwynhau’r sesiwn Holi ac Ateb yn fawr. Yn aml, gall rhywun deimlo’n ynysig iawn fel tiwtor a chredaf yn gryf fod sesiynau o’r fath, lle gellir datrys problemau a rhannu arferion da, o fudd enfawr i lawer ohonom.”

Rydym yn falch iawn ein bod wedi creu’r gymuned hyfryd yma o bianyddion, rhieni ac athrawon ar-lein ac edrychwn ymlaen at gynllunio llawer mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol agos.

Osian Ellis (1928-2021)

Osian Ellis (1928-2021)

Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru.

Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn Ninbych, yn fab i’r Parch T.G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’i  athrawes gyntaf oedd  Alwena Roberts (Telynores Iâl). Fel plentyn, bu’n canu penillion a chaneuon gwerin mewn cyngherddau yng Nghymru gyda’i fam ac aelodau eraill o’i deulu.

Yn dilyn cyfnod yn astudio’r delyn gyda Gwendolen Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, olynodd ei athrawes fel Athro’r delyn yn y sefydliad hwnnw 0 1959 i 1989.  Yn gynnar yn ei yrfa, ymddangosodd mewn rhaglenni teledu poblogaidd ar y BBC yng Nghymru,  a rhoddodd nifer o berfformiadau  o farddoniaeth a cherddoriaeth  gydag actorion megis Dame Peggy Aschcroft, Dame Sybil Thorndyke, Cecil Day-Lewis, Hugh Griffith a Richard Burton.

Fel telynor gorau ac amlycaf ei gyfnod, fel athro telyn, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn helaeth i fyd cerddoriaeth werin y genedl yn ogystal â cherddoriaeth glasurol Ewropeaidd ei ddydd. Trwy gyfrwng recordiadau gyda chwmni Sain, Philips, Lyrita, Meridian a Decca, llwyddodd i ddwyn sylw i repertoire amrywiol y delyn, gan gynnwys cyfansoddiadau y 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif o Gymru.  Teithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa, a hyrwyddodd y delyn a cherddoriaeth ei fam-wlad ym mhellafoedd byd.

Osian Ellis oedd Prif Delynor y London Symphony Orchestra o 1961 ymlaen, a gweithiodd gydag arweinyddion mawr y cyfnod megis Pierre Monteux, Pierre Boulez, Colin Davis, Antal Dorati, André Previn a Claudio Abbado.  Bu’n unawdydd cyson gyda’r gerddorfa honno ac, fel telynor gwreiddiol y grŵp siambr Melos Ensemble, enillodd ei recordiad  o’r  Introduction et Allegro  gan Ravel y Grand Prix du Disque ym Mharis yn 1962.

O ddechrau’r 60’au bu cydweithio dygn ac arwyddocaol rhyngddo ef a’r cyfansoddwr mawr Seisnig,  Benjamin Britten, a chwaraeodd Osian mewn llawer perfformiad a recordiad yng Ngŵyl Britten yn Aldeburgh. Bu’r  cyswllt a’r cydweithio parod hwn yn gyfrwng i’r delyn ennill ei lle yng ngweithiau  Britten – gweithiau fel y War Requiem (1962),  Midsummer Night’s Dream, Curlew River (1964), The Prodigal Son (1968) a’r gwaith pwysig i’r delyn – Suite for Harp(1969).

O 1973 – 1980 wedi salwch Benjamin Britten, cynhaliodd Osian Ellis lawer o gyngherddau gyda Peter Pears, ac ysgrifennodd sawl gwaith newydd ar eu cyfer. Yn ddiweddarach, ffurfiodd ddeuawd gyda’i fab, y diweddar  Tomos Ellis (tenor), gan roi llawer perfformiad yng Nghymru a thramor.

Anogodd Osian Ellis nifer o gyfansoddwyr cyfoes o Gymru a thu hwnt i lunio gweithiau newydd ar gyfer y delyn – gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Rhian Samuel, David Wynne, Malcolm Arnold, Robin Holloway, Elizabeth Machonchy, William Alwyn, Carlo Menotti a Jorgen Jersild.  

