Newyddion

Charli Britton

Charli Britton

Gyda thristwch mawr y clywsom am farwloaeth Charli Britton. Gwnaeth Charli gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel drymiwr y banc roc Edward H Dafis a sawl band arall. Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am rannu ei angerdd a’i arbenigedd gyda dwsinau o...

Adroddiad Blynyddol Ebrill 2019 – Mawrth 2020

Adroddiad Blynyddol Ebrill 2019 – Mawrth 2020

Bu 2019-2020 yn flwyddyn brysur arall i CGWM a braf oedd cael dathlu ugain mlynedd ers i’r Ganolfan agor ei drysau trwy wahodd rhai o’n cyn-ddisgyblion a’n disgyblion presennol i nodi’r achlysur mewn cyngerdd arbennig yn Galeri. Lawrlwytho'r Adroddiad

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o...

Osian Ellis (1928-2021)

Osian Ellis (1928-2021)

Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn...

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020

Ar ôl dros 6 mis o beidio cynnal gweithgareddau wyneb i wyneb rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gwersi un i un wyneb i wyneb wedi ail gychwyn yn ein canolfannau yn Galeri Caernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gyfer y tiwtoriaid a’r disgyblion sy’n dymuno dychwelyd wyneb...

Fideo Canfod y Gân yn ystod y Cyfnod Clo

Fideo Canfod y Gân yn ystod y Cyfnod Clo

https://youtu.be/nEa1Novc0Po Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth. Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â...

Gwersi a Gweithgareddau Ar-lein

Gwersi a Gweithgareddau Ar-lein

Mae drysau ein canolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gau ar hyn o bryd ond gyda chydweithrediad ein tîm gwych o diwtoriaid mae’r gerddoriaeth yn parhau. Dyma flas o’r gweithgareddau sydd gennym ar-lein ac mae mwy i ddod yn yr wythnosau nesaf…...

Athrawon cerdd yn taro’r nodau uchel mewn achlysur codi arian

Athrawon cerdd yn taro’r nodau uchel mewn achlysur codi arian

Bydd tiwtoriaid cerdd o ganolfan gerddoriaeth nodedig yn gweld y byrddau’n cael eu troi fis nesaf pan fyddant yn perfformio o flaen cynulleidfa sy’n llawn myfyrwyr fel rhan o achlysur i godi arian i ŵyl biano arbennig. Yn ymuno â'r pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan...

Sefydlu Cerddorfa Gymunedol Caernarfon

Sefydlu Cerddorfa Gymunedol Caernarfon

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn falch o gyhoeddi eu bod am sefydlu cerddorfa gymunedol  newydd yn arbennig i oedolion. Bydd yr ymarfer cyntaf yn cael ei gynnal yn Theatr Seilo Caernarfon ar y 5ed o Fawrth, gan gychwyn am 8:00yh. Bydd y gerddorfa yn cael ei...