by Gwydion Davies | 7 Mawrth, 2015 | Uncategorized @cy
Rhaid bod disgyblion ein Canolfan yn Nghaernarfon a Dinbych yn
falch o gael ymlacio wedi diwrnod prysur yn perfformio ym Mae Colwyn bore ma.
Wedi bore yn llawn perfformiadau noddedig, a ymweld â’r stondinau dod a
gwerthu, rydym ni’n falch o gyhoeddi fod y diwrnod wedi bod yn lwyddiant, gan
lwyddo i godi dros £300 i Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias.
Rydym ni’n ddiolchgar i Cyfeillion Canolfan Gerdd William
Mathias am drefnu’r digwyddiad fel rhan o’i apêl i godi arian. Fe gynhaliwyd y
digwyddiad yn adeilad Cais ar Station Road, Bae Colwyn.
Pob blwyddyn mae’r Cyfeillion yn gosod targed uchelgeisiol o
godi £9,000 ac mae’r arian yma yn cael ei ddefnyddio er budd y Ganolfan gan
gynnwys ariannu Cronfa Fwrsari y Ganolfan – gan sicrhau fod pawb yn cael
mynediad at wersi cerdd.
Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’n holl fyfyrwyr ni
berfformio, ac roedd Bae Colwyn fel man cyfarfod yn berffaith i’n myfyrwyr o
Gaernarfon a Dinbych i gyfarfod – bron hanner ffordd rhwng y ddau Ganolfan.
Braf oedd y cyfle hefyd i glywed Triawd Clarinét Conwy – gyda Clive Wolfendale,
aelod o bwyllgor y Cyfeillion yn rhan o’r ensemble.
Rhaid i ni ddiolch yn arbennig i’n holl myfyrwyr a
berfformiodd ag a gododd arian i’r Cyfeillion drwy eu perfformiadau noddedig,
nid yn lleiaf i un o’n disgyblion a ddaeth i’r digwyddiad ar faglau wedi iddi
anafu ei hun y diwrnod flaenorol! Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’n holl
disgyblion a’r rhieni am eu cefnogaeth.
by Gwydion Davies | 4 Mawrth, 2015 | Uncategorized @cy
Mae un o brif arweinyddion a beirniaid canu Barbershop o’r
Unol Daleithiau ar ei ffordd i Gymru i gynnig dau weithdy cyffrous yn y
dull unigryw a phoblogaidd yma o ganu. Mae Paul Wigley sy’n
dod o Minnesota, wedi cael profiad helaeth o arwain corau, cynnal
gweithdai a darlithoedd ac wedi ennill parch mawr iddo’i hun
yn rhyngwladol.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn
falch iawn o gynnig cyfle i gantorion sydd yn ymddiddori yn y dull
hyfryd hwn o ganu i ddysgu oddi wrth Paul Wigley trwy gymeryd rhan
mewn dau weithdy. Bydd y cyntaf yn Galeri Caernarfon ar Chwefror
12fed, o 7 tan 9 pm, a’r ail ym Mhentyrch, Caerdydd ar
Chwefror 18ed. O 7.30 tan 9.30pm. Bydd Paul yn arddangos ei arddull a’i
sgiliau cyfarwyddo i ddechreuwyr yn ogystal â chantorion sydd wedi arfer canu
yn y dull Barbershop gan dynnu ar ei brofiad helaeth yn y maes.
Ef oedd cadeirydd y panel beirniaid yng Nghystadleuaeth
Cymdeithas International Barbershop Harmony yn 1991,
1994, 1997, 1999, 2002, 2008, 2011 and 2014 a bu’n dysgu athrawon ac
arweinyddion corau Barbershop yn Efrog Newydd,
Maryland, Kentucky, Wisconsin, Missouri, Washington and California, ac ar
bwyllgor National Youth Outreach yn America.
Ymddeolodd yn ddiweddar fel athro Cerdd wedi llawer iawn o lwyddiant gyda’i gôr
yn Ysgol Lakeville, Minnesota.
Paul yw Cyfarwyddwr côr Minneapolis Commodores ac,
ar hyn o bryd, ef sy’n dal y swydd o Arbenigwr Categori cerdd Cymdeithas
y Barbershop Harmony yn rhyngwladol. Yn ystod ei
ymweliad â Phrydain, bydd yn ddarlithio yn y Gynhadledd Brydeinig i
arweinyddion Barbershop a gynhelir ddiwedd misf Chwefror yng
Nghanolbarth Lloegr.
