Polisïau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd gan sicrhau bod y wybodaeth bersonol rydych chi’n ei ddarparu i ni yn cael ei gadw’n ddiogel, gan gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Wrth i chi ddefnyddio ein gwasanaethau neu wrth i chi ymweld â’n gwefannau byddwn ni’n cyfeirio chi i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd. Os ydych chi’n anghytuno â’r arferion a ddisgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwasanaethau a’n gwefannau.
Cymerwn pob gofal posib i sicrhau bod y data personol rydych chi’n ei ddarparu i ni yn cael ei brosesu a’i storio (lle’n briodol) mor ddiogel a phosib, boed hynny mewn fformat ddigidol neu gopi caled.
Rydym ni’n defnyddio gwasanaethau gan gwmnïau allanol er mwyn storio, prosesu a dadansoddi data (e.e. gwasanaeth marchnata ebost, gweinydd gwe, storfa cwmwl, cwmni prosesu taliadau cerdyn). Rydym ni’n cymryd gofal er mwyn sicrhau bod y cwmnïau allanol a ddefnyddiwn â safonau uchel o ran gwarchod data a’u bod yn cydymffurfio â GDPR.
Pa fath o wybodaeth rydym ni’n ei gasglu?
Er mwyn ein galluogi ni i ddarparu gwasanaeth i chi ac ymateb i’ch ymholiadau byddwn yn casglu data personol gennych chi. Gall y data personol yma gynnwys gwybodaeth megis eich enw, ebost, rhif ffôn, dyddiad geni, cenedligrwydd, cyfeiriad, unrhyw wybodaeth feddygol rydych chi’n dewis rhannu efo ni, a data mewn perthnasedd i unrhyw daliadau sy’n cael eu gwneud i ni.
Sail Cyfreithiol dros Brosesu Data
Rydym ni’n prosesu data gan amlaf ar sail contract wrth i chi defnyddio ein gwasanaethau. Rydym hefyd yn prosesu data ar sail diddordeb cyfreithlon (legitimate interest).
Monitro Cydraddoldeb
Fel rhan o bob proses recriwtio, mae CGWM yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth neu ddata personol, sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Byddwn yn defnyddio’r data ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb ac anelu at wella cyfle cyfartal mewn cyflogaeth yn unig. Bydd yr holl ddata monitro cydraddoldeb yn ddienw ac yn cael eu tynnu o ffurflenni cais cyn llunio rhestr fer a chyfweld.
Tynnu Lluniau a Ffilmio:
Rydym ni’n gofyn am ganiatâd gan riant / gwarchodwr cyn i ni dynnu llun neu ffilmio plentyn yn cymryd rhan neu’n mynychu ein gweithgareddau ac yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio’r llun neu ffilm.
Cwcis a Chasglu Ystadegau am Ddefnydd ein Gwefannau:
Mae’r rhan fwyaf o’r cwcis a ddefnyddiwn yn angenrheidiol er mwyn i’n gwefannau ni weithio’n gywir.
Rydym ni hefyd yn defnyddio gwasanaeth Google Analytics er mwyn darparu ystadegau i ni am y ffordd mae ein gwefannau yn cael eu defnyddio gan ymwelwyr. Caiff hyn ei gyflawni drwy osod cwcis. Noder ein bod ni’n gofyn am eich caniatâd i osod cwcis wrth i chi ymweld â’n gwefannau ni am y tro cyntaf, ac heb eich caniatâd, ni fydd cwcis Google Analytics yn cael eu gosod.
Ein Rhestr Ebostio:
Rydym ni’n defnyddio gwasanaeth MailChimp er mwyn gweinyddu ein rhestr ebostio gan yrru ebyst i’n tanysgrifwyr am newyddion a digwyddiadau CGWM. Ni fyddwn ni’n gyrru ebyst o’r math yma i chi oni bai eich bod chi wedi optio mewn i’w derbyn. Mae modd i chi ddad-danysgrifio ar unrhyw amser drwy glicio’r ddolen i wneud hynny sy’n ymddangos ar waelod pob ebost anfonwyd drwy MailChimp neu drwy gysylltu â ni.
Hawliau allweddol yn ôl GDPR
Mae GDPR yn rhoi yr hawl i chi ofyn am weld y wybodaeth bersonol ‘rydym yn ei ddal arnoch chi. Mae modd i chi gyflwyno Cais Testun am weld Data i ni trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Byddwn yn cydymffurfio â’r ceisiadau hyn o fewn mis (oni bai bod amgylchiadau yn ein rhwystro ni rhag gwneud e.e. bod yna reswm cyfreithiol am beidio gwneud).
Diweddaru a Dileu eich Data Personol:
Dylech ofyn i ni gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi e.e. os ydych chi’n newid eich enw neu’ch cyfeiriad neu rif ffôn.
Gallwch ofyn i ni ddileu unrhyw wybodaeth rydym yn ei ddal amdanoch chi ar unrhyw adeg. Byddwn yn gwneud hyn yn unol â chyfreithiau cymwys Cymru a Lloegr a deddfau a rheoliadau’r UE, GDPR.
Noder fod gennym rwymedigaethau cyfreithiol i gadw rhai mathau o wybodaeth am gwsmeriaid am gyfnodau penodol e.e. at ddibenion cyfrifo.
Byddwn ddim ond yn cadw gwybodaeth am y cyfnod sydd ei angen o ran y gwasanaethau yr ydych wedi holi amdanynt, neu yr ydym wedi cytuno i’w darparu, neu i fodloni gofynion cyfreithiol.
Darganfod mwy am eich hawliau o dan ddeddf GDPR a’ch hawl i gyflwyno cwyn
Mae modd darganfod mwy am eich hawliau yn ôl GDPR drwy ymweld â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (DU).
Manylion Cyswllt
Meinir Llwyd Roberts (Cyfarwyddwraig, Canolfan Gerdd William Mathias)
CGWM, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ
meinir@cgwm.org.uk
Dyddiad adolygiad a diweddariad diwethaf gan Fwrdd CGWM : 02/07/21
Polisi Diogelu
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi ymrwymo i ymarfer sy’n amddiffyn pawb rhag niwed. Mae holl staff, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr CGWM yn derbyn ac yn cydnabod eu cyfrifoldeb i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r materion a allai achosi niwed. Rhaid iddynt fod yn gwbl ymwybodol o delerau’r polisi hwn a gweithredu o’u mewn.
Mae CGWM yn cynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau gan gynnwys gwersi cerddoriaeth un-i-un a grŵp rheolaidd i blant, pobl ifanc ac oedolion, prosiectau cerddoriaeth mewn iechyd a lles yn y gymuned, cyngherddau a pherfformiadau cyhoeddus a gwyliau rhyngwladol. Mae CGWM yn cyflogi tîm bychan o staff gweinyddol ac yn gweithio gyda thîm mawr o diwtoriaid cerdd llawrydd. Mae nifer o staff a thiwtoriaid llawrydd CGWM yn dod i gysylltiad rheolaidd â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed**.
Mae CGWM yn ymdrechu i ddiogelu pawb drwy:
- Fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer staff, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr
- Rannu gwybodaeth am ddiogelu plant ac arfer da gyda’r holl blant sy’n ymwneud â CGWM, eu rhieni a’u gofalwyr, staff a gwirfoddolwyr.
- Rannu gwybodaeth am ddiogelu oedolion ac arfer da gyda’r holl oedolion sy’n ymwneud â CGWM, er mwyn amddiffyn ein staff a’n gwirfoddolwyr ein hunain yn ogystal â’r holl oedolion eraill sy’n dod i gysylltiad â CGWM
- Rannu gwybodaeth am bryderon ag asiantaethau sydd angen gwybod, a chynnwys oedolion, gofalwyr, rhieni a phlant yn briodol.
