by Gwydion Davies | 16 Mai, 2017 | Uncategorized @cy
Bydd
Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig gwersi blasu cerddoriaeth am ddim yn
ystod mis Mai 2017 ar gyfer pobl hŷn sydd yn awyddus i ailgydio mewn offeryn
neu ddysgu offeryn neu’r llais o’r newydd.
Mae’r
cynnig arbennig hwn yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn a gynhelir yn genedlaethol yn ystod
mis Mai. Yn ddiweddar bu’r ganolfan yn llwyddiannus gyda chais grant Gŵyl
Gwanwyn sydd wedi eu galluogi i gynnig gwersi am ddim i bobl dros eu 50 oed
ynghyd â chynnal cyngerdd gyda’i myfyrwyr presennol yn ystod mis Mai.
Yn
ôl Elinor Bennett, un o sefydlwyr y Ganolfan Gerdd: “Mae hyn yn darparu cyfle
gwych i unigolion dros eu hanner cant i ail-gydio mewn offeryn cerdd ar ôl
iddyn nhw ymddeol, neu i gychwyn dysgu offeryn cerdd – neu dderbyn gwersi
lleisiol – am y tro cyntaf. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd llawer o bobl
yn cymeryd mantais o’r cynnig cyffrous hwn.”
Mae
dros 45 o diwtoriaid profiadol yng Nghanolfan Gerdd William Mathias sydd yn
cynnig gwersi ar ystod eang o offerynnau, yn cynnwys canu. Mae modd dysgu am yr
amrywiaeth o wersi a gynigir ynghyd â archebu gwers flasu drwy ffonio Canolfan
Gerdd William Mathias ar 01286 685 230.
Un
sydd wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn gwersi llais yn ddiweddar ydy
Elizabeth Jones o Dalysarn. Dywedodd:
“Rwy’n
cael llawer o foddhad o fod yn aelod o Gôr Hamdden Mathias, ac yn mwynhau dod
at ein gilydd yn wythnosol er mwyn canu a mwynhau dan arweiniad Geraint
Roberts.”
“Rwyf
hefyd wedi ailgydio mewn gwersi canu – roeddwn yn arfer cael gwersi canu pan
oeddwn yn bymtheg oed ymlaen, ond cefais doriad pan gychwynnais weithio, ac
rwyf wedi dod yn ôl i gael gwersi canu wedi ymddeol.”
“Mae
cael gwersi canu gyda Geraint wedi rhoi hyder i mi ac rwyf erbyn hyn yn meddwl
am ailgydio mewn cystadlu.”
Disgybl
arall sy’n mwynhau derbyn gwersi canu yn y Ganolfan ydi Huw Roberts, meddyg
teulu sydd bellach wedi ymddeol ers tua pedair mlynedd. Dywedodd Huw:
“Ar
ôl i mi ymddeol derbyniais y cyfle i fod yn aelod o gorau lleol. Doeddwn i heb
dderbyn hyfforddiant canu o gwbl, ac felly penderfynais gychwyn gwersi canu
wythnosol yn y Ganolfan Gerdd gyda Trystan Lewis.”
“Rwy’n
mwynhau fy ngwersi canu yn fawr – ac yn teimlo’n lwcus iawn o gael athro hynod
amyneddgar a phrofiadol.”
Mae
derbyn gwersi sielo yn rhan bwysig o fywyd Sioned Huws o Gaernarfon. Dywedodd:
“Mae
cerddoriaeth yn golygu andros o lot i fi – mae’n codi fy nghalon ac yn helpu i
gael gwared o ddiflastod weithiau.”
Mae
Sioned yn derbyn gwersi unawdol gyda Nicki Perace ynghyd â bod yn rhan o
Ensemble Sielo Oedolion CGWM.
Ynghyd
ag annog pobl i ailgydio mewn neu gychwyn gwersi cerddoriaeth o’r newydd, ceir
cyfle hefyd i ddathlu creadigrwydd disgyblion presennol y Ganolfan ac hynny
drwy gyfrwng cyngerdd ‘Miwsig Mai’ a gynhelir yn Stiwdio 1 Galeri Caernarfon ar
y 18fed o Fai.
Yn
y cyngerdd hwn, gwahoddir yr oedolion sy’n dod i’r Ganolfan am wersi,
i berfformio mewn cyngerdd anffurfiol. Ynghyd â darparu cyfleoedd i
berfformio darnau unawdol, ceir perfformiad hefyd gan Gôr Hamdden Mathias.
