Gweithio efo ni
Mae gan Canolfan Gerdd William Mathias dîm o dros 40 o diwtoriaid llarwydd sy’n gweithio’n rheolaidd efo ni.
Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid 1:1 ar amryw offerynnau a’r llais, ynghyd â thiwtoriaid gweithgareddau cymunedol (Gan gynnwys Camau Cerdd, Canfod y Gân, Doniau Cudd, Cerddorfa Gymunedol ag ati).
Yn ogystal rydym yn gweithio gyda nifer o gerddorion llawrydd yn achlysurol drwy ein gwyliau telyn a phiano, dosbarthiadau meistri, gweithdai a chyngherddau amrywiol.
Os rydych chi’n gerddor sydd â diddordeb gweithio efo ni, gallwch gofrestru eich diddordeb yn fan hyn a atodi eich CV.
Rydym ni’n trefnu digwyddiadau datblygiad proffesiynol a llesiant am ddim i diwtoriaid yn ystod yn flwyddyn.
Cydraddoldeb: Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Gellir gweld copi o’n polisi Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fan hyn.
Cynllun Datblygu Tiwtoriaid Cerdd Ifanc 18-25 oed:
O ganlyniad i dderbyn cyllid o gronfa Recharge, Youth Music rydym yn medru cynnig cyfleon mentora gyda thâl i gerddorion ifanc 18-25oed sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa fel tiwtoriaid cerdd llawrydd. Mae’r cynllun hwn yn rhedeg tan 31 Gorffennaf 2024. Os oes gennych ddiddordeb bod yn rhan o’r cynllun, cliciwch ar y botwm uchod, a ticio’r blwch perthnasol.