- Ddilyn yn ofalus y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a dethol staff a gwirfoddolwyr gan ystyried unrhyw newidiadau yng ngofynion y DBS.
- Ddarparu rheolaeth effeithiol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr trwy oruchwyliaeth, cefnogaeth a hyfforddiant.
- Benodi aelod o staff ac aelod o’r bwrdd ymddiriedolwyr i fod yn gyfrifol am ymdrin â materion diogelu. Mae’r personau dynodedig hyn yn cyrchu ac yn dilyn canllawiau Gweithdrefnau Diogelu Cymru sydd yn yr ap www.diogelu.cymru
- roi gwybod i staff, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr eraill pwy yw’r personau dynodedig a’u hannog i rannu unrhyw faterion neu bryderon a allai fod ganddynt am eu diogelwch eu hunain, neu ddiogelwch eraill sy’n hysbys i CGWM, gan gynnwys unrhyw ymddygiad amhriodol neu amhroffesiynol. Bydd unrhyw bryderon a godir yn ddidwyll yn cael eu cymryd o ddifrif ac ni fyddant yn arwain at ganlyniadau negyddol i’r sawl sy’n rhannu’r pryderon hynny.
- Mae CGWM wedi ymrwymo i adolygu ei bolisi diogelu ac arfer da yn rheolaidd ac o leiaf bob blwyddyn.
**Diffinir y term ‘oedolyn sy’n wynebu risg’ yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel:
Oedolyn sydd:
- yn profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso,
- ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio), ac
- o ganlyniad i’r anghenion hynny, ni all amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu’r esgeulustod neu’r risg ohono.
Unigolyn Diogelu Dynodedig (UDD) ac Ymddiriedolwr Arweiniol dros Ddiogelu (YAD) yw:
UDD: Meinir Llwyd Roberts (Cyfarwyddwr) meinir@cgwm.org.uk / 01286 685230
YAD : John Pritchard bwrdd@cgwm.org.uk
Dylid cysylltu â’r UDD yn y lle cyntaf oni bai bod y pryderon diogelu’n ymwneud â nhw.
Mae’r UDD yn cyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau pellach mewn arferion da diogelu e.e. https://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru/ ac i ofynion gwasanaeth y DBS gan sicrhau bod staff, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr yn cydymffurfio â gofynion y gwasanaeth hwn. Mae’r UDD yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau i’r tîm gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.
Mae rôl yr YAD yn un gefnogol gyda’r cyfrifoldeb i drafod materion diogelu gyda’r UDD a’u cynorthwyo i wneud penderfyniadau. Mae’r YAD hefyd yn berson cyswllt amgen ar gyfer dewis personol neu os yw’r UDD yn gysylltiedig â’r pryder diogelu.
Gweithdrefnau Recriwtio
Mae’n ofynnol i weithwyr CGWM, tiwtoriaid llawrydd a gwirfoddolwyr gael y lefel ofynnol o wiriad DBS fel yr amlinellir yn https://www.gov.uk/government/publications/dbs-guidance-leaflets. Gwiriad DBS i’w drefnu trwy CGWM (gan ddefnyddio gwasanaethau Vibrant Nation fel y corff ymbarél) neu wedi’i wirio gan ddefnyddio’r gwasanaeth diweddaru ar-lein os yw’r unigolyn wedi tanysgrifio.
Gan fod CGWM yn trefnu gweithgareddau a reoleiddir (regulated activities) niferus mae’n ofynnol i ymddiriedolwyr CGWM gael gwiriad DBS Manwl (Enhanced).
Mae CGWM yn cynnal gwiriad ar-lein rhad ac am ddim ar dystysgrif DBS a gyflwynir gan berson sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth diweddaru ar yr amod:
- bod yr ymgeisydd wedi rhoi caniatâd
- bod y swydd y maent yn gwneud cais amdani yn gymwys ar gyfer yr un lefel o wiriad â’r dystysgrif wreiddiol (y mae’n rhaid ei gweld)
Os yw’r dystysgrif wreiddiol o lefel is neu uwch na’r hyn sy’n ofynnol, rhaid i CGWM ofyn am gais newydd.
Mae tystysgrifau DBS yn cael eu gwirio trwy’r gwasanaeth ar-lein neu eu hadnewyddu bob tair blynedd. (yn newid i flynyddol o fis Medi 2025).
Os bydd artist sy’n ymweld yn rhoi gweithdy, dosbarth meistr neu berfformiad afreolaidd neu os bydd gwirfoddolwr yn cynorthwyo mewn digwyddiad untro (one-off) sy’n cynnwys plant neu oedolion sy’n agored i niwed ni ddylai’r artist neu wirfoddolwr fod ar ei ben ei hun gyda’r plant neu’r oedolion sy’n agored i niwed o dan unrhyw amgylchiadau. a rhaid i aelod o staff / gwirfoddolwr gyda datgeliad DBS boddhaol neu rieni / gwarcheidwaid y plant fod yn bresennol bob amser i weithredu fel hebryngwr/goruchwyliwr.
Mae holl staff newydd a thiwtoriaid llawrydd rheolaidd newydd yn cael cyfweliad gyda’r Cyfarwyddwr ac aelod(au) o’r bwrdd ymddiriedolwyr.
Rhaid cael o leiaf 2 eirda gan bobl sydd â phrofiad o’u gwaith/gwirfoddoli a chysylltiad â phlant / oedolion sy’n agored i niwed. Gall un fod yn ganolwr personol addas yn rhoi geirda cymeriad. Fodd bynnag, cydnabyddir na fydd gan bob recriwt newydd brofiad blaenorol o weithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg ond dylid gofyn i’r canolwyr gadarnhau a ydynt yn gwybod am unrhyw reswm pam na fyddent yn addas i weithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.
Iechyd a Diogelwch
Dylai staff sicrhau bob amser bod y gweithgaredd yn cydymffurfio â Chanllawiau Iechyd a Diogelwch CGWM. Rhaid cynnal asesiad risg cyn pob gweithgaredd/darpariaeth newydd a chymryd camau digonol i sicrhau diogelwch.
Asesiad Risg
Mae’n ofynnol i staff CGWM gynnal asesiadau risg ar bob gweithgaredd i sicrhau diogelwch y cyfranogwyr a sicrhau bod gweithgareddau yn hygyrch i bob plentyn ac oedolyn ag anghenion gofal a chymorth sy’n dymuno cymryd rhan. Os yw’n trefnu gweithgaredd grŵp rhaid i’r aelod o staff sy’n gyfrifol am y gweithgaredd sicrhau bod digon o staff ar gyfer plant neu bobl ifanc.
Ar hyn o bryd mae’r NSPCC yn argymell:
0 – 2 oed – un oedolyn i dri o blant
2 – 3 oed – un oedolyn i bedwar o blant
4 – 8 oed – un oedolyn i chwe phlentyn
9 – 12 oed – un oedolyn i wyth o blant
13 – 18 oed – un oedolyn i ddeg o blant
Pan fo gweithgaredd grŵp yn digwydd gan gadw o fewn y cymarebau uchod, dylai ail oedolyn cyfrifol, sy’n ymwybodol bod y grwp yn cael ei gynnal, fod yn bresennol yn yr adeilad, er enghraifft yn swyddfa CGWM. Os yw’r plant sy’n cymryd rhan o dan 8 oed a’r grŵp yn cynnwys mwy na 2 o blant, dylai’r ail oedolyn cyfrifol fod yn yr un ystafell ac yn goruchwylio y grwp os nad yn cymryd rhan ymarferol yn y sesiwn.
