Cyfres Gyngherddau a Chyfweliadau ar-lein
(Noder bod fersiwn Saesneg o’r sgwrs hefyd ar gael).
Yr wythnos hon bydd Iwan Llewelyn-Jones yn sgwrsio efo ein tiwtor offerynnau taro Dr Dewi Ellis-Jones. Enillodd Dewi Ddoethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi o Brifysgol Bangor, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie. Yn ogystal a dilyn gyrfa lwyddiannus fel perfformiwr a thiwtor offerynnau taro mae Dewi hefyd yn rhedeg cwmni TARO (www.tarodrums.com) gan adeiladu drymiau a ffyn arbenigol a’u gwerthu i gerddorion o bob cwr o’r DU ac Ewrop.