Fel ysgolhaig, ymddangosodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfrolau ac erthyglau o sylwedd ar hanes y delyn yng Nghymru, Llawysgrif Robert ap Huw, John Parry ‘Ddall’ (Rhiwabon) a Cherdd Dant. Cyhoeddwyd ei The Story of the Harp in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru a chymerodd ran mewn myrdd o raglenni teledu a radio yng Nghymru a Llundain.

Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.

Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, deffrodd yr awen, a chyfansoddodd ddau waith newydd :   ‘Cylch o Alawon Gwerin Cymru’  (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn ‘Lachrymae’.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i fab, Richard Llywarch, ei ferch-yng-nghyfraith Glynis, a’i wyrion, David a Katie,  yn eu profedigaeth.

Da ni dal i ganu, ac yn dal i gredu! Cadw cyswllt yn 2020

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni gyd wynebu ein cyfnod clo cyntaf. Doedd neb yn gwybod beth oedd o’n blaenau. Wythnos cyn y newyddion swyddogol bu’n rhaid i ni gymryd penderfyniad  anodd iawn a gohirio pob sesiwn. Doeddwn i ddim yn gwybod pa bryd y byddem yn gallu cwrdd eto. Roedd hi’n hen gyfnod ansicr i bawb lle roedd rhywun yn byw a bod ar y newyddion ac yn trio cadw’n brysur a chadw fynd heb wybod beth oedd yn dod nesaf.

Ond i ni fel prosiect roedd yn rhaid bwrw iddi a chadw mewn cysylltiad gyda’n haelodau a’u teuluoedd. Roedd codi ffôn, cael sgwrs fach fyr mor bwysig i ni gyd yn staff, tiwtoriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau. Roedd cadw’r cyswllt yma yn ein helpu ni gyd gadw’n bositif a chael sgwrs yn rhan mor bwysig o’r wythnos. Roedd ein tiwtoriaid yn awyddus iawn i yrru neges mewn ffordd arbennig i’n haelodau. Felly aethant ati i recordio hoff ganeuon a’u gyrru yn neges arbennig i’n haelodau. Dyma rai o’r negeseuon a yrrwyd :

Roedd rhai negeseuon yn hel atgofion o’r sesiynau a fu. Dyma Steffan a Gwenan yn cerddoriaeth byfyrfyrio gyda’u telynau mewn sesiwn cyn y cyfnod clo:

Dyma neges Gwenan i Steffan:

Fideos i godi calon oedd y rhein, ac yn sicr buont yn ffordd o godi gwen, ac ar gael i’n haelodau i wrando arnynt fel un ffordd o lenwi eu diwrnod mewn amser llawn cyfyngiadau. Mewn un ffordd bach, drwy’r negeseuon hyn, roedd pawb yn derbyn darn bach o Canfod i’w gadw a’i fwynhau.

Wrth agoshau at Nadolig 2020, penderfynwyd rhoi pob un o’r negeseuon at ei gilydd i gre CD arbennig ar gyfer ein haelodau yn anrheg Nadolig. Rhoddwyd yr holl ganeuon at ei gilydd yn Stiwdio Pant yr Hwch gan Edwin Humphreys. Cwta wythnos cyn y cyfyngiadau newydd ddaeth i rym cyn y Nadolig, cafodd Mared y cyfle i ddosbarthu’r CD’s mewn pecyn bach arbennig i bawb. Dyan braf oedd gyrru o Fethesda i Flaenau Ffestiniog, tuag at Ddolgellau ac at Harlech a Dyffryn Ardudwy, cyn troi tua Phenrhydeudraeth a Phorthmadog ac ymlaen i Bwllheli ac ymlen i Gaernarfon a’r cyffuniau. Roedd hi’n fendigedig cael gweld pawb o bell ar sdepan y drws, a chael dymuno Nadolig Llawen ac anfon ein dymuniadau gorau un at bawb!

