by Gwydion Davies | 4 Hydref, 2025 | Uncategorized @cy
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolyn i weithio 1 shift yr wythnos (tymor ysgol yn unig) gyda’r posibilrwydd o shiftiau ychwanegol o bryd i’w gilydd. Bydd shiftiau fel arfer yn 5awr o hyd.
Am ragor o fanylion gweler Manylion Swydd Derbynnydd.
Dyddiad Cau: 5pm, dydd Llun 20.10.2025
by Gwydion Davies | 3 Hydref, 2025 | Uncategorized @cy
Bydd sioe gerdd newydd feiddgar yn seiliedig ar un o nofelau antur mwyaf gafaelgar Cymru yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf mewn gŵyl nodedig.
Mae Madam Wen, stori am smyglwyr, lleidr pen-ffordd a merch ddewr, wedi’i hail-ddychmygu ar gyfer y llwyfan gan y sgriptiwr Manon Wyn Williams a’i gosod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Guto Pryderi Puw.
Bydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Biano Ryngwladol Cymru sy’n cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon rhwng 16-20 Hydref.
Bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Bodedern ar Ynys Môn yn ymuno â chast proffesiynol Madam Wen ar nos Wener, Hydref 17, gan berfformio ochr yn ochr â’r soprano Glesni Rhys Jones, y pianyddion Elain Rhys Jones ac Angharad Wyn Jones, a’r offerynnwr taro Dewi Ellis Jones.
Dywedodd Manon Wyn Williams ei bod wedi ei swyno gan arwres y nofel, Einir Wyn, sy’n byw bywyd dwbl fel gwraig barchus uchel mewn cymdeithas ac arweinydd criw o smyglwyr.
Yn ganolog i’r sioe y mae stori garu rhyngddi hi a Morys Williams, sgweier gonest o Ynys Môn, nad yw’n ymwybodol o’i hanturiaethau anghyfreithlon fel Herwr.
Dywedir iddi ddefnyddio cuddfan mewn ogof yn Llanfair-yn-Neubwll, sydd heddiw dafliad carreg o ganolfan yr Awyrlu yn y Fali.
Meddai Manon Wyn Williams: “Mae’n ymddangos bod Madam Wen sef Einir Wyn wedi cael ei hysbrydoli gan wraig go iawn o’r ardal, Margaret Williams.
“Roedd sôn ei bod hi’n arweinydd criw o smyglwyr yn yr un ardal er nad oedd hi’n rhannu’r un egwyddorion â’r cymeriad ffuglennol a oedd yn dwyn oddi wrth y cyfoethog ac yn rhoi i’r tlawd.
“Rwyf wedi addasu’r nofel yn bum adran fer y byddaf yn eu hadrodd yn ystod y perfformiad gyda cherddoriaeth ar gyfer piano, lleisiau, ac offerynnau taro wedi’u cyfansoddi gan Guto.
“Wedi’i gymysgu â’r gair llafar bydd darnau ar gyfer deuawd piano a chaneuon yn cael eu perfformio gan y soprano, Glesni Rhys, a phlant Ysgol Gynradd Bodedern.”
Ymddangosodd Madam Wen am y tro cyntaf fel stori gyfres ym mhapur newydd Y Genedl Gymraeg yn ystod 1914 ond ni chafodd ei chyhoeddi fel nofel tan 1925.
Yn drist, bu farw yr awdur W.D. Owen, cyfreithiwr o Ynys Môn, bythefnos yn ddiweddarach o twbercwlosis.
Dywedodd adolygiad yn y Liverpool Daily Post: “Mae Mr Owen yn rhoi deunydd da i ni, yn y byd cymylog hwn, diolch iddo. Dyma’r math o lyfr Cymraeg rydyn ni ei eisiau: stori gyffrous sy’n mynnu bod yn wir.”
Mae perfformiad cyntaf y sioe gerdd newydd yn nodi canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel a marwolaeth yr awdur.
Ychwanegodd y cyfansoddwr Guto Pryderi Puw, Darllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, elfen unigryw i’r perfformiad.
Dywedodd: “Bydd y ddeuawd piano yn cael ei pherfformio ar un piano sydd ychydig yn wahanol a bydd y plant hefyd yn perfformio darn dan arweiniad yr offerynnwr taro Dewi Ellis Jones ar offerynnau maen nhw wedi’u creu eu hunain o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu o dan arweiniad y dylunydd creadigol a’r artist Catrin Williams.