O ran gweithdai i oedolion sy’n agored i niwed, gan gynnwys Doniau Cudd a Chanfod y Gân, bydd CGWM yn dibynnu ar arweiniad gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol lleol sy’n cyfeirio’r cyfranogwyr at y gweithgareddau ac yn pennu’r lefelau staffio priodol (nad ydynt yn cynnwys y gofalwr arferol i unigolyn a all fod gyda nhw).
Ni chaniateir i unrhyw blentyn neu berson ifanc o dan 16 oed (16-18 oed sydd angen gofal a chymorth), neu oedolyn a gyfeiriwyd neu a leolir yn ein darpariaeth (sydd angen gofal a chymorth) adael y lleoliad lle mae’r gweithgaredd yn cael ei gynnal ar unrhyw adeg ac eithrio pan fydd rhiant, gofalwr neu weithiwr cefnogol, neu gynrychiolydd awdurdodedig penodol o CGWM gyda nhw. Rhaid i unrhyw fyfyriwr (o dan 16oed) sydd angen gadael cyn diwedd y gweithgaredd heb oedolyn priodol yn gwmni iddynt gael caniatâd ysgrifenedig ei riant / gwarcheidwad.
Ffotograffiaeth a Ffilmio
Gofynnir i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd cyn y gall CGWM dynnu llun neu ffilmio unrhyw blentyn sy’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd ac mae’r ffurflen ganiatâd yn nodi sut y bydd y delweddau’n cael eu defnyddio ac at ba ddiben. Gellir tynnu caniatâd yn ôl a thynnu lluniau o unrhyw fan ble cawsant eu harddangos yn unol â hynny. Mae gan bob oedolyn hefyd yr hawl i beidio â chael tynnu ei lun ac i wrthod i ddelweddau gael eu defnyddio ar ôl cael eu tynnu. Dylid cael eu caniatâd penodol a rhaid parchu eu dymuniad i dynnu eu caniatâd yn ôl ar ôl ei roi hefyd. Os nad oes gan oedolyn sy’n wynebu risg y gallu i gydsynio, yna dylid cysylltu â’i ofalwr neu weithiwr cymdeithasol i geisio caniatad trwy broses o ‘best interest’.
Gwybodaeth yn ymwneud â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed:
Er mwyn sicrhau’r gofal gorau posibl i blant ac oedolion sydd mewn perygl tra yng ngofal CGWM, gofynnir i rieni neu ofalwyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol i CGWM:
- Enw, Cyfeiriad, Dyddiad Geni,
- Gwybodaeth am unrhyw anghenion meddygol neu addysgol
- Enw’r rhiant neu ofalwr ynghyd â rhifau cyswllt brys
Cedwir yr holl wybodaeth yn ddiogel (yn unol â Pholisïau Polisi Preifatrwydd CGWM | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk) ac fe’i defnyddir yn unig at ddibenion CGWM i gefnogi ein haelodau yn y ffordd orau. Byddwn yn gwirio cywirdeb y wybodaeth yn rheolaidd, dileu gwybodaeth sy’n anghywir neu nad oes ei hangen mwyach, a dileu gwybodaeth a gedwir ar gais gwrthrych y data.
Cod Ymddygiad
Mae CGWM wedi datblygu dogfen côd ymddygiad sy’n cynghori staff, ymddiriedolwyr, tiwtoriaid a’r rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn CGWM ar ymddygiad priodol yn enwedig wrth weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed. Dylai’r holl staff a thiwtoriaid rheolaidd dderbyn copi o’r cod ymddygiad a’r polisi hwn a dylent gwblhau datganiad ar-lein yn nodi eu bod wedi deall y cynnwys ac y byddant yn cadw ato neu yn gofyn am gyfarfod ag un o bersonau dynodedig CGWM i gael arweiniad ac esboniadau pellach.
Hyfforddiant
Disgwylir i aelodau bwrdd ymddiriedolwyr ac aelodau staff/gwirfoddolwyr fod yn gwbl ymwybodol o’r polisi hwn a rhaid iddynt fynychu sesiwn anwytho ar y polisi hwn wrth ymuno â CGWM.
Rhaid i ymddiriedolwyr gwblhau modiwl cyflwyniad i ddiogelu (Grŵp A ar-lein neu wyneb yn wyneb) o fewn 3 mis o ymuno â CGWM ac wedi hynny cyrsiau priodol o bryd i’w gilydd, gyda dim mwy na thair blynedd rhwng cyrsiau diogelu/gloywi.
Rhaid i bob aelod o staff cyflogedig gwblhau cwrs diogelu o’r lefel briodol o fewn mis o ymuno â CGWM ac adnewyddu eu hyfforddiant o leiaf bob 2 flynedd.
Gofynnir i bob tiwtor llawrydd rheolaidd ddarparu tystiolaeth eu bod wedi cwblhau hyfforddiant diogelu priodol o fewn y 2 flynedd diwethaf. Mae CGWM yn darparu mynediad am ddim i hyfforddiant diogelu priodol i diwtoriaid llawrydd os nad ydynt wedi cwblhau cwrs addas. Dylai pob tiwtor llawrydd dderbyn copi o’r polisi hwn ac unrhyw ddiweddariadau.
Mae’r holl gyrsiau hyfforddi a chyfleoedd dysgu yn cael eu cofnodi a bydd CGWM yn parhau i sicrhau bod ei staff cyfrifol dynodedig yn mynychu hyfforddiant rheolaidd ar y lefel ofynnol i UDD er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth a chanllawiau newydd.
Rhoi gwybod am gamdriniaeth neu amheuaeth o gam-drin
Pan fo sefyllfa’n awgrymu bod person angen sylw meddygol, amddiffyniad brys neu ei fod yn ddioddefwr trosedd, mae’n hollbwysig bod rhywun yn ffonio 999 ar unwaith.
Os yw person sy’n gweithio gyda CGWM yn pryderu bod person yn ddioddefwr cam-drin, dylai rannu’r cyfan y mae’n ei wybod am y mater gyda’r aelod staff dynodedig (UDD) a enwir uchod a fydd yn trafod ymhellach gyda’r aelod dynodedig o’r bwrdd (yr YAD) o fewn 24 awr (neu os nad yw’r YAD ar gael gyda’r Cadeirydd), ysgrifennu adroddiad yn cynnwys yr holl ffeithiau perthnasol sy’n hysbys i CGWM a phenderfynu a yw’r mater yn dangos achos rhesymol dros amau camdriniaeth, esgeulustod neu niwed a ddylid ei rannu â thîm diogelu’r awdurdod lleol ar gyfer y rhanbarth lle mae’r person yn byw. Bydd y personél diogelu dynodedig a enwir yn trafod gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg, eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau am y sefyllfa, a ddylai hefyd gynnwys eu caniatâd i CGWM wneud adroddiad diogelu amdanynt.
Caniatad
Mae’n arfer da trafod caniatâd gyda phlentyn sy’n gallu deall y cysyniad, ond yr oedolyn sy’n gyfrifol am ei ddiogelu ac felly gall wneud adroddiad heb ganiatâd plentyn/person ifanc.