Ffurfiwyd
y Côr yn 2015 a daw’r aelodau at ei gilydd yn wythnosol i ymarfer yn ystod y
tymor ysgol.
by Gwydion Davies | 15 Mawrth, 2017 | Uncategorized @cy
12 &13 Ebrill 2017: Dathlu Telynau Iwerddon a Chymru.
Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill yng
nghanol bwrlwm Galeri Caernarfon. Y Cyfarwyddwr yw’r delynores Elinor Bennett a
bydd yr Ŵyl yn cynnwys cwrs deuddydd i delynorion yn ogystal â chyngerdd, cystadleuaeth
a darlith. Trefnir yr ŵyl flynyddol hon gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Bob
pedair mlynedd bydd yn newid i fod yn ŵyl
TELYNORION
O IWERDDON YN DOD I GYMRU I GOFIO HEN HEN CHWEDL
Cynhelir y cwrs deuddydd rhwng 10am – 5pm ar y ddau ddiwrnod a
chroesewir telynorion o bob oed a gallu. Daw dwy delynores wych draw o’r
Iwerddon – Denise Kelly a Cliona Doris – i roi gwersi ac ymuno gyda’r
tiwtoriaid o Gymru – Elinor Bennett, Catrin Morris-Jones ac Elfair Grug –
i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd. Caiff
aelodau’r Cwrs gyfle i ddysgu alawon telyn Gwyddelig gan wyth o fyfyrwyr telyn
o Ddulyn, fydd yn ymweld â Chymru, ac yn perfformio yn ystod yr Ŵyl.
DARLITH YR
ŴYL
Dydd Mercher, Ebrill 12 am 4pm, bydd Dr Sally Harper yn rhoi
sgwrs ar
‘Greu traddodiad ar y cyd : Telynorion Cymreig a
Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Leinster’
Yng ngeiriau Dr Harper, bydd yn sôn am “Chwedl Glyn Achlach”
sydd wedi swyno cerddorion a haneswyr o Gymru ers canrifoedd. Mae’n disgrifio’r
bartneriaeth gerddorol gynnar a ddatblygodd rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod
blynyddoedd cynnar y 12fed ganrif. Yn ganolog i’r chwedl yr oedd y ‘cyngor’ o
delynorion Gwyddelig a Chymreig a ddaeth ynghyd yng Nghlyn Achlach. Eu bwriad
oedd trafod agweddau mwyaf cain eu crefft, ac i gofnodi’r rheolau ar gyfer
diogelu’r traddodiad i’r dyfodol.
Ond i ba raddau y gallwn ni gredu’r adroddiad hwn –
neu ai dim ond chwedl ddychmygol yw hi wedi’r cyfan?
“Er fod y chwedl yn dangos nodweddion mytholegol, mae manylion
eraill yn ffeithiol gywir. Gwyddom mai Glendalough yn Leinster yw ‘Glyn
Achlach’ a’i fod unwaith yn gartref i Sant Cefyn, ac mai Brenin Iwerddon,
Muirchertach O’Briain, oedd yn llywyddu’r cyfarfod allweddol hwnnw. Ond efallai
mai’r hyn sydd fwyaf diddorol i ni yw beth a ddaeth allan o’r cyngor – sef
casgliad o “fesurau” cerdd, neu batrymau sydd yn dal i oroesi. Mae eu dylanwad
yn amlwg mewn llawysgrif a gopïwyd gan y telynor o Fôn, Robert ap Huw. Nid
cyd-ddigwyddiad yw hi fod stamp yr iaith Gymraeg a’r Wyddeleg ar deitlau’r
mesurau.”
Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn rhyngwladol ar
gerddoriaeth gynnar Cymru a bydd yn cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n
chwedlau difyr sydd wedi hen fynd yn angof. Bydd yn adrodd
fel y bu i Gruffydd ap Cynan (c.1055-1137) a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â
nifer o gerddorion gydag ef o’r Iwerddon, a threfnu cyngres fawr, neu
eisteddfod, i delynorion a cherddorion o Gymru ac Iwerddon yng Nghaerwys, Sir y
Fflint. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.