Yn ôl Puw, nid oedd wedi darllen y nofel tan yn gynharach eleni ond roedd yn ymwybodol o’r stori oherwydd bod ffilm wedi cael ei gwneud gan S4C ar ddechrau’r 1980au.
“Rwy’n cofio ychydig o’r ffilm ond wnes i ddim ei gwylio eto gan nad oeddwn i eisiau cael fy nylanwadu gan ei sgôr gerddoriaeth, a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr adnabyddus Gareth Glyn,” meddai.
Ymwelodd Puw a Manon Williams â’r bobl ifanc yn Ysgol Bodedern i drafod y stori gyda nhw ac yn ddiweddarach ceisiodd ddod o hyd i ogof Madam Wen.
“Mae’r ardal o amgylch Llyn Traffwll yn eithaf corsiog ac yn llawn tyfiant gwyllt ac ar ôl peth amser yn chwilio wnaethon ni ddim llwyddo i ddod o hyd i’r ogof a bu’n rhaid i ni rhoi’r gorau iddi, felly gallwn gydymdeimlo’n llwyr â’r milwyr a gafodd y dasg o ddod o hyd a dal Madam Wen,” meddai.
Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, fod y cyngerdd yn rhan o ddiwrnod cymunedol yr Ŵyl sy’n rhoi pwyslais ar ddod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i greu cerddoriaeth.
“Mae’n ddarn comisiwn yr Ŵyl eleni ac mae’n coffáu nid yn unig canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel ond hefyd canmlwyddiant marwolaeth yr awdur.
“Mae’n bwysig bod pobl yn dathlu eu hardal leol, ac mae W D Owen a Madam Wen yn arbennig iawn i Ynys Môn,” meddai.
Mae’r ŵyl, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal dros bum niwrnod. Yn ogystal â gweithdai, dosbarthiadau meistr a darlithoedd, mae dau gyngerdd arall wedi’u cynllunio yn ogystal â Madam Wen.
Bydd y cyngerdd cyntaf, yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar Hydref 16, yn tynnu sylw at gerddoriaeth siambr Ffrengig. Bydd yn cynnwys y soprano Erin Gwyn Rossington, y sielydd Rosie Biss a’r feiolinydd Sara Trickey gydag Iwan Llewelyn-Jones ar y piano.
Bydd y pianydd jazz Gwilym Simcock yn perfformio yn Galeri Caernarfon ar y nos Sadwrn.
Mae tair cystadleuaeth hefyd gydag adrannau ar gyfer pianyddion dan 18 a thros 18 ond o dan 26 oed a gwobr cyfeilyddion sy’n agored i bob oedran.
Mae llwyfannu’r ŵyl wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth noddwyr ariannol, gan gynnwys Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Tŷ Cerdd, Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Vaughan Williams, Sefydliad Foyle, Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones, sefydliad gofal Parc Pendine drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a nifer o noddwyr unigol a busnes yn ogystal â’r cyllid refeniw blynyddol y mae Canolfan Gerdd William Mathias yn ei dderbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at gostau craidd.
Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl ar-lein yn www.pianofestival.co.uk Mae tocynnau ar gael ar wefan Galeri Caernarfon www.galericaernarfon.com neu’r Swyddfa Docynnau ar 01286 685222.
by Gwydion Davies | 2 Hydref, 2025 | Uncategorized @cy
Bydd pianydd o fri rhyngwladol a fagwyd ger Caernarfon yn dychwelyd i’w wreiddiau yr hydref hwn – gyda sioe unigol mewn gŵyl gerddoriaeth nodedig.
Bydd Gwilym Simcock, a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Mhontllyfni, yn camu ar y llwyfan yng Ngwyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhelir yn Galeri Caernarfon o ddydd Iau, 16 Hydref i ddydd Llun, 20 Hydref.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu unwaith eto gan Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi sefydlu ei hun fel un o uchafbwyntiau y calendr diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd y cerddor arobryn, sy’n enwog am ei gyfuniad llyfn o jazz a cherddoriaeth glasurol, yn cyflwyno perfformiad unigol a phersonol a fydd yn sicr o gof yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl
Mae’r cyngerdd ar nos Sadwrn, 18 Hydref, yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Celf a Chymuned Pendine a sefydlwyd gan Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, perchnogion sefydliad gofal Parc Pendine.