Newid i ddosbarthiadau ar-lein yn galluogi telynores flaenllaw i ddysgu disgybl 7,500 milltir i ffwrdd ym Mhatagonia

Newid i ddosbarthiadau ar-lein yn galluogi telynores flaenllaw i ddysgu disgybl 7,500 milltir i ffwrdd ym Mhatagonia

Mae newid i ddosbarthiadau ar-lein oherwydd argyfwng Covid-19 wedi galluogi canolfan gerddoriaeth nodedig yng ngogledd Cymru i ddarparu gwersi ledled y byd.

Ymhlith y tiwtoriaid yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, y mae’r delynores o fri Elinor Bennett sydd bellach yn dysgu un o’i phrotégés ifanc 7,500 milltir i ffwrdd yng ngwladfa Gymreig Patagonia yn yr Ariannin.

Mae’r tiwtora o bell trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwireddu breuddwyd i’r delynores ddawnus Helen Green sydd wrth ei bodd yn cael gwersi gan ei heilun cerddorol.

Mae’r Ganolfan Gerdd wedi llwyddo i barhau i gynnal 65 y cant o’i gwersi un i un ers i’r pandemig coronafeirws daro.

O fewn wythnos i gychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth, symudodd y Ganolfan ei gwersi ar-lein – rhywbeth a oedd hefyd yn caniatáu iddi ymestyn ei gweithgareddau ymhell y tu hwnt i’w hardal draddodiadol.

Erbyn hyn mae rhai gwersi wyneb yn wyneb wedi ailddechrau ond datgelodd cyfarwyddwr y Ganolfan, Meinir Llwyd Roberts, fod y gwersi rhithwir yma i aros i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu gwersi yn bersonol.

Roedd hynny’n fiwsig i glustiau Helen, 15 oed, a ddywedodd: “Rwy’n teimlo mor ffodus bod gennym y dechnoleg i wneud hyn. Mae cael Elinor fel fy mentor yn fraint go iawn, ac yn gyfle i ddysgu cymaint. Dyma’r peth ail orau i’w chael hi yn yr ystafell gyda mi. Mae hi’n athrawes eithriadol, yn delynores anhygoel.”

Mae’r cysylltiad traws-Iwerydd yn un o lwyddiannau rhyfeddol y Ganolfan sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod gwersi cerdd yn parhau i fod ar gael a chadw ei hathrawon mewn gwaith trwy’r pandemig.

Mae’r gwersi byw yn digwydd ar-lein trwy gyfrwng platfform cyfathrebu fideo Zoom.

Dywedodd Elinor ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr at y gwersi bob pythefnos gyda Helen ac yn mwynhau dal i fyny â’r newyddion o ‘Batagonia hyfryd’, gan iddi fod yno ar ymweliad deirgwaith.

Meddai: “Mae gwyrthiau technoleg fodern wedi bod yn hynod fuddiol yn ystod y cyfnod anodd hwn i gerddorion ledled y byd.

“Er gwaethaf yr anawsterau rydym wedi ffurfio cyswllt cyffrous y mae Helen a minnau yn edrych ymlaen ato bob pythefnos.

“Mae’n cymryd tipyn o waith paratoi ar y ddwy ochr i wneud iddo weithio, ac mae’n rhaid i ni ystyried y gwahaniaeth amser tair awr ond hyd yma mae’r gwersi wedi mynd yn rhyfeddol o dda.”

Mae gan Elinor OBE ac mae wedi perfformio gyda Cherddorfa Siambr Lloegr, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa’r Philharmonia, yn ogystal â rhoi datganiadau rheolaidd ar radio a theledu’r BBC. Mae ei chyn-fyfyrwyr yn cynnwys Catrin Finch, sydd bellach yn gerddor clasurol enwog ac a fu’n delynores swyddogol i’r Tywysog Charles rhwng 2000-2004.