Rhaid ceisio caniatâd gan oedolyn ym mhob amgylchiad, oni bai yr aseswyd bod diffyg galluedd meddyliol (ac os felly gellir gwneud adroddiad ar sail “best interest”). Mae gan bob oedolyn â galluedd yr hawl i atal ei ganiatâd a’r hawl i wneud penderfyniadau y gellid eu hystyried yn “risg”. Os yw caniatâd yn cael ei atal, mae’r unigolyn diogelu dynodedig yn trafod gyda’r oedolyn pa gamau y gall CGWM eu cymryd i gyfrannu at eu diogelwch, pa fesurau y gall yr unigolyn eu rhoi ar waith drosto’i hun, a ble arall y gallai fynd i geisio cymorth ychwanegol e.e. asiantaethau arbenigol fel Cymorth i Ferched. Mae’r risg yn cael ei asesu o bryd i’w gilydd gan wybod os yw’r risg yn parhau, y gellir gwneud adroddiad i’r gwasanaethau cymdeithasol.
Gellir gwneud adroddiad heb ganiatâd pan fo’n ymddangos bod gan y cyflawnwr fynediad at bobl eraill sydd mewn perygl tebyg (ac os felly, mae’r mater yn canolbwyntio mwy ar y cyflawnwr) neu lle mae’n ymddangos bod yr oedolyn o dan ddylanwad gormodol oedolyn arall sy’n defnyddio pwysau, gorfodaeth neu fygythiad i’w hannog i beidio â rhoi caniatâd. Dylid cynnwys y manylion hyn yn yr adroddiad diogelu. Ni ddylai’r elfennau hyn effeithio ar ymateb yr awdurdod lleol.
Dylid hysbysu pawb sy’n destun adroddiad diogelu am y camau y mae CGWM yn eu cymryd ynghylch eu diogelu a’r holl gamau dilynol.
Dylid llenwi ffurflen adrodd fewnol ar gyfer bob digwyddiad o bryder neu gonsyrn, yn ddelfrydol cyn gynted â phosibl ac o fewn 24 awr i’r digwyddiad. Mae adroddiadau digwyddiad yn cael eu storio’n ddiogel a’u rhannu â’r UDD ac eraill y gallai fod angen iddynt wybod e.e. Is-bwyllgor AD.
Bydd CGWM yn darparu ffurflenni adrodd mewnol i unigolion gofnodi unrhyw ddigwyddiadau neu bryderon. Mae copïau o ffurflenni cyfeirio Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru hefyd ar gael yn swyddfa CGWM a byddant yn cael eu llenwi gan bersonau dynodedig os penderfynir y dylid cyfeirio’r mater.
Honiadau yn erbyn pobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli i CGWM neu ar ei rhan, a all hefyd fod mewn swydd o ymddiriedaeth, gweithgaredd a reoleiddir, yn gyflogedig neu’n wirfoddolwr yn rhywle arall gyda mynediad at blant neu oedolion sy’n wynebu risg, yn ofalwr i blant neu oedolion (yn broffesiynol neu yn eu bywyd personol)
Os yw myfyriwr, plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed, yn gwneud honiad o gam-drin i diwtor, aelod o staff, neu wirfoddolwr sy’n gweithio gyda CGWM ynghylch unrhyw oedolyn arall y maent yn eu hadnabod o CGWM, dylai’r person hwnnw gysylltu â’r UDD neu aelod arall o staff ar ddyletswydd cyn gynted â phosibl a chofnodi’n ysgrifenedig gan ddefnyddio geiriau’r plentyn/ oedolyn sy’n agored i niwed. Dylid llofnodi a dyddio’r cofnod a throsglwyddo’r wybodaeth i dîm diogelu’r awdurdod lleol ar gyfer y rhanbarth lle mae’r plentyn/oedolyn yn byw fel arfer (fel y bo’n briodol, er mwyn diogelu’r unigolyn) a’r swyddog dynodedig (LADO) yn unol â’r Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru https://www.safeguarding.wales/chi/index.c5.html a fydd yn penderfynu a oes angen cymryd camau pellach i atal person anaddas rhag dod i gysylltiad â phobl sydd mewn perygl.
Os yw aelod o staff, tiwtor neu wirfoddolwr yn pryderu am ymddygiad cydweithiwr mewn perthynas â gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg, dylent drafod eu pryderon yn gyfrinachol gyda’r UDD a enwir uchod a fydd yn trafod y mater ymhellach gyda’r YAD a phenderfynu ar gamau gweithredu dilynol. Ni fydd unrhyw adroddiadau o’r fath a wneir yn ddidwyll yn arwain at ôl-effeithiau negyddol i’r sawl sy’n mynegi’r pryder, hyd yn oed os bernir bod y mater yn ddi-sail, yn ddiweddarach.
Pan fo aelod o staff, tiwtor neu wirfoddolwr mewn gweithgaredd a reoleiddir, mae dyletswydd i gyfeirio at y DBS unrhyw berson sy’n niweidio neu’n peri bygythiad o niwed i berson yn eu gofal pan gânt eu tynnu o weithgaredd a reoleiddir (ymddiswyddiad, diswyddiad, ymddeoliad) mewn perthynas â sefyllfa niwed. Golyga hyn y byddai’r unigolyn yn cael ei ystyried ar gyfer gwahardd (barring).
Os nad yw’r person mewn gweithgaredd a reoleiddir yn CGWM ond bod CGWM yn ymwybodol bod y person mewn gweithgaredd a reoleiddir mewn sefydliad arall gellir gwneud cyfeiriad.
Bydd CGWM yn adrodd i’r Comisiwn Elusennau cyn gynted â phosibl am unrhyw ddigwyddiadau diogelu, cwynion neu honiadau yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau a pholisi ‘Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol i’r Comisiwn Elusennau’ CGWM.
Dyddiad adolygu a diweddaru diwethaf gan Fwrdd CGWM 24.10.2024
Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyflwyniad
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn cydnabod manteision gweithredu Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Nod y polisi hwn yw sicrhau y caiff gweithwyr, darpar weithwyr, gwirfoddolwyr, contractwyr a thiwtoriaid hunangyflogedig, cleientiaid, defnyddwyr ac ymwelwyr eu trin mewn modd teg a chyfartal beth bynnag fo’u hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol (Nodweddion Gwarchodedig). Mae hefyd yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw berson yn cael ei erlid nac yn destun unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu.
Bydd ein polisi yn cydymffurfio ac, ble bo’n addas, yn mynd uwchlaw gofynion statudol Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gydfynd gyda ymarfer da presennol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd waith sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth pawb – ein staff a’r rhai rydym yn dod i gysylltiad â hwy trwy ein gwaith. Rydym yn llwyr gefnogi hawl pobl i gael eu trin ag urddas a pharch ac yn gwerthfawrogi pobl fel unigolion sydd â safbwyntiau, diwylliannau, ffyrdd o fyw ac amgylchiadau amrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal wrth gyflogi a hyfforddi ein staff a darparu ein gwasanaethau trwy ddilyn arferion sy’n rhydd o wahaniaethu annheg ac anghyfreithlon. Mae CGWM wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu heb gyfiawnhad yn ein prosesau ar gyfer recriwtio a dethol, rheoli perfformiad a chyflog, a bod dyrchafiad yn cael ei roi’n deg ar draws ein holl weithrediadau.
Rydym yn croesawu ac yn dymuno recriwtio a chadw pobl anabl o fewn ein gweithlu fel y gallwn elwa o’u sgiliau a’u talentau.
Yn ogystal, mae CGWM yn:
- ymrwymedig i adlewyrchu amrywiaeth Cymru ac i sicrhau fod ei gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Mae hyn yn berthnasol i’r gwasanaethau a gynigir, y cyfranogwyr a’r staff.
- bwriadu creu a chynnal awyrgylch waith cynhwysol sy’n darparu cyfleoedd cyfartal i bawb.
- ymrwymedig i sicrhau y caiff pob gweithiwr neu gontractwr hunangyflogedig boed yn rhan amser, yn llawn amser neu dros dro, ei drin yn deg a gyda pharch bob amser. Cymhwyster a gallu fydd sail y broses o ddethol pobl ar gyfer swydd, dyrchafiad, hyfforddiant neu unrhyw fudd arall.