Os yw ei enw yn canu cloch, mae Paul Wigley yn gefnder
pell i Dafydd Wigley, Ymfudodd ei hen, hen daid o Lanbrynmair, Sir
Drefaldwyn yn 1857 i fyw ym Minnesota a daeth yn Senator yn y dalaith honno. Yn
y 1970’au, roedd tad Paul, y diweddar Richard Wigley, hefyd yn
Senator yn Nhalaith Minnesota.
Am dros 100 mlynedd, ni fu unrhyw gysylltiad gydag ochr
Dafydd o’r teulu a’r criw ym Minnesota, ac mae’n hyfryd fod Canolfan
Gerdd William Mathias yn helpu i adfer y cysylltiad teuluol! Bydd y
Gweithdy yn Ne Cymru yn Acapela, Pentyrch. Mab Dafydd Wigley, Hywel yw
perchennog y Ganolfan gelfyddydol lle cynhelir yr ail weithdy ar Chwefror
18fed. Yn 2004, bu Paul ar daith gyda’i gôr o Lakeville, Minnesota,
yng Nghymru gan roi cyngerdd yn Theatr Seilo Caernarfon gyda Chôr Glanaethwy.
by Gwydion Davies | 7 Ionawr, 2015 | Uncategorized @cy
Siarada’r darlledwr Bob Jones gyda’r delynores Elinor Bennett am y pymtheg mlynedd
cyntaf wedi sefydlu Canolfan Gerdd Willaim Mathias
Y Cychwyn Swnllyd
Yn sicr, mae angen dathlu creu cerddoriaeth o bob math. Ond mae gan Ganolfan Gerdd William Mathias achos clodwiw i ddathlu dim llai na phymtheg mlynedd o berfformiadau a hyfforddiant cerddorl or o’r safon uchaf – tra’n wynebu heriau ariannol anodd a chyllidebau tynn. Mae Canolfan Gerdd William Mathias, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, yn sefydliad unigryw yn y byd cerddorol, a thyfodd lawer ers cymryd y camau cyntaf i fod yn gerbyd blaengar a chyffroes ar gyfer mynegiant cerddorol ledled Gogledd Cymru, gan estyn allan dros y byd drwy gyfrwng gwyliau a cyfryngau newydd.
‘Y nod oedd creu man penodol ar gyfer cerddoriaeth, lle medr plant a phobl o bob oedran dderbyn hyfforddiant gan arbenigwyr cerdd er mwyn cyfoethogi eu haddysg heb orfod teithio milltiroedd o’u cartrefi,’ dywedodd y delynores rhyngwladol Elinor Bennett.
‘Mae’n hanfodol creu cyfleoedd i bobl ifanc feithrin eu talentau naturiol a darparu gwaith ar gyfer cerddorion proffesiynol oddi fewn i Gymru, gan cyfoethogi’r gymuned lleol’.
Edrycha’r delynores yn ôl dros y pymtheg mlwyddyn diwethaf gyda chryn syndod a phleser. ‘Roedd megis cymryd cam i mewn i’r gofod! Y Dydd Llun cyntaf ym mis Medi 1999, gyda’r mileniwm yn prysur nesáu – roedd cyffro yn yr awel. Fe agorom ni ar un ddiwrnod yn unig ar gyfer yr wythnosau cyntaf a dim ond dau diwtor oedd gennym. Daeth Annette Bryn Parry gyda chwech o’i myfyrwyr piano ac roeddwn innau gyda nifer gyfartal o ddisgyblion yr oeddwn yn eu hyfforddi yn wythnosol ar y delyn. Roedd y tŷ ddefnyddion ni wrth ymyl Eglwys y Santes Fair yng Nghaernarfon yn teimlo’n fawr ac yn wag, ac roeddwn i’n pryderu’n fawr y byddai’n aros felly! Roedd ganddyn ni ddau biano, ac fe llwyddon ni i gael grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i brynu tair telyn newydd o Ffrainc, a gartrefwyd ar llawr uchaf y tŷ gyda golygfa wych dros y Fenai tuag at Ynys Môn. Yn naturiol, daeth yr ystafell i’w adnabod fel “Y Nefoedd”!’