Dywedodd Elinor na fyddai’n gallu mentora Helen mor hwylus heb gymorth Canolfan Gerdd William Mathias, canolfan y mae hi wedi ei chefnogi ers blynyddoedd lawer.

Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias yn 1999 er mwyn gwella mynediad i wersi offerynnol a chanu ar gyfer cymuned gogledd Cymru a darparu ffynhonnell o waith rheolaidd i athrawon cerdd hunangyflogedig.

Mae’n cwmpasu 42 o diwtoriaid sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain ac sy’n cynnig hyfforddiant unigol a grŵp i fwy na 500 o bobl yn wythnosol, yn amrywio o blant oed cyn-ysgol i bobl hŷn o oed pensiwn.

Mae’r rhain fel arfer yn weithgareddau wyneb yn wyneb yn Galeri Caernarfon, neu ganolfannau lloeren yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, a Chapel Tabernacl, Rhuthun ac yn y gymuned ehangach.

Gohiriwyd gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ystod cyfnod clo’r haf a chyfnod clo dros dro diweddar Cymru. Ond gyda chymorth cyllid o gronfa sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol, a pharodrwydd tiwtoriaid i addasu, trosglwyddwyd y rhan fwyaf o brosiectau cerdd y Ganolfan ar-lein.

Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts: “Does dim dwywaith ein bod ni wedi wynebu rhwystrau digynsail wrth geisio cynnal y ddarpariaeth addysg gerddorol yn ystod y pandemig, ond rydym wedi llwyddo i addasu ein holl brosiectau rheolaidd i gynnig rhywfaint o ddarpariaeth ar-lein. Mae wedi agor ein llygaid i’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio hyn fel dull o ddarparu gweithgareddau yn y dyfodol.

“Gwersi wyneb yn wyneb yw’r opsiwn gorau ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i allu dychwelyd i gynnal ein holl brosiectau wyneb yn wyneb, ond mewn rhai amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl mae’r cyfleuster ar-lein yn opsiwn amgen gwych. Byddwn yn parhau i’w gynnig yn y tymor hir, ar ôl y pandemig.”

“Nid oes ond rhaid edrych ar enghraifft ryfeddol Elinor a Helen i weld sut y gall addysg gerddorol fynd y tu hwnt i ffiniau – rhai daearyddol, corfforol neu emosiynol.”

Rhoddwyd Elinor mewn cysylltiad â Helen a’i theulu sy’n caru cerddoriaeth, gan un arall o’i chyn-fyfyrwyr, sef Esyllt Roberts de Lewis, a gafodd ei magu yng Nghymru ond a symudodd i Batagonia i ddysgu.

Ar ôl iddynt gyfarfod, mi welodd Esyllt fod gan Helen botensial mawr ac y byddai’n elwa o diwtora mwy datblygedig. Cysylltodd Esyllt gydag Elinor i ofyn a allai argymell mentor da ac roedd wrth ei bodd pan benderfynodd Elinor ymgymryd â’r dasg ei hun.

Roedd Helen a’i mam, sy’n feiolinydd, wrth eu boddau.

Meddai Elinor: “Mae Helen yn fyfyriwr mor frwd a hunanysgogol, ac mae’n bleser pur gweithio efo hi. Roedd hi’n gwella’n amlwg ar ôl pum sesiwn yn unig ac ar hyn o bryd mae’n paratoi i ymuno â pherfformiad rhithwir ar-lein gyda myfyrwyr eraill Canolfan Gerdd William Mathias. A’r gobaith yw trefnu hynny’n fuan. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn gŵyl gerddoriaeth yn Buenos Aires.”

Gwladfa Gymreig ar ffin yr Ariannin a Chile yw Patagonia a wladychwyd gyntaf gan ymfudwyr o Gymru yn y 19eg ganrif. Dyma’r unig ran o’r byd heblaw Cymru lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn gyffredin. Mae Helen yn byw yn Gaiman, ger Trelew, yn ardal Chubut.