Dywedodd Mario: “Mae Gwilym yn un o dalentau mawr ei genhedlaeth ac mae’r gynulleidfa yn mynd i gael gwledd gerddorol felly roeddem yn falch iawn o allu cefnogi’r cyngerdd hwn.
“O’n safbwynt ni mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â’n hethos. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw’r celfyddydau yn ei holl ffurfiau i’n bywydau.
“Mae cerddoriaeth yr un mor bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn gofal cymdeithasol ag ydyw i bobl hen ac ifanc yn y gymdeithas ehangach.”
Mae Gwilym, 44 oed, wedi torri’n ôl ar deithio ers dechrau teulu, sy’n gwneud y cyngerdd yng Nghaernarfon yn ddigwyddiad arbennig iawn i ddilynwyr cerddoriaeth.
Dywedodd: “Dim ond llond llaw o gyngherddau unigol rydw i’n eu gwneud bob blwyddyn ac rydw i wedi torri’n ôl ar deithio nawr bod gen i deulu felly bydd yna ffresni i’m chwarae.
“Rwy’n edrych ymlaen at greu rhaglen yn arbennig ar gyfer y lleoliad hwn. Bydd yn cynnwys rhai o fy nghyfansoddiadau fy hun yn ogystal â darnau o’r ‘Great American Songbook’ a rhywfaint o gerddoriaeth glasurol.
“Rydw i eisiau cael profiad emosiynol pan fyddaf yn gwrando ar gerddoriaeth ac felly byddaf yn chwarae’r gerddoriaeth yr hoffwn wrando arno fy hun,” meddai.
Ychwanegodd fod cyngherddau unigol yn arbennig o bleserus oherwydd nad yw’n cael ei gyfyngu gan gerddorion eraill.
“Mewn cyngerdd unigol gallaf fynegi fy hun a chwarae mewn arddull byrfyfyr.
“Mae byrfyfyr yn rhan ganolog o jazz, ond mewn triawd neu bedwarawd efallai nad yw hynny’n bosibl bob tro,” meddai.
Dywedodd Gwilym fod ei ddylanwadau yn eang, o bianyddion chwedlonol jazz fel Keith Jarrett a Chick Corea i gyfansoddwyr clasurol gan gynnwys Maurice Ravel a Béla Bartók.
Er ei fod yn bianydd jazz yn bennaf, mae Gwilym wedi cyfansoddi nifer o weithiau ar gyfer ensembles mwy clasurol, gan greu sain sy’n unigryw a gwreiddiol. Mae’n Athro Piano Jazz yn yr Academi Gerdd Frenhinol.
Roedd dawn Gwilym fel cerddor yn amlwg o oed ifanc.
Yn un ar ddeg oed enillodd y marciau uchaf mewn arholiadau ar y piano a’r corn Ffrengig.
Astudiodd offerynnau a chyfansoddi yn Ysgol Gerdd Chetham, Manceinion, ac yn ddiweddarach astudiodd biano jazz yn Academi Gerdd Frenhinol, Llundain a graddiodd ar ôl ennill “Gwobr y Prifathro” am gyflawniad rhagorol.
Ers hynny mae Gwilym wedi meithrin gyrfa i’w hun fel un o’r pianyddion a’r cyfansoddwyr mwyaf dychmygus yn Ewrop.
Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd, corau, bandiau mawr, dawnswyr a theithio gyda’r feiolinydd enwog Nigel Kennedy.
Gwilym oedd Artist Cenhedlaeth Newydd cyntaf y BBC o gefndir Jazz, a chyrhaeddodd ei albwm ‘Good Days at Schloss Elmau’ restr fer gwobr fawreddog Mercury yn 2011.
Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru: “Mae Gwilym Simcock yn un o bianyddion mwyaf arbennig ac amlbwrpas ei genhedlaeth, gan gyfuno byd jazz a byd cerddoriaeth glasurol yn ddiymdrech gyda’i gyffyrddiad mynegiannol a’i ysbryd dyfeisgar.
“Mae ei gyngerdd yn addo bod yn noson gyfareddol o ddisgleirdeb cerddorol ac mae’n siŵr o fod yn uchafbwynt cofiadwy i’r gynulleidfa.”
Yn ôl y pianydd o Ynys Môn, mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyngherddau gan ddechrau gyda Chyngerdd Cerddoriaeth Siambr Ffrengig yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar ddydd Iau 16 Hydref.
