Emma Syska
Wedi'i geni yn Efrog a'i magu yn Worcestshire, dechreuodd Emma ganu’r piano yn bedair oed, cyn symud ati i ganu’r ffliwt.
Astudiodd yn Ysgol Gerdd Iau Birmingham, yna Ysgol Purcell cyn mynd ati i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Fe astudiodd y ffliwt gyda Bernard Herrmann, Kate Hill a Jonathan Snowden, gan chwarae hefyd mewn gweithdai gyda William Bennett, Geoffrey Gilbert, George Caird a Nicholas Daniel.
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae Emma wedi dysgu a pherfformio ar draws Canolbarth Lloegr; gan annog creu cerddoriaeth ymhlith plant ac oedolion, ynghyd â chwarae'r ffliwt gyda Sinfonia Birmingham ac ensemble ffliwt Syska.
Mae hi wedi rhoi perfformiadau o goncerto ffliwt Mozart K314, ei goncerto ffliwt a thelyn K299, “Suite Antique” gan Rutter, concerto Brandenburg rhif 5 Bach, concerto Cimarosa ar gyfer dwy ffliwt a choncerto ffliwt William Mathias.
Ers symud i Gymru yn 2021, mae Emma wedi bod yn dysgu ffliwt ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn ac yn ddiweddar, Prifysgol Bangor.