Fel newyddiadurwr, rydw i pob tro’n edrych ymlaen at ymweld â’r Ganolfan. Yn rhyfeddol mae’r ardal yma sydd mor gyfoethog o ran prydferthwch naturiol yn cael ei weld fel un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae rhannau o Gaernarfon yn sgorio’n uchel ar raddfa Amddifadedd Lluosog, yn gyfartal ag ardaloedd diwydiannol yng nghymoedd y de. Hawdd felly i bob ran o’r gymuned i golli allan ar brofiadau cerddorol o safon uchel, a chyfleoedd i ddysgu. Ond fel y ddarganfu Elinor Bennett, mae’r angerdd sydd gan y gymuned am gerddoriaeth yn gwneud yn iawn am hyn.
Parha Elinor Bennett: ‘Yn fuan, daeth mwy o fyfyrwyr a llawer mwy o diwtoriaid offerynnol atom ni, nes bod y tŷ cyfan yn cael ei ddefnyddio ychydig o fisoedd yn ddiweddarach. Doedd yna ddim ystafelloedd gwrthsain yn ystod y dyddiau cynnar. Er ei fod yn gacoffoni llwyr, mae gen i atgofion melys o’r seiniau amrywiol a grëwyd o’r gwahanol ystafelloedd – ac o fedru clywed sylwadau athrawon eraill!’
Sefydlwyd y Canolfan Gerdd fel teyrnged i un o
gyfansoddwyr enwocaf Cymru, William Mathias, a fu farw yn 1992. Yn ŵr â
deimlodd yn angerddol dros ddysgu a rhannu’r cariad at gerdd, fe adnabyddir
Mathias fel arweinydd a phianydd, a
byddai’n perfformio neu arwain llawer
perfformiad cyntaf o’i weithiau. Ef hefyd a sefydlodd Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru yng Nghadeirlan Llanelwy
a bu’n Gyfarwyddwr Artistig hyd at ei farwolaeth.
Cyfrannodd Mathias yn sylweddol iawn i gerddoriaeth organ yr 20fed ganrif, ac mae ei gerddoriaeth eglwysig a’i garolau yn parhau i gael eu perfformio yn rheolaidd yn fyd-eang. Bu galw iddo gyfansoddi ar gyfer achlysuron Brenhinol, gan gynnwys ffanffer i ddathlu deg mlynedd ers arwisgo Tywysog Cymru, a gynhaliwyd dafliad carreg o safle presennol Galeri yng Nghastell Caernarfon. Cyfansoddodd hefyd gerddoriaeth i ddathlu jiwbilî arian y Frenhines, a’r anthem i ddathlu priodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 1981. Llwyddodd Mathias i gyfansoddi ar gyfer y llais ac offerynnau cerdd a oedd yn apelio at lawer, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith y Ganolfan heddiw.
Y Ganolfan Heddiw
Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Ganolfan bellach wedi ymgartrefu yn Galeri (sydd yn ganolfan busnes unigryw) ac yn cael ei hadnabod fel canolfan nodedig i addysg gerddorol, gyda chefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n trefnu dosbarthiadau meistr gyda cherddorion adnabyddus, ynghyd â chyngherddau, gweithdai a chyrsiau ar amrywiaeth eang o bynciau cerddorol. Mae’n gartref ar gyfer Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a gyda chynlluniau i gynnal rhagor o wyliau yn y dyfodol agos.
Heddiw, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 15 mis a 85 mlwydd oed yn mynychu’r ganolfan ar sail wythnosol ar gyfer hyfforddiant unigol gyda 30 tiwtor cerdd proffesiynol ac arbenigol gan gynnig hyfforddiant ar amrywiaeth eang o offerynnau.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Mae’r rhan helaeth o’r myfyrwyr o oedran ysgol gynradd ac uwchradd lle mae eu gallu cerddorol wedi cael ei hadnabod ac maent yn cael eu cyfeirio tuag at diwtoriaeth pellach. Mae CGWM hefyd yn darparu dosbarthiadau cerdd cyffredinol, sesiynau cerdd creadigol i oedolion sydd gyda anableddau dysgu, darlithoedd, perfformiadau, cyngherddau a gwyliau amrywiol gan roi llwyfan i nifer o gerddorion enwog, clybiau gwrando i oedolion, cerddoriaeth siambr, gweithdai cerdd poblogaidd, gwerin, jazz, a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaengar. Oll wedi ei drefnu mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol gan ddarparu cyfleoedd cerddorol gwerthfawr ar gyfer pob aelod o’r gymdeithas. Mae pob gweithgaredd yn cael ei gynnal yn ddwyieithog.