Yn perfformio ar y llwyfan bryd hynny bydd y soprano Erin Gwyn Rossington, y sielydd Rosie Biss a’r feiolinydd Sara Trickey gydag Iwan Llewelyn-Jones ei hun ar y piano.
“Bydd y cyngerdd yn talu teyrnged i bedwar o gyfansoddwyr mwyaf arbennig Ffrainc, gan gynnwys Maurice Ravel, cyfansoddwr Bolero a Gabriel Fauré a gyfansoddodd rhai o darnau cerddoriaeth siambr gorau erioed ar gyfer y piano. Byddwn hefyd yn cynnwys detholiad o ganeuon gan Cécile Chaminade a Lily Boulanger.”
Y noson ganlynol, ddydd Gwener, Hydref 17 yn Galeri Caernarfon bydd gwaith comisiwn yr ŵyl a phrosiect addysg, Madam Wen, yn cael ei berfformio.
Wedi’i sgriptio a’i adrodd gan Manon Wyn Williams a’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan Guto Pryderi Puw, mae’r prosiect yn coffáu’r nofel Madam Wen a ysgrifennwyd gan William David Owen.
Ychwanegodd Iwan: “Cyn y cyngerdd bydd yr artist adnabyddus Catrin Williams, ynghyd â thiwtor offerynnau taro Canolfan Gerdd William Mathias, Dewi Ellis Jones, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Bodedern i gynnal cyfres o weithdai celf lle bydd y plant yn creu offerynnau ac yn archwilio a dewis synau sy’n adleisio’r stori.
Cyhoeddwyd Madam Wen ar ffurf llyfr yn 1925 ond ymddangosodd gyntaf fel cyfres ym mhapur newydd y Genedl Gymraeg yn 1914.
Mae’r nofel yn adrodd stori arwres o Ynys Môn, nid annhebyg i gymeriad Robin Hood.
Nid yw’r cefndir yn glir ond dywedir ei fod yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol go iawn a oedd yn byw ar Ynys Môn ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bu farw W.D. Owen bythefnos ar ôl i’r nofel gael ei chyhoeddi.
Mae’r cyngerdd yn cynnwys Côr Ysgol Gynradd Bodedern, gyda Dewi Elis Jones ar yr offerynnau taro, y pianyddion Elain Rhys Jones ac Angharad Wyn Jones a’r soprano Glesni Rhys Jones.
Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl a sut i brynu tocynnau ar gael ar-lein yn https://www.pianofestival.co.uk/cy/
by Gwydion Davies | 30 Medi, 2025 | Uncategorized @cy
Bydd pianyddion dawnus o bob cwr o’r byd yn cystadlu am wobrau ariannol o hyd at £3,000 mewn gŵyl rhyngwladol o fri yng ngogledd Cymru.
Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn Galeri yng Nghaernarfon rhwng Hydref 16-20 a bydd hefyd yn cynnwys cyngherddau, dosbarthiadau meistr a darlithoedd.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu unwaith eto gan Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi sefydlu ei hun bellach fel un o uchafbwyntiau y calendr diwylliannol rhyngwladol.
Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, sydd hefyd yn bianydd ddawnus: “Mae cynllunio’r ŵyl wedi bod yn heriol ac yn gyffrous.
“Mae’n digwydd dros bum diwrnod am y tro cyntaf erioed ac mae gan bob un o’r diwrnodau thema arbennig.
“Mae’r Ŵyl yn cychwyn gyda Diwrnod Astudiaethau Ymchwil sy’n archwilio rôl y piano mewn cerddoriaeth siambr lleisiol ac offerynnol.
“Yn cael ei gynnal yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, mae hwn yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng y Brifysgol, y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, gyda siaradwyr gwadd a pherfformwyr o Ffrainc, Gwlad Belg a’r Deyrnas Unedig.
“Y thema ar yr ail ddiwrnod fydd ‘Piano y Bobl’ gyda chyfres o ddigwyddiadau cymunedol sy’n cynnwys cyfansoddwyr fel Erik Satie a ysgrifennodd y Gymnopédies gwych ar gyfer piano a darnau bach rhyfeddol eraill rydym i gyd yn gyfarwydd â nhw a’r cyfansoddwr Eidalaidd bythol boblogaidd Ludovico Einaudi, sef cyfansoddwr clasurol mwyaf poblogaidd yn 2023.”
