Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth.
Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â phrosiect Canfod y Gân oedd Geraint Lovgreen, o Gaernarfon, Dewi Pws sy’n byw yn Nefyn ym Mhen Llŷn, ynghyd â Rhys Parry sy’n chwarae gitâr gyda band Bryn Fôn.
Cynhyrchwyd y fideo trwy ddefnyddio sain a fideo gydag aelodau’n creu cerddoriaeth byrfyfyr ac fe’i recordiwyd gan aelodau’r teulu neu weithwyr cymorth ar ffonau a thabledi.
Yna cymysgwyd a golygwyd y trac cerddoriaeth gan Edwin Humphreys, o Bwllheli, sy’n diwtor gyda’r prosiect a chrëwyd y fideo gan Gwydion Davies, o Ganolfan Gerdd William Mathias (CGWM).
Nid yw’r pandemig Coronafeirws wedi atal y grŵp rhag creu cerddoriaeth er gwaetha’r ffaith nad ydynt yn gallu cyfarfod ar gyfer eu sesiynau bob pythefnos yng Nghaernarfon, Pwllheli a Harlech.
Dan arweiniad CGWM a chan weithio mewn partneriaeth â Thîm Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd, maent wedi creu fideo o aelodau yn perfformio ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn ogystal â darn unigryw gan aelodau’r grŵp eu hunain a fydd gobeithio yn profi’n boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan grant tair blynedd Spirit of 2012, cronfa etifeddiaeth gemau Olympaidd Llundain 2012, yn rhoi cyfle i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ddod at ei gilydd i greu cerddoriaeth gyda’r nod o wella iechyd meddwl a lles.
Mae Matthew Murray, 25 oed, o Fangor, sy’n aelod o grŵp Caernarfon, wrth ei fodd cael bod yn rhan o’r grŵp.
Meddai “Rwy’n hoffi rapio ac rwyf wedi bod yn ysgrifennu fy sdwff fy hun ers amser maith. Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn chwilio am brosiect cerddoriaeth y gallwn gymryd rhan ynddo a dyna sut y gwnes i ymuno efo Canfod y Gân.
“Rwy’n gwirfoddoli mewn caffi yng nghanolfan hamdden Caernarfon ar ddydd Llun, neu mi oeddwn i’n gwneud hynny nes daeth y feirws. Felly, mi wnes i ddechrau mynd i Canfod y Gân ar ôl fy shifft yn y caffi. Rwyf wrth fy modd yn gweithio efo pobl eraill ac rwy’n hoffi popeth am y grŵp.
“Rwyf wedi cyfarfod efo ffrind yno sy’n gwirfoddoli ac rydym yn mynd i weithio efo’n gilydd ar rai raps ac rydym yn bwriadu recordio rhai o fy ngeiriau. Mae hynny’n gyffrous iawn.
“Rwy’n ysgrifennu beth bynnag sy’n dod i mewn i fy mhen. Rwy’n ysgrifennu am bethau sy’n digwydd yn fy mywyd, am faterion teuluol a phethau felly.
Ychwanegodd: “Mi wnes i fwynhau cymryd rhan mewn creu’r fideo rydym wedi’i wneud. Ysgrifennais eiriau oedd yn sôn am yr amseroedd caled a sut rydyn ni a ffrindiau a theulu yn ymdopi efo’r pandemig. “
Mae Terry Tuffrey, 20 oed, o Flaenau Ffestiniog, yn aelod o grŵp Harlech ac mae’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau lle mae’n astudio sgiliau byw’n annibynnol.
Meddai: “Rydw i fel arfer yn mynd bob yn ail nos Fawrth ac yn ei hoffi’n fawr. Rwy’n berson cymdeithasol iawn ac rwy’n cael cyfarfod efo ffrindiau o Harlech a’r ardal. Mae bob amser yn hwyl ac rwy’n dysgu sgiliau canu newydd.
“Yn aml mae ganddyn nhw offerynnau newydd i roi cynnig arnyn nhw ond mae’n well gen i ganu er fy mod i’n gallu chwarae tambwrȋn a chlychau gwynt a phethau fel yna. Dechreuais fynd pan oeddwn i’n 18 oed a dim ond 20 oed ydw i rŵan. Dwi’n hoffi’r canu rydyn ni’n ei wneud oherwydd fy mod i’n cael canu’r math o bethau rydw i’n eu hoffi.
Ychwanegodd: “Mae’r feirws wedi bod yn erchyll ac wedi atal sesiynau Canfod y Gân. Fel teulu rydyn ni’n dilyn y canllawiau ac yn gobeithio am y gorau, dyna’r cyfan fedrwch chi ei wneud.
“Ond rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl a chyfarfod efo pawb eto.”
Yn ôl rheolwr y prosiect, Mared Gwyn-Jones, y nod yw galluogi pob aelod o’r grŵp i ddod ynghyd gyda thiwtoriaid cerdd proffesiynol a gwirfoddolwyr i greu cerddoriaeth mewn ysbryd o gydraddoldeb.
Meddai: “Mae Spirit of 2012 yn dyfarnu grantiau ar gyfer gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a gwirfoddoli cynhwysol mewn cymunedau sy’n dod â phobl at ei gilydd i wella eu lles sef yr union beth mae Canfod y Gȃn yn ei wneud.
“Mae’r pandemig Coronafeirws wedi atal ein grwpiau bob pythefnos ym mhob un o’r tri lleoliad ac mae’n rhaid i ni dderbyn bod hynny’n debygol o barhau am gryn amser.
“Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu dulliau amgen o weithio. Roedd methu â chyfarfod a chydweithio wyneb yn wyneb yn ergyd enfawr i lawer o’n haelodau yn ogystal â’r tiwtoriaid cerdd llawrydd a fu’n gweithio ar y prosiect.
“Ers gorfod atal cyfarfodydd grŵp rydym wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â llawer o’n haelodau trwy alwadau ffôn rheolaidd a recordiadau fideo o hoff ganeuon.
“Mae hyn wedi bod yn bwysig iawn wrth gadw ysbryd a chadw’r prosiect i fynd.
“Mae ein grŵp yng Nghaernarfon wedi mynd â’r cyfarfod o bell hwn gam ymhellach trwy greu eu prosiect eu hunain.
“Dechreuodd y syniad wedi ni dderbyn dau glip o aelod o’r grŵp Llŷr Griffith, o Lanllyfni, yn chwarae’r anthem genedlaethol ar allweddellau ac yna alaw arbennig ein grŵp, y mae’r gerddoriaeth a’r geiriau wedi’u cyfansoddi gan aelodau yn gweithio gyda’i gilydd.”
“Cafodd Edwin Humphreys ei ysbrydoli i ddechrau rhywbeth wnaeth droi’n gaseg eira gerddorol. Trwy ddefnyddio clipiau Llŷr, a chlipiau gan diwtoriaid, aelodau a gwirfoddolwyr eraill, creodd drac o’r gân arbennig hon.
“Mae wedi creu trac cwbl wych ac ysbrydoledig yn ei stiwdio recordio ei hun gyda’r clipiau y mae aelodau’r grŵp wedi’u hanfon ato ac mae Gwydion Davies wedi creu fideo ardderchog i fynd gyda’r trac.
“Rŵan rydym yn bwriadu ailadrodd y prosiect hwn gyda’n grwpiau eraill ac mae’r broses honno bellach ar y gweill gyda’n grwpiau yn Harlech a Pwllheli.”
Bu Edwin, o Bwllheli, yn gweithio fel cerddor sesiwn am nifer o flynyddoedd cyn ailhyfforddi i fod yn nyrs seiciatrig.
Meddai: “Mi wnaeth aelodau recordio pytiau ar eu ffonau ac rydw i wedi rhoi’r darnau unigol hynny at ei gilydd mewn un recordiad. O gofio bod yn rhaid i aelodau recordio eu hunain ar ffonau symudol neu dabledi maen nhw wedi gwneud yn dda iawn.
