Newyddion
Dyblu eich rhoddion at Doniau Cudd am wythnos yn unig
Mae Canolfan Gerdd William Mathias,elusen sy'n ymroddi i ddarparu profiadau mewn cerddoriaeth i'r cyhoedd yn galw am gefnogaeth y gymuned leol a busnesau i helpu i gyrraedd targed codi arian o £ 3,000 a fydd yn cael ei dyblu yn ystod Her Nadolig 2017 y Big Give. Bydd...
Gwledd o Gerddoriaeth yn Rhuthun!
MAE GWLEDD O GERDDORIAETH wedi ei threfnu fel rhan o gyngerdd arbennig a gynhelir yn Theatr John Ambrose, Rhuthun ar y 3ydd o Chwefror 2018 am 7:30yh. Bydd y cyngerdd, a drefnir gan Canolfan Gerdd William Mathias yn dathlu bod y Ganolfan Gerdd wedi cychwyn darparu...
Atgofion ar Gân i gychwyn yn Bethesda a Deiniolen
Ers mis Tachwedd 2016, mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn cynnal sesiynau cerddorol gyda thrigolion hŷn Gellilydan ac Awel y Coleg, Y Bala dan arweiniad Nia Davies Williams. Gwahoddwyd plant o’r ysgolion cynradd lleol i gymryd rhan mewn sesiynau Camau...
Côr Siambr CGWM: Croeso i aelodau newydd!!
Bu Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias yn cymryd rhan mewn cyngerdd yng Nghadeirlan Llanelwy dydd Sul y 24 Medi fel rhan o Gorws Opera Genedlaethol Cymru gan ganu'r premiere Cymreig gan Oliver Tarney a Paul Mealor. “Roedd hwn yn brofiad gwych i’r côr i fod yn...
Penodi Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018
Rydym yn falch iawn o benodiad diweddar y Delynores Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018. Bydd Catrin yn gweithio yn agos ag Elinor Bennett dros y misoedd nesaf ar yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal rhwng 1af - 7fed Ebrill 2018. Gyda dros...
Llwyddiannau disgyblion CGWM yn Eisteddfod Genedlaethol Môn
Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion y Ganolfan oedd yn cystadlu yn yr Esiteddfod eleni. Dyma restr o'r buddugwyr yn cynnwys disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion: Unawd Llinynnau dan 16 oed: Gwydion Rhys Unawd piano dan 16 oed: Gwydion Rhys Medi Morgan...
Diwrnod Agored CGWM yn Galeri Caernarfon 22/7/17
Cynhelir Diwrnod Agored Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon dydd Sadwrn Gorffennaf 22ain rhwng 10 -4yp. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ymlaen i bobl ifanc drwy gydol y dydd i roi blas o’r hyn a gynnigir gan y Ganolfan. Sefydlwyd y...
Cyngerdd Haf 2017
Cynhaliwyd ein cyngerdd Haf eleni yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor ar ddydd Sul braf ar y 18fed o Fehefin. Cafwyd perfformiadau gan ddisgyblion ifanc a disglair CGWM yn ogystal â’r pedwarawdau ac ensemblau llinynnol dan arweiniad Nicki Pearce. Eto eleni, dyfarnwyd...
Diwrnod Agored Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych!
Cynhelir Diwrnod Agored gan Canolfan Gerdd William Mathias yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar ddydd Sul y 9fed o Orffennaf. Bydd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd gan gynnwys gwersi blasu am ddim ar y delyn, ffidil, canu a piano,...
Gwersi Blasu Cerdd Am Ddim ym mis Mai ar gyfer pobl hŷn
Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn cynnig gwersi blasu cerddoriaeth am ddim yn ystod mis Mai 2017 ar gyfer pobl hŷn sydd yn awyddus i ailgydio mewn offeryn neu ddysgu offeryn neu’r llais o’r newydd. Mae’r cynnig arbennig hwn yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn a gynhelir yn...
2017 Wales Harp Festival
12 &13 Ebrill 2017: Dathlu Telynau Iwerddon a Chymru. Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill yng nghanol bwrlwm Galeri Caernarfon. Y Cyfarwyddwr yw’r delynores Elinor Bennett a bydd yr Ŵyl yn cynnwys cwrs deuddydd i delynorion yn ogystal â...
Cyngerdd Siambr yn Nghanolfan Fwyd Bodnant
Bydd y delynores Elinor Bennett a’r sielydd Nicki Pearce yn ymddangos mewn cyngerdd a gynhelir gan Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant am 4:00yp ar y 29 Ionawr 2017. Mae’r delynores a’r sielydd blaenllaw yn diwtoriaid yn Canolfan Gerdd...