“Am weddill dyddiau’r ŵyl, meddai, mi fydd y ffocws yn symud i’r tair cystadleuaeth yn yr ŵyl, gyda chystadleuwyr o mor bell i ffwrdd ag Awstralia, De Corea a Mecsico yn cystadlu i ennill clod ac anrhydedd cerddorol.
“Mae un gystadleuaeth ar gyfer pianyddion o dan 18 oed, un arall ar gyfer rhai dros 18 oed ond o dan 26 oed ac yna gwobr arbennig i gyfeilyddion sy’n agored i bob oedran.
“Mae cyfeilyddion yn aml yn cael eu hanghofio ond maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn cyngherddau, datganiadau a chystadlaethau,” meddai.
Talodd Iwan deyrnged i’r unigolion a’r grwpiau a oedd wedi darparu arian ar gyfer y gwobrau.
“Nid yw’n hawdd codi arian ar gyfer digwyddiadau diwylliannol ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhai a gysylltwyd â nhw ac a ymatebodd yn gadarnhaol ac yn hael,” meddai.
Yn ôl y pianydd o Ynys Môn, mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyngherddau gan ddechrau gyda Chyngerdd Cerddoriaeth Siambr Ffrengig yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar ddydd Iau 16 Hydref.
Yn perfformio ar y llwyfan bryd hynny bydd y soprano Erin Gwyn Rossington, y sielydd Rosie Biss a’r feiolinydd Sara Trickey gydag Iwan Llewelyn-Jones ei hun ar y piano.
“Bydd y cyngerdd yn talu teyrnged i bedwar o gyfansoddwyr mwyaf nodedig Ffrainc, gan gynnwys Maurice Ravel, cyfansoddwr Bolero a Gabriel Fauré a gyfansoddodd rhai o darnau cerddoriaeth siambr gorau erioed ar gyfer y piano. Byddwn hefyd yn cynnwys detholiad o ganeuon gan Cécile Chaminade a Lily Boulanger.”
Y noson ganlynol, ddydd Gwener, Hydref 17 yn Galeri Caernarfon bydd gwaith comisiwn yr ŵyl a phrosiect addysg, Madam Wen, yn cael ei berfformio.
Wedi’i sgriptio a’i adrodd gan Manon Wyn Williams a’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan Guto Pryderi Puw, mae’r prosiect yn coffáu’r nofel Madam Wen a ysgrifennwyd gan William David Owen.
Ychwanegodd Iwan: “Cyn y cyngerdd bydd yr artist adnabyddus Catrin Williams, ynghyd â thiwtor offerynnau taro CGWM, Dewi Ellis Jones, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Bodedern i gynnal cyfres o weithdai celf lle bydd y plant yn creu offerynnau ac yn archwilio a dewis synau sy’n adleisio’r stori.
Cyhoeddwyd Madam Wen ar ffurf llyfr yn 1925 ond ymddangosodd gyntaf fel cyfres ym mhapur newydd y Genedl Gymraeg yn 1914.
Mae’r nofel yn adrodd stori arwres o Ynys Môn, nid annhebyg i gymeriad Robin Hood.
Nid yw’r cefndir yn glir ond dywedir ei fod yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol go iawn a oedd yn byw ar Ynys Môn ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bu farw W.D. Owen bythefnos ar ôl i’r nofel gael ei chyhoeddi.
Mae’r cyngerdd yn cynnwys Côr Ysgol Gynradd Bodedern, gyda Dewi Elis Jones ar yr offerynnau taro, y pianyddion Elain Rhys Jones ac Angharad Wyn Jones a’r soprano Glesni Rhys Jones.
Bydd y pianydd jazz nodedig Gwilym Simcock yn perfformio yn Galeri yn nhrydydd cyngerdd gyda’r nos yr ŵyl.
Ganed Gwilym ym Mangor, ac astudiodd y piano clasurol, y corn Ffrengig a chyfansoddi yn Ysgol Chetham, Manceinion, lle cafodd ei gyflwyno i jazz gan ei diwtoriaid.
Ef oedd y cerddor jazz cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer cynllun Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 yn 2006 ac enwebwyd ei albwm Good Days At Schloss Elmau ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury yn 2011. Mae Gwilym yn Athro Piano Jazz yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Dywedodd Meinir Llwyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, fod yr ŵyl wedi’i sefydlu yn 2009 fel Gŵyl Biano Cymru a’i chynnal eto yn 2012.