“Rwy’n falch iawn gyda’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni efo’n gilydd a gobeithio y gall y ddau grŵp arall wneud rhywbeth tebyg rŵan. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio efo nhw.”
Dywed ei gyd-diwtor Gwenan Gibbard, o Bwllheli, sy’n delynores nodedig, bod ymwneud â’r cynllun wedi bod yn y “bleser pur”.
Meddai: “Mae holl brofiad Canfod y Gân wedi bod yn fraint. Mae’n anhygoel gan fod yno dalent go iawn allan yna a’r peth gorau am y cyfan yw bod pawb yn gwneud ffrindiau newydd.
“Cyn y Nadolig mi wnaethon ni gynnal ychydig o berfformiadau cyhoeddus a oedd yn arbennig. Mi wnaethon ni berfformio cerddoriaeth fel grŵp a chael ambell berfformiad unigol hefyd.”
“Ar y fideo mae yna gymysgedd eclectig o offerynnau. Chwaraeodd sawl aelod o’r grŵp gitâr, mae yna hefyd sielydd, ffliwtydd, drymwyr a chwaraewr glockenspiel a llawer o leisiau gwahanol gan gynnwys Matthew Murray sy’n gwneud ei rapiau ei hun.”
Dywedodd cyfarwyddwr CGWM, Meinir Llwyd Roberts: “Mae wedi bod yn hyfryd gweld Canfod y Gân yn datblygu yn ystod y 18 mis ers i ni dderbyn cefnogaeth gan Spirit of 2012 ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cadw cysylltiad â’n haelodau a sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan o’u bywydau yn ystod y cyfnod clo.
“Rydym yn credu bod gan bawb gân i’w chanu a bod pawb yn haeddu’r cyfle i ddarganfod a rhannu eu cân.”
A musical group that’s providing a lockdown lifeline for people in Gwynedd with and without learning disabilities has launched a new video with the help of some star names.
Performing with the members, tutors and volunteers involved in the Canfod y Gân (Discovering Music) project were Geraint Lovgreen, from Caernarfon, Dewi Pws who lives in Nefyn on the Llŷn Peninsula, along with Rhys Parry who plays guitar in Bryn Fôn’s popular band.
The video was produced using audio and video from members improvising musically which were recorded by family members or support workers on phones and tablets.
The music track was then mixed and edited by Edwin Humphreys, from Pwllheli, a tutor with the project and the video was created by Gwydion Davies, from Canolfan Gerdd William Mathias Music Centre (CGWM).
The Coronavirus pandemic hasn’t stopped the group from making music despite the fact they can no longer meet up for their fortnightly sessions in Caernarfon, Pwllheli and Harlech.
Led by CGWM and working in partnership with Gwynedd Council’s Learning Disability Team, they have put together a video of members performing the national anthem of Wales as well as the group’s own unique signature piece which they’re hoping will go viral on social media.
The project, which is funded by a three-year grant from Spirit of 2012, the London 2012 legacy fund, gives disabled and non-disabled people the opportunity to come together as equals to create music with the aim of improving mental health and wellbeing.
Matthew Murray, 25, from Bangor, a member of the Caernarfon group, loves being part of the group.
He said “I like to rap and have been writing my own stuff for a long time. My social worker was looking for a music project I could get involved with and that’s how I got to be with Canfod y Gân.
“I volunteer in a cafe at the leisure center in Caernarfon on Mondays’ or until the virus I did. So, I started going to Canfod y Gân after my shift in the cafe. I love working with other people and like pretty much everything about the group.
“I’ve met a friend there who volunteers and we are going to work together on some raps and we plan to record some of my lyrics. That’s really exciting.
“I write what comes to mind. I write about things that are going on in my life, about family issues and things like that.”
He added: “I enjoyed being involved with the video that we have done. I wrote lyrics about the hard times and how we are coping with the pandemic and friends and family.”
Terry Tuffrey, 20, from Blaenau Ffestiniog, is a member of the Harlech group and is a student at Coleg Meirion Dwyfor in Dolgellau where he is studying independent living skills.
He said: “I usually go every other Tuesday night and like it a lot. I’m a very sociable person and I get to meet friends from Harlech and the area. It’s always good fun and I learn new singing skills.
“They often have new instruments to try but I prefer to sing although I can play tambourines and wind chimes things like that. I started going when I was 18 and I’m just 20 now. The singing we do I like because I get to sing the sort of things I like.
He added: “The virus has been horrible and has stopped the Canfod y Gân sessions. As a family we are just following the guidelines and hoping for the best, that’s all you can do.
“But I’m looking forward to going back and meeting everyone again.”
According to project manager Mared Gwyn-Jones, the aim is to enable all members of the group to come together with professional music tutors and volunteers to create music as equals.
She said: “Spirit of 2012 awards grants for inclusive arts, sports and volunteering activities in communities that bring people together to improve their wellbeing which is exactly what Canfod y Gȃn does.
“The Coronavirus pandemic has put a stop to our fortnightly groups at all three locations and we have to accept that is likely to continue being the case for a considerable time.
“However, we have worked together to develop alternative means of working. Not being able to meet up and work together face to face was a massive blow to many of our members as well as the freelance music tutors who have been working on the project.
“Since having to suspend group meetings we have been keeping in touch with many of our members through regular phone calls and video recordings of favourite songs.
“This has been very important in keeping spirits up and to keep the project going. “Our Caernarfon group has taken this remote meeting a step further with their own project.
“The idea started when we received two clips of group member Llŷr Griffith, from Llanllyfni, playing the national anthem on keyboards and then our group’s signature song which has been composed, both music and lyrics, by members working together.”
“Edwin Humphreys was inspired to start something akin to a musical snowball. Using Llŷr’s clips, along with other tutors, members and volunteers, he created a track of this particular song.
“He has created an absolutely fantastic and inspiring track in his own recording studio from the clips group members sent him and Gwydion Davies has created a fantastic video to go along with the track.
“We now plan to replicate this project with our other groups and the process is now already underway with our Harlech and Pwllheli groups.”
Edwin, from Pwllheli, worked as a session musician for many years and retrained to become a psychiatric nurse.
He said: “Members recorded snippets on their phones and I’ve put those individual pieces together into one recording. Considering members had to record themselves on mobile phones or tablets they have done really well.
“I’m really pleased with what we have achieved together and hopefully the other two groups can now do something similar. I’m really looking forward to working with them.”
Fellow tutor Gwenan Gibbard, from Pwllheli, who’s an acclaimed harpist, says being involved with the scheme has proved to be an “absolute joy”.
She said: “The whole Canfod y Gân experience has been a privilege. It’s amazing as there is real talent out there and the best thing is everyone makes new friends. “Before Christmas we also had a couple of public performances which were really special. We performed music as a group and had some individual performances too.”
“On the video there is an eclectic mix of instruments. Several group members played guitars, there’s a cellist, a flautist, drummers and a glockenspiel and many different voices including Matthew Murray who does his own raps.”
CGWM director Meinir Llwyd Roberts said: “It has been wonderful to see Canfod y Gân develop during the 18months since we received the support from Spirit of 2012 and we’re delighted that we have been able to maintain contact with our members and ensure that music continues to be part of their lives during lockdown.
“We believe that every person has a song to sing and that every person deserves the opportunity to discover and share their song.”
Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth.
Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â phrosiect Canfod y Gân oedd Geraint Lovgreen, o Gaernarfon, Dewi Pws sy’n byw yn Nefyn ym Mhen Llŷn, ynghyd â Rhys Parry sy’n chwarae gitâr gyda band Bryn Fôn.