Dywedodd Cyfawyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett:
“Y delyn yw emblem cenedlaethol Iwerddon ac mae i’w gweld ar
fflagiau, arian – ac mae’n logo i Guiness! Mae’n offeryn
cenedlaethol Cymru, ac mae’r traddodiad o delynori yn ymestyn yn ôl am 1500
mlynedd i’r 6ed ganrif, yn ôl tystiolaeth y beirdd a’u cerddi. Edrychaf ymlaen
yn eiddgar i glywed beth ddigwyddodd pan aeth “Tywysog Cymru” – Gruffydd ap
Cynan – â thelynorion o Iwerddon i gyfarfod eu cefndryd Celtaidd yng Nghymru.
“Ym mis Ebrill eleni, daw telynorion ifanc o’r Iwerddon draw i Ŵyl Delynau
Cymru i ail-greu diddordeb yn y digwyddiad a gymerodd le bron 880 mlynedd yn
ôl.
Nodwyd 2017 yn “Flwyddyn y Chwedl” gan Llywodraeth Cymru, ac
rwyf wrth fy modd fod y Dr Sally Harper wedi cytuno i ddod i’r Ŵyl i
atgoffa telynorion ein cyfnod ni o’r hen chwedl hon. Mae’n braf iawn
gwybod mai cerddor a aned yn Lloegr, ac sydd wedi dod yn rhan o’n
cymdeithas, sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’n haddysgu
fel Cymry am ein etifeddiaeth hynafol!”
Mae’r Ŵyl eleni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth
Nansi Richards a bydd Cystadleuaeth flynyddol Ysgoloriaeth Nansi
Richards ar gyfer telynorion ifanc o dan 25oed o Gymru yn cael ei chynnal yn
Galeri am 6.30pm Nos Fercher y 12fed o Ebrill. Y beirniad fydd
y delynores Ann Jones o Ddulyn sy’n dod yn wreiddiol o Gymru ac a gafodd ei
gwers gyntaf gan Nansi Richards.
CYNGERDD
YR ŴYL
Bydd Cyngerdd yr Ŵyl – “Telynau’r Môr Celtaidd” a
gynhelir Nos Iau, 13 Ebrill am 7.30 pm yn cynnwys perfformiadau
o gerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon gan rai o delynorion mwyaf talentog y ddwy
wlad. Daw deg o fyfyrwyr o’r Conservatory Cerdd yn Nulyn i
berfformio gyda thelynorion o Gymru mewn rhaglen o gerddoriaeth amrywiol – yn
draddodiadol a chlasurol – o ddau lan y Môr Celtaidd.
Y gantores werin, Gwenan Gibbard, fydd yn canu caneuon gwerin
o Gymru a bydd ei chôr newydd “Côr yr Heli” yn ymuno efo hi i gynnal eu
perfformiad cyntaf mewn cyngerdd yng Nghymru cyn croesi’r môr i gystadlu yn yr
Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, yr wythnos ganlynol.
Estynnir croeso cynnes i ddwy o gyn-ddisgyblion disglair
Canolfan Gerdd William Mathias – Elfair Grug Dyer a Rhiain Awel Dyer – i
berfformio unawdau a deuawd gan Lywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis a bydd Côr
Telyn Gwynedd a Môn yn agor y cyngerdd o dan arweiniad, Alwena
Roberts, sy’n diwtor telyn i Wasanaeth Ysgolion Wiliam Mathias.
Yn ystod y cyngerdd, fe lansir taflen ragarweiniol Gŵyl
Delynau Ryngwladol Cymru 2018 fydd yn dathlu pen blwydd 90
oed telynor amlycaf Cymru – Osian Ellis – sydd yn byw ym
Mhwllheli.
Mae tocynnau i’r cyngerdd a’r ddarlith ar gael o Swyddfa
Docynnau Galeri 01286 685222.
by Gwydion Davies | 28 Ionawr, 2017 | Uncategorized @cy
Bydd
y delynores Elinor Bennett a’r sielydd Nicki Pearce yn ymddangos mewn cyngerdd
a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant
am 4:00yp ar y 29 Ionawr 2017.
Mae’r
delynores a’r sielydd blaenllaw yn diwtoriaid yn Canolfan Gerdd William
Mathias, sydd a chanolfannau yn darparu gwersi cerdd yng Nghaernarfon a
Dinbych, ynghyd â darparu amryw o weithgareddau cerdd yn y gymuned.
Roedd
Elinor Bennett yn un o’r rhai a sefydlodd Canolfan Gerdd William Mathias ac
sydd wedi bod yn dysgu’r delyn yn y Ganolfan ers y cychwyn. Dywedodd: “Mae’n
wych i weld Canolfan Gerdd William Mathias yn ehangu ei darpariaeth ac edrychaf
ymlaen yn fawr at berfformio gweithiau unawdol a deuawdau gyda Nicki Pearce yn
y cyngerdd arbennig hwn’
Mae’r
cyngerdd hefyd yn gyfle i rai o ensembles y Ganolfan berfformio.