Mae’r polisi yn berthnasol i bob agwedd ar gyflogaeth gyda CGWM, gan gynnwys recriwtio, cyflogau ac amodau, hyfforddi, arfarniadau, dyrchafiadau, ymddygiad yn y gwaith, gweithdrefnau disgyblu a chwyno, a therfynu cyflogaeth.
Nid yw’r polisi hwn yn rhan o gytundeb cyflogaeth ac mae modd ei ddiwygio ar unrhyw adeg.
Beth yw cydraddoldeb ac amrywiaeth?
Mae cydraddoldeb yn ymwneud â darparu mynediad cyfartal i gyfleoedd a gwasanaethau i bawb a sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd i gyflawni eu potensial yn rhydd o wahaniaethu. Mae hefyd yn ymwneud â dileu unrhyw rwystrau neu arferion gwahaniaethol a allai effeithio ar grwpiau penodol.
Mae amrywiaeth yn seiliedig ar yr egwyddor fod pawb yn wahanol mewn rhyw ffordd a bod mabwysiadu agwedd gynhwysol yn dod â manteision a buddiannau. Mae’n ymwneud ag adnabod, parchu a gwerthfawrogi bod pawb yn wahanol.
Cynhwysiant: Bydd CGWM yn ymdrechu i sicrhau bod pawb yn gyfforddus i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith ac yn teimlo gwerth eu cyfraniad.
Cyfrifoldeb am Gydraddoldeb yn CGWM
Mae gan Fwrdd/Pwyllgor Rheoli CGWM gyfrifoldeb dros sicrhau y caiff y polisi hwn ei weithredu.
Mae gan bawb, gan gynnwys Aelodau Bwrdd, gweithwyr, contractwyr hunangyflogedig a gwirfoddolwyr, ddyletswydd i weithredu o fewn canllawiau’r polisi hwn. Ni ddylai aelodau staff aflonyddu neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn pobl eraill, gan gynnwys aelodau staff cyfredol a chyn-aelodau, ymgeiswyr am swyddi, defnyddwyr gwasanaeth, cyflenwyr ac ymwelwyr. Mae hyn yn berthnasol i’r gweithle, y tu allan i’r gweithle (wrth ymdrin â defnyddwyr gwasanaeth, cyflenwyr neu gysylltiadau sy’n ymwneud â gwaith), ac ar deithiau neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud â gwaith, gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol.
Ni ddylai unrhyw weithiwr ddarbwyllo gweithiwr arall, yn unigol nac yn gyfunol, i ymarfer gwahaniaethu anghyfreithlon.
Rydym yn annog staff/tiwtoriaid neu gyfranogwyr sy’n poeni am fater yn ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb i godi’r mater ar lafar neu’n ysgrifenedig gyda’r Cyfarwyddwr neu Gadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol.
Darparu Gwasanaethau
Bydd CGWM yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gwersi/digwyddiadau a gweithdai yn hygyrch i bawb. Mae ei phrif ganolfannau yn Galeri, Theatr Twm o’r Nant a Neuadd Pwllglas mewn safle delfrydol i ddarparu mynediad i bawb. Mae CGWM yn sicrhau bod lleoliadau eraill a ddefnyddir yn hygyrch.
Datganiad Polisi Cyfleoedd Cyfartal
Mae’r ffurfiau canlynol o wahaniaethu yn anghyfreithlon ac fe’u gwaherddir o dan y polisi hwn:
- gwahaniaethu uniongyrchol: trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd Nodwedd Warchodedig (gweler y rhestr uchod)
- gwahaniaethu anuniongyrchol: darpariaeth, maen prawf neu arfer nad oes cyfiawnhad drostynt. Maent yn berthnasol i bawb ond yn cael fwy o effaith andwyol ar bobl â Nodwedd Warchodedig benodol. Gall hyn fod yn berthnasol i amrywiaeth o amgylchiadau, gan gynnwys materion cyflogaeth neu ddarparu gwasanaeth
- aflonyddu: mae hyn yn cynnwys aflonyddu rhywiol ac ymddygiadau annymunedig eraill sy’n ymwneud â Nodwedd Warchodedig. Eu diben a’u heffaith yw ymyrryd ag urddas rhywun neu greu amgylchedd fygythiol, anghyfeillgar, diraddiol, cywilyddus neu dramgwyddus iddynt. Ymdrinnir ymhellach ag aflonyddu yn ein Polisi Parch yn y Gwaith
- erledigaeth: dialedd yn erbyn rhywun sydd wedi cwyno neu ategu cwyn rhywun arall am wahaniaethu neu aflonyddu
- gwahaniaethu ar sail anabledd: mae hyn yn cynnwys gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, unrhyw driniaeth digyfiawnhad llai ffafriol oherwydd effaith anabledd, a methiant i wneud addasiadau rhesymol i leihau anfanteision a achosir gan anabledd.
Hawliau Plant
Mae CGWM yn cydnabod bod buddsoddi mewn hawliau dynol plant yn creu manteision gwirioneddol i sefydliadau ac yn galluogi mwy o blant a phobl ifanc i ymwneud yn well â gwasanaethau cyhoeddus. Mae polisi a deddfwriaeth plant yng Nghymru wedi ei seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel ei gilydd yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus sy’n cyfrannu at wireddu hawliau plant.
Er nad yw’n gorff cyhoeddus, mae CGWM wedi ymrwymo, hyd eithaf ei gallu, i weithredu yn unol â phrif egwyddorion y Dull Gweithredu sydd yn seiliedig ar Hawliau Plant, sef fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant.
Yn benodol, bydd CGWM, hyd eithaf ei gallu, yn:
- trin pob plentyn yn deg, yn rhoi cyfleoedd ac adnoddau iddynt yn ôl eu hanghenion mewn modd sy’n gyfartal ag eraill, ac yn sicrhau eu bod yn gallu datblygu hyd eithaf eu potensial
- sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i wneud yn fawr o’u bywydau a’u doniau
- gweithio tuag at wireddu hawliau dynol i blant trwy sicrhau eu bod yn:
- parchu eu hawliau. Ni fyddwn yn barnu bod hawliau dynol plentyn yn llai pwysig oherwydd ei fod o dan oed penodol, neu oherwydd ein bod yn rhagdybio beth sydd orau i’r plentyn.
- amddiffyn hawliau. Byddwn yn ceisio sicrhau nad yw eraill yn amharu ar hawliau dynol plentyn, trwy weithredu lle ceir tystiolaeth nad yw plant yn derbyn eu hawliau, e.e. lle mae plant yn dioddef camdriniaeth, camfanteisio neu gamwahaniaethu
- cyflawni hawliau. Byddwn yn gweithredu i sicrhau pob cyfle i blant fwynhau eu hawliau dynol, neu wella ar hynny, trwy wneud plant yn ymwybodol o’u hawliau, a bod hawliau plant yn cael eu blaenoriaethu’n briodol o safbwynt adnoddau.
Ceir mwy o fanylion am Hawliau Plant trwy ddilyn y linc yma – https://www.childcomwales.org.uk/wp-content/uploads/2017/04/Y-Ffordd-Gywir.pdf
Recriwtio a Dethol
Bydd CGWM yn cynnal prosesau recriwtio, dyrchafu ac arferion dethol eraill megis dethol dileu swyddi yn deg, ar sail teilyngdod yn erbyn meini prawf gwrthrychol sy’n osgoi gwahaniaethu. Llunnir rhestrau byrion gan fwy nag un person.