Cynhyrchwyd y fideo trwy ddefnyddio sain a fideo gydag aelodau’n creu cerddoriaeth byrfyfyr ac fe’i recordiwyd gan aelodau’r teulu neu weithwyr cymorth ar ffonau a thabledi.
Yna cymysgwyd a golygwyd y trac cerddoriaeth gan Edwin Humphreys, o Bwllheli, sy’n diwtor gyda’r prosiect a chrëwyd y fideo gan Gwydion Davies, o Ganolfan Gerdd William Mathias (CGWM).
Nid yw’r pandemig Coronafeirws wedi atal y grŵp rhag creu cerddoriaeth er gwaetha’r ffaith nad ydynt yn gallu cyfarfod ar gyfer eu sesiynau bob pythefnos yng Nghaernarfon, Pwllheli a Harlech.
Dan arweiniad CGWM a chan weithio mewn partneriaeth â Thîm Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd, maent wedi creu fideo o aelodau yn perfformio ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn ogystal â darn unigryw gan aelodau’r grŵp eu hunain a fydd gobeithio yn profi’n boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan grant tair blynedd Spirit of 2012, cronfa etifeddiaeth gemau Olympaidd Llundain 2012, yn rhoi cyfle i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ddod at ei gilydd i greu cerddoriaeth gyda’r nod o wella iechyd meddwl a lles.
Mae Matthew Murray, 25 oed, o Fangor, sy’n aelod o grŵp Caernarfon, wrth ei fodd cael bod yn rhan o’r grŵp.
Meddai “Rwy’n hoffi rapio ac rwyf wedi bod yn ysgrifennu fy sdwff fy hun ers amser maith. Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn chwilio am brosiect cerddoriaeth y gallwn gymryd rhan ynddo a dyna sut y gwnes i ymuno efo Canfod y Gân.
“Rwy’n gwirfoddoli mewn caffi yng nghanolfan hamdden Caernarfon ar ddydd Llun, neu mi oeddwn i’n gwneud hynny nes daeth y feirws. Felly, mi wnes i ddechrau mynd i Canfod y Gân ar ôl fy shifft yn y caffi. Rwyf wrth fy modd yn gweithio efo pobl eraill ac rwy’n hoffi popeth am y grŵp.
“Rwyf wedi cyfarfod efo ffrind yno sy’n gwirfoddoli ac rydym yn mynd i weithio efo’n gilydd ar rai raps ac rydym yn bwriadu recordio rhai o fy ngeiriau. Mae hynny’n gyffrous iawn.
“Rwy’n ysgrifennu beth bynnag sy’n dod i mewn i fy mhen. Rwy’n ysgrifennu am bethau sy’n digwydd yn fy mywyd, am faterion teuluol a phethau felly.
Ychwanegodd: “Mi wnes i fwynhau cymryd rhan mewn creu’r fideo rydym wedi’i wneud. Ysgrifennais eiriau oedd yn sôn am yr amseroedd caled a sut rydyn ni a ffrindiau a theulu yn ymdopi efo’r pandemig. “
Mae Terry Tuffrey, 20 oed, o Flaenau Ffestiniog, yn aelod o grŵp Harlech ac mae’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau lle mae’n astudio sgiliau byw’n annibynnol.
Meddai: “Rydw i fel arfer yn mynd bob yn ail nos Fawrth ac yn ei hoffi’n fawr. Rwy’n berson cymdeithasol iawn ac rwy’n cael cyfarfod efo ffrindiau o Harlech a’r ardal. Mae bob amser yn hwyl ac rwy’n dysgu sgiliau canu newydd.
“Yn aml mae ganddyn nhw offerynnau newydd i roi cynnig arnyn nhw ond mae’n well gen i ganu er fy mod i’n gallu chwarae tambwrȋn a chlychau gwynt a phethau fel yna. Dechreuais fynd pan oeddwn i’n 18 oed a dim ond 20 oed ydw i rŵan. Dwi’n hoffi’r canu rydyn ni’n ei wneud oherwydd fy mod i’n cael canu’r math o bethau rydw i’n eu hoffi.
Ychwanegodd: “Mae’r feirws wedi bod yn erchyll ac wedi atal sesiynau Canfod y Gân. Fel teulu rydyn ni’n dilyn y canllawiau ac yn gobeithio am y gorau, dyna’r cyfan fedrwch chi ei wneud.
“Ond rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl a chyfarfod efo pawb eto.”
Yn ôl rheolwr y prosiect, Mared Gwyn-Jones, y nod yw galluogi pob aelod o’r grŵp i ddod ynghyd gyda thiwtoriaid cerdd proffesiynol a gwirfoddolwyr i greu cerddoriaeth mewn ysbryd o gydraddoldeb.
Meddai: “Mae Spirit of 2012 yn dyfarnu grantiau ar gyfer gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a gwirfoddoli cynhwysol mewn cymunedau sy’n dod â phobl at ei gilydd i wella eu lles sef yr union beth mae Canfod y Gȃn yn ei wneud.
“Mae’r pandemig Coronafeirws wedi atal ein grwpiau bob pythefnos ym mhob un o’r tri lleoliad ac mae’n rhaid i ni dderbyn bod hynny’n debygol o barhau am gryn amser.
“Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu dulliau amgen o weithio. Roedd methu â chyfarfod a chydweithio wyneb yn wyneb yn ergyd enfawr i lawer o’n haelodau yn ogystal â’r tiwtoriaid cerdd llawrydd a fu’n gweithio ar y prosiect.
“Ers gorfod atal cyfarfodydd grŵp rydym wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â llawer o’n haelodau trwy alwadau ffôn rheolaidd a recordiadau fideo o hoff ganeuon.
“Mae hyn wedi bod yn bwysig iawn wrth gadw ysbryd a chadw’r prosiect i fynd.
“Mae ein grŵp yng Nghaernarfon wedi mynd â’r cyfarfod o bell hwn gam ymhellach trwy greu eu prosiect eu hunain.
“Dechreuodd y syniad wedi ni dderbyn dau glip o aelod o’r grŵp Llŷr Griffith, o Lanllyfni, yn chwarae’r anthem genedlaethol ar allweddellau ac yna alaw arbennig ein grŵp, y mae’r gerddoriaeth a’r geiriau wedi’u cyfansoddi gan aelodau yn gweithio gyda’i gilydd.”
“Cafodd Edwin Humphreys ei ysbrydoli i ddechrau rhywbeth wnaeth droi’n gaseg eira gerddorol. Trwy ddefnyddio clipiau Llŷr, a chlipiau gan diwtoriaid, aelodau a gwirfoddolwyr eraill, creodd drac o’r gân arbennig hon.
“Mae wedi creu trac cwbl wych ac ysbrydoledig yn ei stiwdio recordio ei hun gyda’r clipiau y mae aelodau’r grŵp wedi’u hanfon ato ac mae Gwydion Davies wedi creu fideo ardderchog i fynd gyda’r trac.
“Rŵan rydym yn bwriadu ailadrodd y prosiect hwn gyda’n grwpiau eraill ac mae’r broses honno bellach ar y gweill gyda’n grwpiau yn Harlech a Pwllheli.”
Bu Edwin, o Bwllheli, yn gweithio fel cerddor sesiwn am nifer o flynyddoedd cyn ailhyfforddi i fod yn nyrs seiciatrig.
Meddai: “Mi wnaeth aelodau recordio pytiau ar eu ffonau ac rydw i wedi rhoi’r darnau unigol hynny at ei gilydd mewn un recordiad. O gofio bod yn rhaid i aelodau recordio eu hunain ar ffonau symudol neu dabledi maen nhw wedi gwneud yn dda iawn.
“Rwy’n falch iawn gyda’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni efo’n gilydd a gobeithio y gall y ddau grŵp arall wneud rhywbeth tebyg rŵan. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio efo nhw.”