Dywed
Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias “Mae’r ensembles
llinynnol sy’n cael eu harwain gan Nicki Pearce yn gyfle gwych i gerddorion
ifanc ddod ynghyd i fwynhau cyd chwarae.
“Mae
nifer o’r aelodau hefyd yn dod atom am wersi ac mae bod yn rhan o ensemble yn
cynnig cyfle i ehangu eu sgiliau cerddorol.”
Bydd
James Scourse, sy’n Athro yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn
ymddangos gyda Nicki Pearce a’r Ensemble Sielo Hŷn i berfformio’r Consierto i
ddau sielo gan Vivaldi yn ystod y cyngerdd.
Mae
tocynnau sy’n £10 i oedolion a £5 i blant ar gyfer y cyngerdd ar werth gan Canolfan
Gerdd William Mathias.
by Gwydion Davies | 18 Tachwedd, 2016 | Uncategorized @cy
Cafodd
Canolfan Gerdd William Mathias gryn syndod pan ddaeth un o chwaraewyr y Loteri
Genedlaethol draw i ddweud bod eu cais am nawdd wedi bod yn llwyddiannus.
Cyflwynwyd
siec o £7,000 i’r Ganolfan fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ y Loteri
Genedlaethol. Mae’r ymgyrch yn caniatáu i chwaraewyr ddysgu mwy am y prosiectau
sydd ar eu hennill bob tro maen nhw’n prynu tocyn.
Fe
wnaeth Bernii Owen, 22 oed o Lanfair Pwllgwyngyll, sydd wedi chwarae’r Loteri
Genedlaethol ers iddi fod yn gymwys i chwarae chwe blynedd yn ôl, dreulio
diwrnod yng nghwmni’r delynores Elinor Bennett, a dysgu mwy am y sefydliad a
sut mae’n helpu pobl sy’n caru cerddoriaeth, gan gynnwys rhai ag anableddau
dysgu a dementia.
Esboniodd
Elinor sut fydd yr arian yn helpu’r ganolfan i brynu offerynnau newydd,
uwchraddio ei chyfleusterau a gwella’i darpariaeth addysgu i bobl o bob oed o
bob cwr o’r ardal.
Elinor
Bennett, y delynores o fri rhyngwladol, oedd un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd
William Mathias, ac mae’n dal i addysgu yno heddiw. Meddai:
“Bydd
cyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hwb mawr i’n
sefydliad ni. Mae cerddoriaeth yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i fywydau
pobl hen a’r ifanc fel ei gilydd, boed hynny’n eu helpu i fynegi’u hunain yn
greadigol, cyfathrebu ag eraill, meithrin doniau, magu cyfeillgarwch, cynnig
dihangfa neu wella eu lles meddyliol – gall gynnig manteision di-rif.
“Yn
ogystal â buddsoddi mewn mwy o offer, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynnal
rhagor o ddosbarthiadau ar draws y gogledd-ddwyrain hefyd, lle mae gennym
gangen bellach, a chreu cysylltiadau â mwy o gymunedau, yn enwedig mewn
ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, bydd yn ein helpu i ddatblygu’r
dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnig i blant ifanc ar hyn o bryd yn ogystal â’n
galluogi i ddatblygu’n rhaglenni Doniau Cudd ac Atgofion ar Gân – sydd â’r nod
o helpu pobl ag anableddau dysgu a dementia i gyfathrebu ag eraill.”
Meddai
Bernii Owen, sy’n gweithio fel goruchwylydd ym mwyty Wal yn nhre’r Cofis:
“Mae’n wych dysgu mwy am sefydliad lleol sydd wedi elwa ar arian y Loteri
Genedlaethol, a bod yn rhan o syrpréis mor fawr hefyd.
“Nid
bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyflwyno siec i rywun gan wybod bod yr
arian hwnnw’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cymaint o bobl.
“Roedd
hi mor gyffrous trosglwyddo’r amlen i Elinor a disgwyl iddi ddarllen y cynnwys.
Roedd hi wrth ei bodd ac mor ddiolchgar. Sôn am wenu a chofleidio mawr –
profiad emosiynol tu hwnt a dweud y gwir.
