Rhys Evans

Rhys Evans

Mae Rhys Evans yn Ddrymiwr gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn chwarae yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg (gan gynnwys yn y bandiau ‘I Fight Lions’, ‘Patryma’, a gyda ‘Hywel Pitts’). Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi perfformio mewn digwyddiadau nodedig gan gynnwys mudiad Yes Cymru, rhaglen Ystafell Fyw ar gyfer S4C, rhaglen deledu ‘Curadur’, yn ogystal â chwarae ochr yn ochr â We Are Scientists, yn Wakestock, Focus Wales, Maes B, a Maes C. yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yng Ngŵyl Hanner Cant Cymdeithas yr Iaith, etc. Mae hefyd ar hyn o bryd yn gweithio fel cerddor sesiwn llawrydd ar draws y DU, i mewn ac allan o’r stiwdio.

Mae nid yn unig wedi bod trwy arholiadau’r Rock School ei hun, ond mae wedi cwblhau gradd BMUS mewn Perfformio Cerddoriaeth Boblogaidd (dosbarth graddio yn 2021) lle datblygodd sgiliau ar nifer amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol – gan gynnwys roc, metel, jazz, pop, etc. yn ogystal ag mewn perfformiad byw. Ysbrydolodd hyn ei angerdd i ddysgu drymio, gan deilwra’r profiad i ddiddordebau ac anghenion cerddorol pob myfyriwr – beth bynnag eu hoed a’u gallu.

Graham Land

Graham Land

Cychwynnodd Graham ddysgu’r drymiau o oedran uchel, ac yn fuan wedi iddo adael Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon cychwynnodd chwarae yn led-broffesiynol mewn bandiau lleol, teithio ar hyd a lled Prydain yn dysgu ei grefft.

Symudodd Graham i Gaerdydd yn y wythdegau cynnar i chwarae yn broffesiynol, gan chwarae mewn nifer o gyngherddau, ar y teledu a radio ac mewn sesiynau recordio, ac mae’n parhau i wneud hyn hyd heddiw.

Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd, bu Graham yn teithio yn ôl ag ymlaen i Lundain i weld ei diwtor a hyfforddwr drymiau Robbie France, drymiwr byd enwog o Awstralia. Dyma restr fer o artistiaid o ddisgyddiaeth Graham. The Drifters, Cerddorfa’r BBC, Bryn Terfel, Cerys Matthews, Rhys Meirion, Meic Stevens, Caryl Parry Jones, John Owen-Jones. Mae’r rhestr yn mynd ymlaen.

Mae wedi bod yn aelod o Bryn Fôn a’r Band ers canol y nawdegau gan recordio nifer o’i albymau mwyaf poblogaidd. Mae Graham yn dysgu’r drymiau o gradd 1 i gradd 8 ac mae wedi bod yn dysgu i’r Ganolfan ers 14 mlynedd.

Dewi Ellis Jones

Dewi Ellis Jones

Mae Dr Dewi Ellis Jones yn dod o Lanfairpwll, Ynys Môn ond bellach yn byw yn Y Bontnewydd. Graddiodd gyda BMus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2001, ac yna dilyn gyda gradd MA, a diploma LRSM. Mae wedi ennill Doethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie.
Dewi yw unawdydd offerynnau taro llawn amser cyntaf Cymru ac mae’n brysur hefyd fel unawdydd gyda sawl cerddorfa a band. Ef yw prif offerynnwr taro Ensemble Cymru, ddaeth i’r rhestr fer yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2006.
Mae’n diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yn athro Offerynnau Taro yn y Brifysgol ym Mangor. Enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr, sef Medal Goffa Grace Williams, yn 2001 yng Ngŵyl yr Urdd. Derbyniodd Dewi ysgoloriaeth gan S4C i’w noddi a helpu datblygu ei dalent fel perfformiwr. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae Dewi yn briod ag Einir Wyn Hughes, sy’n delynores broffesiynol. Mae ganddynt un ferch, Ela Non.