“Dyna’r cyfnod corona i mi”

Rhoddwyd her i griw talentog Harlech i gofnodi eu profiadau o’r cyfnod clo cyntaf.

Cafwyd ymateb ffantastig gyda’r criw yn cyfrannu ar lafar, ffotograffau,  a sgyrsiau di-ri ar y ffon!

Buan daeth syniadau a profiadau y criw yn fyw ac ar gân dan arweiniad Sera. Gan nad oedden ni hefo’n gilydd aeth y grŵp ati i greu offerynnau, yn dilyn canllawiau Elin :

Cawsom lwyth o hwyl yn recordio ein hunain ar gyfer ein fideo, a dyma ein cân wreiddiol cyntaf ‘Yn y Lockdown’. Ffantastic pawb!

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020

Ar ôl dros 6 mis o beidio cynnal gweithgareddau wyneb i wyneb rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gwersi un i un wyneb i wyneb wedi ail gychwyn yn ein canolfannau yn Galeri Caernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gyfer y tiwtoriaid a’r disgyblion sy’n dymuno dychwelyd wyneb i wyneb. Rydym yn parhau i drefnu gwersi ar-lein ar gyfer y rhai sydd ddim yn dymuno cael gwersi wyneb i wyneb ar hyn o bryd.

Rydym wedi cymryd nifer o gamau i sicrhau bod y gwersi yn cael eu cynnal yn y modd mwyaf diogel gan leihau y risg o ledaenu Covid-19 yn cynnwys :

  • Dim ond defnyddio ystafelloedd sy’n caniatau pellter o oleiaf 2 fedr rhwng disgybl a thiwtor (o leiaf 3 medr ar gyfer gwersi llais, chwyth a phres).
  • Buddsoddi mewn sgriniau tryloyw i’w gosod rhwng disgybl a thiwtor.
  • Gosod gorsafoedd diheintio dwylo yn ein gofodau dysgu
  • Cymryd tymheredd disgyblion a thiwtoriaid cyn iddynt fynd i’w gwersi
  • Yn ogystal ag asesiad risg a pholisi Covid-19 rydym wedi llunio rheolau ar gyfer tiwtoriaid a disgyblion y mae angen iddynt gadarnhau eu bod am eu dilyn os yn mynychu gwersi wyneb i wyneb
  • Cadw cofnodion manwl i gydymffurfio a gofynion Profi, Olrhain a Diogelu

Mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb mewn cychwyn gwersi offerynnol neu leisiol wyneb i wyneb neu ar-lein gysylltu gyda ni i drafod posibiliadau.

Nid ydym yn cynnal unrhyw weithgareddau grwp wyneb i wyneb ar hyn o bryd ond rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogaeth ariannol sydd wedi ein galluogi i gynnal nifer o weithgareddau rhithiol i gadw cysylltiad efo’n cynulleidfa, cyrraedd bobl newydd a darparu gwaith i’n tiwtoriaid llawrydd. Mae hyn yn cynnwys :

Gwersi Theori – Rydym yn cynnal gwersi theori i ddisgyblion o oed ysgol mewn grwpiau bychan dros Zoom ar hyn o bryd. Mae sesiynau ar gyfer disgyblion o lefel dechreuwyr hyd at radd 5 ar gael ar hyn o bryd.

Camau Cerdd : Sesiynau i blant 6mis-3oed a 4-7oed.  Ers mis Ebrill rydym wedi bod yn rhyddhau fideo newydd bob wythnos i’r plant a’u teulu wylio ar amser cyfleus iddyn nhw. Nid oes cost am y sesiynau yma ac mae modd cofrestru i gael mynediad yma.