“Wrth
brynu tocyn, y wobr ariannol yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl fel arfer,
ond doeddwn i erioed wedi meddwl rhyw lawer am y ffaith fod rhywfaint o’r arian
yn mynd i sefydliadau gwerth chweil lleol fel Canolfan Gerdd William Mathias.
“Mae
cymryd rhan yn yr ymgyrch wedi bod yn brofiad gwych, a dw i’n siŵr fod
chwaraewyr eraill y Loteri Genedlaethol wedi mwynhau profiad cystal wrth ymweld
â phrosiectau eraill ledled Cymru. Heb os, bydda i’n dweud wrth eraill i ble
mae’r arian yn mynd o hyn ymlaen, yn enwedig ar ôl gweld ei effaith gyda’m
llygaid fy hun, a faint o bobl sydd wedi elwa.”
Meddai
Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da y Loteri Genedlaethol:
“Mae
chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi swm enfawr o £1.6 biliwn i
ariannu prosiectau o Fôn i Fynwy. Nod ymgyrch ‘Diolch Cymru’ yw diolch i
chwaraewyr y loteri – fyddai dim o hyn yn bosib hebddyn nhw. Rydym am i
chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn ymwybodol o’r miloedd o brosiectau
rhagorol ar hyd a lled Cymru na fyddai wedi gweld golau dydd heb eu harian
nhw.”
Mae
Canolfan Gerdd William Mathias, a sefydlwyd ym 1999, wedi ymgartrefu yn Galeri
Caernarfon. Mae’n cynnig gwersi cerdd unigol o lefel dechreuwyr i broffesiynol.
Ar hyn o bryd, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 5 ac 80+ oed yn mynychu gwersi
unigol yn gyson sy’n cael eu darparu gan dîm o ddeugain o diwtoriaid yn y
Ganolfan yng Nghaernarfon ac yng nghangen Dinbych hefyd.
Mae’r
Ganolfan yn darparu cyfleoedd cerdd eraill hefyd gan gynnwys:
- ‘Camau
Cerdd’ ar gyfer plant hyd at 7 oed
• ‘Doniau Cudd’ ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu
• Côr ac ensemble siambr i bobl ifanc
• Côr oedolion yn ystod y dydd
• Dosbarthiadau theori a chyfansoddi • Cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth
amrywiol
• Gweithdai a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaenllaw • Sesiynau
mewn cartrefi henoed
Bydd y grant o gymorth i adnewyddu a gwella stoc o offerynnau cerdd a
chyfarpar cysylltiedig (megis stolion) y Ganolfan yn ogystal â phrynu
gliniadur ar gyfer golygu fideos a dibenion eraill.
by Gwydion Davies | 9 Awst, 2016 | Uncategorized @cy
Llongyfarchiadau i nifer o’n disgyblion ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:
Unawd Bechgyn o dan 16oed – 1af Tegid Goodman-Jones / Tiwtor
Ann Atkinson
Unawd Merched o 16-19oed – 1af Tesni Jones / Tiwtor Ann
Atkinson
Unawd Piano o dan 16oed – 3ydd Gwydion Rhys / Tiwtor Sioned
Webb
Unawd Lliynnol o dan 16 oed – 3ydd Gwydion Rhys / Tiwtor Nicki
Pearce
Unawd Bechgyn o dan 16oed – 3ydd Gronw Ifan Elis Griffith /
Tiwtor Mary Lloyd-Davies
Unawd Bechgyn 16-19oed – 3ydd Gwern Brookes / Tiwtor Sian Wyn
Gibson
Llongyfarchiadau hefyd i Leisa Gwenllian a Fflur Davies sy’n
cael gwersi llais ar ddod yn drydydd ar y ddeuawd Cerdd Dant o dan 21oed ac i
Math Roberts ar ennill cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas ar y delyn deires
am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Roeddem yn falch iawn o lwyddiant Ela Haf, disgybl a merch ein
tiwtor pres Dylan Williams ar ei llwyddiant yn ennill y Rhuban Glas Offerynnol
i rai o dan 16oed ac i un o’n cyn ddisgyblion, Gwyn Owen ar ennill y Rhuban
Glas i rai dros 19oed. Llongyfarchiadau mawr i Gwyn hefyd ar dderbyn Gradd MA
gydag Anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. Edrychwn ymlaen at
ddilyn ei yrfa broffesiynol.