Dywed ei gyd-diwtor Gwenan Gibbard, o Bwllheli, sy’n delynores nodedig, bod ymwneud â’r cynllun wedi bod yn y “bleser pur”.
Meddai: “Mae holl brofiad Canfod y Gân wedi bod yn fraint. Mae’n anhygoel gan fod yno dalent go iawn allan yna a’r peth gorau am y cyfan yw bod pawb yn gwneud ffrindiau newydd.
“Cyn y Nadolig mi wnaethon ni gynnal ychydig o berfformiadau cyhoeddus a oedd yn arbennig. Mi wnaethon ni berfformio cerddoriaeth fel grŵp a chael ambell berfformiad unigol hefyd.”
“Ar y fideo mae yna gymysgedd eclectig o offerynnau. Chwaraeodd sawl aelod o’r grŵp gitâr, mae yna hefyd sielydd, ffliwtydd, drymwyr a chwaraewr glockenspiel a llawer o leisiau gwahanol gan gynnwys Matthew Murray sy’n gwneud ei rapiau ei hun.”
Dywedodd cyfarwyddwr CGWM, Meinir Llwyd Roberts: “Mae wedi bod yn hyfryd gweld Canfod y Gân yn datblygu yn ystod y 18 mis ers i ni dderbyn cefnogaeth gan Spirit of 2012 ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cadw cysylltiad â’n haelodau a sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan o’u bywydau yn ystod y cyfnod clo.
“Rydym yn credu bod gan bawb gân i’w chanu a bod pawb yn haeddu’r cyfle i ddarganfod a rhannu eu cân.”
Mae drysau ein canolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gau ar hyn o bryd ond gyda chydweithrediad ein tîm gwych o diwtoriaid mae’r gerddoriaeth yn parhau. Dyma flas o’r gweithgareddau sydd gennym ar-lein ac mae mwy i ddod yn yr wythnosau nesaf…
Cynhaliwyd cyngerdd anffurfiol yn ddiweddar yng nghartref Elinor Bennett er mwyn codi arian tuag at Cyfeillion CGWM.
Bu’r cerddorion Julie & Andreas o Norway yn ymweld â Chymru er mwyn derbyn hyfforddiant arbenigol ar gerddoriaeth Cymru gan Elinor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Mae Julie yn delynores proffesiynol ac mae Andreas yn canu’r Bandoneon ac yn perfformio Cerddoriaeth Byd.
Cafwyd perfformiadau hefyd gan Elinor Bennett ar y delyn deires, a Medi Evans sy’n astudio’r delyn gyda Elinor.
Un o brif amcanion prosiect Canfod y Gân ydy ymgysylltu â’r gymuned a sicrhau cyfleoedd i oedolion gymryd rhan gyda’i gilydd, yn gyfartal drwy gerddoriaeth. Felly, roeddem yn ymfalchïo yn yr ymateb a gafwyd i’n gwahoddiadau i gymryd rhan yn ein cyngerdd gymunedol gyntaf ym Mhwllheli ar ddiwedd Tachwedd, 2019. Roeddem yn falch iawn o rannu llwyfan gyda :
Band Pres Pwllheli
Disgyblion Ysgol Bro Plennydd, fu’n rhan o brosiect arbennig ar y cyd gyda Uned Hafod Hedd a thrigolion o’r Ffor a fu’n cyd-ddysgu caneuon a gyfansoddwyd gan barti canu llwyddiannus o’r pentref yn y 1960au. Roedd y prosiect hwn yn gyfle i’r cenhedlaethau gymdeithasu drwy gerddoriaeth. Cawsom gyfle i gael blas o’r caneuon hyn yn ein cyngerdd.
Côr Heneiddio’n Dda Nefyn
Côr yr Heli.
Cychwynwyd y gyngerdd yn fwrlwm prysur o fyrfyfyrio gwyllt :
Bu un o aelodau’r grwp, Mr Merfyn Jones, yn brysur yn dysgu alawon ar y delyn yn y sesiynau, a dyma’r penllanw, deuawd gyda Gwenan. Dyma foment bythgofiadwy i ni gyd :
Roedd hi’n noson fydd yn aros yn y cof am gyfnod hir. Dyma adrboth rhai yn y gynulleidfa :
“Really enjoyed the evening. Thank you to all who made if possible and worked so hard to make it happen.”
“Brilliant fun evening. Everyone leaving with big smiles!”
“Wonderful amount of work which produced Music of a high Standard.A project of huge benefit to those involved. Great to involve members of the wider community to celbrate the joy of Music.”
“The joy on the faces of all taking part was a wonderful sight.”
“PROFIAD GWYCH wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer hefyd.”
“This was the most joyful concert I’ve been to. The care and hard work of those who were organizing it was very evident. Well done!”
“I thought it was a fantastic evening and I think the whole project is a brilliant idea. The joy on the faces of the participants was a joy to behold. May it go from strength to strength.”
“Cyngherdd gwych a chyfle i bawb gymryd rhan. Aelodau Canfod y Gân yn amlwg wrth ei bodd a rhai yn canu a chwarae offerynnau. Mae hwn yn brofiad gwerthfawr iawn iawn.”
“EXCELLENT! GWYCH! Bringing people from ALL parts of the community together. 100% carry on!”
“Noson wych a bythgofiadwy. Mae angen mwy o nosweithiau fel hyn yn bendant.”
“Cyngherdd gwych. Braf cael rhannu llwyfan efo’r fath dalent. Edrch ymlaen at y nesaf.”
“Cyngerdd arbennig iawn. Holl eitemau yn wych. Ambell un yn mynd at y galon”
Cawsom brynhawn bendigedig yn neuadd Ysgol Ardudwy, ar Dachwedd 9fed, 2019. Paratowyd te prynhawn anhygoel gan ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 yr ysgol. Braf oedd gweld cymaint o gynulleidfa o’r dref. Cafwyd perfformiadau gan unigolion y grwp, yn amrywio o ganeuon Bryn Fôn i Pink Floyd ac Ed Sheeran hyd yn oed. Cawsom berfformiad o Bach Toccata and Fugue gan un o’n haelodau, Debbie. Gwahoddwyd David Bieteker o Ysgol Ardudwy, i berfformio hefyd, braf oedd cael rhannu’r llwyfan. Cafwyd perfformiad ar y cello gan Elin Taylor, a gan Sera Zyborska a’r band. Cawsom gyfle i berfformio cân i’r grŵp gyfansoddi gyda Sera am bopeth ma’r grwp yn ei hoffi. Roedd hi mor braf cael dangos i gymuned Harlech popeth mae Canfod y Gân wedi bod yn gwneud ers i ni gychwyn. Edrych mlaen at y gyngerdd nesaf yn barod.
Dyma’r rai eitemau o’r gyngerdd i chi ei fwynhau :
Cafwyd adborth gwych o’r gyngerdd :
“Cyngerdd gwerth chweil! Wedi mwynhau! Diolch am y cyfle i gael gwrando a gwerthfawrogi doniau gwahanol pob un oedd yn cymryd rhan.”
“Cyngerdd ardderchog! Roedd yn amlwg fod pawb yn mwynhau cymryd rhan ar gerddoriaeth yn codi gwen ar ei gwynebau. Y gynulleidfa wedi mwynhau yn arw!”
“Prynhawn bendigedig!!! Adloniant gwych. Wedi llwyr fwynhau. Edrych ymlaen i’r gyngerdd nesaf. Diolch yn fawr!”
“Thanks for a feast of Music and for the opportunity for all individuals to show their unique talent in Music either instrumental or vocal.”
“Absolutely Fantastic!! Thoroughly enjoyed this afternoon. I was so impressed, and moved to (happy) tears at times!”
“It was fantastic!” Grace, 8 years old
“Absolutely fab, had tears in my eyes! Very important to become a main part of our community. Well done all involved!)