Cyngherddau o gartrefi Tiwtoriaid a Chyn-ddisgyblion : Gan nad oes modd i ni gynnal ein cyfres o gyngherddau cymunedol ar hyn o bryd, mae nifer o’n tiwtoriaid a chyn-ddisgyblion wedi cael cyfle i recordio cyngherddau byr i’w rhyddhau bob nos Fawrth. Mae’r cyngherddau mwyaf diweddar ar gael i’w gwylio ar ein gwefan www.cgwm.org.uk

Ensembles a Cherddorfa Gymunedol : Rydym wedi bod yn darparu fideos a thraciau ymarfer ar gyfer nifer o’n aelodau ac mae rhai ensembles wedi cydweithio ar berfformiadau rhithiol yn cynnwys perfformiadau fel rhan o’n cyngerdd ar gyfer Gwyl Ryngwladol Gogledd Cymru ar-lein https://www.nwimf.com/canolfan-gerdd Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau ensemble dros y we y tymor yma.

Canfod y Gân : www.canfodygan.cymru. Mae nifer o’n aelodau wedi bod yn cymryd rhan mewn perfformiadau rhithiol ac rydym newydd ddechrau cynnal sesiynau grwp dros zoom. Rydym yn hynod ddiolchgar i Spirit of 2012 (arianwyr y prosiect) am eu cefnogaeth a’u hyblygrwydd.

Sgwrs a Chân : Gan nad ydym yn gallu teithio o amgylch Gwynedd yn cynnal ein sesiynau Sgwrs a Chân i bobl hŷn yn y gymuned, ers mis Ebrill rydym wedi bod yn ebostio linc i sesiynau rhithiol i nifer o’n aelodau. Rydym hefyd yn y broses o baratoi CD ar gyfer yr aelodau sydd ddim â chysylltiad i’r we ac mae rhagor o gynlluniau ar y gweill mewn partneriaeth gyda’n arianwyr Cyngor Gwynedd.

Diweddariad parthed ein Gwyliau Cerdd

Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru : Yn anffodus bu’n rhaid gohirio yr Ŵyl oedd i fod i’w chynnal yn Galeri Caernarfon 1-4 Mai 2020. Edrychwn ymlaen yn fawr fodd bynnag at gynnal gwyl rhwng y 30 Ebrill – 3 Mai 2021 yn Galeri Caernarfon. Rydym yn cadw llygad ar ddatblygiadau y sefyllfa Covid-19 ac yn trafod addasiadau posibl i’r gweithgareddau. 

Yn dilyn llwyddiant ein Diwrnod Piano i lansio yr Wyl yn Nhachwedd 2019, rydym yn cynnal Diwrnod Piano Rhithiol ar yr 21ain o Dachwedd 2020. Am fwy o fanylion, plis ewch i wefan yr Ŵyl:  www.gwylbiano.co.uk

Gŵyl Delynau Cymru : Bu’n rhaid canslo Gŵyl Delynau 2020 ond edrychwn ymlaen at gynnal Gŵyl ar y 30-31 Mawrth 2021. Fel gyda’r Ŵyl Biano rydym yn cadw llygad ar y datblygiadau ac yn brysur yn ystyried bob math o gynlluniau posibl i sicrhau ein bod yn cael Gŵyl lwyddiannus arall yn 2021. www.gwyltelyncymru.co.uk

Hoffem ddiolch o galon i’n tim arbennig o gerddorion llawrydd am eu cydweithrediad dros y misoedd diwethaf. Mae hi’n gyfnod anodd a phryderus iawn iddynt a byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i warchod cymaint o’u gwaith a phosibl yn CGWM.

Ein gobaith yn y misoedd i ddod yw ail gychwyn rhagor o weithgareddau wyneb i wyneb gan gadw o fewn y rheolau diweddaraf. Mae gweithio ar-lein dros y misoedd diwethaf hefyd wedi agor ein llygaid i ffyrdd newydd o weithio ac edrychwn ymlaen at barhau i gynnal rhai gweithgareddau ar-lein yn ychwanegol i’n rhaglen arferol yn y dyfodol. Os hoffech wybodaeth bellach am unrhyw weithgareddau mae croeso i chi gysylltu gyda ni ar post@cgwm.org.uk neu 01286 685230.

Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, neu beth am ymuno efo’n rhestr ebostio i dderbyn bwletinau achlysurol.