Roedd yn braf hefyd gweld nifer o’n disgyblion, tiwtoriaid a
chyfeillion yn cystadlu fel aelodau o gorau / partion, perfformio mewn amryw
ddigwyddiadau a chyfeilio yn ystod yr wythnos.
by Gwydion Davies | 3 Mai, 2016 | Uncategorized @cy
Yn
dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl
Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd
o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano
Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym
Manceinion ac enillodd y brif wobr o £2,000 yn rhoddedig gan Gwmni Roberts of
Port Dinorwic.
Domonkos
Csabay o Hwngari enillodd y wobr gyntaf o £1,250 yn rhoddedig gan y Sickle
Foundation yn y gystadleuaeth i Gyfeilyddion piano. Mae Domonkos yn astudio yn
y Conservatoire yn Birmingham.
Aeth
y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Iau i Callum McLachlan, 17, o
Stockport. Derbyniodd Callum, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chetham’s, wobr o
£700 wedi ei chefnogi gan diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William
Mathias.
Trefnwyd
yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Galeri o’r 29 Ebrill – 2 Mai, gan Ganolfan Gerdd
William Mathias. Cyfarwyddwr yr Ŵyl oedd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones.
by Gwydion Davies | 5 Ebrill, 2016 | Uncategorized @cy
Ar
y 6ed o Ebrill bydd Cyfarwyddwr newydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru y pianydd
Iwan Llewelyn-Jones yn mynd ar y lôn gan gynnal perfformiadau byrfyfyr yng
Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda phiano goch wedi ei darparu gan Pianos Cymru a
chymorth Ian Jones, bydd Iwan yn ymweld â pedwar lleoliad ym Mangor,
Porthaethwy a Chaernarfon i chwarae rhaglen amrywiol o gerddoriaeth o Chopin i
Stevie Wonder i aelodau’r cyhoedd.
Dywed
Iwan “ Mae mynd o amgylch efo’r piano goch lachar yn mynd i fod yn lot
fawr o hwyl – mi fyddwch yn ein gweld o bell! Gobeithio y bydd pobl yn mwynhau
clywed cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio yn y lleoliadau annisgwyl yma.
Byddaf yn cymryd ceisiadau gan y cyhoedd felly gall pobl alw heibio ac fe
chwaraeaf rywbeth yn arbennig iddyn nhw neu gallant ganu neu ymuno efo fi mewn
deuawd os ydynt yn dymuno! “
Bwriad
y daith yw codi ymwybyddiaeth am Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016 sy’n cael ei
chynnal gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon rhwng y 29ain o
Ebrill a’r 2il o Fai. Bydd y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd yn cynnwys
cyngherddau, cystadlaethau gyda phianyddion o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan, a
pherfformiadau mewn awyrgylch anffurfiol.
Dydd
Mercher 6ed o Ebrill
9.30am
Ysbyty Gwynedd, Bangor
11.00am Siop Waitrose Porthaethwy
12.30pm Canolfan Arddio Fron Goch, ger Caernarfon
2.30pm Siop Morrison’s Caernarfon
by Gwydion Davies | 24 Mawrth, 2016 | Uncategorized @cy
Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru rhwng y 29ain o Ebrill
a’r 2il o Fai yn Galeri Caernarfon. Hon fydd y drydedd Gŵyl Biano i Canolfan
Gerdd William Mathias (CGWM) ei chynnal ac eleni, bydd y pianydd Iwan
Llewelyn-Jones yn cyfarwyddo am y tro cyntaf. Mae’r Ŵyl yn cynnwys cyngherddau,
cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a chyfweliadau
gydag artistiaid gwadd.
Bydd y pianydd o fri rhyngwladol Peter Donohoe yn agor yr Ŵyl
am 7.45y.h, Nos Wener y 29ain o Ebrill gyda datganiad o weithiau gan Ravel,
Debussy, Scriabin a Rachmaninov. Bydd Peter Donohoe hefyd yn cadeirio y panel
beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn.
Bydd y cyntaf o dair cystadleuaeth piano yn cychwyn fore
Sadwrn, 30 Ebrill gyda chylch rhagbrofol yr Unawd Piano Iau. Bydd cylch
terfynol y gystadleuaeth hon yn digwydd brynhawn Sul y 1af o Fai. Bydd y
cystadlaethau Piano Unawdol Hŷn a Chyfeilio yn cychwyn fore Sul y 1af o Fai pan
gynhelir y cylchoedd rhagbrofol, a bydd y cylchoedd terfynol yn dilyn brynhawn
Llun yr 2il o Fai. Mae’r cystadleuwyr yn dod o bob cwr o’r Byd.