“Braf oedd cynnwys yr ysgol yn eich cyngerdd ac integreiddio’r gymuned. Rhagorol yn wir!”
Bydd tiwtoriaid cerdd o ganolfan
gerddoriaeth nodedig yn gweld y byrddau’n cael eu troi fis nesaf pan fyddant yn
perfformio o flaen cynulleidfa sy’n llawn myfyrwyr fel rhan o achlysur i godi arian
i ŵyl biano arbennig.
Yn ymuno â’r pianydd cyngerdd
rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones bydd llond gwlad o gerddorion Cymreig dawnus o
Ganolfan Gerddi William Mathias ar gyfer cyngerdd arbennig am 3yp ar ddydd Sul,
Tachwedd y 10fed, er budd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Bydd y tiwtoriaid yn cychwyn ar
daith gerddorol ledled y byd, o Ewrop i America ac Awstralia, gan berfformio
deuawdau a thriawdau o repertoire clasurol, poblogaidd a jazz.
Sefydlwyd y ganolfan gerdd, sydd â lleoliadau
yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, ddau ddegawd yn ôl yng Nghaernarfon gyda
chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn helpu offerynwyr a chantorion o
bob oed a gallu i gyrraedd eu potensial.
Mae gan y ganolfan, sydd wedi
helpu i lansio gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol degau o gerddorion, bellach
mwy na 40 o diwtoriaid yn gweithio ar eu liwt eu hunain gan gynnwys y delynores
ryngwladol o fri Elinor Bennett, sydd wedi dysgu yn y ganolfan o’r cychwyn
cyntaf.
Bydd cyngerdd y mis
nesaf, a gynhelir yn Galeri, Caernarfon am 3yp ar ddydd Sul, Tachwedd y 10fed, yn arddangos doniau naw o diwtoriaid piano’r
ganolfan mewn digwyddiad cymunedol hwyliog sy’n cynnwys amrywiaeth o glasuron
poblogaidd.
Bydd y cyngerdd, a drefnwyd gan
Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, yn codi
arian tuag at noddi gwobr gystadleuaeth yn yr ŵyl piano fydd yn cael ei chynnal
y flwyddyn nesaf.
Meddai: “Mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol ac mae
croeso i bawb. Mae’r tiwtoriaid i gyd wedi gwahodd eu myfyrwyr hefyd ac felly
bydd y disgyblion yn cael cyfle unigryw i weld eu tiwtoriaid yn perfformio.
“Mae llawer o waith yn mynd i
baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau a chystadlaethau ac mae hon yn ffordd
braf i droi’r byrddau.
“Rydyn ni i gyd yn ffrindiau a’r
peth braf am wneud rhywbeth fel hyn drwy ddod at ein gilydd fel ensemble, yw ei
fod yn gymaint o hwyl. Does dim rhaid i chi siarad, dim ond chwarae. Rydych
chi’n gadael i’r gerddoriaeth wneud y siarad drosoch chi.
“Mi wnaethon ni
gynnal cyngerdd tebyg yn 2015 i lansio gŵyl 2016. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd
ymlaen llaw, wrth gwrs, gan nad oes gan rai o’r tiwtoriaid yr amser i
berfformio’n gyhoeddus yn aml ond roedden nhw wrth eu boddau, roedd yn brofiad
gwefreiddiol i ni i gyd. Dyma yw hanfod y peth.”
Bydd y cyngerdd yn cynnwys Glian
Llwyd, Nia Davies-Williams, Steven Evans, Ann Peters Jones, Helen Owen, Hawys
Price, Teleri-Siân, Sian Wheway ac Iwan.
Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd
perfformiadau o glasur poblogaidd Saint Saens ‘Carnifal yr Anifeiliaid’, ‘En
bateau’ Debussy, Symffoni Rhif 5 Beethoven a’r Nutcracker Suite gan Tchaikovsky
yn cael eu perfformio ar ddau biano mawr.
“Mae hwn yn un o ddau ddigwyddiad lansio sy’n dod
â’r ganolfan gerddoriaeth a’r bobl sy’n gweithio ynddi at ei gilydd i gael cyfle
i arddangos eu doniau,” meddai Iwan,
“Rydw i wedi rhoi llawer o feddwl
i’r detholiad o gerddoriaeth ac wedi ceisio ei wneud mor ddeniadol â phosib.
Mae’r pianyddion i gyd yn rhoi o’u hamser eu hunain am ddim ar gyfer y cyngerdd
hwn a byddai’n hyfryd gweld y lle’n llawn fel y gwnaethom yn ôl yn 2015. Mae
croeso i bawb.”
Ychwanegodd Meinir Llwyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan
Gerdd William Mathias: “Mae’n rhaglen liwgar a diddorol iawn a fydd yn apelio
at deuluoedd a phobl o bob oed.
“Mae hefyd yn gyfle gwych i
glywed y tiwtoriaid eu hunain yn perfformio, yn enwedig ar gyfer eu myfyrwyr eu
hunain. Maen nhw i gyd yn dysgu ar wahanol adegau ar wahanol ddiwrnodau a
chyda’r nos ac mae’n braf dod â nhw at ei gilydd i berfformio fel tîm. “
Mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a drefnir gan
Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Mai 2020 a bydd yn
archwilio’r tri maes allweddol o berfformio, cystadlu ac addysgu.
Bydd gŵyl y flwyddyn nesaf yn talu gwrogaeth i
Ludwig van Beethoven a’i etifeddiaeth bianyddol fel rhan o ddathliadau sy’n
nodi 250 mlynedd ers ei eni.
Mae Diwrnod Piano hefyd yn cael ei gynnal ar Dachwedd 23 yn yr Ysgol
Gerdd ym Mhrifysgol Bangor fel digwyddiad lansio pellach i’r ŵyl www.pianofestival.co.uk.
I archebu tocynnau ar
gyfer Cyngerdd y Tiwtoriaid Piano ewch i: www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685222
Bydd un o
sopranos enwocaf Cymru yn cymryd rhan flaenllaw mewn cyngerdd i ddathlu 20
mlynedd ers sefydlu Canolfan Gerdd sydd â changhennau yng Nghaernarfon, Dinbych
a Rhuthun.
Ynghyd â bod yn
unawdydd o fri rhyngwladol, mae Mary Lloyd-Davies wedi dysgu yng Nghanolfan
Gerdd William Mathias ers y cychwyn cyntaf.
Sefydlwyd y Ganolfan
yng Nghaernarfon, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ugain mlynedd
yn ôl gan grŵp o bobl oedd â diddordeb mawr mewn addysg cerddoriaeth, gyda’r
nod o alluogi cerddorion a chantorion i gyrraedd eu potensial.
Bydd y cyngerdd
yn cael ei gynnal yn Galeri Caernarfon dydd Sadwrn y 7fed o Fedi, pan fydd nifer
o gerddorion arbennig yn ymuno gyda Mary Lloyd-Davies i nodi’r garreg filltir
arbennig hon.
Ymhlith yr
uchafbwyntiau eraill bydd perfformiadau gan y delynores nodedig Elinor Bennett,
a fu’n allweddol yn sefydlu y ganolfan, a’r ffliwtydd hynod dalentog, Rhiannon
Mathias, merch y cyfansoddwr blaenllaw, yr Athro William Mathias, yr enwyd y
ganolfan ar ei ôl.
Er ei bod wedi
mwynhau gyrfa sydd wedi ei gweld yn perfformio yn nhai opera gorau’r byd, mae Mary
Lloyd-Davies, sy’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala, wedi aros yn agos at ei
gwreiddiau trwy diwtora myfyrwyr llais yn y ganolfan.
Meddai: “Rydw i
wedi bod yn perfformio ers tua 1969 ac wedi mwynhau gyrfa fendigedig. Mae ‘na
nifer o uchafbwyntiau gwych ac wrth gwrs yn anochel ambell i bwynt isel hefyd.