“Ehangodd yr ŵyl yn 2016 gan ddod yn Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru.”
Dywedodd fod ceisiadau ar gyfer y tair cystadleuaeth wedi cau ddiwedd mis Mehefin a bod nifer fawr wedi dod i law.
“Fel rhan o’r broses ymgeisio gofynnwyd i ymgeiswyr gyflwyno recordiad heb ei olygu o repertoire piano unigol heb fod yn fwy nag wyth munud.
“Mae’r rhain wedi cael eu hystyried ac mae mwy na 50 o wahoddiadau wedi myn dallan i bianyddion o bob cwr o’r byd i gymryd rhan yn yr ŵyl eleni.
“Maen nhw’n cynnwys llawer o Brydain ond hefyd cerddorion o Bortiwgal, Romania, Twrci, Japan, De Corea, Mecsico a hyd yn oed Awstralia,” meddai.
Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl a sut i brynu tocynnau ar gael ar-lein yn https://www.pianofestival.co.uk/cy/
by Gwydion Davies | 18 Mehefin, 2025 | Cyfeillion CGWM, Uncategorized @cy
Fel Cadeirydd newydd Cyfeillion CGWM, rwy’n falch iawn o gyflwyno fy hun ac annog eich cefnogaeth barhaus o waith gwych Canolfan Gerdd William Mathias wrth feithrin addysg gerddorol ar draws ein rhanbarth.
Ar ôl symud i Ogledd Cymru o Fanceinion yn 2001, treuliais y ddau ddegawd canlynol mewn gwasanaeth cyhoeddus ac elusennol, gyda Heddlu Gogledd Cymru a CAIS / ADFERIAD. Rwyf bellach wedi dychwelyd at fy mhrif diddordeb: gwneud cerddoriaeth a chefnogi eraill ar eu siwrne cerddorol.
Ar ôl bod yn aelod o Fwrdd y Cyfeillion am nifer o flynyddoedd, cefais yr anrhydedd o gael fy ethol yn Gadeirydd—er fy mod yn llwyr ymwybodol bod esgidiau mawr iawn i’w llenwi ar ôl arweinyddiaeth ysbrydoledig Elinor. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i gydnabod cyfraniad arbennig Clive Smart, sydd wedi rheoli cyllid y Cyfeillion yn ofalus ac yn ymroddedig dros nifer o flynyddoedd.
Mae’r Ganolfan yn parhau i ddarparu cefnogaeth sydd ei fawr-hangen ar gyfer addysg cerddorol, ac hynny ar adeg pan fo toriadau’n rhoi straen enfawr ar wasanaethau traddodiadol. Gallwch ddysgu mwy am waith y Ganolfan a thanysgrifio i’r cylchlythyr ar: www.cgwm.org.uk.
Drwy aelodaeth i’r Cyfeillion, mae eich cyfraniad at y gwaith a wneir yn y Ganolfan wedi bod yn amhrisiadwy. Ni fyddai llawer o’r gweithgareddau a gynhaliwyd wedi bod yn bosibl heb eich haelioni. Rwy’n gobeithio y byddwch yn teimlo eich bod chi’n medru parhau â’ch tanysgrifiad blynyddol ac unrhyw rodd arall y carech chi ei roi, gan fod yn sicr y bydd yr holl gyfraniadau yn cael eu defnyddio i’r achos teilwng hwn.
Y ffordd fwyaf effeithlon o danysgrifio yw drwy archeb sefydlog (standing order). Mae modd hefyd ychwanegu Rhodd Cymorth hefyd ar eich rhoddion – gan ddarparu buddion treth gwerthfawr i’r elusen. Mae ffurflen aelodaeth ar gael ar wefan y Cyfeillion: https://cgwm.org.uk/cefnogi
Rhowch wybod i ni os oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau neu os ydych am ddad-danysgrifio o’n rhestr bostio. Yn yr un modd, lledaenwch y gair am y sefydliad unigryw hwn a’i nod.
Mae gennym nifer o gyngherddau wedi’u cynllunio dros y misoedd nesaf yn arddangos talentau ein myfyrwyr, a gobeithio y caf gyfle i gwrdd â chi yn y digwyddiadau hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â post@cyfeillion.cgwm.org.uk
by Gwydion Davies | 2 Mehefin, 2025 | Uncategorized @cy
Llongyfarchiadau i bawb oedd yn cystadlu lawr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.