Amser cinio dydd Sadwrn y 30 Ebrill, bydd cyngerdd anffurfiol
“Satie on the Sidewalk’ yn dathlu cerddoriaeth Erik Satie.
Bydd y cyngherdd gyda’r nos ar y 30 Ebrill am 7.45 yn dathlu
cerddoriaeth a chyfansoddwyr o Gymru ac yn cynnwys y perfformiad cyntaf o 6
darn piano unawdol a gomisiynwyd yn arbennig gan yr Ŵyl. Mae’r gweithiau wedi
eu hysbrydoli gan ddelweddau a barddoniaeth ar thema Heddwch a Chofio.
Cyfansoddwyd tri o’r gweithiau gan gyfansoddwyr ifanc sydd ar gychwyn eu
gyrfaoedd a’r tri arall gan gyfansoddwyr o fri rhyngwladol – Paul Mealor a
gyfansoddodd yr anthem i briodas Dug a Duges Caergrawnt; Richard Baker sy’n arbennigo
mewn cerddoriaeth gerddorfaol a siambr ac Owain Llwyd sydd yn flaenllaw ym maes
cerddoriaeth ffilm a theledu. Y cyfansoddwyr ifanc yw Luke Lewis, Mared Emlyn a
Maja Palser.
Bydd prosiect addysgol yr Ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt yn y
cyngerdd hwn hefyd gyda pherfformiad cyntaf o waith ar gyfer ensemble siambr
wedi ei gyfansoddi gan bedwar myfyriwr lefel A. Bydd y gwaith tri symudiad
ynghyd â ffanfferau yn cael ei berfformio gan gerddorion ifanc o CGWM.
Ar nos Sul 1af o Fai am 7.45 awyrgylch y Fiesta fydd yn llenwi
Theatr y Galeri. Bydd pianyddion, offerynwyr eraill, cantorion ac adroddwyr yn
codi’r to mewn cyngerdd o gerddoriaeth lliwgar o bob cwr o’r byd yn cynnwys Rio
Grande gan Lambert, gosodiad hyfryd Poulenc o Babar the
Elephant a’r Scaramouche gan Milhaud. Ymhlith y
perfformwyr bydd pum pianydd yn cynnwys cyfarwyddwr yr Ŵyl, Iwan Llewelyn-Jones
a Chôr Siambr CGWM.
Ar y bore olaf, Llun 2il o Fai, cynhelir tri ddigwyddiad
hwyliog yn atrium Galeri, sef ‘Coffi a Croissants gyda Chopin a Debussy’ am
10am, Peter Donohoe yn sgwrsio gyda Iwan Llewelyn-Jones am ei fywyd ‘Ar y Lôn’
am 11 am, ac am hanner dydd, y ‘Pianothon’ fydd yn rhoi cyfle i bianyddion o
bob oedran a chyrhaeddiad roi tonc ar y piano.
by Gwydion Davies | 24 Mawrth, 2016 | Uncategorized @cy
Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru dydd Mercher, y 6ed a dydd Iau y
7fed o Ebrill yn Galeri, Caernarfon. O dan gyfarwyddyd y delynores o fri
rhyngwladol, Elinor Bennett, bydd yr Ŵyl eleni yn cynnwys cwrs deuddydd ar
gyfer telynorion, yn ogystal â chyngherddau a darlith-ddatganiad. Cynhelir yr
Ŵyl yn flynyddol gan Ganolfan Gerdd William Mathias, a phob pedair mlynedd
cynhelir Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru sy’n ddigwyddiad mawr, wythnos o hyd.
Cynhelir yr Ŵyl Ryngwladol nesaf ym mis Ebrill 2018.
Cynhelir y cwrs deuddydd, sy’n addas I delynorion o bob oedran
a chyrhaeddiad, rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod uchod. Mae
Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett, yn un o’r tiwtoriaid, a bydd Eira
Lynn-Jones (Athro’r Delyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) yn ymuno â hi,
ynghŷd â Morwen Blythin, Einir Wyn Hughes a Dylan Wyn Rowlands.
Dydd Mercher y 6ed o Ebrill am 7pm, bydd yr Arglwydd Thomas o
Gresffordd, QC yn olrhain hanes difyr ei deulu sy’n ddisgynyddion o deulu enwog
y Sipsi Romani Cymreig, Abram Wood. Mae’r Arglwydd Thomas yn
ddisgynnydd i wyres Abram Wood sef Ellen Ddu a oedd, yn ôl y sôn, yn wrach ac
yn “gallu adrodd stori’n well na neb.”