“Un uchafbwynt
oedd perfformio yn Nhŷ Opera La Scala yn
Milan mewn opera o’r enw 1984 sy’n seiliedig ar lyfr enwog George Orwell.
“Rwyf hefyd wedi
perfformio yn Hansel a Gretel yn San Francisco a Houston ac yn Elecktra gan
Strauss yn yr Opéra Bastille ym Mharis. Fe wnes i fy ymddangosiad cyntaf yn y
Tŷ Opera Brenhinol fel y person deud ffortiwn yn Arabella. Fe wnes i hefyd
treulio 22 mlynedd efo Opera Cenedlaethol Cymru gan chwarae prif rannau yn
Fidelio, Macbeth, Elektra, Tosca, Ballo in Maschera a Tristan and Isolde.”
“Daeth y ‘big
break’ i mi yn 1992. Roeddwn wrth gefn ar gyfer y brif ran yn opera Richard
Strauss Elektra. Fe aeth y brif gantores
yn sâl, a bu’n rhaid i mi gamu i mewn heb lawer o rybudd o gwbl.
“Yna cefais
gynnig y brif ran yn Elektra ym 1995 ar gyfer cynhyrchiad arall gan WNO ac yna
camu i mewn ar fyr rybudd ar gyfer yr un rôl yn Opéra Bastille ym Mharis ar gyfer cynhyrchiad
gwahanol. Roedd hynny hefyd yn hwb mawr i’m gyrfa.”
Ychwanegodd: “Yn
ogystal a gweithiau operatig, byddaf yn perfformio rhai o ganeuon gwerin traddodiadol
Cymru a drefnwyd gan William Mathias, gyda’r delynores Elinor Bennett yn y
cyngerdd. Perfformiais y caneuon gwerin yma yn ystod gwasanaeth coffa y
ddiweddar Yvonne Mathias, gweddw William Mathias ’, ar gais eu merch Rhiannon.
“Mae trefn y
cyngerdd yn drawiadol iawn oherwydd ynghyd ag Elinor Bennett mae gennym y
delynores Glain Dafydd a’r pianydd Glian Llwyd, y ddwy ohonynt yn gyn-fyfyrwyr
Canolfan Gerdd William Mathias.
“Hefyd yn
perfformio bydd cyn-fyfyriwr sydd wedi dod yn artist llwyddiannus dros ben,
Casi Wyn; y sielydd Gwydion Rhys a’r sopranos Tesni Jones a Lisa Dafydd, y ddwy
yn fyfyrwyr yng nghangen CGWM yn Ninbych cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg
Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion.
“Bydd yn noson
fendigedig o gerddoriaeth ac yn ffordd wych o ddathlu 20 mlynedd o lwyddiant
Canolfan Gerddi William Mathias.”
“Mae’n bwysig
iawn bod gennym Ganolfan Gerdd William Mathias yng Ngogledd Cymru. Nid oes
unrhyw le arall yn y rhanbarth mewn gwirionedd sy’n cynnig ystod mor eang o
weithgareddau cerddoriaeth o ansawdd uchel. Ac mae’r cyngerdd hwn yn mynd i fod
yn ddathliad o rywbeth eithaf arbennig.”
Yn ôl Cyfarwyddwr
y Ganolfan, Meinir Llwyd Roberts, mae elusen Canolfan Gerdd William Mathias yn le arbennig llawn bwrlwm cerddorol i
gerddorion o bob oed.
Meddai: “Dechreuodd
y Ganolfan 20 mlynedd yn ôl gan gynnig gwersi un i un ac erbyn hyn mae gennym dros
40 o diwtoriaid llawrydd. Yn ogystal â darparu gwersi yn ein prif gangen yn
Galeri Caernarfon rydym hefyd yn darparu hyfforddiant yn Ninbych a Rhuthun gyda
gwersi yn cael eu cynnal yno ddwy noson yr wythnos.
“Ond rydym yn
gwneud cymaint mwy na chynnig hyfforddiant un i un. Mae gennym brosiect cerdd
yn arbennig ar gyfer plant cyn oedran ysgol, rydym yn gweithio mewn cartrefi
gofal yn cynnig cerddoriaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, yn trefnu grwpiau
canu mewn cymunedau gwledig ac yn ddiweddar, rydym wedi sicrhau grant sylweddol
i ddatblygu ein darpariaeth ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu.
“Rydym hefyd yn
cynnig amrywiaeth o ensembles a dosbarthiadau meistr ac yn trefnu Gŵyl Delynau
Cymru yn flynyddol yn ogystal â Gŵyl Delynau Ryngwladol a Gŵyl Biano Ryngwladol
bob pedair mlynedd.
“Mae’r ystod o
weithgareddau rydyn ni’n ymwneud â nhw wedi tyfu’n sylweddol ac yn parhau i
wneud hynny. Ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn gerddorion llwyddiannus
iawn. “
“Bydd yn noson
arbennig o gerddoriaeth gyda rhywbeth at ddant pawb a byddwn yn annog pawb sy’n
mwynhau cerddoriaeth i archebu eu tocynnau nawr a dod i ddathlu efo ni.”
Roedd hi’n fraint cael ein gwahodd i berfformio ym mhabell y dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ym mis Awst 2019. Cynnigwyd y cyfle i grwpiau Caernarfon a Phwllheli gymryd rhan.
Roedd y babell dan i sang a phawb ar dân i’n perfformiad cyntaf un!
Cafwyd ambell syrpreis…Daeth yr Elvis Cymreig i gyd-ganu gyda Anne Louise. Braf oedd gweld y ddau yn cyd-ganu a gweddill y gynulleidfa wrth eu boddau yn ymuno!
Daethpwyd â’r gyngerdd i ben, gyda’r gynulleidfa yn morio canu hyd at y diwedd.
Trefnwyd bore o hwyl i gymunedau cerdd Canolfan gerdd William Mathias, eu teuluoedd, eu ffrindiau, a’r gymuned ehangach. Gwahoddwyd teuluoedd sy’n mynychu sesiynau Camau Cerdd a Chamau Nesaf i blant; aelodau’r côr hamdden; aelodau’r gerddorfa gymunedol; trigolion cartref Bryn Seiont Newydd Caernarfon ac aelodau Canfod y Gân Caernarfon i ddod ynghyd i fwynhau caneuon a cherddoriaeth fel rhan o ddigwyddiadau cymunedol The Great Get Together.
Sefydlwyd The Great Get Together gan y Jo Cox Foundation fel menter i ddod a phob at ei gilydd er mwyn canfod yr hyn sydd ganddom yn gyffredin. Dywedodd Jo Cox, yn ei hanerchiad cyntaf yn Nhy’r Cyffredin :
“We are far more united and have far more in common than that which divides us”
Jo Cox
Gyda diolch i’r Great Get Together a Spirit of 2012, derbyniwyd grant i gynnal digwyddiad fyddai’n dod a phobl ynghyd. Be’ well na cherddoriaeth?
Arweinwyd y bore gan Arfon Wyn, a chafwyd bore bendigedig o gyd-ganu a chwarae offerynnau gyda ‘r ieuengaf yn 10 mis oed, hyd at yr hynaf yn ei 90au, a phawb yn mwynhau’r gerddoriaeth a chael bod gyda’i gilydd. I goroni’r cyfan, cacen a phaned!
Ar y 5ed o Fawrth, mi gynhaliwyd ymarfer cyntaf ensemble offerynnol newydd i oedolion, Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, yng Nghaernarfon.
Dan arweiniad y sielydd, Nicki Pearce o Fae Colwyn a Steven Evans, yn
wreiddiol o Gaernarfon fel repetiteur, mae’r gerddorfa gymunedol yn gyfarfod ar
nosweithiau Mawrth o 8yh-9.15yh yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon.
