Amdanom Ni
Bwriad Canolfan Gerdd William Mathias yw darparu hyfforddiant cerddorol a phrofiad perfformio o’r safon uchaf posib ac o statws cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn i’r boblogaeth yng Nghymru gael ymelwa o’r mwynhad a’r cyfranogiad o gerddoriaeth.
Enwir y Ganolfan ar ôl y cyfansoddwr William Mathias (1934-1992) a gafodd yrfa lewyrchus fel cyfansoddwr, arweinydd ac Athro Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Ef hefyd oedd sylfaenydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Tîm Swyddfa CGWM
Meinir Llwyd Roberts
Cyfarwyddwr
Gwydion Davies
Rheolwr Gweinyddol
Seren Hâf Jones
Rheolwr Prosiect Canfod y Gân
Mali Elwy
Derbynnydd
Gabriel Tranmer
Derbynnydd
Hanes CGWM
Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yng Nghaernarfon ym 1999 gan griw o gerddorion a rhai oedd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, yn dilyn trafodaethau yn dyddio nol i 1995. Mae CGWM yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn elusen gofrestredig ac fe’i rheolir gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr.
Yn y dyddiau cynnar dau brif nod y cwmni oedd :
- Gwella’r mynediad i addysg gerddorol a pherfformiadau.
- Darparu gwaith i gerddorion hunan-gyflogedig gan eu galluogi i fyw a gweithio yn eu cymuned leol.
Tŷ mawr ar Stryd yr Eglwys, Caernarfon oedd cartref cyntaf y Ganolfan. Y prif weithgaredd bryd hynny oedd gwersi un i un gan dim bychan o diwtoriaid ac ambell weithdy a chyngerdd mewn lleoliadau cyfagos.
Dros y blynyddoedd mae gwaith CGWM wedi tyfu a datblygu yn sylweddol. Erbyn hyn mae tîm o 44 tiwtor yn cynnig hyfforddiant unigol ac mewn grŵp i dros 400 o bobl (o 6mis i 80+oed) yn wythnosol.
Lleoliad
Mae Pencadlys Canolfan Gerdd William Mathias wedi ei leoli ar lawr uchaf Galeri Caernarfon.
Cyfeiriad: CGWM, Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1SQ.
Trafnidiaeth Cyhoeddus: Yr orsaf drenau agosaf yw Bangor, ac mae bysiau yn teithio’n gyson i Gaernarfon. Gellir canfod yr amserlen fysiau ar wefan Traveline Cymru.
Gyda Char: O’r A55 cymerwch gyffordd 10 a dilyn y A487 i Gaernarfon. Pan fyddwch yn dod i mewn i’r dref, cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan wrth ymyl Morrisons. Ar yr ail gylchfan cymerwch y trydydd troad gan ddilyn yr arwyddion i Doc Fictoria.
Parcio: Mae parcio talu ac arddangos arhosiad byr ar gael o flaen yr adeilad Galeri ynghyd â meysydd parcio anabl. Mae meysydd parcio talu ac arddangos i’w gael hefyd gyferbyn â’r adeilad Galeri, ac ar waelod y ffordd is law i archfarchnad Morrisons.
Cerrig Milltir
2003: Sefydlu Doniau Cudd
Daeth yn amlwg i CGWM a’r tiwtor Arfon Wyn, sydd a phrofiad helaeth o weithio mewn ysgolion arbennig, bod diffyg darpariaeth gerddorol yng Ngogledd Cymru ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu. Sefydlwyd Doniau Cudd yn 2003 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.
Ers ei sefydlu mae Doniau Cudd wedi datblygu i fod yn rhan bwysig iawn o fywydau nifer o oedolion yr ardal ac yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n ymwneud â’r cynllun.