Rydym yn hynod falch o’r unigolion sydd yn derbyn eu hyfforddiant yng Nghanolfan Gerdd William Mathias a’r tiwtoriaid sydd yn eu hyfforddi.
Alaw Werin bl 6 a Iau
Mali Fflur Barker – 3ydd
Unawd Llinynol bl. 7,8,9
Esyllt Owen – 3ydd
Unawd Guitar bl. 7, 8, 9
Meilir Tudur Davies – 2il
Unawd Pres bl. 7,8,9
Meilir Tudur Davies – 1af
Unawd Merched bl. 7,8,9
Awen Grug Hogg – 1af
Alaw Werin bl. 10 – o dan 19
Branwen Medi Jones – 2il
Unawd S.A. bl. 10 – o dan 19
Beca Marged Hogg – 2il
Leisa Lloyd Edwards – 3ydd
Ysgoloriaeth yr Unawdydd Mwyaf Addawol o dan 19
Beca Marged Hogg
by Gwydion Davies | 16 Ebrill, 2025 | Uncategorized @cy
Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cystadlaethau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2025 nawr ar agor!
Yn digwydd yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref eleni, mae’r cystadlaethau’n rhan bwysig o’r ŵyl ac yn cynnig llwyfan cyffrous i bianyddion arddangos eu talent.
Mae categorïau cystadleuaeth eleni yn cynnwys:
Cystadleuaeth Unawdol Hŷn
Cystadleuaeth Unawdol Iau
Cystadleuaeth Cyfeilio Piano
Dyddiad cau cofrestru: Hanner nos ddydd Llun, 16 Mehefin 2025
Am fanylion llawn ac i gystadlu, ewch i wefan Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar post@pianofestival.co.uk
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Gaernarfon ym mis Hydref!
by Gwydion Davies | 10 Ebrill, 2025 | Uncategorized @cy
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon.
Am ragor o fanylion gweler y Swydd Ddisgrifiad.
Dyddiad cau i ymgeisio: 28/04/25
by Gwydion Davies | 15 Tachwedd, 2024 | Uncategorized @cy
Bydd dwy delynores fyd-enwog yn dod at ei gilydd mewn cyngerdd arbennig i godi arian i blant ag anableddau dysgu dwys yn Wcráin.
Bydd Veronika Lemishenko, sy’n hanu o Kharkiv yn nwyrain Wcráin, yn chwarae nifer o ddarnau unigol yn y cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor am 7.30pm nos Iau, Tachwedd 21 pan fydd hi hefyd yn perfformio deuawdau gyda threfnydd y cyngerdd Elinor Bennett.
“Bydd yn gyfle na ddylid ei golli i glywed telynores fyd-enwog yn perfformio yng ngogledd Cymru,” meddai Elinor, a astudiodd gyda’r telynor arloesol y diweddar Osian Ellis, cyn mynd ymlaen i gael gyrfa arbennig ei hun a helpu i sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.
Hefyd yn cymryd rhan yn y cyngerdd bydd cerddorion ifanc o Ganolfan Gerdd William Mathias, Côr Siambr Prifysgol Bangor dan arweiniad Guto Puw a Chôr Cofnod o Gaernarfon.
Mae’n un o nifer o gyngherddau codi arian elusennol a gynhaliwyd ledled Ewrop yn ystod 2024 gan Veronika Lemishenko o dan nawdd Sefydliad Elusennol Veronika Lemishenko, a sefydlwyd gan y delynores yn ei mamwlad bron i saith mlynedd yn ôl.
Mae mam Veronika, Alla, bellach yn byw yng Ngwynedd ac yn dysgu cerddorion ifanc yn lleol tra bod ei brawd wedi symud i’r Eidal. Mae ei nain yn byw gyda’i thad yn Lviv yng ngorllewin Wcráin.
Meddai Elinor: “Cyn ymosodiad milwrol Rwsia yn 2022, nod y Sefydliad oedd hyrwyddo celfyddyd y delyn yn Wcráin trwy gefnogi telynorion a chyfansoddwyr talentog o’r wlad.
“Mae’r Sefydliad hefyd yn cydweithio â’r Delyn Disglair (Glowing Harp) – prosiect telyn rhyngwladol, sy’n cynnwys cystadleuaeth, gŵyl, dosbarthiadau meistr, datganiadau a digwyddiadau cerddorol eraill.”