Mynychodd un-ar-bymtheg o aelodau yr ymarfer cyntaf, gyda thri arall yn
ymuno yn yr ail wythnos.
Mae hi wedi bod yn freuddwyd gan Nicki Pearce, arweinydd y gerddorfa, i
sefydlu cerddorfa i oedolion ers blynyddoedd. Dywedodd Nicki:
“Dwi wrth fy modd fy mod i wedi sefydlu cerddorfa gymunedol ar gyfer
oedolion yma yng Nghaernarfon o’r diwedd.”
“Mae gymaint o oedolion sydd yn dysgu a sydd wedi bod yn cael gwersi
cerddoriaeth un-i-un a mae hyn yn ffordd wych iddynt ddod ynghyd i gael hwyl
drwy gerddoriaeth.”
“Mae o hefyd yn ffordd dda i oedolion sydd efallai heb gyffwrdd yn eu
offerynnau ers blynyddoedd i ail-gydio ynddi eto ac i gael tro mewn awyrgylch
gyfeillgar a chefnogol.”
Mae’r fenter newydd yn cael ei drefnu gan Ganolfan Gerdd William
Mathias, sydd wedi’i leoli yn y Galeri yng Nghaernarfon ac yn darparu
hyfforddiant gerddorol o safon uchel, yn ogystal a threfnu amrywiaeth o
weithgareddau gymunedol drwy Gymru.
Fe sylweddolodd Meinir Llwyd, cyfarwddwr Canolfan Gerdd William Mathias,
fod angen y math hwn o ensemble yng Nghaernarfon. Dywedodd:
“Mae Nicki Pearce a minnau wedi bod yn trafod y posibilrwydd o greu
cerddorfa fyddai’n cynnig cyfleon i oedolion i ddod ynghyd i gymdeithasu ac i
fwynhau creu cerddoriaeth ers peth amser.”
“Roedd Steven Evans, sydd wedi dechrau rhoi gwersi piano yn y ganolfan
yn ddiweddar wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r fenter hefyd.”
“Mae hi’n ddiddorol gweld fod y nifer o oedolion sydd yn derbyn gwersi
un-i-un yng Nghanolfan Gerdd William Mathias wedi cynyddu dros y blynyddoedd
diwethaf, sydd yn newyddion da iawn.”
“Er hyn, roeddent yn gweld y galw i ddarparu mwy o gyfleon i’r oedolion
sydd yn derbyn gwersi un-i-un i gymryd rhan mewn hyfforddiant grŵp yn ogystal a
annog y rhai oedd arfer chwarae offeryn – efallai pan roeddent yn blentyn, i
ail-gydio yn eu hofferynnau eto.”
Un o’r aelodau a wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Gwyneth M Davies o
Benllech sy’n chwarae’r Cornet Bb.
“Dim ond yn ddiweddar iawn dw’i wedi bod yn derbyn gwersi, er fy mod i
wedi bod yn chwarae’r corn ers rhyw ddeng mlynedd.”
“Mi ydw i wrth fy modd â cherddoriaeth – ac yn aelod brwd o Seindorf LSW
ynghyd â Chôr Hamdden Mathias – côr lleisiau merched sy’n cyfarfod ar
brynhawniau Iau yng Nghaernarfon.”
“I ddweud y gwir ro’n i reit nerfus cyn yr ymarfer cyntaf – a ddim yn
gwybod beth i ddisgwyl.”
“Ond dan ni wedi jelio yn dda iawn erbyn hyn a dw’i wedi neud ffrindiau
newydd – dan ni’n gefnogol iawn o’n gilydd a mae pawb i weld yn mwynhau.”
“Mae’r arweinydd Nicki Pearce yn fendigedig – mae hi’n sylweddoli bod ni
i gyd o lefelau gwahanol, ac yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth ddewis y rhannau.
Fe wnaeth o godi fy nghalon fy mod i’n medru chwarae’r rhan ges i.”
“Dw’i hefyd wedi bod yn annog fy ffrindiau i ymuno – mae ganddyn nhw
ddiddordeb ac pob tro yn gofyn i mi sut mae’r ymarferion wedi mynd – gobeithio
y dawn nhw i roi cynnig ar y gerddorfa.”
Un o’r aelodau wnaeth fwynhau’r ymarfer cyntaf oedd Desmond Burton o Fangor a fu’n diwtor Saesneg dramor ers bron i 25 mlynedd. Dywedodd Desmond:
“Dim bwys beth yw eich profiad na’ch lefel, os ydych yn meddwl y buasech yn mwynhau chwarae cerddoriaeth gydag eraill, dewch i ymuno gyda ni yn y Gerddorfa Gymunedol. Dydi llawer ohonom ni erioed wedi chwarae mewn cerddorfa o’r blaen, felly peidiwch a phoeni y bydd pawb arall yn well na chi, oherwydd mae’n siŵr na fyddan nhw!”
Roedd Nicki Pearce a Steven Evans yn falch iawn o weld amrywiaeth o
offerynnau. Yn ôl Steven:
“Mi wnes i feddwl y basa hi’n anodd cael chwaraewyr chwyth a phres – ond
ni chafom unrhyw drafferth o gwbl – er mi fuasen yn gallu gwneud efo mwy o
feiolinwyr!”
Ers yr ymarfer cyntaf mae mwy o aelodau wedi ymuno a mae croeso cynnes
yn disgwyl aelodau newydd a fyddai’n hoffi ymuno gyda’r gerddorfa.
Mi fydd cyfres newydd Cerddorfa Gymunedol Caernarfon yn cychwyn ar y
9fed o Ebrill.
I gofrestru ac am fwy o wybodaeth, caiff aelodau eu hannog i gysylltu gyda Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn
falch o gyhoeddi eu bod am sefydlu cerddorfa gymunedol newydd yn arbennig i oedolion.
Bydd yr ymarfer cyntaf yn cael ei gynnal
yn Theatr Seilo Caernarfon ar y 5ed o Fawrth, gan gychwyn am 8:00yh.
Bydd y gerddorfa yn cael ei harwain
gan Nicki Pearce, sydd wedi bod yn breuddwydio am gael sefydlu cerddorfa o’r
fath ers peth amser.
Dywedodd Nicki, sydd hefyd yn
dysgu’r sielo yng Nghanolfan Gerdd William Mathias: “Cerddorfa gymunedol fydd
hon i oedolion – a carwn annog unrhyw un sydd efallai wedi bod yn derbyn gwersi
am gwpwl o flynyddoedd, neu efallai sydd heb chwarae eu hofferynnau ers dipyn i
ymuno yn yr hwyl!”
Hefyd yn ymuno â Nicki fydd Steven Evans, fel répétiteur i’r gerddorfa.
Anogir unrhyw un sydd efo diddordeb mewn ymuno i gysylltu â Chanolfan Gerdd William Mathias am ragor o fanylion cyn gynted a phosib. Bydd angen cofrestru ymlaen llaw.
Rydym yn awyddus i glywed gan gerddorion sydd a diddordeb mewn cynnal sesiynau cerdd fel rhan o’n cynllun newydd cyffrous ‘Canfod y Gan’ fydd yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion heb anableddau ynghyd i greu cerddoriaeth. Mwy o wybodaeth.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 (www.spiritof2012.org.uk)
er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân/Discover the Song’ dros dair
blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac
unigolion sydd heb anableddau ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn
gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl a
llesiant.
Bydd CGWM yn gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Anableddau Dysgu
Cyngor Gwynedd a fydd yn cyfeirio unigolion gyda anableddau dysgu i’r
prosiect.
Rydym eisiau derbyn ceisiadau gan werthuswyr allanol i weithio gyda ni drwy gydol y prosiect er mwyn :
Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i ffrindiau.
Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.
Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y noson.”
Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled Gogledd Cymru.
Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.
Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y noson.”
Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.
Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.
Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”
Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19 Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361
Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o
amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i
ffrindiau.
Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at
elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am
wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael
mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.
Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann
Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i
gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig
hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y noson.”
Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest
Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y
blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn
Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled
Gogledd Cymru.
Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd
yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.
Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael
tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias,
megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i
fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn
rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y
noson.”
Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.
Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.
Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”
Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19
Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau
yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361
Cerys Edwards, disgybl yng Nghanolfan Gerdd William Mathias (cangen
Rhuthun), sydd yn derbyn Ysgoloriaeth CGWM er cof am Ben Muskett eleni. Mae
Cerys, sy’n 16 oed, yn cael gwersi piano gyda Teleri Siân.
Dywedodd Cerys, “Roedd yn dipyn o sioc i glywed fy mod wedi ennill
Ysgoloriaeth Ben Muskett. Roeddwn newydd berfformio mewn cyngerdd gan rai o
fyfyrwyr y Ganolfan ac ar ôl i mi berfformio cefais fy ngalw yn ôl i’r llwyfan
i dderbyn tlws ac arian yr ysgoloriaeth.
Wrth longyfarch Cerys, dywedodd Meinir Llwyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd
William Mathias, “Roedd Ben Muskett yn diwtor piano ysbrydoledig yn y Ganolfan.
Ond, yn 25 oed, bu farw mewn damwain car yn 2011.”
Caiff yr Ysgoloriaeth ei dyfarnu’n flynyddol i bianydd addawol dan 18 oed
sy’n derbyn gwersi yn CGWM. Yn ôl Meinir Llwyd, “Dyma’n ffordd ni o gynnal
rhywfaint o’r angerdd yr oedd Ben yn ei deimlo am gerddoriaeth a dysgu plant a
phobl ifanc.”
Meddai Cerys, “Mae’r ysgoloriaeth yn golygu gymaint i mi. Mi fydd yr arian o
gymorth mawr er mwyn prynu darnau newydd piano yr hoffwn eu dysgu – yn cynnwys
Waltzes Chopin, Preludes Debussy a darnau jazz hefyd.”
Mae Cerys yn derbyn gwersi Cerddoriaeth yn Ysgol Brynhyfryd gyda Miss Llinos
Williams. Dechreuodd gael gwersi Piano pan oedd hi’n chwech oed gyda Mavis
Johns, cyn cychwyn gwersi gyda Teleri-Siân yn 2012.
Yn ôl Cerys, “Rwyf wrth fy modd yn dod am wersi piano gyda Teleri Siân a
gyda’i chymorth hi mi wnes i lwyddo i basio fy arholiad Gradd 8 yn ystod yr Haf
gyda theilyngdod.”
Dywedodd Llinos, mam Cerys: “Rydan ni wedi bod yn ffodus iawn i gael
tiwtoriaid piano o’r safon uchaf dros y blynyddoedd – mae fy mab Sion, ynghyd â
chwaer Cerys, Cathrin, wedi mwynhau dod am wersi piano efo Teleri-Siân.”
Ym Mlwyddyn 9, enillodd Cerys y drydydd wobr yng Nghystadleuaeth Unawd Piano
Blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae hi
hefyd yn aelod ffyddlon o Gôr Cytgan Clwyd.
Yng Nghaernarfon y mae prif gartref CGWM. Ond, ers 2012, mae’r Ganolfan wedi
bod yn darparu gwersi cerdd ar nosweithiau Llun yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
ac, ers dros flwyddyn, hefyd yn cynnig gwersi yng Nghapel Tabernacl, Ruthun ar
nosweithiau Mercher.
Cafodd tlws yr ysgoloriaeth ei gyflwyno i Cerys yng nghyngerdd ‘Llwyfan
Cerdd’ CGWM yn Neuadd Bentref Pwllglas. Roedd y cyngerdd yn cynnwys
perfformiadau gan ddisgyblion o bob oedran sy’n derbyn gwersi yn y Ganolfan,
ynghyd ag ensembles Telynau Clwyd Iau ac Hŷn dan arweiniad Morwen Blythin a
Dylan Cernyw.
Yn naturiol, roedd tiwtor piano Cerys, Teleri-Siân, wrth ei bodd o glywed y
newyddion: “Mae wastad yn bleser i roi gwersi piano i Cerys yn y Ganolfan. Mae
hi’n ddisgybl arbennig sy’n datblygu i fod yn berfformwraig a cherddor hyderus
ag aeddfed.”
Mae
Canolfan Gerdd William Mathias,elusen sy’n ymroddi i ddarparu profiadau mewn
cerddoriaeth i’r cyhoedd yn galw am gefnogaeth y gymuned leol a busnesau i
helpu i gyrraedd targed codi arian o £ 3,000 a fydd yn cael ei dyblu yn ystod
Her Nadolig 2017 y Big Give.
Bydd
unrhyw roddion a wneir ar-lein i Ganolfan Gerdd William
Mathias rhwng y 28ain o Dachwedd a’r 5ed o Ragfyr yn cael eu dyblu ac yn
cyfrannu at barhad ‘Doniau Cudd’, sef prosiect sy’n darparu cyfleoedd cerddorol
i oedolion ag anableddau o ardal Caernarfon.
Mae’r
prosiect wedi’i gynnal yn llwyddiannus ers dros 10 mlynedd ac mae wedi dod yn
rhan hynod bwysig o fywydau dros 30 o gyfranogwyr sy’n mynychu sesiynau
wythnosol yn Galeri Caernarfon. Fe’i sefydlwyd yn 2003 gan y Ganolfan Gerdd a’r
cerddor Arfon Wyn gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Mae unigolion lleol sy’n byw gydag anableddau yn
elwa’n gymdeithasol ac yn addysgol. I rai cyfranogwyr, mae cerddoriaeth yn
cynnig dull cyfathrebu naturiol yn absenoldeb lleferydd. Mae manteision eraill
yn cynnwys adeiladu hyder a chyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol.
Dywedodd
y cerddor ac arweinydd y sesiynau, Arfon Wyn: “Rydw i’n cael boddhad mawr
wrth weithio gyda ‘Doniau Cudd’, rydym ni’n byrfyfyrio’n gerddorol gyda’n
gilydd ac wedi gwneud ffrindiau am oes”.
Ers
2012 mae’r prosiect wedi ehangu i Bwllheli a Sir Ddinbych ac yn 2013 dyfarnwyd
Gwobr Gofal Cymru Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i’r prosiect am hyrwyddo’r
Celfyddydau mewn Gofal Cymdeithasol.
Dywedodd
Nia Hughes o Ganolfan Gerdd William Mathias: “Mae’r prosiect yn
ysbrydoliaeth go iawn i bawb sy’n gysylltiedig ag o. Mae’r unigolion sy’n
mynychu’n cael cyfle i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth, ac yn aml yn
perfformio i’r cyhoedd mewn digwyddiadau a gynhelir gan Ganolfan Gerdd William
Mathias. Mae’n werth i weld eu hwynebau wrth berfformio, sy’n pwysleisio
pwysigrwydd y prosiect hwn. Plîs cefnogwch os gallwch chi.”
Mae’r
elusen yn gweithio’n ddiflino i sicrhau cyllid o hyd at £14k yn flynyddol i
gynnal y prosiect hwn. I gefnogi Doniau Cudd a helpu i barhau i gyfoethogi
bywydau pobl sy’n byw gydag anableddau, cyfrannwch ar lein i Ganolfan Gerdd
William Mathias rhwng 28 Tachwedd – 5 Rhagfyr 2017.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Canolfan Gerdd
William Mathias ar 01286 685 230
Mae cwcis yn helpu ni ddeall sut mae ein gwefan yn cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr, ac yn angenrheidiol er mwyn i rai rhannau o’n gwefan weithio’n gywir.