Aelod amlwg arall o’r teulu oedd y telynor enwog John Roberts
“Telynor Cymru” (1816 – 1894) sy’n cael ei ddathlu yn yr Ŵyl eleni. Wrth
olrhain hen hanes ei deulu ysbrydolwyd yr Arglwydd Thomas i ddysgu canu’r
delyn, a bydd yn perfformio darnau byr yn ystod ei ddarlith.
Dywed Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl : “Mae’n hynod
ddifyr fod aelod blaenllaw o Dy’r Arglwyddi yn rhoi darlith am
ei hen deulu, a oedd yn sipsiwn cerddgar, crwydrol a gyfrannodd
gymaint i gerddoriaeth werin yng Nghymru dros ddwy ganrif yn ôl.”
Yn dilyn y ddarlith, bydd perfformiadau gan Elinor Bennett ar
y delyn deires Gymreig. Bydd ei rhaglen yn cynnwys Sonata Rhif 3 o’r “Bedair
Gwers” (1761) gan John Parry (1710 – 1782), y telynor dall o
Riwabon, a ddylanwadodd mor drwm ar delynorion teires o Gymru yn ddiweddarach,
gan gynnwys John Roberts ei hun.
Bydd gwledd i’r llygad a’r glust am 5pm, dydd Iau y 7fed o
Ebrill pan fydd tua hanner cant o delynaorion yn perfformio gyda’i gilydd ar
GalerÏau Galeri. Bydd y cyngerdd anffurfiol yma yn cynnwys perfformiad gan yr
holl delynorion o alawon dawns fydd wedi cael eu dysgu gan Robin Huw Bowen yn
ystod y cwrs fel dathliad pellach o waith John Roberts.
Yng Nghyngerdd yr Ŵyl am 7.30pm Nos Iau y 7fed o Ebrill,
bydd amrywiaeth o gerddoriaeth o’r traddodiadol i Jazz. Bydd un o feistri’r
delyn deires, Robin Huw Bowen, yn perfformio alawon y sipsiwn Cymreig a
bydd y ddeuawd – Máire Ni Chathasaigh (telyn Geltaidd) a Chris Newman
(gitar) – yn cyflwyno rhaglen gyffrous yn cyfuno cerddoriaeth
draddodiadol Iwerddon, Jazz, bluegrass a baroc. Yn ddiweddar enwyd Máire yn Artist
Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau ‘Live Ireland’ 2016.
Bydd y telynor ifanc dawnus, Ben Creighton-Griffiths o
Gaerdydd, yn perfformio cerddoriaeth jazz ar y delyn electroneg gan gwmni
Camac, gan wneud defnydd o’r effeithiau sain arbennig sy’n bosibl ar y
delyn. Gwnaeth Ben ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan yn saith oed yn 2004
trwy ennill cystadleuaeth bwysig yn Ffrainc i rai o dan 18 oed.
Cefnogir Gŵyl Delynau Cymru 2016 gan Clogau Gold, Cyngor
Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Telynau Vining Harps.
by Gwydion Davies | 3 Mawrth, 2016 | Uncategorized @cy
Diwrnod prysur yn Llangollen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi!
Cafodd diwrnod llawn hwyl i blant bach a’u rhiant/gwarchodwr
ei drefnu gan Fenter Iaith i ddathlu Diwrnod Dathlu Dewi.
Roedd nifer o sefydliadau yno yn cynnwys ein prosiect Camau
Cerdd.
Cafodd sesiynau Cropian Cerdd a Chamau Cyntaf eu cynnal drwy
gydol y dydd a chafodd pawb lawer o hwyl!
Trwy ganu a chreu cerddoriaeth gwnaethom ymweld â lan y môr, y
fferm a’r jwngl. Dysgom ein do-re-mi gyda Mr Cerdd a theimlom guriad y
gerddoriaeth gyda Plu Enfys. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys ein cân newydd
am y cennin pedr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Cafodd Camau Cerdd amser llawn hwyl yn Llangollen ac
rydym yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol agos.
Os nad oeddech yn y digwyddiad peidiwch a phoeni – rydym ni am
wneud sesiynau tebyg yn Ninbych ar y 3ydd o Ebrill.
Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Facebook.