Ers dechrau’r rhyfel lansiodd Veronika ymgyrch codi arian a drefnwyd ar y cyd gan ei sefydliad elusennol a’r Delyn Disglair ac mae tua £34,000 wedi’i godi hyd yma.
“Mae’r holl arian yn mynd i gefnogi Wcráin. Mae’r Sefydliad yn derbyn rhoddion rhyngwladol ac yn darparu cymorth ariannol i brynu offer ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau meddygol, llochesi anifeiliaid ac ati.
“Mae’n gyfnod eithriadol o anodd i sefydliadau addysg yn Kharkiv lle mae’n amhosibl cael gwersi wyneb yn wyneb heb fynd i loches bomiau.
“Diolch i brosiect Delyn Disglair, cafodd 15 o fyfyrwyr rhwng wyth a 24 oed le newydd i barhau â’u haddysg broffesiynol yn Lloegr, y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, yr Almaen, Ffrainc a Chanada,” meddai.
Nid yw Veronika Lemishenko yn ddieithr i ogledd Cymru. Mae hi wedi mynychu Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru a lwyfannwyd yn Galeri Caernarfon yn rheolaidd ers 2014 ac mae ganddi lawer o ffrindiau yn yr ardal.
Ychwanegodd Elinor Bennett: “Mae Veronika yn dweud ei bod yn teimlo’n gartrefol iawn yng Nghymru. Ond wrth gwrs ers goresgyniad Rwsia mae bywyd wedi bod yn galed iawn i bobl Wcráin gan gynnwys y teulu Lemishenko.”
Yn ystod y cyngerdd ym Mangor bydd Elinor a Veronika yn perfformio deuawd o’r enw Cambria gan y telynor a’r cyfansoddwr o Gymru, John Thomas.
“Ei enw barddol oedd Pencerdd Gwalia a chwaraeodd delyn deires draddodiadol Gymreig a’r delyn bedol fodern a bu’n dysgu yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain pan gafodd ei benodi’n delynor i’r Frenhines Victoria yn 1872.
“Mae Cambria yn ddeuawd telyn sy’n seiliedig ar nifer o alawon Cymreig gan gynnwys Gadlys, Y Ferch o’r Scêr a Tros y Garreg,” meddai Elinor.
Dywedodd Elinor mai’r darn arall y bydd hi’n chwarae gyda Veronika yw Souvenir gan y cyfansoddwr Evgen Andreev o Wcráin.
“Cyfansoddwr o Kharkiv yw Evgen Andreev ac ymhlith ei weithiau mae sawl cyfansoddiad sydd wedi cael eu perfformio gan delynorion ifanc ledled y byd.
“Mae gan Evgen deulu cerddorol – mae ei wraig yn feiolinydd ac mae’r ddau blentyn yn fyfyrwyr yn lyceum cerddorol talaith Kharkiv. Yn ddiweddar ailddechreuodd y lyceum ar ei gwaith ond mae’r addysg ar-lein oherwydd lefel uchel y perygl bod mor agos iawn at yr ymladd,” meddai Veronika.
Mae’r cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor yn dechrau am 7.30pm nos Iau, 21 Tachwedd. Mae mynediad am ddim ond bydd casgliad yn cael ei wneud ar ddiwedd y cyngerdd.
by Gwydion Davies | 9 Tachwedd, 2024 | Cyfeillion CGWM, Uncategorized @cy
Ar yr 8fed o Dachwedd 2024, fe roddodd Dafydd Wigley ddarlith hynod ddifyr dan y teitl ‘Murray the Hump: Perthyn i Gangstar’, yn olrhain hanes y cymeriad lliwgar Llywelyn Humphreys.
Roedden ni’n ddiolchgar iawn i Lowri o gwmni Lingo am wirfoddoli ei hamser i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ystod y digwyddiad, gan sicrhau bod y cynnwys ar gael i bawb.
Fe gododd y digwyddiad o leiaf £210 tuag at elusen Cyfeillion CGWM – diolch o galon i bawb a gyfrannodd!
Yn ogystal â’r ddarlith, cafwyd perfformiadau cerddorol gan ddisgyblion dawnus o’r Ganolfan Gerdd, gan gynnwys Rio Chung, a Thriawd Ffliwt Canolfan Gerdd William Mathias (Christina, Fflur, ac athrawes y Ganolfan – Rhiannon).