Yn 2013 derbyniodd y cynllun Wobr Gofal Cymru Ymddiriedolaeth Bryn Terfel am hybu’r Celfyddydau ym maes Gofal Cymdeithasol mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
2005: Ad-leoli i Galeri Caernarfon
Yn 2005 symudodd CGWM i’w chartref presennol gan ddod yn brif denant Canolfan Mentrau Creadigol Galeri Caernarfon . Roedd CGWM yn rhan o’r broses gynllunio ac or herwydd ceir ystafelloedd dysgu o’r safon uchaf sydd wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion CGWM. Yn sgil y cynnydd yn nifer yr ystafelloedd dysgu a’r cyfle i logi stiwdios a Theatr bwrpasol, llwyddodd CGWM i ehangu ei gweithgaerddau yn sylweddol. Mae ad-leoli yn Galeri hefyd wedi codi proffil CGWM gan arwain at gynnydd yn y galw am hyfforddiant.
2006: Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru I
Cynhaliwyd yr Ŵyl Delynau Ryngwladol gyntaf yn 2006 o dan gyfarwyddwyd y delynores fyd-enwog Elinor Bennett. Roedd yr Ŵyl yn gyfuniad o gystadlaethau, cyngherddau gan artistiaid rhyngwladol, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl gyntaf penderfynwyd y dylid cynnal gŵyl debyg bob pedair mlynedd. Bu gwyliau 2010, 2014 a 2018 yn llwyddiant aruthrol gan ddenu telynorion o dros 30 o wledydd a chodi proffil rhyngwladol CGWM.
2007: Sefydlu Camau Cerdd
Gweithiodd CGWM mewn partneriaeth gyda’r cerddor Marie-Claire Howorth i ddatblygu rhaglen ‘Camau Cerdd’. Sefydlwyd y cynllun yn 2007 gyda’r nod o gyfuno byd cerddoriaeth gyda chyfnodau naturiol datblygiad plant cyn oed ysgol.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun craidd mae Marie-Claire wedi datblygu Camau Cerdd i gynnwys plant y Cyfnod Sylfaen (4-7oed).
Mae CGWM yn credu’n gryf y dylai cerddoriaeth fod yn rhan o fywyd plentyn o’r cychwyn cyntaf. Gall hyfforddiant cerddorol cynnar gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad cyffredinol a chymdeithasol plentyn.
2011: Dod yn Gleient Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae cael ei derbyn fel un o gleientiaid refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru wedi galluogi CGWM i ehangu ei darpariaeth yn sylweddol gan gyflogi rhagor o staff i ymateb i’r galw cynyddol am ei gwasanaethau.
2012: Agor Cangen o CGWM yn Ninbych
Ym Medi 2012, sefydlodd CGWM gangen yn Ninbych. Ar hyn o bryd cynigir hyfforddiant un i unwaith yr wythnos yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ac mae nifer o brosiectau eraill CGWM wedi eu datblygu yn yr ardal yn cynnwys Doniau Cudd a gwersi theori cerddoriaeth. Ers mis Medi 2017 cynhelir gwersi un noson yr wythnos yn Rhuthun yn ogystal.
Gwerthoedd
Mae CGWM yn ymdrechu i wneud addysg gerddorol yn agored i bawb gan gynnig cefnogaeth, ysbrydoliaeth ac annogaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau cerddorol.
Cynigir cyfleoedd ychwanegol megis dosbarthiadau meistr a gweithdai gan gerddorion o fri rhyngwladol, dosbarthiadau theori cerddoriaeth, corau ac ensemblau siambr, cyfleoedd perfformio a Gwyliau Cerdd arbenigol, i ehangu profiadau y myfyrwyr.
Rhagoriaeth
gan anelu at broffesiynoldeb ac ansawdd uchel ym mhob agwedd.
Mynediad i Addysg Gerddorol
Credwn y dylai pawb sy’n dymuno cymryd rhan mewn cerddoriaeth gael y cyfle i wneud hynny.
Cynhwysedd a Budd Cyhoeddus
Ymdrechwn i gynnwys y gymuned gyfan yn ein gwaith be bynnag fo’u hoedran, cefndir neu allu.
Ysbrydoliaeth ac Anogaeth
Rydym yn ymdrechu i ysbrydoli ein myfyrwyr gan eu hannog i ddatblygu eu talentau cerddorol i’r eithaf.
Arloesedd
CGWM yw’r unig sefydliad o’i fath ym Mhrydain.
Darpariaeth Ddwyieithog
Mae CGWM yn gweithredu yn y Gymraeg a’r Saesneg.