Yn gyffredinol, bydd swyddi gwag yn cael eu hysbysebu gan ddefnyddio sianeli a fydd yn cyrraedd adrannau amrywiol o’r farchnad lafur. Bydd CGWM yn osgoi stereoteipio wrth hysbysebu, neu ddefnyddio geiriau a all beidio â chefnogi grwpiau penodol wrth wneud cais.
Ni fydd CGWM yn gofyn cwestiynau i ymgeiswyr am swyddi a allai awgrymu bwriad i wahaniaethu ar sail Nodwedd Warchodedig. (Gellir cynnwys cwestiynau iechyd neu anabledd mewn ffurflenni monitro cyfleoedd cyfartal ond ni ddefnyddir y rhain at ddibenion dethol neu wneud penderfyniadau. Tynnir holiaduron Cydraddoldeb o geisiadau cyn llunio’r rhestr fer a chyfweld).
Tâl Cyfartal
Bydd CGWM yn sicrhau bod gan bob aelod o staff cyflogedig, yr hawl i gael yr un tâl a budd-daliadau cytundebol eraill ar gyfer cyflawni’r un gwaith neu waith a ystyrir yn gyfatebol.
Yr Iaith Gymraeg
Nid yw’r iaith Gymraeg yn “nodwedd warchodedig” o dan y Ddeddf ond mae CGWM yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb o ran yr iaith fel yr amlinellir yn ein polisi iaith Gymraeg.
Mynegi Pryderon
Mae gofyn i staff a thiwtoriaid gydymffurfio gydag egwyddorion y polisi hwn ac i weithredu yn unol â’i amcanion er mwyn dileu rhwystrau i gydraddoldeb. Lle bo staff/tiwtoriaid neu gyfranogwyr yn gwneud cwyn o wahaniaethu yna caiff y gwyn ei hystyried gan is-banel Adnoddau Dynol CGWM a fydd yn adrodd i’r bwrdd llawn fel bo’n briodol.
Torri’r Polisi
Ymdrinnir ag unrhyw achosion o dorri’r polisi hwn yn unol â’n Gweithdrefn Disgyblu. Gall achosion difrifol o wahaniaethu bwriadol fod yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, a fydd yn arwain at ddiswyddo.
Gall unrhyw aelod o staff, sy’n ystyried iddynt ddioddef gwahaniaethu, godi’r mater trwy’r Weithdrefn Gwyno neu’r Polisi Parch yn y Gwaith. Bydd cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn cael eu hymchwilio fel sy’n briodol.
Hyfforddiant
Bydd CGWM yn sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, datblygiad a chynnydd ar gael i’r holl staff a bydd yn adolygu gofynion hyfforddiant yn rheolaidd.
Bydd CGWM yn cynnig hyfforddiant rheolaidd i reolwyr a phob aelod o staff cyflogedig ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Monitro
Bydd CGWM yn monitro data sy’n ymwneud â’r broses recriwtio. Mae CGWM yn arbennig o ymwybodol o’r angen i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i bob rhan o gymdeithas ac i’r diben hwn, bydd CGWM yn casglu gwybodaeth am yr adnoddau a’r cyfleusterau ar gael ymhob un o’r canolfannau a ddefnyddir gan CGWM.
Bydd monitro hefyd yn cynnwys asesu sut mae’r polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac unrhyw gynllun gweithredu ategol, yn gweithio’n ymarferol, eu hadolygu’n flynyddol, ac ystyried a gweithredu ar unrhyw faterion ddaw i’r amlwg.
Diweddarwyd gyda chymorth ymgynghorydd arbenigol allanol yn Ionawr 2023 a’i gymeradwyo gan Fwrdd CGWM 30.1.2023.
Iaith Gymraeg
Cynnig Cymraeg CGWM
Roeddem yn falch iawn o dderbyn cymeradwyaeth swyddogol Swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i’n Cynnig Cymraeg yn ystod 2022.
Ein Cynnig Cymraeg
Gallwch wneud ymholiad yn y Gymraeg dros ebost, ffôn, trwy ymweld â’r swyddfa neu dros wefannau cymdeithasol, a byddwch yn derbyn ymateb yn y Gymraeg.
Mae c.85% o’n tiwtoriaid rheolaidd llawrydd yn siarad Cymraeg sy’n golygu bod mwyafrif ein disgyblion yn gallu derbyn hyfforddiant cerddorol trwy’r Gymraeg os dymunant.Rydym yn annog ac yn awyddus i gefnogi unrhyw weithwyr llawrydd sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg.
Mae holl ddeunyddiau marchnata CGWM yn gwbl ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn ymddangos gyntaf pan mae’r ddwy iaith ar yr un dudalen neu neges.
Mae ein gwefan yn gwbl ddwyieithog
Yn sgil ein Gwyliau Cerdd Rhyngwladol rydym yn codi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y byd.
POLISI IAITH GYMRAEG
(Paratowyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, 1993 ac adolygwyd yn sgîl Mesur y Gymraeg 2011)
Mae’r polisi hwn yn datgan fod Canolfan Gerdd William Mathias yn mabwysiadu’r egwyddor o drin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae Cymru’n wlad ddwyieithog, ac fel sefydliad, ’rydym yn cydnabod y manteision o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 65% o boblogaeth Gwynedd yn siaradwyr Cymraeg. Mae’n bwysig fod y siaradwyr Cymraeg hyn, ynghyd â phlant ac oedolion sydd yn dysgu’r iaith yn cael cynnig darpariaeth yn y Gymraeg yn CGWM.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn cydnabod yr egwyddor o gydraddoldeb rhwng yr iaith Gymraeg a’r Saesneg. Mae ystyriaeth o’r ddwy iaith wedi bod yn rhan annatod o weinyddiaeth CGWM o’r dechrau.
Mae CGWM yn gweithredu fel sefydliad dwyieithog ac yn ymrwymedig i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yng Nghymru yn y ddwy iaith. Mae’r polisi hwn yn ymgorffori llawer o arferion gwaith presennol CGWM.
Y Cyfarwyddwr a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr-Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am sicrhau fod y Polisi Iaith yn cael ei weithredu’n llwyddiannus yn CGWM a’i ddwyn i sylw staff a thiwtoriaid.
CRYNODEB O’R MESURAU
- Bydd y staff, y tiwtoriaid a holl aelodau’r Bwrdd a fu’n ymwneud â llunio’r Polisi perthnasol yn ymwybodol o bolisïau iaith CGWM a’i gyfrifoldeb o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a a Mesur y Gymraeg 2011.
- Bydd CGWM yn ceisio sicrhau ei fod yn ymwneud â’r cyhoedd yn gydradd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Bydd CGWM yn sicrhau fod staff cyflogedig sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hyfforddi i ddarparu gwasanaethau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Gall mwyafrif ein disgyblion gael hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant gan fod dros 85% o diwtoriaid CGWM yn siarad Cymraeg yn rhugl, a sawl un arall yn yn dysgu’r iaith ac yn gallu deall yr iaith.
- Mae gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol CGWM yn ddwyieithog
- Bydd pob llythyr ac ebost a dderbynnir gan CGWM yn derbyn ateb yn yr un iaith â’r ohebiaeth wreiddiol.
- Pan fydd CGWM yn dechrau gohebiaeth trwy lythyr neu ebost defnyddir dewis iaith y derbynnydd os yw’n wybyddus, ac os nad yw, caiff yr ohebiaeth ei hanfon yn ddwyieithog.
- Bydd y sawl sy’n ffonio Derbynfa CGWM yn cael eu cyfarch yn ddwyieithog a bydd y sgwrs yn parhau yn iaith ddewisiol y sawl sy’n galw.