Dau o’u prosiectau mwyaf arloesol yw’r dosbarthiadau meithrin i blant rhwng 15 mis a 3 oed, Camau Cyntaf Cerdd, a’r cwrs cerdd creadigol i oedolion ag anableddau dysgu, Doniau Cudd.
‘Prif fantais canolfan megis Canolfan Gerdd
William Mathias ydy y gallai gyflogi pobl nid yn unig i drefnu tiwtoriaeth
un-i-un, ond hefyd i drefnu a chynnal gweithgareddau grŵp megis pedwarawdau, ensembles, corau ynghyd â nifer o
ddigwyddiadau cyffroes megis gwyliau, dosbarthiadau meistr a chyngherddau’,
meddai Bennett. ‘Y Ganolfan yw’r pwysicaf o holl gwmnïau preswyl Galeri
Caernarfon gan ddod a channoedd o bobl at yr adeilad celfyddydol pob wythnos. Mae
ganddyn ni ddeg ystafell ddysgu o ansawdd uchel iawn sy’n cael eu defnyddio gan
y 33 tiwtor sy’n gweithio ar sail llawrydd ac mae hyn yn cynhyrchu incwm sy’n
llwyddo i dalu am gostau rhentu’r cyfleusterau.’
Rwyf wedi cael fy syfrdanu at ei brwdfrydedd dros y Ganolfan
a’i gwaith. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn gwybod y byddwn i’n cael cryn anhawster
dysgu yno hefyd – dim byd i wneud â safon y dysgu, ond yn hytrach fel canlyniad
i’r gwrthdyniad a grëir gan y golygfeydd syfrdanol o’r Menai a Môn o ffenestri’r ystafelloedd
ymarfer. Dim ond tafliad carreg i ffwrdd y mae safle treftadaeth mawreddog,
Castell Caernarfon â’i hen dref glyd. Y Ganolfan yw calon y gymuned.
Penblwydd Hapus yn 15eg oed!
Yn yr un modd ag unrhyw berson 15eg mlwydd
oed, mae’r Ganolfan yn byrlymu ag egni. Sbardunodd diwrnod agored yn eu cartref
yn Galeri gychwyn addawol iawn i’r dathliadau penblwydd. Taflwyd y drysau a
daeth y cyhoedd i samplu sesiynau cerddorol gan gynnwys Drymio’r Drymiau,
Canu’r Delyn yn y Nefoedd, Tro ar Ganu – côr cymysg newydd i oedolion; gweithdy
gitâr; sesiynau Doniau Cudd; a ymarfer agored gyda Chôr Siambr y Ganolfan. Os
na fedrai’r cyhoedd ddod i’r Ganolfan, yna fe aeth y Ganolfan iddyn nhw gyda
cyfres o gyngherddau gan gerddorion ifanc mewn siopau a mannau cyhoeddus o amgylch
y tref.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi agor
canolfan ‘loeren’ yn Ninbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae ganddi
uchelgais o ddyblygu’r model mewn trefi a dinasoedd eraill.
Felly, pymtheg mlwyddyn o lwyddiant mewn
darparu addysg gerddorol o dan y belt –
beth am y pymtheg mlwyddyn nesaf? Mae Elinor Bennett yn uchelgeisiol.
‘Mae’r rhain yn amseroedd anodd yn ariannol i
bawb, felly mae cyfnerthu’r hyn sydd ganddyn eisoes yn bwysig iawn. Mi fydd
angen i ni ganfod cyllid digonol er mwyn sicrhau parhad, a rhaid i ni weithio’n
galed i gynnal y lefel o gefnogaeth a dderbyniwyd yn gyhoeddus o’r gymuned yng
Nghymru. Rhaid i ni bob tro cydnabod y pwysigrwydd o greu cyfleoedd i bawb
gymryd rhan mewn cerddoriaeth ac annog pobl i ddod i wrando ar y perfformwyr gorau. Mae
cerddoriaeth yn eiddo i bawb – nid yn unig y rhai breintiedig a’r cyfoethog a
all fforddio teithio i dinasoedd mawr y byd i wrando i berfformiadau safonol.’