- Bydd pobl sy’n mynychu cyngherddau a chyfarfodydd cyhoeddus CGWM yn gallu cyfrannu yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Mae disgwyl i staff ar Dderbynfa CGWM groesawu’r cyhoedd yn y ddwy iaith a gallu ymwneud â hwy yn yr iaith o’u dewis neu eu cyfeirio at aelod o staff sy’n gallu gwneud hynny.
- Mae CGWM yn mabwysiadu hunaniaeth a delwedd gyhoeddus ddwyieithog.
- Mae CGWM yn ymrwymedig i ddarparu deunydd printiedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darperir cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd yn ddwyieithog a cheir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd bwrdd i alluogi’r aelodau i gyfrannu yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Bydd deunydd marchnata, hysbysebu a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau, yn cynnwys pamffledi CGWM, yn cael eu darparu’n ddwyieithog.
- Mae CGWM yn ymrwymo i gefnogi staff a thiwtoriaid sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella eu defnydd o’r Gymraeg trwy eu cefnogi i fynychu cyrsiau digidol neu wyneb i wyneb.
- Bydd CGWM yn codi proffil yr iaith Gymraeg yn Rhyngwladol trwy gyfrwng ein gwyliau cerdd Rhyngwladol.
Mabwysiadwyd y polisi gwreiddiol yn ffurfiol gan CGWM ar Ragfyr 4ydd, 2009.
Dyddiad y diweddariad diwethaf a gymeradwywyd gan Fwrdd CGWM : Ebrill 2024.
Mae gan CGWM hefyd Gynllun Iaith Gymraeg sy’n cael ei ddiweddaru yn flynyddol (dyddiad diweddariad diwethaf : Gorffennaf 2022)
Telerau Defnyddio ein Gwefannau
Mae’r telerau hyn yn llywodraethu eich defnydd o wefannau a weinyddir gan Canolfan Gerdd William Mathias (Yn cynnwys Canfod y Gân, Gŵyl Delynau Cymru, Gŵyl Biano Cymru). Os ydych chi’n anghytuno â unrhyw ran o’r telerau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefannau:
Oni ddywedir yn wahanol, ni sy’n berchen ar hawliau eiddo deallusol a deunydd ar ein gwefannau. Rhaid i chi beidio ailgyhoeddi na gwerthu deunydd o’n gwefannau.
Mae’n bosib y gall gwybodaeth bersonol gael ei anfon i ni drwy gyfrwng ein gwefannau – i ddysgu mwy gwelwch ein Polisi Preifatrwydd.
Gall ein gwefannau gynnwys dolenni i wefannau sy’n berchen i ac sy’n cael eu gweithredu gan drydydd parti. Nid yw’r dolenni hyn yn argymhellion ac nid oes gennym ni reolaeth dros gynnwys gwefannau trydydd parti.
Polisi Parch yn y Gwaith ac yng Ngweithgareddau CGWM
Cyflwyniad
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i aelodau staff, aelodau’r Bwrdd, tiwtoriaid, defnyddwyr gwasanaeth (yn cynnwys rhieni, disgyblion a gofalwyr), gwirfoddolwyr a phawb sydd yn ymwneud â’r Ganolfan.
Mae CGWM yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i gael eu trin ag urddas a pharch. Mae bwlio ac aflonyddu yn niweidiol. Mae’n achosi gofid a gall arwain at ddamweiniau, salwch a pherfformiad gwael. Ni fydd CGWM yn goddef nac yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu, bwlio nac aflonyddu. Bydd yn delio gyda chwynion o’r fath ymddygiad yn ddifrifol iawn, yn gweithredu ar unwaith, ac yn achos aelod o staff gall hyn arwain at gamau disgyblu.
Bwlio
Gellir diffinio bwlio fel “Ymddygiad atgas, bygythiol, maleisus neu sarhaus, a chamddefnyddio pŵer mewn ffordd sy’n tanseilio, bychanu, dirmygu neu niweidio’r derbynnydd”. (ACAS)
Gall esiamplau o fwlio gynnwys:
- lledaenu sibrydion maleisus, neu sarhau person trwy air neu weithred (yn enwedig ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartner sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol (Nodweddion Gwarchodedig).;
- anfon cyfathrebiad ar unrhyw ffurf, sy’n feirniadol am rywun, i bobl eraill lle nad oedd angen iddynt dderbyn y wybodaeth;
- gwawdio neu ddiraddio rhywun – pigo arnynt neu weithredu mewn modd er mwyn sicrhau y byddant yn methu;
- gwahardd neu erlid unrhyw un;
- trin unrhyw un yn annheg;
- goruchwylio’n ormesol neu gamddefnyddio pŵer neu safle;
- cynigion neu awgrymiadau rhywiol digroeso – cyffwrdd, sefyll yn rhy agos, arddangos deunydd tramgwyddus;
- gwneud bygythiadau neu sylwadau di-sail am ddiogelwch y swydd;
- tanseilio’n fwriadol aelod o staff trwy orlwytho a rhoi beirniadaeth gyson;
- atal unigolion rhag symud ymlaen drwy atal cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad neu hyfforddiant yn fwriadol.
Aflonyddu
Gellir diffinio aflonyddu fel “ymddygiad digroeso sy’n tarfu ar urddas pobl neu’n creu amgylchedd bygythiol, diraddiol, sarhaus neu atgas”. “(ACAS)
Mae aflonyddu yn cynnwys ymddygiad sydd yn ddigroeso ac na ofynnir amdano, yn enwedig yn ymwneud â’r meysydd canlynol:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhyw
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd a chredo
- rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Er bod CGWM yn gwerthfawrogi y gall adrodd achos o fwlio ac aflonyddu achosi embaras, ar ôl i achos gael ei adrodd, mae ganddynt ddyletswydd i weithredu ar y mater. Bydd adroddiadau o fwlio ac aflonyddu yn cael eu hymchwilio ym mhob achos.
Y Broses
Dull Anffurfiol
Dylai unrhyw un sydd yn credu ei bod/fod yn dioddef o fwlio neu aflonyddu wneud yn glir i’r un sydd yn ymddwyn yn annerbyniol fod yr ymddygiad yn annerbyniol ac y dylai roi’r gorau iddi. Dylid cadw nodyn o unrhyw gyfathrebu anffurfiol sydd yn digwydd.
Gwerthfawrogir efallai na fyddai plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed neu oedolyn sy’n agored i niwed yn ddigon hyderus i godi’r mater yn uniongyrchol gyda’r person sy’n ymddwyn yn annerbyniol Os daw rhiant, gwarchodwr neu ofalwr neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb am y plentyn neu’r person ifanc neu’r oedolyn sy’n agored i niwed (‘ei gynrychiolydd’) yn ymwybodol fod plentyn neu berson felly yn anhapus gyda’r ymddygiad tuag ato/ati dylai godi’r mater gyda’r Cyfarwyddwr a bydd y Cyfarwyddwr yn ceisio datrys y sefyllfa’n anffurfiol.
Os yw’r cynrychiolydd yn ystyried yr ymddygiad annerbyniol yn ‘gam-drin’ (yn fater diogelu) dylid gweithredu yn unol â’r Polisi Amddiffyn Plant ac Oedolion sy’n Agored i Niwed.
Dull Ffurfiol
Os yw dulliau anffurfiol yn methu, neu mae bwlio neu aflonyddu difrifol yn digwydd, cynghorir y person a dramgwyddwyd neu ei gynrychiolydd i wneud cwyn ffurfiol. Dylai’r gwyn fod yn ysgrifenedig, a lle bo’n bosibl, nodi:
- Enw’r tramgwyddwr honedig
- Natur yr ymddygiad honedig
- Y dyddiadau ac amseroedd pan ddigwyddodd yr ymddygiad
- Enwau tystion i unrhyw achosion o fwlio neu aflonyddu honedig, os ydynt ar gael
- Unrhyw gamau a gymerwyd eisoes i atal yr ymddygiad honedig.
Dylid anfon y gwyn i’r Cyfarwyddwr. Os yw’r gwyn yn ymwneud â’r Cyfarwyddwr dylid cyfeirio’r gwyn at Gadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol neu os yn ymwneud ag aelod o’r Bwrdd dylid ei hanfon at Gadeirydd y Bwrdd.
Ar ôl derbyn cwyn dylid cymryd camau ar unwaith i wahanu’r person sy’n gyfrifol am yr ymddygiad honedig. Yn achos aelod o staff gall hyn olygu trosglwyddiad dros dro i ardal arall o’r busnes, neu atal o’r gwaith gyda thâl nes bod y gwyn wedi ei datrys.
Bydd y Cyfarwyddwr neu Gadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol neu Gadeirydd y Bwrdd fel y bo’n briodol yn ymchwilio i’r honiad trwy gynnal ymchwiliad trylwyr cyn gynted ag y bo modd, gan sicrhau cyfrinachedd bob amser. Disgwylir i bawb sy’n rhan o’r ymchwiliad barchu’r angen am gyfrinachedd. Yn achos aelod o staff bydd methu â gwneud hynny yn cael ei ystyried yn gamymddwyn yn unol â Pholisi Disgyblu’r Cwmni.
Yn dilyn yr ymchwiliad, bydd y Cyfarwyddwr neu Gadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol neu Gadeirydd y Bwrdd yn ystyried pa gamau pellach yn y dylid eu cymryd ac yn hysbysu’r partion perthnasol o’i phenderfyniad/benderfyniad. Yn achos aelod o staff gall hyn olygu camau yn unol â’r drefn ddisgyblu ffurfiol, a allai gynnwys diswyddo.
Hawl i Apelio
Bydd gan aelod o staff sy’n destun unrhyw fath o gam disgyblu’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol â’r drefn apêl yn y Polisi a Gweithdrefn Ddisgyblu.
Bydd gan unrhyw berson arall hawl i apelio yn erbyn unrhyw ddyfarniad yn eu herbyn trwy ddilyn y drefn apêl o dan y Drefn Gwyno.
Dyddiad adolygiad a diweddariad diwethaf gan Fwrdd CGWM: 17/8/2020
Polisi Pryderon a Chwynion
Cyflwyniad
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i ddefnyddwyr gwasanaeth, cyfranogwyr, rhieni a gwarchodwyr, tiwtoriaid, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sy’n ymwneud â Chanolfan Gerdd William Mathias (CGWM) ac eithrio aelod o staff. Mae gan CGWM bolisi a gweithdrefn gwyno benodol ar gyfer ei staff.
Nod CGWM yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bawb ac mae’n croesawu barn unrhyw un ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir, fel y gellir ei wella os oes angen. Bydd y Ganolfan yn ceisio delio’n effeithiol a phrydlon ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych ynglŷn â’n darpariaeth.
Os yw eich pryder neu gwyn yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â gwarchod plant neu oedolion sy’n agored i niwed, bydd CGWM yn gweithredu trwy ddilyn y broses a nodir ym Mholisi Amddiffyn Plant ac Oedolion sy’n agored i niwed CGWM.
Os yw eich pryder neu gwyn yn ymwneud â mater sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth bydd CGWM yn gweithredu trwy ddilyn y broses a nodir ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth CGWM.
Os yw eich pryder neu gwyn yn ymwneud ag aflonyddu neu fwlio dylid dilyn y drefn a nodir yn y Polisi Parch yn y Gwaith ac yng Ngweithgareddau’r Ganolfan.
Datrys Anffurfiol
Bydd CGWM yn ymdrechu i ddatrys unrhyw bryder neu gwyn yn anffurfiol os yn bosib a hynny mewn ysbryd cydweithredol.
Anogir chwi felly i fynegi eich pryder neu gwyn yn y Ile cyntaf wrth yr aelod o staff sydd ar ddyletswydd yn Swyddfa CGWM neu leoliad y gweithgaredd.
Os yw’r gwyn yn gysylltiedig â thiwtor neu arweinydd gweithgaredd neu aelod o staff gweinyddol CGWM dylid cysylltu â Gweinyddydd llawn amser CGWM (Gwydion Davies) neu Gyfarwyddwr CGWM (Meinir Llwyd Roberts) fel bo’n addas, drwy ffonio’r Swyddfa 01286 685230 neu ebostio gwydion@cgwm.org.uk/ meinir@cgwm.org.uk
Proses ffurfiol
Os na lwyddir i ddatrys eich pryder neu gwyn yn anffurfiol, neu os ydych yn dymuno cyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig yn y lle cyntaf, cysylltwch â Chyfarwyddwr CGWM (Meinir Llwyd Roberts) 01286 685230 meinir@cgwm.org.uk gan nodi yn glir eich bod yn dymuno gwneud cwyn o dan y Polisi Pryderon a Chwynion. Dylai’r cyflwyniad ffurfiol egluro sail a natur y gwyn a’r canlyniad yr ydych yn ei ddymuno.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â Chyfarwyddwr CGWM yna dylid ei chyfeirio at Gadeirydd Is-bwyllgor Cyllid ac Adnoddau Bwrdd Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr CGWM, John Pritchard.
Bydd CGWM yn cydnabod derbyn cwynion ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod gwaith ac yn ymchwilio i’r mater yn fewnol.
Bydd y person a fydd yn ymchwilio i’r gwyn (‘yr ymchwilydd’) yn ystyried y dystiolaeth berthnasol gan gynnwys e.e unrhyw ddogfennau, nodiadau o sgyrsiau neu negeseuon e-bost. Efallai y bydd yn gofyn am gael cyfarfod gyda chi i drafod y mater dan sylw ac fe all gyfweld unrhyw berson mae’r gwyn yn ymwneud ag ef/hi ac unrhyw dystion perthnasol.
Gall yr ymchwilydd argymell camau penodol i’w cymryd mewn ymateb i’r pryder neu’r gwyn yn cynnwys cyfeirio’r mater at aelodau o Fwrdd Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr CGWM.
Os bydd yr ymchwilydd, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, yn argymell camau disgyblu yn erbyn aelod o staff bydd yn rhaid dilyn y drefn yn y Polisi a Gweithdrefn Disgyblu Staff.
Cyflwynir canlyniad ysgrifenedig yr ymchwiliad i’r sawl sydd wedi cwyno o fewn 28 diwrnod gwaith.
Apelio
Os nad ydych yn teimlo bod eich pryder neu gwyn wedi cael ei datrys yn foddhaol gellir cyflwyno apêl i Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr-ymddiriedolwyr CGWM, Wyn Thomas
Dylid cyflwyno’r apêl yn ysgrifenedig i’r Cadeirydd o fewn pum niwrnod gwaith o’r hysbysiad ysgrifenedig o ganlyniad y gwyn gan nodi sail yr apêl yn eglur.
Bydd y Cadeirydd yn cynnal ymchwiliad i sail yr apêl a’r holl dystiolaeth berthnasol ac yn eich hysbysu o’r canlyniad o fewn 21 diwrnod gwaith o dderbyn yr apêl. Bydd y canlyniad yn derfynol ac ni fydd hawl bellach i apelio.
Dyddiad adolygiad a diweddariad diwethaf gan Fwrdd CGWM: 29/1/24